Category Archives: Ffracio fracking

Plaid Cymru: ‘Newid hinsawdd yw’r sialens fwyaf i ddynoliaeth’

MAE gwefan Y Papur Gwyrdd yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed ar bwnc newid hinsawdd gan Blaid Cymru yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol a gynhelir ar Ddydd Iau, Mai 5.

Dyma’r datganiad a gaed ar dudalen 132 o’r Maniffesto gan Llyr Gruffydd, Gweinidog Amgylcheddol Cysgodol Plaid Cymru:Plaid Green

Mae Plaid Cymru’n cydnabod mai newid hinsawdd  yw’r sialens fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth.

Fe chwaraea Llywodraeth Plaid Cymru ei rhan lawn wrth gwrdd â’r her yma.

Mi sicrhawn ni fod Cymru’n cyflawni’i thargedau gostwng statudol, a gwneud hynny sy’n dwyn budd economaidd yn ei sgîl drwy dechnoleg newydd a mantais y cyntaf-i-symud.

Hefyd mi sicrhawn bod ein targedau’n cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau’u bod yn ddigonol.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n rhwystro cracio heidrolig (‘ffracio’) ac ecsbloetio unrhyw fathau eraill o nwy anghonfensiynol yng Nghymru unwaith i’r pwerau gael eu datganoli i Gymru.

Yn y cyfamser mi ddiweddarwn ganllawiau cynllunio i gynnwys Nodyn Cyngor Technegol ar nwy anghonfensiynol.

Rydyn ni’n gwrthwynebu prosiectau llosgi ynni o faint mawr a chymhorthdal cyhoeddus i losgyddion.

Ni chefnogwn ni ddim datblygu ynni niwclear mewn lleoliadau newydd.

Mi wrthwynebwn ddefnyddio peilonau drwy Barciau Cendlaethol ac Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol, gan annog defnyddio ceblau dan ddaear a than y môr i gario trydan lle bo’n bosibl.

Fe wrthwyneba Plaid Cymru unrhyw ddatblygu newydd ar lo brig.

Mi geisiwn hefyd atebion cadarnach o lawer i gwestiwn adfer safloedd glo brig a gafodd eu gadael, gan weithredu’n gyfreithiol ac adolygu rheoliadau yn ôl yr angen.

Ond mi geisiwn hefyd gefnogi awdurdodau lleol nad oes gyda nhw’r arbenigedd i reoli safleoedd yn ddigonol, gan roi cymunedau a’u lles nhw yn gyntaf.

Bu Plaid Genedlaethol Cymru yn rhyngwladol yn ogystal ag yn genedlaethol ei natur o’r cychwyn cyntaf, gan gefnogi Cynghrair y Cenhedloedd rhwng y rhyfeloedd mawr a’r Cenhedloedd Unedig wedi’r Ail Ryfel Byd. Mae’n parhau’n gefnogol, hefyd, i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae datganiad clir y Blaid yn ei Maniffesto yn dangos ymhellach ei bod am i Gymru gydnabod ei chyfrifoldebau fel cenedl wrth wynebu bygythiad mawr newid hinsawdd i ddynoliaeth.

Dywedwn eto bod Y Papur Gwyrdd yn croesawu’r datganiad hwn gan Blaid Cymru.

http://www.plaid2016.cymru/manifesto

Gwrth-Ffracwyr Cymru’n magu nerth

DANGOSODD Rali Cyfeillion y Ddaear a Mudiad Gwrth Fracio Cymru yng Nghaerdydd ddoe (Sadwrn, Hydref 11) fod yr ymgyrch holl bwysig i atal y tyllwyr nwy ffosil anghyfrifol yn magu nerth yn ein plith.

Dim ond un Arweinydd o’r pleidiau gwleidyddol oedd yn bresennol i siarad i’r cannoedd o flaen ein Senedd cenedlaethol, ond roedd pob plaid yn cael ei chynrychioli – ar wahan i’r Toriaid sy’n amlwg ym mhocedi’r corfforaethau ynni carbon.

Roedd yr Arglwydd Dafydd Wigley a Bethan Jenkins AC yno i darannu ar ran Plaid Cymru, Mick Antoniw AC fel aelod Llafur, William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Pipa Bartolotti fel Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.

Cafwyd rhybuddion cryf ac unol y byddai caniatau ffracio yn gam hynod annoeth fyddai’n niweidio’n cymunedau a’r byd. Yr unig rai fyddai’n elwa fyddai’r cyfoethogion corfforaethol a’u gweision gwleidyddol yn San Steffan.

Fel dywedodd y Dr Gareth Club, pennaeth Cyfeillion y Ddaear Cymru: “Mae hyd yn oed y cwmniau ffracio’n cydnabod na fydd yn gostwng biliau ynni. Yn lle gwasgu am y dafnau olaf o danwyddau ffosil, fe ddylem fod yn lleihau gwastraff ynni ac yn datblygu potensial enfawr Cymru am ynni glan o’r haul, y gwynt a’r tonnau.

“Rydym yn gofyn i’n Prif Weinidog ddatgan moratoriwm ar ffracio. Mae gan Lywodraeth Cymru rheolaeth lawn dros gynllunio, felly fe allen nhw ei atal ar amrantiad.”

Wrth i’r llosgwyr carbon Toriaidd wthio’n galetach nag eriod i fynd ati i ffracio ymhob man – e.e. Owen Patterson yn y Daily Telegraph – byddai’n dda credu y bydd Llywodraeth Lafur Cymru’n taro nol yn gryf i warchod ein pobl a’n byd.

‘Dim Ffracio!’ ddylai fod y nod, gan fynd ati i sicrhau hwb anferth i ynni glan, adnewyddol, yn lle hynny. Dyna’r unig ymateb call i’r rhybuddion gwyddonol ynghylch peryglon cynhesu byd-eang a newid hinsawdd i bawb ohonom.

Roedd Rali sylweddol ddoe yn arwydd i wleidyddion yr holl bleidiau bod disgwyl arnynt i weithredu i ddweud “Na!” i ffracio. Ond bydd rhaid gwthio llawer

Dafydd Wigley'n annerch y Rali Gwrth Ffracio o flaen Senedd Cymru

Dafydd Wigley’n annerch y Rali Gwrth Ffracio o flaen Senedd Cymru

Tyrfa sylweddol yn y Rali Gwrth Ffracio

Tyrfa sylweddol yn y Rali Gwrth Ffracio

mwy eto arnynt cyn sicrhau buddugoliaeth yn y frwydr dyngedfennol hon.