Category Archives: Plaid Cymru

Angen arweiniad gan driawd Plaid Cymru ar fygythiad Cynhesu Byd-eang

Nid pwnc yw Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, ond cyd-destun – cyd-destun i fywydau a gweithgarwch pawb ohonom.

Ni fydd yn bosibl i ni’r Cymry osgoi difrod y chwalfa amgylcheddol sydd ar gerdded trwy guddio y tu ôl i Glawdd Offa. Dyma chwalfa, yn ôl y newyddiadurwr amgylcheddol Bill McKibbon, sy’n troi ein planed o fod yn gartref clyd i fod yn Dŷ Erchyllterau (eaarth: making a life on a tough new planet, St Martin’s Griffin, New York).

Rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers yn f’arddegau, amser maith yn ol. Fe ddes yn amgylcheddwr yn rhannol wrth glywed Gwynfor yn canmol cylchgrawn Resurgence a sefydlwyd yn y 60au.

Yn wyneb hynny, ac yn arbennig yn wyneb y rhybuddion gwyddonol cynyddol presennol, roeddwn wedi gobeithio, a disgwyl, y byddai Leanne Wood, Adam Price a Rhun ap Iorwerth, fel rhan o’u hymgyrchoedd ar gyfer Llywydiaeth Plaid Cymru, wedi datgan yn glir eu bod yn derbyn realiti peryglon difrifol Cynhesu Byd-eang.

Leanne Wood

Byddai hynny wedi helpu pawb i ddeall bod ein ‘nationalism’ ni yn wahanol iawn, er enghraifft, i ‘nationalism’ Donald Trump, yr Alt Right yn America, a’r asgell-dde eithafol, gan gynnwys hyrwyddwyr Brexit, ymhob man. Maen nhw, fel y gŵyr pawb ohonom, yn gwadu newid hinsawdd ac yn bwrw ati i ddinistrio’r amgylchedd naturiol gyda llawenydd maleisus.

Adam Price

Ond ar ben yr eglurhad hanfodol hwnnw, byddwn wedi disgwyl datganiad am sut y byddai’r triawd yn llunio cyfraniad cryfach gan Gymru i’r ymgyrch rhyngwladol i ffrwyno Newid Hinsawdd ac i warchod byd natur.

Ces fy siomi. Ni fu bygythiad enfawr Cynhesu Byd-eang yn rhan amlwg o gwbl o ymgyrchoedd Leanne, nac Adam, na Rhun. Nid wyf wedi gweld cyfeiriadau ato ar daflenni, ac nid oedd son amdano yn ystod yr Hystingiau y bum i ynddo.

Rhun ap Iorwerth

I’w cynorthwyo, a’u hysbrydoli – os oes angen – ar y mater canolog o bwysig hwn, awgrymwn eu bod yn troi at erthyglau’r Athro Gareth Wyn Jones ar y wefan hon, yn enwedig yr olaf ohonynt, Yr Amser yn Brin i Arbed y Ddaear, sy’n gorffen gyda’r her hon:

Rhaid cyd-warchod adnoddau cyffredin. Rhaid sylweddoli ein bod yn gyd-westeion ar Blaned y Ddaear – yn ddu a gwyn, yn gyfoethog a thlawd, yn eiddil ac yn iach. Ni thâl i ni a’n harweinwyr, na’r 1% tra – cyfoethog sy’n rheoli cymaint, dwyllo’n hunain ac anghofio hyn. (Erthygl Rhif 46, adran Gwyddoniaeth – a Mwy: <http://www.ypapurgwyrdd.com&gt;).

Mae aelodau Plaid Cymru wedi derbyn eu ffurflenni pleidleisio ar gyfer eu Llywydd heddiw (Medi 18). Rhaid i’w pleidleisiau gyrraedd Tŷ Gwynfor erbyn Medi 27.

Yn y cyfamser, hoffwn estyn croeso i’r ymgeiswyr am Lywyddiaeth y Blaid ddanfon datganiadau at y wefan hon yn esbonio beth yw eu barn am Gynhesu Byd-eang a sut y dylwn  ymateb fel dynolryw i ddinistr amgylcheddol. Danfonwn neges atyn nhw gyda’r gwahoddiad hwn, rhag ofn nad ydynt yn darllen gwefan Y Papur Gwyrdd.

Cyhoeddwn ar hast bob neges a ddaw yn ol atom, gan ddymuno’r gorau i Leanne, i Adam ac i Rhun.

HYWEL DAVIES

Plaid Cymru: ‘Newid hinsawdd yw’r sialens fwyaf i ddynoliaeth’

MAE gwefan Y Papur Gwyrdd yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed ar bwnc newid hinsawdd gan Blaid Cymru yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol a gynhelir ar Ddydd Iau, Mai 5.

Dyma’r datganiad a gaed ar dudalen 132 o’r Maniffesto gan Llyr Gruffydd, Gweinidog Amgylcheddol Cysgodol Plaid Cymru:Plaid Green

Mae Plaid Cymru’n cydnabod mai newid hinsawdd  yw’r sialens fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth.

Fe chwaraea Llywodraeth Plaid Cymru ei rhan lawn wrth gwrdd â’r her yma.

Mi sicrhawn ni fod Cymru’n cyflawni’i thargedau gostwng statudol, a gwneud hynny sy’n dwyn budd economaidd yn ei sgîl drwy dechnoleg newydd a mantais y cyntaf-i-symud.

Hefyd mi sicrhawn bod ein targedau’n cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau’u bod yn ddigonol.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n rhwystro cracio heidrolig (‘ffracio’) ac ecsbloetio unrhyw fathau eraill o nwy anghonfensiynol yng Nghymru unwaith i’r pwerau gael eu datganoli i Gymru.

Yn y cyfamser mi ddiweddarwn ganllawiau cynllunio i gynnwys Nodyn Cyngor Technegol ar nwy anghonfensiynol.

Rydyn ni’n gwrthwynebu prosiectau llosgi ynni o faint mawr a chymhorthdal cyhoeddus i losgyddion.

Ni chefnogwn ni ddim datblygu ynni niwclear mewn lleoliadau newydd.

Mi wrthwynebwn ddefnyddio peilonau drwy Barciau Cendlaethol ac Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol, gan annog defnyddio ceblau dan ddaear a than y môr i gario trydan lle bo’n bosibl.

Fe wrthwyneba Plaid Cymru unrhyw ddatblygu newydd ar lo brig.

Mi geisiwn hefyd atebion cadarnach o lawer i gwestiwn adfer safloedd glo brig a gafodd eu gadael, gan weithredu’n gyfreithiol ac adolygu rheoliadau yn ôl yr angen.

Ond mi geisiwn hefyd gefnogi awdurdodau lleol nad oes gyda nhw’r arbenigedd i reoli safleoedd yn ddigonol, gan roi cymunedau a’u lles nhw yn gyntaf.

Bu Plaid Genedlaethol Cymru yn rhyngwladol yn ogystal ag yn genedlaethol ei natur o’r cychwyn cyntaf, gan gefnogi Cynghrair y Cenhedloedd rhwng y rhyfeloedd mawr a’r Cenhedloedd Unedig wedi’r Ail Ryfel Byd. Mae’n parhau’n gefnogol, hefyd, i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae datganiad clir y Blaid yn ei Maniffesto yn dangos ymhellach ei bod am i Gymru gydnabod ei chyfrifoldebau fel cenedl wrth wynebu bygythiad mawr newid hinsawdd i ddynoliaeth.

Dywedwn eto bod Y Papur Gwyrdd yn croesawu’r datganiad hwn gan Blaid Cymru.

http://www.plaid2016.cymru/manifesto