Category Archives: Gwyddoniaeth

Cofio John Houghton – gwyddonydd a phroffwyd y Ddaear

Gyda thristwch, ond gyda diolch hefyd, rydym am ymuno â’r teyrngedau lu sy’n cael eu datgan yn rhyngwladol i’r gwyddonydd o Gymro, yr Athro Syr John Houghton, a fu farw o effeithiau Covid 19 yn 88 oed.

Cofir am Syr John fel un o ffigyrau mwya’ blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig fu’n rhybuddio ers degawdau am fygythiad cynyddol Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.

I ni yn Y Papur Gwyrdd, cofiwn amdano fel dim llai na phroffwyd Cymreig. Er y sen anghyfrifol a daflwyd ar ei rybuddion gyhyd, bu’n galw arnom yn ddi-ball i ymateb yn gall a chyflym i enbydrwydd Newid Hinsawdd.

Y gwyddonydd Syr John Houghton yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bangor, 2011 – dan gadeiryddiaeth Dafydd Iwan

Rydym yn falch i allu dweud iddo fod yn gyfaill da i’r Papur Gwyrdd. Bu’n hapus i rannu ei bryderon a’u rhybuddion yn y cylchgrawn wedi iddo ymddeol i Aberdyfi,  a hynny er ei fod yn dal yn brysur yn teithio i ddarlithio mewn cynadleddau rhyngwladol.

Roedd John Houghton yn falch i arddel ei Gymreictod. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn enedigol o bentref Dyserth, cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ddoethuriaeth yno, gan ddod yn Athro Ffiseg Atmosfferig.

Bu wedyn yn Brif Weithredwr Swyddfa Meteoroleg y DG. Bu ynghanol sefydlu Paneli Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ym 1988 a bu’n un o’r Is-gadeiryddion cychwynnol. Bu’n brif awdur tri o adroddiadau’r corff canolog o bwysig hwnnw.

Yn 2007, gydag Al Gore, derbyniodd Wobr Nobel ar ran gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig am eu harweiniad wrth geisio ffrwyno Cynhesu Byd-eang. Dyfarnwyd Gwobr Byd Gwyddoniaeth Albert Einstein iddo’n bersonol yn 2009.

Roedd Syr John yn awdur llyfrau ac adroddiadau ar bwnc gwyddoniaeth Cynhesu Byd-eang gan gynnwys Global Warming: The Complete briefing (Cambridge University Press). .

Yn annisgwyl, efallai, roedd hefyd yn Gristion brwdfrydig – yn flaenor gyda’r Presbyteriaid yn Aberdyfi ac yn awdur llyfrau ‘Does God play dice?’ ac ‘The Search for God. Can Science Help?’  Yn addas iawn, roedden ni’n dau o’r Papur Gwyrdd wedi cael cwrdd a chael sgwrs ag e yn 2011 wrth iddo ddarlithio yn y Gynhadledd ar Newid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Bresbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr Cymraeg Cymru ym Mangor. Parhau i ddarllen

Argyfwng y Ddaear – cyflwyniad theatrig ergydiol Cwmni Pendraw

Arwydd gobeithiol oedd hi i garedigion y Ddaear pan gafodd cytundeb ei lofnodi gan tua 200 o wledydd yn 2016, dan arweiniad gwaraidd y Cenhedloedd Unedig, i weithredu ar frys i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang.

Serch hynny, roedd pawb yn deall mai’r dasg fyddai sicrhau bod ein gwleidyddion yn cadw at eu haddewidion. Ganddyn nhw, wedi’r cyfan, mae’r gallu i weithredu polisïau i warchod y plethiad rhwng systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal – yn cynnal dynoliaeth a’r myrdd o ffurfiau bywyd eraill, hefyd. Ond sut mae gwneud hynny?

Mae angen dychymyg i lunio ffyrdd newydd o wthio pwnc i ben blaenoriaethau gwleidyddion a’i gadw yno. Yn sicr, dylai fod gan y celfyddydau ran amlwg i sicrhau hynny. Yng Nghymru, fel ymhob man arall.

Angharad Jenkins a Wyn Bowen Harries yn perfformio yn sioe deithiol ‘2071’ am fygythiad cynhesu byd-eang

Felly, roedd Charlotte a minnau’n falch iawn i fod yn bresennol neithiwr ar gyfer cyflwyniad aml-gyfrwng gafaelgar Cwmni Pendraw ar bwnc yr argyfwng amgylcheddol, a hynny yng nghanolfan gelfyddydol Volcano yma yn Abertawe.

Roedd y sioe – dan y teitl (anghynorthwyol!)2071 – yn asiad effeithiol o sgiliau actio a chyfarwyddo Wyn Bowen Harries, dawn gerddorol Angharad Jenkins a Gwilym Bowen Rhys, ynghyd â fideo o olygfeydd trawiadol. A neges werthfawr y cyfan oedd yr angen i bawb ohonom i beidio â gadael i’n gwleidyddion golli golwg ar weithredu polisïau i warchod y Ddaear, ein hunig gartref planedol.

Mae Cwmni Pendraw yn gwmni sydd wedi’i sefydlu’n benodol i gyflwyno pynciau hanes a gwyddoniaeth ac maen nhw i’w llongyfarch ar y weledigaeth honno.

Mae’r ‘2071’ Cymraeg – sydd yn dal ar daith ledled Cymru – yn gyfieithiad ac yn addasiad o gyflwyniad (gyda’r teitl anghynorthwyol hwnnw!) a wnaed gan wyddonydd newid hinsawdd arbenigol, yr Athro Chris Rapley, gyda’r dramodydd Duncan Macmillan, yn theatr y Royal Court yn Llundain yn 2014.

Bu’r  Athro’n disgrifio’r datblygiadau peryglus amrywiol sy’n cynyddu ar draws y Ddaear yn sgil cynhesu byd-eang. Yn ychwanegol, roedd yn holi sut fyd y byddai ei wyres yn ei etifeddu.

Tasg nid hawdd oedd gan Wyn Bowen Harries, mewn gwirionedd – sef o gadw sylw’r gynulleidfa wrth gyflwyno darlith. Ond fe wnaeth hynny’n llwyddiannus trwy ei brofiad a’i ddoniau fel actor. Bu’n sefyll ar ei draed, am un peth, yn wahanol i’r Athro Rapley oedd ar ei eistedd am y cyfan o’i gyflwyniad yntau yn y Royal Court.

(Mewn cromfachau, diddorol yw darllen am berfformiad arall ar yr un pwnc yn y Royal Court, ddwy flynedd ynghynt. Roedd sioe’r gwyddonydd Stephen Emmott yn llawer llai gobeithiol nag un Rapley.)

Braf dyfynnu’r triawd fu o flaen y gynulleidfa, ar lafar ac ar gân, yn esbonio pa mor agos at eu calonnau yw pwnc gwarchod y Ddaear:

Wyn Bowen Harries: “Er mai pwnc dwys sydd yma, mae’r cynnwys ynghylch yr her sy’n wynebu dynoliaeth yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd y modd yr ydym yn cyfleu’r ffeithiau, ynghyd â’n cyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ystyried pwnc sydd yn berthnasol i bob un ohonom.”

Angharad Jenkins: “Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o’r cynhyrchiad pwysig yma. Mae newid hinsawdd a dyfodol ein planed yn rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd.”

Gwilym Bowen Rhys: “Pan glywais am broject 2071, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan. Mae newid hinsawdd yn bwnc sydd werth ei drafod mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw gyfle. Roedd yn ymddangos i mi fod cyfle yma i sgwennu caneuon newydd sy’n trafod y pwnc, a’u rhannu efo cynulleidfaoedd newydd.”

Ie, llongyfarchiadau i Gwmni Pendraw am ein sbarduno ninnau’r Cymry Cymraeg i gael gair gyda’n gwleidyddion ar bwnc mor bwysig â hwn, a cheisio’n bersonol i adael ôl-troed llai niweidiol ar y Ddaear.

Gwyddonwyr doeth yn herio Donald Trump anghyfrifol

Ynghanol y gwallgofrwydd cyfoes ymysg gwleidyddion asgell-dde sy’n gwadu bodolaeth Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, diolch o galon i’r miloedd di-ri’ o wyddonwyr gynhaliodd Orymdeithiau dros Wyddoniaeth mewn 600 o ddinasoedd ledled y byd ddoe, wrth nodi Dydd y Ddaear.

Roeddynt yn galw am barch i ymchwil wyddonol gan arbenigwyr ymhob maes yn wyneb y dilorni anghyfrifol gan Donald Trump yn America a chan wleidyddion mewn gwledydd eraill, fel y prif Brecsitwr gynt, Michael Gove, yn Lloegr.

Rhai o’r 10,000 o bobl fu’n gwrthdystio yn Berlin o blaid parch i wyddoniaeth. Roedd Berlin yn un o 600 o ddinasoedd lle bu protestio ar Ddydd y Ddaear. Llun: Stand With CEU/Twitter.

Yn benodol, roedd y protestwyr yn mynnu bod Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd yn fygythiadau difrifol i ddyfodol dynoliaeth a phatrymau naturiol eraill ein planed. Roedd angen iddynt wneud hyn gan fod gwadu Newid Hinsawdd wedi meddiannu uchel-fannau gwleidyddiaeth America, gwlad fwyaf pwerus y byd.

Mae Arlywydd newydd America, Donald Trump, yn bennaeth croch i benaethiaid corfforaethol sydd wedi bod yn ariannu’r gwadu hwn ers degawdau. Ei nod bellach, gyda’i holl rym fel Arlywydd, a’i anwybodaeth affwysol personol, yw dadwneud y gobaith a gawsom trwy benderfyniadau Cynhadledd Hinsawdd Paris, Rhagfyr 2015, dan arweiniad ei ragflaenydd fel Arlywydd, Barrack Obama.

O ganlyniad i’r gynhadledd honno, cytunodd ryw 200 o wledydd ei bod yn angenrheidiol ein bod yn cyfyngu ar godiadau tymheredd y Ddaear i ddim mwy na 1.5 gradd C uwch y lefelau ar ddechrau’r cyfnod diwydiannol os oes gobaith i fod o ffrwyno ar Gynhesu Byd-eang. Roeddent yn gytun bod rhaid cyfyngu ar frys ar allyriadau carbon deuocsid a achosir, e.e., gan losgi glo ac olew fel tanwydd.

Nawr mae’r cyfan yn y fantol wrth i Trump a’i griw honni mai ‘hoax’ yw’r gwaith enfawr gan wyddonwyr arbennigol dan arolygaeth y Cenhedlaeth Unedig sy’n rhybuddio am stormydd eithafol, codiadau mewn lefelau’r mor a datblygiadau enbyd eraill.

Tu hwnt i bob credinaeth, hefyd, yw bod Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau bellach dan reolaeth uwch swyddogion sy’n gwadu bod unrhyw angen gwarchod yr amgylchedd. Eu nod, yn llythrennol, yw atal gweithgareddau’r adran honno – gan roi rhwydd hynt i losgwyr carbon anghyfrifol fynd ati eto a thrwy lacio amrywiaeth o gyfyngiadau eraill ar ddifrodi systemau naturiol. Mae gwyddonwyr dan bwysau enbyd mewn sefyllfa felly.

Felly, ynghanol oes mor anghredadwy o annoeth, lle mae gwr di-ddysg fel Donald Trump yn gwadu pwysigrwydd gwyddoniaeth i les dynoliaeth, ysbrydoliaeth oedd gweld bod ugeiniau o filoedd o wyddonwyr gyda’r dewrder i brotestio yn erbyn ei ffolineb, gan gynnwys dan ei drwyn yn Washington DC.

Gobeithiwn y bydd parch i ymchwil wyddonol – ac i rybuddion gwyddonol – yn ad-feddiannu’r Ty Gwyn o ganlyniad i’r gwrthdystio grymus hwn. Go brin, ysywaeth, ond gobeithiwn serch hynny.

Llifogydd cynhesu byd-eang yn bygwth cynlluniau Dinas Abertawe

Fe ddylen ni wedi bod yn ymateb ers amser maith i’r rhybuddion gwyddonol cynyddol am y niwed ddaw i bawb ohonom gyda chynhesu byd-eang. Ond cawsom ein hudo gan glochdar y Gwadwyr fu’n mynnu mai dychryn di-sail yw’r cyfan.

Ond bellach, mae gwleidyddion Abertawe – lle rydyn ni, cyhoeddwyr gwefan Y Papur Gwyrdd, yn byw – yn gorfod wynebu’r effeithiau niweidiol hynny. Mae cynghorwyr Dinas a Sir Abertawe wedi cael clywed bod sicrwydd llifogydd gan Afon Tawe a’r môr yn peryglu holl strategaeth ail-ddatblygu canol ein dinas. Yr  achos yw’r stormydd glaw ffyrnicach a’r codiadau yn lefel y môr sy’n ganlyniad i gynhesu byd-eang.

Ofnau bod lifogydd gan for ac afon yn bygwth cynlluniau mawr Cyngor Abertawe

Ofnau bod lifogydd gan for ac afon yn bygwth cynlluniau mawr Cyngor Abertawe

Yn benodol, gosodwyd adroddiad gerbron cabinet y cyngor sy’n rhybuddio y bydd llifogydd yn effeithio’n gynyddol trwy’r degawdau nesaf ar ardaloedd glannau Afon Tawe a’r Marina, safle Dewi Sant ger Canolfan Siopa’r Quadrant, Heol Ystumllwynarth a chartrefi ardal boblog Sandfields.

Mae tywod yn codi at lefel pier Afon Tawe ac yn aml yn cael ei chwythu i ffordd y Mwmbwls.

Mae tywod yn codi at lefel pier Afon Tawe ac yn aml yn cael ei chwythu i ffordd y Mwmbwls.

Mae’r goblygiadau yn bell-gyrhaeddol iawn i Abertawe.

“Yn y pendraw,” medd yr adroddiad, “fe fydd y risgiau [o lifogydd] yn atal datblygiad a buddsoddiad mewn nifer o brosiectau datblygu ac adfer allweddol ynghanol y ddinas.”

Mae swyddogion yn mynnu nad oes perygl yn y tymor byr, ond maen nhw’n gwneud yn glir bod y llifogydd yn mynd i ddigwydd a bod angen creu amddiffynfeydd i warchod dinas Abertawe (fel dinasoedd glan môr eraill ledled y blaned) rhag y dyfroedd.

Y cefndir lleol i hyn yw bod Cyngor Abertawe wedi bod wrthi’n trafod cynllun enfawr i gysylltu canol y ddinas gyda datblygiad newydd ar safle glan môr y Neuadd Sirol bresennol sydd i’w chwalu.

Cost y cynllun hwnnw fyddai £500 miliwn. Mae cryn heip wedi bod.

  • Ar safle Dewi Sant ynghanol Abertawe edrychir ymlaen at godi arena gyda 3,500 sedd ar gyfer achlysuron rhyngwladol, adeiladu tŵr newydd ar gyfer fflatiau mor uchel â’r Tŵr Meridien presennol, strydoedd siopa, tai bwyta, sinema, sgwâr cyhoeddus a chysylltiadau gwell â’r promenâd.
  • Ac ar safle Neuadd y Sir ar lan y môr, bwriedir codi mwy o eto o lefydd byw ac o dai bwyta.

Ond mae’r freuddwyd fawr hon bellach mewn perygl wrth i realiti effeithiau cynhesu byd-eang sobri gwleidyddion a datblygwyr. Parhau i ddarllen

Cefnogwn 350.org yn erbyn grym Exxon yng Nghyngres yr Unol Daleithiau

Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol o gythryblus gyda bygythiadau Trump, Brexit, terfysgaeth, globaleiddio, rhyfela, tlodi a newyn enbyd, symudiadau poblogaeth dirdynnol o drist a phroblemau anferth eraill.

Ond er y rheidrwydd arnom i ymateb i’r pynciau difrifol hyn, y perygl yw ein bod wedi anghofio mai’r cyd-destun i’r cyfan yw bod cynhesu byd-eang yn carlamu ymlaen. Wrth i ddynoliaeth gredu bod pethau eraill i’w delio â nhw’n gyntaf, dyw prosesau’r Ddaear ddim yn oedi.

350.org mudiad dad fuddsoddi

Ledled y byd mae pobl yn ymgyrchu i dynnu buddsoddiadau allan o ddiwydiannau, fel Exxon, sy’n llosgi carbon gan achosi cynhesu byd-eang.

Cyhoeddodd gwyddonwyr NASA bod cyfartaledd tymheredd y blaned yn ystod pob un o fisoedd 2016 hyd yn hyn wedi torri pob record flaenorol. Yn America, rhybuddiodd yr Arlywydd Obama am beryglon y tywydd eithriadol o boeth sy’n llethu pobl ar draws y wlad. Yn Kuwait, mesurwyd tymheredd o 129.4oC, yr uchaf a gofnodwyd yn hemisffer y dwyrain.

Diolch i’r Athro Siwan Davies, y gwyddonydd o Brifysgol Abertawe, am ein hatgoffa ni yn dawel ac awdurdodol yn ei chyfres bwysig a gafaelgar, Her yr Hinsawdd, ar S4C bod yr iâ yn toddi, bod y moroedd yn codi, bod pobl yn dioddef. Diolch byth, dyma ni yng Nghymru, ac yn yr iaith Gymraeg, yn cael ein hannog yn effeithiol iawn i addasu’n bywydau er mwyn gwarchod y byd a’u holl ffurfiau byw. Parhau i ddarllen

Angen i gylchgrawn leisio ofnau gwyddonwyr am newid hinsawdd

Stori ydy hon am wyddonydd digalon, a chylchgrawn Cymraeg pwysig. Y cefndir yn gyntaf …

Ar 10 Fai, 2000, dywedodd y diweddar Athro Phil Williams A.C. wrth sesiwn o’n

Dr Phil Williams, gwyddonydd ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru a rybuddiodd am beryglon cynhesu byd-eang 16 mlynedd yn ol.

Dr Phil Williams, gwyddonydd ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru a rybuddiodd am beryglon cynhesu byd-eang 16 mlynedd yn ol.

Cynulliad Cenedlaethol fod gwyddonwyr, fel yntau, mewn panig – “panig rhesymegol, cyfrifol”, meddai – wrth iddynt ofni peryglon cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.

Ar 21 Orffennaf, 2015, rhybuddiodd gwyddonwyr blaenllaw y Royal Society aruchel mewn communiqué arbennig fod cynhesu byd-eang bellach yn golygu bod dynoliaeth yn wynebu sefyllfa eithriadol o ddifrifol:

‘Mae llawer o systemau eisoes dan bwysau o ganlyniad i newid hinsawdd. Byddai codiad o fwy na 2oC uwch lefelau [tymheredd] cyn-ddiwydiannol yn arwain at risg gynyddol o dywydd eithafol a byddai’n gosod mwy o ecosystemau a diwylliannau mewn perygl sylweddol.

‘Ar, neu yn fwy na 4oC byddai’r risgiau’n cynnwys difodiant sylweddol rhywogaethau, ansicrwydd bwyd byd-eang a rhanbarthol, a newidiadau sylfaenol i weithgareddau dynol sydd heddiw’n cael eu cymryd yn ganiataol.’

Cefnogwyd y communiqué gan 24 o gymdeithasau gwyddonol amlycaf gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ac ar Ragfyr 11, 2015 – er mawr syndod  – dangosodd arweinwyr 195 gwlad ar ddiwedd Cynhadledd Newid Hinsawdd Paris eu bod hwythau bellach yn derbyn gwir faint y bygythiad sy’n ein hwynebu. Y canlyniad oedd iddynt arwyddo cytundeb gyda’r nôd o geisio cyfyngu cynhesu byd-eang i godiad nid yn unig o ddim mwy na 2oC ond o yn agosach at ond 1.5oC o gymharu â chychwyn y Chwyldro Diwydiannol. Rhaid oedd torri allyriadau CO2 yn llym.

Pawb wedi deall, felly? Pawb yn bwrw ati i droi cefn ar effaith ddinistriol ein ffyrdd arferol o fyw ar y blaned, i lunio polisïau i warchod y systemau naturiol sy’n ein cynnal ni, i gofleidio meddylfryd newydd o barchu’r Ddaear yr ydym yn teithio arni mewn modd mor wyrthiol?

Wel, nage, yn ôl yr Athro Deri Tomos, Prifysgol Bangor, y cyfeirion ni ato uchod fel y ‘gwyddonydd digalon’.  Parhau i ddarllen