LLONGYFARCHIADAU i’r bobl ifanc gynhaliodd brotest effeithiol iawn yn ddiweddar yn erbyn y ganolfan ffracio nwy £38 miliwn sy’n cael ei chodi ar y cyd gyda BP ar gampws newydd Prifysgol Abertawe (Y Papur Gwyrdd, Campws Caniwt neu Campws Cynffig, Chwefror 3, 2014).
Rhoddwyd safle 65 acer hen storfa olew i’r Brifysgol gan BP yn 2012 ar gyfer y campws gwyddoniaeth newydd. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol trwy arian cyhoeddus o Fanc Buddsoddi Ewrop a Llywodraeth Cymru. Ac, os cofiwch, bu cryn bwysau ar wleidyddion y Bae gan BP i brysuro i roi’r arian.
Ond doedd y perthynas newydd rhwng penaethiaid Prifysgol Abertawe a BP ddim yn amlwg yn y cyhoeddusrwydd cynnar. Dim ond yn ddiweddarach daeth y son am ganolfan ymchwil ar y cyd i’r golwg.
Gyda hiwmor du hynod eironig mae llefaryddion y Brifysgol yn cyfeirio at y ganolfan fel ‘Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni’. Yn sicr, mae gan gorfforaeth enfawr BP gryn dipyn o brofiad yn y maes hwnnw. Er enghraifft –
- Yn 2005, lladdwyd 15 o bobl ac anafwyd 180 mewn ffrwydrad mewn purfa olew BP yn Texas City, Texas. Dangoswyd nad oedd BP wedi dilyn y rheoliadau diogelwch gofynnol.
- Yn 2007, arllwyswyd 200,000 o olew craidd o bibell BP i’r môr ym Mae Prudhoe, Alaska. Dangoswyd nad oedd BP wedi delio gyda gwendidau yn y bibell.
- Yn 2010, lladdwyd 11 o weithwyr gan ffrwydrad ar safle BP Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico. Cytunodd BP nad oedd systemau diogelwch newydd yn weithredol. Arllwyswyd mwy o olew nag erioed o’r blaen i’r môr – 175 miliwn o alwyni.
- Heb anghofio – mai tancer olew dan reolaeth BP oedd y Torrey Canyon. Trawodd yn erbyn creigiau ym 1967 wrth i’r capten geisio prysuro rhwng Ynysoedd y Sili a Chernyw. Gollyngwyd 35 miliwn galwyn o olew ar yr arfordir a bu raid bomio’r llong gan Lu Awyr Prydain.
Rhaid edmygu’r enghraifft hyfryd o ‘Olchi Gwyrdd’ (Green Wash*) a ddefnyddir wrth ddisgrifio’r ganolfan arfaethedig fel ‘Sefydliad Diogelwch Ynni’. Y gwir syml yw mai sefydliad fydd e i hwyluso a chyflymu datblygu ffracio nwy ledled gwledydd Prydain, ynghyd â mentrau ynni carbon eraill.
Bu gan BP ran fechan yn y diwydiant ynni adnewyddol am gyfnod ers 1981. Buont a phrosiectau mewn ynni solar, gwynt a biomass ac mae gyda ni ein hunain un o baneli haul BP Solar yn ein gardd yn Nhreforys ers 1996.
Ond daeth hynny i ben yn 2011-13, efallai fel sgil-effaith o gostau trychineb Deepwater Horizon. Cefnodd BP ar ynni adnewyddol gan droi yn ôl yn llwyr at ynni ffosil, yn olew a nwy, a’u nwyon tŷ gwydr. Efallai nad yw’n syndod, felly, bod y gair ar led bod Prifysgol Abertawe wedi bod yn gwrthwynebu cynllun Morlyn Abertawe. Bwriad y prosiect hwnnw yw cyflenwi trydan nid o garbon brwnt ond o lanw glân y môr, a hynny ger campws newydd y brifysgol ym Mae Abertawe.
Dilynwch yr arian.
I ddysgu mwy am agwedd myfyrwyr Abertawe am hyn i gyd, ewch at: http://swanseaagainstfracking.wordpress.com/
* Efallai bydd cyfieithiad gwell na ‘Golchi Gwyrdd’ gan Ganolfan Hywel Teifi Edwards?