Category Archives: Newid Hinsawdd

“Global warming? Hotter summers? Bring it on!” – Pam bod rhaid deall peryglon cynhesu byd-eang

Mewn Vox Pops teledu adeg protestio mudiad XR / Gwrthryfel Difodiant y llynedd, ateb hyderus un gŵr ifanc i’r son am gynhesu byd-eang oedd, “Global warming? Hotter summers? Bring it on!”

Mae angen iddo fe, a phawb ohonom, ddeall peryglon y gwres cynyddol sy’n ein hwynebu.

Ar y dydd roedd y post hwn yn dechrau cael ei baratoi, roedd pobl y tywydd yn hyderus mai dyna fyddai  un o’r diwrnodau poethaf ers i recordiau ddechrau yn y DG. Ac yn wir, erbyn canol bore – pob ffenestr a drws yn ein cartref yn Nhreforys ar agor led y pen, a son am fynd i nofio yn y môr.

Ond, er y pleserau sy’n ein denu i’r traethau, mae gwyddonwyr yn rhybuddio’n daer mor fawr yw perygl cynhesu byd-eang. Eu neges syml yw bod Gorboethi yn gallu lladd, yn arbennig yr henoed a phobl ordew – ac fe ddylen ni gofio hyn, hyd yn oed ynghanol argyfwng Covid-19.

Dyma ddywed blog Uned Ymchwil Polisi Adnewyddiad ac Asesu Sefydliad Ymchwil Grantham: ‘Cyfeirir yn aml at gyfnodau Gorboeth fel ‘lladdwyr tawel.’  Efallai nad ydynt yn denu’r un sylw ag achosion brys eraill fel stormydd neu lifogydd, nac yn profi mor angheuol i boblogaeth â feirws pandemig.

‘Serch hynny, maen nhw’n achosi llawer o farwolaethau cynnar ynghyd â salwch; achosodd cyfnod Gorboeth difrifol haf 2003, dros ddwy fil o farwolaethau ychwanegol yn y DG.’

Mae Uned Ymchwil Grantham yn dadlau –

  • bod angen rhybuddion mwy cynnar am gyfnodau Gorboeth
  • ac y dylai rhybuddion gychwyn ar dymereddau îs na’r lefelau presennol sydd wedi’u hanelu at bobl holliach.

Mae’r WHO – Asiantaeth Iechyd y Byd – yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys. Mae’r perygl eisoes yn gwasgu arnom: ‘Yn 2003, bu farw 70,000 o bobl yn Ewrop o ganlyniad i ddigwyddiad [Gorboeth] Mehefin-Awst; yn 2010, gwelwyd 56,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod cyfnod Gorboeth 44 dydd yn Ffederasiwn Rwsia.’

Yn yr un modd, dywed yr Asiantaeth Amgylcheddol Ewropeaidd: ‘Mae hi bron yn sicr y bydd hyd, amlder a dwyster cyfnodau Gorboeth yn cynyddu yn y dyfodol.

‘Bydd y cynnydd hwn yn arwain at gynnydd sylweddol mewn marwolaethau dros y degawdau nesaf, yn arbennig mewn grwpiau o bobl fregus, os na chymerir mesurau addasu.’

Ond, ydy Rhif 10 Johnson / Cummings yn gwrando? Go brin. Nid llywodraeth i baratoi o flaen llaw ydy hon, ddim ar gyfer Brexit, ddim ar gyfer haint. A ddim ar gyfer tywydd poethach ’chwaith, mae’n ymddangos.

Cafodd y llywodraeth rybudd cryf yng nghanol 2019 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd San Steffan. Yn ôl adroddiad y pwyllgor, does fawr o baratoi wedi bod i ddelio â pheryglon tymereddau uwch dros gyfnodau hirach:  ‘Dyw cartrefi ddim wedi’u haddasu ar gyfer y tymereddau uwch cyfredol neu yn y dyfodol, mae ’na ddiffyg ymwybyddiaeth o’r risg i iechyd gan dymereddau uchel mewn adeiladau, ac mae ’na ddiffyg cynllunio addas o ran gofal iechyd a chymdeithas.’

Mae’r peryglon ddaw trwy Gynhesu Byd-eang mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi dod gyda Covid-19. Yn wir, wrth edrych ar yr effaith ar y systemau planedol cyfan, mae’r peryglon yn fwy difrifol. Parhau i ddarllen

Cymru’n dangos y ffordd iawn ymlaen – atal 2ail draffordd M4 Casnewydd

Calonogol iawn nodi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o weithredu uniongyrchol cryfach nag erioed o blaid gwarchod ein planed mewn sawl gwlad. A bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i hynny, yn arbennig yma yng Nghymru.

Yn Llundain, bu gweithredu aelodau Chwyldroad Difodiant wrth gau heolydd a phontydd prysura’r ddinas am ddyddiau ben bwy’i gilydd yn rhyfeddod o ymroddiad ac o drefnu effeithiol. Bu’n rhyfeddod, hefyd, o ymddygiad pwyllog ac amyneddgar ac, ie, hwyliog.

Ond cofiwn y cafodd 1,130 eu harestio am eu gweithgarwch gyda’r heddlu’n bwriadu erlyn. Pobl ddewr yn talu’r pris ar ein rhan.

Cannoedd o wrthdystwyr o flaen Senedd Cymru ym Mae Caerdydd yn 2018 yn dangos eu gwrthwynebiad  i gynllun M4 Casnewydd

Crisialwyd meddyliai gan y protestiadau hyn. Cawson nhw eu sbarduno gan rybuddion gwyddonwyr mai dim ond rhyw 12 mlynedd sydd gennym i arafu ac atal cynhesu byd-eang neu y bydd yn rhy hwyr arnom.

Yma yng Nghymru ar 1 Mai, o ganlyniad i neges daer y protestiadau hyn, a rhai tebyg yng Nghaerdydd yn ogystal, cafwyd datganiad gan aelodau ein Senedd – wedi arweiniad gan Blaid Cymru – ein bod yn byw bellach mewn cyfnod o berygl eithriadol o ran bygythiad newid hinsawdd i bawb ohonom.

Fel mewn gwledydd eraill, bu pwysau yma ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddechrau gweithredu o ddifrif i gryfhau eu polisïau i leihau allyriadau carbon. Ac efallai bod ymateb y Llywodraeth wedi dod yn gynt na’r disgwyl heddiw yn ein Senedd.

Y gost ariannol anferth o £1.6bn, ynghyd ac ansicrwydd Brexit, oedd y prif resymau a roddwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd benderfyniad mawr i atal y cynllun i greu ail draffordd o gylch Casnewydd. Bu pwyso am y draffordd 14-milltir o hyd hyn ers blynyddoedd gyda’r honiad y byddai’n lleihau tagfeydd ar yr M4 presennol.

Roedd y protest hwn ymhlith llawer a drefnwyd gan nifer o fudiadau amgylcheddol dros gyfnod hir.

Ond, gan feddwl am ymgyrchoedd diflino sawl mudiad amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear Cymru, roedd ffactorau megis lleihau allyriadau traffig, a gwarchod bywyd gwyllt Gwastatir Gwent, yn sicr yn pwyso’n drwm ar feddyliau’r Llywodraeth yn ogystal.

Yn wir, eglurodd yr Athro Drakeford ei hun y byddai bellach wedi atal y cynllun am resymau amgylcheddol hyd yn oed pe bai’r pwysau ariannol heb fod mor gryf.

Adam Price AC, Plaid Cymru, yn annerch o blaid atal y draffordd newydd o gylch Casnewydd.

Felly, digon posib y gwelir ledled y byd bod heddiw wedi bod yn ddydd o arwyddocâd mawr iawn yn hanes yr ymdrech i ffrwyno ac atal cynhesu byd-eang. Dyna bwysigrwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru –  yn rhannol, beth bynnag – i atal adeiladu traffordd newydd er mwyn torri ar dwf allyriadau

… Ac roedd un llamgu Cymreig – Taliesin o Dreforys – hefyd yn hapus i fod ynghanol y dorf!

Bydd ymateb y cwmnïau adeiladu a thrafnidiaeth yn negyddol, siŵr o fod. Ac yn sicr,  bydd angen i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym i ddatblygu cynllun amgen y ‘Ffordd Las’ a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

Llongyfarchiadau i’r protestwyr yma yng Nghymru chwaraeodd ran mor fawr i atal codi traffordd newydd mor ddinistriol. Llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu hymateb. Ond y gwir yw nad ydym yn gallu codi mwy a mwy o draffyrdd. Aeth yr oes honno heibio, os ydym yn gall.

Croesawu codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd ein planed

Dros gyfnod helbulus o fwy na dwy flynedd, mae’r angen i geisio atal trychineb Brexit wedi galw am sylw a gweithredu gan bobl gall trwy wledydd a rhanbarthau Prydain.

Ond gwych nodi bod mudiad newydd Extinction Rebellion am atgoffa llywodraeth Toriaidd Theresa May, a phawb ohonom, bod rhaid parhau i weithredu o ddifrif i geisio ffrwyno bygythiad Cynhesu Byd-eang hefyd.

Rydym yn croesawu Extinction Rebellion gan fod gwir angen codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd y Ddaear. Wedi’r cyfan, mae’r difrod amgylcheddol a achosir i’n planed yn gyd-destun i’r cyfan arall a wnawn.

Protest cefnogwyr Extinction Rebellion yn Parliament Square, Llundain, as Hydref 31. Llun: Chloe Farand. Newyddion: https://www.desmogblog.com/

Ar Hydref 31, bu cannoedd o aelodau Extinction Rebellion yn cynnal protest yn Parliament Square yn Llundain. Dangos methiant Llywodraeth Theresa May, oedden nhw, i wynebu eu cyfrifoldebau dan Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Arestiwyd 15 o’r protestwyr am orwedd ar y stryd.

Trwy  atal taliadau am drydan glan a ddaw o baneli haul ar doeau tai ac adeiladau eraill, a’u cefnogaeth i ddatblygu ffracio am nwy, mae’r Toriaid wedi dangos eu bod yn ystyried sicrhau elw i’r diwydiant ynni carbon difrodol yn bwysicach na’r angen i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid.

Dyna sy’n llywio eu polisiau ynni er y rhybuddion mwya’ taer gwyddonol a gafwyd hyd yn hyn yn Adroddiad Panel Rhyng-lywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar Fedi 8 (gweler y linc i’r Adroddiad dan ‘Gwyddoniaeth’ yn y rhestr gynnwys ar ochr chwith y tudalen).

Felly, diolchwn i aelodau Extinction Rebellion am eu gweithredu hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at eu hymgyrchu pellach yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Tachwedd 12. Bydd y gweithgareddau hynny’n dod i ben gyda phrotest arall yn Parliament Square, Llundain, ar Dachwedd 19.

‘Na i Brexit!’ ac – ‘Ie i’r Ddaear!’ Dyna slogannau’r Papur Gwyrdd. Gobeithio bydd ein gwleidyddion yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae peryglon enbyd yn gwasgu arnom yn gynyddol wrth i arweinwyr gwallgof feddiannu grym llywodraethol ar bob llaw.

Dyma amser gwir dyngedfennol i ddynoliaeth a holl ffurfiau bywyd eraill ein planed. Fel dywed yr hen ymadrodd – Y cyfan sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim.

Angen arweiniad gan driawd Plaid Cymru ar fygythiad Cynhesu Byd-eang

Nid pwnc yw Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, ond cyd-destun – cyd-destun i fywydau a gweithgarwch pawb ohonom.

Ni fydd yn bosibl i ni’r Cymry osgoi difrod y chwalfa amgylcheddol sydd ar gerdded trwy guddio y tu ôl i Glawdd Offa. Dyma chwalfa, yn ôl y newyddiadurwr amgylcheddol Bill McKibbon, sy’n troi ein planed o fod yn gartref clyd i fod yn Dŷ Erchyllterau (eaarth: making a life on a tough new planet, St Martin’s Griffin, New York).

Rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers yn f’arddegau, amser maith yn ol. Fe ddes yn amgylcheddwr yn rhannol wrth glywed Gwynfor yn canmol cylchgrawn Resurgence a sefydlwyd yn y 60au.

Yn wyneb hynny, ac yn arbennig yn wyneb y rhybuddion gwyddonol cynyddol presennol, roeddwn wedi gobeithio, a disgwyl, y byddai Leanne Wood, Adam Price a Rhun ap Iorwerth, fel rhan o’u hymgyrchoedd ar gyfer Llywydiaeth Plaid Cymru, wedi datgan yn glir eu bod yn derbyn realiti peryglon difrifol Cynhesu Byd-eang.

Leanne Wood

Byddai hynny wedi helpu pawb i ddeall bod ein ‘nationalism’ ni yn wahanol iawn, er enghraifft, i ‘nationalism’ Donald Trump, yr Alt Right yn America, a’r asgell-dde eithafol, gan gynnwys hyrwyddwyr Brexit, ymhob man. Maen nhw, fel y gŵyr pawb ohonom, yn gwadu newid hinsawdd ac yn bwrw ati i ddinistrio’r amgylchedd naturiol gyda llawenydd maleisus.

Adam Price

Ond ar ben yr eglurhad hanfodol hwnnw, byddwn wedi disgwyl datganiad am sut y byddai’r triawd yn llunio cyfraniad cryfach gan Gymru i’r ymgyrch rhyngwladol i ffrwyno Newid Hinsawdd ac i warchod byd natur.

Ces fy siomi. Ni fu bygythiad enfawr Cynhesu Byd-eang yn rhan amlwg o gwbl o ymgyrchoedd Leanne, nac Adam, na Rhun. Nid wyf wedi gweld cyfeiriadau ato ar daflenni, ac nid oedd son amdano yn ystod yr Hystingiau y bum i ynddo.

Rhun ap Iorwerth

I’w cynorthwyo, a’u hysbrydoli – os oes angen – ar y mater canolog o bwysig hwn, awgrymwn eu bod yn troi at erthyglau’r Athro Gareth Wyn Jones ar y wefan hon, yn enwedig yr olaf ohonynt, Yr Amser yn Brin i Arbed y Ddaear, sy’n gorffen gyda’r her hon:

Rhaid cyd-warchod adnoddau cyffredin. Rhaid sylweddoli ein bod yn gyd-westeion ar Blaned y Ddaear – yn ddu a gwyn, yn gyfoethog a thlawd, yn eiddil ac yn iach. Ni thâl i ni a’n harweinwyr, na’r 1% tra – cyfoethog sy’n rheoli cymaint, dwyllo’n hunain ac anghofio hyn. (Erthygl Rhif 46, adran Gwyddoniaeth – a Mwy: <http://www.ypapurgwyrdd.com&gt;).

Mae aelodau Plaid Cymru wedi derbyn eu ffurflenni pleidleisio ar gyfer eu Llywydd heddiw (Medi 18). Rhaid i’w pleidleisiau gyrraedd Tŷ Gwynfor erbyn Medi 27.

Yn y cyfamser, hoffwn estyn croeso i’r ymgeiswyr am Lywyddiaeth y Blaid ddanfon datganiadau at y wefan hon yn esbonio beth yw eu barn am Gynhesu Byd-eang a sut y dylwn  ymateb fel dynolryw i ddinistr amgylcheddol. Danfonwn neges atyn nhw gyda’r gwahoddiad hwn, rhag ofn nad ydynt yn darllen gwefan Y Papur Gwyrdd.

Cyhoeddwn ar hast bob neges a ddaw yn ol atom, gan ddymuno’r gorau i Leanne, i Adam ac i Rhun.

HYWEL DAVIES

Argyfwng y Ddaear – cyflwyniad theatrig ergydiol Cwmni Pendraw

Arwydd gobeithiol oedd hi i garedigion y Ddaear pan gafodd cytundeb ei lofnodi gan tua 200 o wledydd yn 2016, dan arweiniad gwaraidd y Cenhedloedd Unedig, i weithredu ar frys i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang.

Serch hynny, roedd pawb yn deall mai’r dasg fyddai sicrhau bod ein gwleidyddion yn cadw at eu haddewidion. Ganddyn nhw, wedi’r cyfan, mae’r gallu i weithredu polisïau i warchod y plethiad rhwng systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal – yn cynnal dynoliaeth a’r myrdd o ffurfiau bywyd eraill, hefyd. Ond sut mae gwneud hynny?

Mae angen dychymyg i lunio ffyrdd newydd o wthio pwnc i ben blaenoriaethau gwleidyddion a’i gadw yno. Yn sicr, dylai fod gan y celfyddydau ran amlwg i sicrhau hynny. Yng Nghymru, fel ymhob man arall.

Angharad Jenkins a Wyn Bowen Harries yn perfformio yn sioe deithiol ‘2071’ am fygythiad cynhesu byd-eang

Felly, roedd Charlotte a minnau’n falch iawn i fod yn bresennol neithiwr ar gyfer cyflwyniad aml-gyfrwng gafaelgar Cwmni Pendraw ar bwnc yr argyfwng amgylcheddol, a hynny yng nghanolfan gelfyddydol Volcano yma yn Abertawe.

Roedd y sioe – dan y teitl (anghynorthwyol!)2071 – yn asiad effeithiol o sgiliau actio a chyfarwyddo Wyn Bowen Harries, dawn gerddorol Angharad Jenkins a Gwilym Bowen Rhys, ynghyd â fideo o olygfeydd trawiadol. A neges werthfawr y cyfan oedd yr angen i bawb ohonom i beidio â gadael i’n gwleidyddion golli golwg ar weithredu polisïau i warchod y Ddaear, ein hunig gartref planedol.

Mae Cwmni Pendraw yn gwmni sydd wedi’i sefydlu’n benodol i gyflwyno pynciau hanes a gwyddoniaeth ac maen nhw i’w llongyfarch ar y weledigaeth honno.

Mae’r ‘2071’ Cymraeg – sydd yn dal ar daith ledled Cymru – yn gyfieithiad ac yn addasiad o gyflwyniad (gyda’r teitl anghynorthwyol hwnnw!) a wnaed gan wyddonydd newid hinsawdd arbenigol, yr Athro Chris Rapley, gyda’r dramodydd Duncan Macmillan, yn theatr y Royal Court yn Llundain yn 2014.

Bu’r  Athro’n disgrifio’r datblygiadau peryglus amrywiol sy’n cynyddu ar draws y Ddaear yn sgil cynhesu byd-eang. Yn ychwanegol, roedd yn holi sut fyd y byddai ei wyres yn ei etifeddu.

Tasg nid hawdd oedd gan Wyn Bowen Harries, mewn gwirionedd – sef o gadw sylw’r gynulleidfa wrth gyflwyno darlith. Ond fe wnaeth hynny’n llwyddiannus trwy ei brofiad a’i ddoniau fel actor. Bu’n sefyll ar ei draed, am un peth, yn wahanol i’r Athro Rapley oedd ar ei eistedd am y cyfan o’i gyflwyniad yntau yn y Royal Court.

(Mewn cromfachau, diddorol yw darllen am berfformiad arall ar yr un pwnc yn y Royal Court, ddwy flynedd ynghynt. Roedd sioe’r gwyddonydd Stephen Emmott yn llawer llai gobeithiol nag un Rapley.)

Braf dyfynnu’r triawd fu o flaen y gynulleidfa, ar lafar ac ar gân, yn esbonio pa mor agos at eu calonnau yw pwnc gwarchod y Ddaear:

Wyn Bowen Harries: “Er mai pwnc dwys sydd yma, mae’r cynnwys ynghylch yr her sy’n wynebu dynoliaeth yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd y modd yr ydym yn cyfleu’r ffeithiau, ynghyd â’n cyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ystyried pwnc sydd yn berthnasol i bob un ohonom.”

Angharad Jenkins: “Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o’r cynhyrchiad pwysig yma. Mae newid hinsawdd a dyfodol ein planed yn rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd.”

Gwilym Bowen Rhys: “Pan glywais am broject 2071, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan. Mae newid hinsawdd yn bwnc sydd werth ei drafod mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw gyfle. Roedd yn ymddangos i mi fod cyfle yma i sgwennu caneuon newydd sy’n trafod y pwnc, a’u rhannu efo cynulleidfaoedd newydd.”

Ie, llongyfarchiadau i Gwmni Pendraw am ein sbarduno ninnau’r Cymry Cymraeg i gael gair gyda’n gwleidyddion ar bwnc mor bwysig â hwn, a cheisio’n bersonol i adael ôl-troed llai niweidiol ar y Ddaear.

Holl-bwysigrwydd Bonn – er absenoldeb y Gwadwr Newid Hinsawdd Trump

DIOLCH  i’r Cenhedloedd Unedig am y Gynhadledd Newid Hinsawdd sy’n cychwyn yn ninas Bonn yn yr Almaen heddiw – er yn gynhadledd gyda gwacter maint eliffant yn yr ystafell oherwydd absenoldeb yr Arlywydd Donald J Trump sy’n gwadu newid hinsawdd.

Dyma gyfarfod ar bwnc anferth o bwysig sy’n ein hatgoffa o’r cyd-destun hinsawdd i’r cyfan o’n bywydau – gan gynnwys i’r gwallgofrwydd gwleidyddol  sy’n cynnal rhyfeloedd ledled y Ddaear ar hyn o bryd gan chwalu bywydau miliynau o deuluoedd.

Ond, er bydd swyddogion llywodraeth America yn dal yn bresennol ar  ymylon y gynhadledd, bydd gwrthwynebiad Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhwym o effeithio ar ymateb rhai gwledydd. Gobeithio nid gormod.

Ar ddydd cyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd Bonn, Patricia Espinosa ar flaen criw o feicwyr ar ran COP23 gyda chynrychiolwyr yr Almaen a Fiji ar bob ochr iddi.

Nod y gynhadledd yw sicrhau gwireddu ar frys addewidion y 169 o lywodraethau – gan gynnwys yr Unol Daleithiau dan arweiniad goleuedig y cyn-Arlywydd Barack Obama – sydd wedi llofnodi Cytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Addawodd y llywodraethau fynd ati i gyfyngu ar yr allyriadau CO2 sy’n codi trwy weithgarwch dynol i’r atmosffer er mwyn ffrwyno cynhesu byd-eang.

Os na lwyddir gyda’r nod honno, does dim amheuaeth ymysg gwyddonwyr y bydd miliynau mwy o bobl yn dioddef. Heb ots am na gwlad na diwylliant na hil na chrefydd na chryfder lluoedd arfog, mae hynny’n rhwym o ddigwydd wrth i  ganlyniadau enbyd newid hinsawdd ehangu ar garlam ar draws ein planed (ond gyda’r cyfoethog yn amddiffyn eu hunain, bid siwr).

Pobl ifanc yn cefnogi’r ymdrechion i warchod y Ddaear trwy Gynhadledd Bonn.

Wrth agor y gynhadledd heddiw, roedd Ysgrifennydd Gweithredol y Gynhadledd, Patricia Espinosa wedi atgoffa pawb o ba mor dyngedfennol yw hi fod llywodraethau’r byd yn gweithredu ar frys:

“Dyma’r 23ain Cynhadledd COP,” meddai, “ond dydyn ni erioed wedi cwrdd gydag ymdeimlad mor gryf o argyfwng. Mae miliynau o bobl o gwmpas y byd wedi diodde – ac yn dal i ddioddef – yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol.

“Rydym yn tosturio wrthyn nhw, am eu teuluoedd, a’u dioddefaint.

“Ond y gwir yw mai efallai dim ond y cychwyn yw hwn – rhagflas o’r hyn sydd i ddod.

“Fel dywedodd Asiantaeth Meteoroleg y Byd ond ychydig ddyddiau yn ôl, mae’n debyg y bydd 2017 ymysg y tair blynedd poethaf i’w chofnodi.”

Roedd cyfeiriad Patricia Espinosa at adroddiad gwyddonwyr y WMO yn adlewyrchu cymaint o fraw sydd ymysg doethion y byd ar bwnc newid hinsawdd bellach.

Datgelodd y WMO mai 2016 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi, gyda lefel y CO2 yn yr atmosffer wedi codi i bwynt uchel newydd yn dilyn cynnydd oedd yn 50% yn fwy na chyfartaledd y 10 mlynedd diwethaf. Ar 403 darn y filiwn, mae CO2 yn yr awyr ar y lefel uchaf ers cyfnod y Pliocene, 3-5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd lefel y môr hyd at 20 medr yn uwch na heddiw. (Ac mae presenoldeb mwy o nwy methan yn yr atmosffer yn ffactor fwy peryglus eto fel nwy tŷ gwydr.) Parhau i ddarllen

Yn y sinemau o18 Awst ymlaen: ‘An Inconvenient Sequel,Truth to Power’ – ffilm newydd Al Gore

Pan fydd haneswyr y dyfodol yn adrodd sut yr achubwyd y Ddaear rhag bygythiad enfawr cynhesu byd-eang – fe welwch fod awel fach optimistaidd yn fy nghyffwrdd ar y funud, wn i ddim pam – bydd enw’r cyn-Is Arlywydd Americanaidd, Al Gore, ymysg yr uchaf ar eu rhestr o’r bobl berswadiodd dynoliaeth i osgoi’r dibyn amgylcheddol.

Mae hi’n 10 mlynedd bellach ers i luoedd ledled y byd gael eu syfrdanu gan ei ffilm, An Inconvenient Truth. Yn seiliedig ar ddarlith gyda sleidiau yr oedd Al Gore wedi bod yn ei chyflwyno ar bum cyfandir, doedd fawr neb yn disgwyl pa mor ddylanwadol y byddai’r ffilm wrth bwyntio at y peryglon mawr oedd yn wynebu’r blaned gan gynhesu byd-eang. Gan gynnwys Gore ei hun.

Ond dyna a fu. Roedd grym y ffeithiau am gynhesu byd-eang yn An Inconvenient Truth wedi ysbrydoli ton o weithgarwch rhyngwladol i leihau’r allyriadau nwyon oedd yn achosi ac yn gwaethygu newid hinsawdd (gyda Chytundeb Hinsawdd Paris, 2015, yn ganlyniad).

Al Gore, cyn-Is Arlywydd America: Bu’n annog pobl i ymygyrchu dros leihau allyriadau carbon am dros ddegawd.

Yn rhifyn cyfredol yr Observer (30.07.2017), mae’r newyddiadurwraig o Gaerdydd, Carole Cadwalladr, yn olrhain nid yn unig llwyddiant annisgwyl y ffilm, ond sut mae Al Gore wedi parhau heb arafu dim a’i genhadaeth i achub y byd.

Wrth wneud hynny, mae hi’n dangos sut mae Gore wedi gorfod gwrthsefyll corfforaethau ynni rhyngwladol sydd wedi  taflu arian yn gynyddol i geisio rhwystro twf y mudiadau amgylcheddol.

Gan adlewyrchu neges Naomi Klein yn ei llyfr This Changes Everything: Climate Change v Capitalism (Simon & Schuster, 2014), a Naomi Oreskes a Erik M. Conway yn Merchants of Doubt (Bloomsbury, 20010), mae Gore yn colbio’r cyfalafwyr rhyngwladol wrth siarad gyda Cadwalladr:

“Mae’r rhai sydd a gafael ar symiau mawr o arian a phwer noeth wedi gallu tanseilio pob rheswm a ffaith yn ystod [y prosesau] o lunio penderfyniadau cyhoeddus,” meddai.

“Y brodyr Koch yw noddwyr mwyaf gwadu newid hinsawdd. Ac er bod ExxonMobil yn honni eu bod wedi peidio, dydyn nhw ddim. Maen nhw wedi rhoi chwarter biliwn o ddoleri i grwpiau gwadu newid hinsawdd. Mae’n glir eu bod yn ceisio anablu ein gallu i ymateb i’r bygythiad hwn i’n bodolaeth.”

Ag yntau’n dal i annerch cyfarfodydd ac i siarad gydag arweinwyr gwleidyddol ledled y blaned, mae Al Gore hefyd wedi gweld yr angen i droi at ffilm eto er mwyn ceisio atal cryfder newydd y gwadwyr dan arweiniad Donald Trump. Yn wir, bu raid ail-olygu diwedd ei ffilm newydd wedi i Trump dynnu’r Unol Daleithiau allan o Gytundeb Hinsawdd Paris.

  • O 18 Awst ymlaen, bydd ffilm newydd Al Gore i’w gweld mewn sinemau ymhobman: An Inconvenient Sequel: Truth to Power.

Ar derfyn ei herthygl yn yr Observer, mae Carole Cadwalladr yn ein hannog bawb ohonom i fynd i weld ffilm: “Brexit, Trump, newid hinsawdd, cynhyrchwyr olew, arian tywyll, dylanwad Rwsiaidd, ymosodiad chwyrn ar ffeithiau, tystiolaeth, newyddiaduraeth, gwyddoniaeth, mae’r cyfan yn gysylltiedig. Gofynnwch Al Gore … I ddeall y realiti newydd yr ydym yn byw ynddo, rhaid i chi wylio An Inconvenient Sequel: Truth to Power.”

… Ac o son am ddathlu 10 mlwyddiant An Inconvenient Truth, cafodd cylchgrawn Y Papur Gwyrdd ei lansio 10 mlynedd yn ol hefyd,  mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint yn 2007. Ie, dyna ganlyniad bach arall  i ffilm Al Gore!

 

 

 

Pobl Capel y Nant a Beicwyr Kenya – yn unol o blaid ynni glan

Digon – am y tro – am ffolineb a pheryglon Brexit (y gobeithiwn na ddaw i fod) a Donald Trump (y gobeithiwn y ceir ffrwyn ar ei falais a’i ddifrod).

Yn lle’r bygythiadau hynny, rhoddwn ein pwyslais y tro hwn ar sut mae grwpiau o bobl gyffredin, gall, sy’n byw miloedd ar filoedd o’i gilydd, yn gweithio’n ymarferol i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.

Ond cyn symud ymlaen, mae angen nodi, er mor anhygoel ydyw, bod ffeithiau cynhesu byd-eang yn cael eu gwadu’n llwyr gan fudiadau Ceidwadol asgell-dde pwerus yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Gyfunol – gan Lywodraeth yr Arlywydd Donald Trump (er ei fod dan warchae cyfreithiol cynyddol) a’r Prif Weinidog (lleiafrifol ac efallai byr-hoedlog) Theresa May.

Mae gwenyn yn ogystal a phobl yn cael croeso gan welyau o flodau cynhenid yng Nghapel y Nant, Clydach, Abertawe. Nawr mae’r eglwys ar fin troi at drydan di-garbon a nwy carbon niwtral fel rhan o ymgyrch Newid Mawr Cymorth Cristnogol.

Mae’r ddau ohonyn nhw’n hollol hapus i gadarnhau hynny’n gyhoeddus: mae Trump wedi penodi pennaeth newydd ar Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yr Amerig (sef yr EPA) sy’n gwadu newid hinsawdd,  ac sy’n ystyried bod elw ariannol yn bwysicach na gwarchod byd natur, ac mae Theresa May wedi penodi Michael Gove yn Weinidog Hinsawdd yn ei Llywodraeth leiafrifol newydd hi er ei fod yntau, hefyd, yn gwadu gwyddoniaeth cynhesu byd-eang.

Sut yn y byd bennodd y ddwy wlad hyn – yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Gyfunol – gyda llywodraethau mor hanesyddol o anghyfrifol? Ta waith …

Gweithgarwch sy’n cyplu Cymru gyda Kenya sydd gennym dan sylw yn y post hwn. Ac maen nhw’n cael eu cysylltu gan ymgyrch y Newid Mawr a ysgogwyd gan Gymorth Cristnogol.

Yma yng Nghymru, mae’r eglwys mae Charlotte a minnau’n aelodau ohono – arhoswch gyda ni, ffrindiau anffyddiol! – sef Capel y Nant, Clydach, Abertawe, ar fin newid ei chyflenwadau trydan a nwy o gwmnïau mawr, traddodiadol, llosgi carbon, i gwmni trydan di-garbon, nwy carbon-niwtral (rhannol organig) ac adnewyddol Good Energy.

Cymerwyd penderfyniad Capel y Nant i droi at Good Energy gan Gwrdd Eglwys heb yr un bleidlais yn erbyn. Dyma oedd ein hymateb i alwad ymgyrch y Newid Mawr i leihau ar ein hallyriadau carbon deuocsid ninnau i’r atmosffer.

Ledled y Deyrnas Gyfunol mae eglwysi eraill yn gweithredu yn yr un modd. A ledled y byd, mae mudiadau eraill o bobl werinol hefyd yn cydio yn yr awenau dan faner Newid Mawr Cymorth Cristnogol.

Felly, dyma ni’n troi o benderfyniad un grŵp o bobl yng Nghymru at griw arall o bobl ymhell i ffwrdd yn Kenya er mwyn gweld beth sy’n digwydd yno i warchod ein planed wrth i Etholiad Cyffredinol agosáu.

Fel gyda chymaint o wledydd sy’n cael eu ‘datblygu’, mae temtasiynau mawr i Kenya droi at losgi carbon fel ffynhonnell ynni. Mae Llywodraeth bresennol y wlad eisiau codi pwerdy glo newydd ar ynys arfordirol Lamu – sy’n un o Safleoedd Etifeddiaeth Byd-eang UNESCO – gan fewnforio glo o Dde’r Affrig.

Yn Kenya – aelodau’r Clean Energy Cycling Caravan yn teithio’r wlad yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol i ddadlau o blaid ynni adnewyddol, glan, o’r haul a’r gwynt, yn lle dechrau llosgi glo brwnt.
Llun: The Ecologist

Ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol Kenya yn dadlau’n gryf y byddai hynny’n achosi llygredd ar Ynys Lamu, yn ychwanegu at allyriadau carbon i’r atmosffer gan chwalu gobeithion Cytundeb Hinsawdd Paris, ac yn golygu costau enbyd.

Yn wyneb y bygythiad hwnnw, mae aelodau a chefnogwyr grŵp y Clean Energy Cycling Caravan yn teithio’r wlad gyda’r neges mai’r ffordd gyflymaf i bobl Kenya gael ynni newydd yw trwy harneisio adnoddau naturiol y gwynt a’r haul y mae cymaint ohono gyda nhw eisoes. Byddai hefyd yn gyflymach ac yn rhatach o lawer, meddant, i godi paneli haul a thyrbinau gwynt na chreu strwythur enfawr tanwydd ffosil.

Mae’r Beicwyr yn annog etholwyr i gefnogi dyfodol o ynni glan i Kenya  wrth bleidleisio yn eu Hetholiad Cyffredinol ar Awst 8. Eu dadl yw y gellir sicr manteision datblygiad heb achosi’r difrod planedol a achoswyd dros gyfnod o 200 mlynedd gan wledydd ‘datblygedig’ hemisffer y gogledd. Mae’n bosibl i Kenya lamu ymlaen heb losgi carbon.

Na, dyw troi Capel y Nant, Cymru, yn ‘wyrdd’ ddim ar yr un raddfa â’r ymgyrch yn Kenya. Ond pobl gyffredin sydd wrthi yn y ddwy wlad. Ac mae arbenigwyr yn pwysleisio bod hynny’n ganolog o bwysig fel un o’r ffactorau hanfodol os oes gobaith o ostwng allyriadau carbon a ffrwyno cynhesu byd-eang.

Gwyddonwyr doeth yn herio Donald Trump anghyfrifol

Ynghanol y gwallgofrwydd cyfoes ymysg gwleidyddion asgell-dde sy’n gwadu bodolaeth Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, diolch o galon i’r miloedd di-ri’ o wyddonwyr gynhaliodd Orymdeithiau dros Wyddoniaeth mewn 600 o ddinasoedd ledled y byd ddoe, wrth nodi Dydd y Ddaear.

Roeddynt yn galw am barch i ymchwil wyddonol gan arbenigwyr ymhob maes yn wyneb y dilorni anghyfrifol gan Donald Trump yn America a chan wleidyddion mewn gwledydd eraill, fel y prif Brecsitwr gynt, Michael Gove, yn Lloegr.

Rhai o’r 10,000 o bobl fu’n gwrthdystio yn Berlin o blaid parch i wyddoniaeth. Roedd Berlin yn un o 600 o ddinasoedd lle bu protestio ar Ddydd y Ddaear. Llun: Stand With CEU/Twitter.

Yn benodol, roedd y protestwyr yn mynnu bod Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd yn fygythiadau difrifol i ddyfodol dynoliaeth a phatrymau naturiol eraill ein planed. Roedd angen iddynt wneud hyn gan fod gwadu Newid Hinsawdd wedi meddiannu uchel-fannau gwleidyddiaeth America, gwlad fwyaf pwerus y byd.

Mae Arlywydd newydd America, Donald Trump, yn bennaeth croch i benaethiaid corfforaethol sydd wedi bod yn ariannu’r gwadu hwn ers degawdau. Ei nod bellach, gyda’i holl rym fel Arlywydd, a’i anwybodaeth affwysol personol, yw dadwneud y gobaith a gawsom trwy benderfyniadau Cynhadledd Hinsawdd Paris, Rhagfyr 2015, dan arweiniad ei ragflaenydd fel Arlywydd, Barrack Obama.

O ganlyniad i’r gynhadledd honno, cytunodd ryw 200 o wledydd ei bod yn angenrheidiol ein bod yn cyfyngu ar godiadau tymheredd y Ddaear i ddim mwy na 1.5 gradd C uwch y lefelau ar ddechrau’r cyfnod diwydiannol os oes gobaith i fod o ffrwyno ar Gynhesu Byd-eang. Roeddent yn gytun bod rhaid cyfyngu ar frys ar allyriadau carbon deuocsid a achosir, e.e., gan losgi glo ac olew fel tanwydd.

Nawr mae’r cyfan yn y fantol wrth i Trump a’i griw honni mai ‘hoax’ yw’r gwaith enfawr gan wyddonwyr arbennigol dan arolygaeth y Cenhedlaeth Unedig sy’n rhybuddio am stormydd eithafol, codiadau mewn lefelau’r mor a datblygiadau enbyd eraill.

Tu hwnt i bob credinaeth, hefyd, yw bod Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau bellach dan reolaeth uwch swyddogion sy’n gwadu bod unrhyw angen gwarchod yr amgylchedd. Eu nod, yn llythrennol, yw atal gweithgareddau’r adran honno – gan roi rhwydd hynt i losgwyr carbon anghyfrifol fynd ati eto a thrwy lacio amrywiaeth o gyfyngiadau eraill ar ddifrodi systemau naturiol. Mae gwyddonwyr dan bwysau enbyd mewn sefyllfa felly.

Felly, ynghanol oes mor anghredadwy o annoeth, lle mae gwr di-ddysg fel Donald Trump yn gwadu pwysigrwydd gwyddoniaeth i les dynoliaeth, ysbrydoliaeth oedd gweld bod ugeiniau o filoedd o wyddonwyr gyda’r dewrder i brotestio yn erbyn ei ffolineb, gan gynnwys dan ei drwyn yn Washington DC.

Gobeithiwn y bydd parch i ymchwil wyddonol – ac i rybuddion gwyddonol – yn ad-feddiannu’r Ty Gwyn o ganlyniad i’r gwrthdystio grymus hwn. Go brin, ysywaeth, ond gobeithiwn serch hynny.

Gwadwyr newid hinsawdd yn ennill grym trwy’r diwydiant tanwydd ffosil

Rydym yn ysgrifennu’r geiriau hyn wrth i Brif Weinidog Ceidwadol San Steffan, Theresa May, baratoi i weithredu Erthygl 50. Ei nod yw rhwygo’r Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Dyna Lywodraeth asgell-dde yn gweithredu Brexit yn unol â dymuniad mudiad asgell-dde bach ond hynod gyfoethog UKIP.

Ac yn yr Unol Daleithiau, mae aelodau Gweriniaethol Cyngres yn cynnal eu Harlywydd asgell-dde, unbenaethol newydd, Donald Trump, gan achosi syfrdan a thristwch ddydd ar ôl dydd i ddinasyddion gwaraidd eu gwlad.

Ymysg y pethau sy’n gyffredin iddynt yw eu bod yn gwadu newid hinsawdd.

Mae mudiad amgylcheddol Americanaidd 350.org yn rhybuddio am y cysylltiad rhwng mudiadau asgell-dde led-led y byd â’r diwydiant tanwydd ffosil. Dyma’u rhybudd, a’u her:

Ar draws y blaned, mae ton o wleidyddion asgell-dde gyda thueddiadau unbenaethol wedi bod yn ennill grym – yn aml gan ddefnyddio ofn a chasineb i hybu tŵf y mudiadau sy’n eu cefnogi.

… Mae’r gwleidyddion hynny sy’n poeri casineb hefyd â thueddiad i boeri gwadiad newid hinsawdd, ac yn cadw cysylltiadau agos gyda’r diwydiant tanwydd ffosil. Dyw hyn ddim yn gyd-ddigwyddiad. Ar hyn o bryd mae’r diwydiant tanwydd ffosil a’u cefnogwyr pwerus ynghanol llywodraethau yn cynnal chwildroad asgell-dde byd-eang mewn ymdrech ffyrnig i ennill grym.

Ac â dweud y gwir, mae hyn wedi bod yn gweithio. Ar adegau mae’n teimlo fel ein bod yn symud i oes newydd o wleidyddiaeth dreisgar, beryglus: mae gwleidyddion sydd yng ngafael corfforaethau yn ennill grym ar bob cyfandir dan amodau amheus, ac yn ymosod yn filain ar fudiadau sy’n eu gwrthwynebu.

Ond, yn y pendraw, arwydd yw hyn bod y diwydiant tanwydd ffosil yn trengi – er yn brwydro. Mae’n frwydr hollol wallgo’ am rym ac elw gan ddiwydiant sy’n marw. Mae ynni adnewyddol yn fwy fforddadwy ac yn fwy hawdd ei gael nag erioed – diolch yn rhannol i ymgyrchu cadarnhaol i ffrwyno achosion newid hinsawdd gan bobl ar draws y blaned –  [ac mae hyn yn] golygu bod dyddiau’r diwydiant wedi’u rhifo.

Mae mudiad 350.org yn mynnu bod cyfle gyda ni yn 2017 i atal tŵf dylanwad gwleidyddol y corfforaethau tanwydd ffosil. Ond mae hynny’n golygu bod rhai i ni wasgu’n galed i gyflymu’r trawsnewid i ynni adnewyddol yr haul, gwynt, dŵr a môr. Mae hynny’n angenrheidiol er mwyn dod â’r diwydiant llosgi carbon i ben cyn iddo achosi gormod eto o ddifrod i’r Ddaear.

Mae peryglon a thristwch Brexit, ac enbydrwydd gorffwyll Donald Trump yn gwasgu arnom. Ond cofiwn mai’r cyd-destun i’r cyfan yw bygythiad enfawr cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Rhaid atgoffa pawb o hynny.