Tag Archives: Cenhedloedd Unedig

Ymatebion i Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd – 9 Awst, 2021

Clawr 6ed Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd
– ‘Changing’ gan Alisa Singer / IPCC

Am grynodeb o’r rhybuddion difrifol sydd i’w cael yn 6ed Adroddiad Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd heddiw, 9 Awst, 2021, ewch at: https://www.carbonbrief.org

Am ymateb cryf o Gymru – gan Liz Saville-Roberts AS a Delyth Jewell ASCymru o Blaid Cymru – ewch at: https://www.plaid.cymru/ipcc_report

Cofio John Houghton – gwyddonydd a phroffwyd y Ddaear

Gyda thristwch, ond gyda diolch hefyd, rydym am ymuno â’r teyrngedau lu sy’n cael eu datgan yn rhyngwladol i’r gwyddonydd o Gymro, yr Athro Syr John Houghton, a fu farw o effeithiau Covid 19 yn 88 oed.

Cofir am Syr John fel un o ffigyrau mwya’ blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig fu’n rhybuddio ers degawdau am fygythiad cynyddol Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.

I ni yn Y Papur Gwyrdd, cofiwn amdano fel dim llai na phroffwyd Cymreig. Er y sen anghyfrifol a daflwyd ar ei rybuddion gyhyd, bu’n galw arnom yn ddi-ball i ymateb yn gall a chyflym i enbydrwydd Newid Hinsawdd.

Y gwyddonydd Syr John Houghton yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bangor, 2011 – dan gadeiryddiaeth Dafydd Iwan

Rydym yn falch i allu dweud iddo fod yn gyfaill da i’r Papur Gwyrdd. Bu’n hapus i rannu ei bryderon a’u rhybuddion yn y cylchgrawn wedi iddo ymddeol i Aberdyfi,  a hynny er ei fod yn dal yn brysur yn teithio i ddarlithio mewn cynadleddau rhyngwladol.

Roedd John Houghton yn falch i arddel ei Gymreictod. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn enedigol o bentref Dyserth, cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ddoethuriaeth yno, gan ddod yn Athro Ffiseg Atmosfferig.

Bu wedyn yn Brif Weithredwr Swyddfa Meteoroleg y DG. Bu ynghanol sefydlu Paneli Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ym 1988 a bu’n un o’r Is-gadeiryddion cychwynnol. Bu’n brif awdur tri o adroddiadau’r corff canolog o bwysig hwnnw.

Yn 2007, gydag Al Gore, derbyniodd Wobr Nobel ar ran gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig am eu harweiniad wrth geisio ffrwyno Cynhesu Byd-eang. Dyfarnwyd Gwobr Byd Gwyddoniaeth Albert Einstein iddo’n bersonol yn 2009.

Roedd Syr John yn awdur llyfrau ac adroddiadau ar bwnc gwyddoniaeth Cynhesu Byd-eang gan gynnwys Global Warming: The Complete briefing (Cambridge University Press). .

Yn annisgwyl, efallai, roedd hefyd yn Gristion brwdfrydig – yn flaenor gyda’r Presbyteriaid yn Aberdyfi ac yn awdur llyfrau ‘Does God play dice?’ ac ‘The Search for God. Can Science Help?’  Yn addas iawn, roedden ni’n dau o’r Papur Gwyrdd wedi cael cwrdd a chael sgwrs ag e yn 2011 wrth iddo ddarlithio yn y Gynhadledd ar Newid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Bresbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr Cymraeg Cymru ym Mangor. Parhau i ddarllen

Diolch i bobl ddewr Extinction Rebellion am weithredu i warchod y Ddaear

Llongyfarchiadau i fudiad newydd Extinction Rebellion am gadw’u haddewid i gynnal cyfres o weithrediadau tor-cyfraith, heddychol yn Llundain ar bwnc argyfwng y Ddaear – gan gynnwys wrth gatiau 20 Downing Street.

Cannoedd o brotestwyr Extinction Rebellion yn cau Pont Westminster yn Llundain ar Sadwrn, Tachwedd 17. “Rydym yn sefyll yn heddychol o blaid y Ddaear a dynoliaeth,” medd eu llefarydd,Celia B. Llun: Extinction Rebellion / @ExtinctionR

Efallai nad yw mwyafrif ein gwleidyddion yn gweld rheswm i dalu sylw i fygythiad Cynhesu Byd-eang a dinistrio bywyd naturiol y Ddaear. Ond mae’r gweithredu hyn yn rhybudd iddynt fod pobl yn cynhyrfu o ddifrif yn wyneb y peryglon sy’n ein hwynebu.

Cymerodd tua 6,000 o bobl ran yn y protestiadau yn ystod yr wythnos yn dechrau Tachwedd 12. Cafodd 5 o bontydd Afon Tafwys eu cau. Ataliwyd y traffig wrth i gannoedd o’r gwrthdystwyr eistedd ar  bontydd Southwark, Blackfriars, Waterloo, Westminster a Lambeth. Arestiwyd dros 80 o bobl gan yr heddlu. Bydd achosion llys yn dilyn.

Deallwn fod cryn nifer o Gymry wedi teithio i Lundain i fod yn rhan o’r protestiadau arwyddocaol hyn, a diolch am hynny. Ry’n ni’n gobeithio y bydd ein Haelodau Seneddol, a’n Haelodau Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol i’r llais newydd hwn sydd wedi codi mor sydyn i danio’r ymgyrch.

Mae gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig yn ein rhybuddio nad oes llawer o amser ar ol: dim ond 12 mlynedd, meddant, os na weithredwn. Rhaid gweithredu ar frys gwyllt, meddan nhw, i gyfyngu ar losgi carbon difrodol a throi’n llwyr at ynni glan – er mwyn ffrwyno codiad tymheredd peryglus y blaned a thoddiant y pegynnau ia a’r newid hinsawdd sy’n ganlyniad. Heb hynny, mae’r dyfodol yn ddu.

Pebai’n harweinwyr gwleidyddol ond yn siarad yn gyhoeddus am argyfwng y Ddaear, byddai’n codi calon rhywun i gredu bod modd achub y sefyllfa. Ond yn rhy aml o lawer, anwybyddu’r pwnc maen nhw.

(Am hynny, byddai’n dda pebai rhai ohonynt yn mynegi eu gweledigaeth blanedol ar wefan Y Papur Gwyrdd – yn ol ein gwahoddiad. Gweler blog isod!)

Yn y cyfamser, rhwydd hynt i bobl Extinction Rebellion wrth iddyn nhw weithredu dros ddyfodol diogelach i bawb ohonom, heb gyfri’r gost heb son am gyfri’r pleidleisiau.

 

Croesawu codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd ein planed

Dros gyfnod helbulus o fwy na dwy flynedd, mae’r angen i geisio atal trychineb Brexit wedi galw am sylw a gweithredu gan bobl gall trwy wledydd a rhanbarthau Prydain.

Ond gwych nodi bod mudiad newydd Extinction Rebellion am atgoffa llywodraeth Toriaidd Theresa May, a phawb ohonom, bod rhaid parhau i weithredu o ddifrif i geisio ffrwyno bygythiad Cynhesu Byd-eang hefyd.

Rydym yn croesawu Extinction Rebellion gan fod gwir angen codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd y Ddaear. Wedi’r cyfan, mae’r difrod amgylcheddol a achosir i’n planed yn gyd-destun i’r cyfan arall a wnawn.

Protest cefnogwyr Extinction Rebellion yn Parliament Square, Llundain, as Hydref 31. Llun: Chloe Farand. Newyddion: https://www.desmogblog.com/

Ar Hydref 31, bu cannoedd o aelodau Extinction Rebellion yn cynnal protest yn Parliament Square yn Llundain. Dangos methiant Llywodraeth Theresa May, oedden nhw, i wynebu eu cyfrifoldebau dan Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Arestiwyd 15 o’r protestwyr am orwedd ar y stryd.

Trwy  atal taliadau am drydan glan a ddaw o baneli haul ar doeau tai ac adeiladau eraill, a’u cefnogaeth i ddatblygu ffracio am nwy, mae’r Toriaid wedi dangos eu bod yn ystyried sicrhau elw i’r diwydiant ynni carbon difrodol yn bwysicach na’r angen i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid.

Dyna sy’n llywio eu polisiau ynni er y rhybuddion mwya’ taer gwyddonol a gafwyd hyd yn hyn yn Adroddiad Panel Rhyng-lywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar Fedi 8 (gweler y linc i’r Adroddiad dan ‘Gwyddoniaeth’ yn y rhestr gynnwys ar ochr chwith y tudalen).

Felly, diolchwn i aelodau Extinction Rebellion am eu gweithredu hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at eu hymgyrchu pellach yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Tachwedd 12. Bydd y gweithgareddau hynny’n dod i ben gyda phrotest arall yn Parliament Square, Llundain, ar Dachwedd 19.

‘Na i Brexit!’ ac – ‘Ie i’r Ddaear!’ Dyna slogannau’r Papur Gwyrdd. Gobeithio bydd ein gwleidyddion yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae peryglon enbyd yn gwasgu arnom yn gynyddol wrth i arweinwyr gwallgof feddiannu grym llywodraethol ar bob llaw.

Dyma amser gwir dyngedfennol i ddynoliaeth a holl ffurfiau bywyd eraill ein planed. Fel dywed yr hen ymadrodd – Y cyfan sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim.

Cyfle i siarad am ddau o Gymry fu’n ceisio gwarchod y Ddaear – yn lleol ac yn fyd-eang

Nid yn aml dros y blynyddoedd y cawsom wahoddiadau i annerch grwpiau o bobl ar bwnc peryglon cynhesu byd-eang. (Dim digon o jôcs, efallai?)

Rhag imi greu camargraff, bu Charlotte a minnau yn fwy na hapus i ledaenu’r neges trwy hen gylchgrawn Y Papur Gwyrdd a’r wefan hon yn unig.

Ond, roedd hi’n beth braf ac annisgwyl iawn bod 2018 wedi dechrau gyda gwahoddiadau i annerch dwywaith yn barod, sef ym misoedd Ionawr a Chwefror.

Roedd yr achlysuron hynny wedi rhoi cyfle i ni gyfeirio at ddau o Gymry sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig ym maes yr amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang. Dau, hefyd, oedd wedi bod o gymorth mawr i’r Papur Gwyrdd.

Hysbyseb cwmni Abaca yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd

Ym mis Ionawr, cawsom gyfle i son am Rhiannon Rowley, yn wreiddiol o Randirmwyn. Siarad oeddwn yn neuadd Capel y Triniti yn Sgeti, Abertawe ar ôl derbyn cais gan aelodau Cymdeithas Ceredigion a Thŷ’r Cymry i son yn benodol am ‘Y Papur Gwyrdd’.

Roeddem wedi dod i wybod am Rhiannon am ddau reswm: yn gyntaf, roedd hi’n hybu gweithgarwch mudiad cymunedol Trefi Trawsnewid yng ngorllewin Cymru, ac, yn ail, hi oedd – ac yw – pennaeth cwmni Abaca Organic. Dyma gwmni sy’n cynhyrchu matresi gwely o wlân organig Cymreig mewn ffatri yn Nhŷ Croes, Rhydaman.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Rhiannon yn hysbysebu ei chwmni ymhob rhifyn ond dau o’r cylchgrawn rhwng 2007 a 2012. Roedd hynny’n golygu cyfraniad gwerthfawr i gyfrifon y fenter. Rydym yn falch i atgynhyrchu’r hysbyseb honno gan egluro bod Abaca yn dal i ffynnu.

Yna, ym mis Chwefror, cawsom gyfle i son am John Houghton, yn wreiddiol o Ddiserth ger Y Rhyl. Y tro hwn, roeddwn yn annerch aelodau o Gyfundeb Annibynwyr Gorllewin Morgannwg yng nghapel Hermon, Brynaman. Y pwnc y gofynnwyd i ni drafod oedd ‘Yr Amgylchedd a’r Capeli’.

Cawsom gyfle, felly, i son am yr Athro Syr John Houghton – Cristion sydd hefyd yn wyddonydd o ddylanwad byd-eang. Wedi bod yn Athro Ffiseg Atmosfferig ym Mhrifysgol Rhydychen – gan rybuddio am fygythiad cynhesu byd-eang – bu’n un o gadeiryddion paneli newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Yr Athro Syr John Houghton

Enillodd Gwobr Nobel yn 2007 gyda nifer o’i gyd-wyddonwyr, a hynny ar y cyd gydag Al Gore.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Syr John yn barod iawn i gael ei holi gennym ac i gyhoeddi ei rybuddion am fygythiad newid hinsawdd yn rhifyn arloesol y cylchgrawn a sawl rhifyn arall. Rydym yn falch i gyhoeddi llun ohono. Mae’n ein hatgoffa am y gwyddonydd-o-Gymro hwn fu ymysg y mwyaf blaenllaw yn rhyngwladol fu’n pwyso arnom i fynnu ffrwyno cynhesu’r Ddaear.

Diolch i Rhiannon ac i Syr John am eu gwaith – ac am y cyfleoedd gwerthfawr rydyn ni wedi cael eleni nid yn unig i ysgrifennu ond i siarad, hefyd, amdanynt.

Holl-bwysigrwydd Bonn – er absenoldeb y Gwadwr Newid Hinsawdd Trump

DIOLCH  i’r Cenhedloedd Unedig am y Gynhadledd Newid Hinsawdd sy’n cychwyn yn ninas Bonn yn yr Almaen heddiw – er yn gynhadledd gyda gwacter maint eliffant yn yr ystafell oherwydd absenoldeb yr Arlywydd Donald J Trump sy’n gwadu newid hinsawdd.

Dyma gyfarfod ar bwnc anferth o bwysig sy’n ein hatgoffa o’r cyd-destun hinsawdd i’r cyfan o’n bywydau – gan gynnwys i’r gwallgofrwydd gwleidyddol  sy’n cynnal rhyfeloedd ledled y Ddaear ar hyn o bryd gan chwalu bywydau miliynau o deuluoedd.

Ond, er bydd swyddogion llywodraeth America yn dal yn bresennol ar  ymylon y gynhadledd, bydd gwrthwynebiad Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhwym o effeithio ar ymateb rhai gwledydd. Gobeithio nid gormod.

Ar ddydd cyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd Bonn, Patricia Espinosa ar flaen criw o feicwyr ar ran COP23 gyda chynrychiolwyr yr Almaen a Fiji ar bob ochr iddi.

Nod y gynhadledd yw sicrhau gwireddu ar frys addewidion y 169 o lywodraethau – gan gynnwys yr Unol Daleithiau dan arweiniad goleuedig y cyn-Arlywydd Barack Obama – sydd wedi llofnodi Cytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Addawodd y llywodraethau fynd ati i gyfyngu ar yr allyriadau CO2 sy’n codi trwy weithgarwch dynol i’r atmosffer er mwyn ffrwyno cynhesu byd-eang.

Os na lwyddir gyda’r nod honno, does dim amheuaeth ymysg gwyddonwyr y bydd miliynau mwy o bobl yn dioddef. Heb ots am na gwlad na diwylliant na hil na chrefydd na chryfder lluoedd arfog, mae hynny’n rhwym o ddigwydd wrth i  ganlyniadau enbyd newid hinsawdd ehangu ar garlam ar draws ein planed (ond gyda’r cyfoethog yn amddiffyn eu hunain, bid siwr).

Pobl ifanc yn cefnogi’r ymdrechion i warchod y Ddaear trwy Gynhadledd Bonn.

Wrth agor y gynhadledd heddiw, roedd Ysgrifennydd Gweithredol y Gynhadledd, Patricia Espinosa wedi atgoffa pawb o ba mor dyngedfennol yw hi fod llywodraethau’r byd yn gweithredu ar frys:

“Dyma’r 23ain Cynhadledd COP,” meddai, “ond dydyn ni erioed wedi cwrdd gydag ymdeimlad mor gryf o argyfwng. Mae miliynau o bobl o gwmpas y byd wedi diodde – ac yn dal i ddioddef – yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol.

“Rydym yn tosturio wrthyn nhw, am eu teuluoedd, a’u dioddefaint.

“Ond y gwir yw mai efallai dim ond y cychwyn yw hwn – rhagflas o’r hyn sydd i ddod.

“Fel dywedodd Asiantaeth Meteoroleg y Byd ond ychydig ddyddiau yn ôl, mae’n debyg y bydd 2017 ymysg y tair blynedd poethaf i’w chofnodi.”

Roedd cyfeiriad Patricia Espinosa at adroddiad gwyddonwyr y WMO yn adlewyrchu cymaint o fraw sydd ymysg doethion y byd ar bwnc newid hinsawdd bellach.

Datgelodd y WMO mai 2016 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi, gyda lefel y CO2 yn yr atmosffer wedi codi i bwynt uchel newydd yn dilyn cynnydd oedd yn 50% yn fwy na chyfartaledd y 10 mlynedd diwethaf. Ar 403 darn y filiwn, mae CO2 yn yr awyr ar y lefel uchaf ers cyfnod y Pliocene, 3-5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd lefel y môr hyd at 20 medr yn uwch na heddiw. (Ac mae presenoldeb mwy o nwy methan yn yr atmosffer yn ffactor fwy peryglus eto fel nwy tŷ gwydr.) Parhau i ddarllen

Pwy sy’n dangos arweiniad call a chyfrifol i’r byd wrth i’r Ddaear boethi ar garlam?

Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol.

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweindog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Gweinidog Tramor Morrocco, Salaheddine Mezour (chwith) a Gweinidog Amgylcheddol Ffrainc, Segolene Royal (dde) yn lansio cynhadledd COP22 ym Marrakech

Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call a chyfrifol at y Ddaear a’i phobl a’i holl fywyd naturiol yr wythnos hon? Dewiswch chi:

Washington? – Sioe Reality Arswydus gyda Donald Trump a’i gang o Wadwyr Newid Hinsawdd (“Twyll yw cynhesu byd-eang a grewyd gan y Tseineaid i ddinistrio economi  America”!) yn tramwyo coridorau’r Tŷ Gwyn – gan baratoi i lywodraethu gwlad fwyaf pwerus y byd.

Llundain? –  ‘Whitehall Farce’ gyda’r Pantomeim Dame Theresa May a’u clowniau Ceidwadol yn dychmygu y bydd Britannia – o ganlyniad i Ffolineb Enfawr Refferendwm Ewrop – yn hwylio’n ysblennydd eto ar donnau Masnach Rydd. Dim pryder am stormydd ffyrnicach cynhesu byd-eang.

Marrakech?  Marrakech? – Cynrychiolwyr 200 o wledydd y byd (gan gynnwys America’r Arlywydd Obama) yn paratoi i glymu gweithredoedd wrth Gytundeb Newid Hinsawdd Paris. Wedi clywed llefarydd Asiantaeth Hinsawdd y Byd yn rhybuddio bod 2016 yn debyg iawn i guro 2015 fel y flwyddyn boethaf ers i wyddonwyr ddechrau cofnodi tymheredd y byd. “Mae’r holl arwyddion yn goch,” meddai Omar Baddour o’r WMO wrth Gynhadledd Cop22, “Mae’r ffeithiau yno. Nawr yw’r amser i weithredu. Dydych chi ddim yn gallu negodi gyda deddfau ffiseg.”

I ninnau, fel chithau, siwr o fod, Marrakech sy’n cynrychioli gobaith i’r byd yr wythnos hon tra bod Washington a Llundain yn destun ofnau dwys oherwydd y gwallgofrwydd amrywiol sydd ar gerdded ynddynt.

A dyma un lle bach arall – llai o lawer hyd yn oed na Marrakech hir a balch ei hanes – ond lle sydd hefyd yn cynnal agweddau hanfodol o bwysig i ddyfodol dynoliaeth:

Standing Rock – Tiroedd hanesyddol cenedl y Sioux yng Ngogledd Dakota, yr Unol Daleithiau. Ers yn gynnar eleni, mae wedi bod yn destun ymrafael rhwng heddlu preifat arfog cwmni olew pwerus sydd am yrru pibell olew o Ogledd Dakota trwy Standing Rock ac ymlaen i ganolfan olew yn Illinois. Byddai hefyd yn gwthio trwy diroedd pobloedd cynhenid yr Arikara, y Mandan a’r Cheyenne Gogleddol. Mae’r Indiaid yn gwrthod, gan geisio gwarchod eu tiroedd am resymau diwylliannol a chrefyddol ac oherwydd y bygythiad i’w cyflenwad dŵr. Mae’r cwmni a’r asiantau wedi ceisio’u gwthio o’r neilltu gan ddefnyddio bwledi a chŵn ymosodol. Mae’r Sioux wedi cael eu trin yn anghyfiawn ac yn greulon. Ond mae eu hymgyrch yn ennill cefnogaeth gynyddol ledled y byd, a’r cwmni olew bellach dan bwysau.

Credwn fod Standing Rock, fel Marrakech, yr wythnos hon yn adlewyrchu’r mathau o agweddau sy’n hanfodol os ydym i lwyddo i ffrwyno newid hinsawdd a gwarchod y Ddaear er budd pobl a natur. Mae Washington a Llundain, ar y llaw arall, yn cynrychioli’r pwyslais ar rym a chyfoeth sy’n fygythiad i ni gyd.

Safwn gyda Standing Rock a Marrakech.

Ein gwleidyddion – anghyfrifol o ddistaw yn wyneb y stormydd?

 

Llongyfarchiadau i Blaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP. Mewn arolwg brys gan Y Papur Gwyrdd heddiw, nhw yw’r unig un o brif bleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain oedd yn cyfeirio ar brif dudalen eu gwefannau at Newid Hinsawdd.

Ac er mor dyngedfennol o bwysig ydyw, doedd yr un o’r pleidiau’n cyfeirio’n benodol at Uwch Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig sydd i’w chynnal ym Mharis rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 11.

Nod y gynhadledd honno, ar gyngor gwyddonol taer, yw sicrhau cytundeb cadarn rhyngwladol i dorri’n sylweddol ar losgi carbon er mwyn ffrwyno ychydig ar eithafion Newid Hinsawdd.

Mae diffyg parodrwydd y gwleidyddion i dynnu sylw’r cyhoedd at fygythiad Cynhesu Byd-eang – o farnu o wefannau swyddogol eu pleidiau – yn gwbl syfrdanol. Mae’n adlewyrchu diffyg consyrn enbyd ar eu rhan, yn gwbl anghyfrifol yn wir.

Rhag ofn bod yr apparatchiks aml-bleidiol eisiau amau’r honiadau uchod, manylwn ychydig ar rai pethau gan ambell i blaid y gellir dweud eu bod yn ymwneud â ‘chynaliadwyedd’ (sydd, felly, yn wleidyddol sâff i son amdano):

  • Canmolwn yr SNP am sôn am Climate Change ac am drafod Green Scotland. Ond, yn llai herfeiddiol …
  • Roedd Plaid Cymru’n dweud eu bod yn pwyso am foratoriwm ar ffracio yng Nghymru.
  • Roedd Llafur Cymru yn dathlu arbed allyriadau CO2 trwy gynnydd mewn ail-gylchu ac yn croesawu cwmni ynni adnewyddol Swedaidd i Ynys Môn.
  • Whare teg i’r Labour Party UK, roedd eu gwefan mewn melt-down llwyr gyda phopeth wedi diflannu heblaw am gyhoeddiadau am Jeremy Corbyn a’i dîm newydd – fel tai’r Blairite Llafur Newydd olaf wedi diffodd y goleuadau wrth adael y swyddfa!
  • Roedd y Green Party of England and Wales wedi colli’r plot, ar goll yn llwyr mewn cors o bolisïau cymdeithasol ac economaidd er mwyn troedio’n ofalus ar y Ddaear.
  • Does dim pwynt cyfeirio at unrhyw blaid arall: beth bynnag sy’n llechu yn eu polisïau yn rhywle, doedden nhw ddim ag unrhyw awydd i dynnu sylw ato. Ac, wrth gwrs, mae’r ‘Greenest Government ever’, chwedl David Cameron, wedi hen droi’n ddu bitch carbonaidd.

Gwrandewch ar ddau o’n harweinwyr doeth yn rhybuddio ynghylch difrifoldeb bygythiad Newid Hinsawdd – gan wrthgyferbynnu hynny gyda thawedogrwydd ein gwleidyddion ar drothwy cynhadledd mor bwysig:

Kofi Annan, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig: ‘Mae’r byd yn cyrraedd pwynt naid y tu hwnt i’r hyn efallai na fydd modd troi newid hinsawdd yn ôl. Os digwydd hyn, byddwn wedi peryglu hawl ein cenedlaethau presennol a dyfodol i blaned iach a chynaliadwy – bydd y cyfan o ddynoliaeth ar ei cholled.’ (Guardian, Mai 3, 2015)

Yr Archesgob Rowan Williams (y cafodd tyrfa fawr ohonom ein goleuo cymaint ganddo mewn cyfarfod yn Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, ddoe (Medi 13): ‘Ymhell o fod yn fygythiad ansicr rhywbryd yn y dyfodol, mae byd sy’n cynhesu yn realiti presennol go iawn gyda thymereddau byd-eang eisoes wedi codi o O.8% ers cyn y chwyldro diwydiannol. Mae ymchwyddiadau storm cryfach, glawogydd trymach, ac adnoddau prinnach yn rhan o fywyd dyddiol i bobloedd ddi-rif ledled y byd … Rhaid i ni barhau i wneud y galwadau cryfach posibl i sicrhau bod cyfiawnder hinsawdd yn gwestiwn canolog …’ (Cymorth Cristnogol, Taken by Storm, Mawrth 2014)

Gwleidyddion aml-bleidiol! – wnewch chi wrando ac arwain? – fel yr Albanwyr.