Ochr yn ochr â haint enbyd Covid-19, mae bygythiad Cynhesu Byd-eang wedi dwysau’n fawr yn ystod 2020 ledled y byd.
Y perygl yw ein bod wedi methu a sylwi pa mor ddifrifol yw sefyllfa ein planed fel cartref i ddynoliaeth oherwydd y sylw hanfodol a hawliwyd gan Covid.
Meddai papur newydd y Guardian: ‘Bu’r argyfwng hinsawdd yn parhau’n ddilyffethair yn ystod 2020, gyda’r tymheredd byd-eang cydradd uchaf sydd wedi’i gofnodi, gwres brawychus a mwy nag erioed o dannau gwyllt a recordiwyd yn yr Arctig, a 29 o stormydd trofannol yn yr Iwerydd, sef y nifer mwyaf a gofnodwyd erioed.
Ychwanegir, yn fygythiol iawn: ‘Er cwymp o 7% yn llosgi tanwydd ffosil oherwydd cyfnodau clo’r coronafirws, mae carbon deuocsid sy’n caethiwo gwres yn dal i bentyrru yn yr atmosffer, gan hefyd osod record newydd.
‘Mae cyfartaledd tymheredd arwynebedd ar draws y blaned yn 2020 yn 1.25C yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol o 1850-1900, sy’n beryglus o agos at y targed o 1.5C osodwyd gan genhedloedd y byd i osgoi’r effeithiau gwaethaf’ – yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris, 2015. (Damian Carrington, Golygydd Amgylcheddol y Guardian, 8 Ionawr, 2021)

A ninnau ynghanol dioddefaint mawr Covid, digon posib bod llawer ohonom wedi methu a sylwi ar gyhoeddi cynllun hynod bwysig gan Gyfeillion y Ddaear Cymru fis Medi diwethaf. Bwriad Cynllun Gweithredu Cymru Cyfeillion y Ddaear, Medi 2020 yw dangos sut y gallwn ymateb i fygythiad Newid Hinsawdd.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
· Blaenoriaethu cymunedau sy’n agored i niwed
· Buddsoddi mewn economi werdd i greu cyfleoedd gwaith
· Trawsnewid y system drafnidiaeth
· Deddfu i lanhau ein haer.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru yn esbonio sut mae Cyfeillion y Ddaear Cymru eisiau i Gymru ddilyn esiampl Seland Newydd gan ddisodli Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) fel mesur cynnydd a chanolbwyntio yn hytrach ar safonau byw a llesiant.
Wrth lansio’r Cynllun, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i’r afael â sawl argyfwng ar hyn o bryd – adferiad COVID-19, yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.
“Mae’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r amryw argyfyngau hyn a gwella safonau byw i bobl a’r blaned.
“Mae Cymru’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Senedd Cymru], sy’n gwneud newid cadarnhaol a pharhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a bydd ei angen yn fwy nag erioed gyda’r pandemig COVID-19.
“Ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i wneud i’n heconomi a’n cymdeithas weithio i bobl a’r blaned, a dyna pam mae’n bryd cymryd y cam nesaf a defnyddio llesiant yn hytrach na GDP i fesur cynnydd. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu gan Seland Newydd a dylem ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i Gymru.”
Gydag etholiadau Senedd Cymru i’w cynnal ym mis Mai – os na fydd Covid yn ymyrryd – mae’r cynllun yn her ganolog o bwysig i’r pleidiau gwleidyddol osod ffrwyno Cynhesu Byd-eang yn gyd-destun i’w holl bolisïau.
Rhaid gwrando ar Gyfeillion y Ddaear wrth iddynt alw ar Gymru i fod ‘yn enghraifft wych, unwaith eto, drwy roi’r amgylchedd, cynaliadwyedd a thegwch wrth wraidd ein heconomi a chynllun adfer COVID-19’.
I ddarllen y Cynllun, ewch at: https://www.foe.cymru/cy/cyfeillion-y-ddaear-yn-lansio-cynllun-gweithredu-hinsawdd-i-gymru