Fe gethon ni brofiad pen y mynydd neithiwr, Charlotte a minnau’n rhan o griw hoff, gytun. Ond nid ‘profiad pen y mynydd’ fel byddai’r traddodiad capel yn edrych arno. Nid ymweliad yr ‘Ysbryd Glân’ gawson ni – am wn i – ond ninnau’n ymweld yn llawen â lleoliad Ynni Glân y dyfodol.
Roedden ni ar ben mynydd go iawn, sef Mynydd y Gwrhyd uwch Cwm Tawe. Ac roedd hi’n noson ysblennydd o hafaidd gyda golygfeydd ardderchog o’r copaon i’r môr. Fel cefnogwyr i fenter leol, gydweithredol Awel Aman Tawe, roedden ni’n cael ymweld â safle’r fferm wynt y bu’r fenter yn ymgyrchu i’w sefydlu ers 17 mlynedd. (Awel.coop)
Wrth i lafnau tyrbinau eraill droi’n osgeiddig yn yr awelon ar lethrau cyfagos, esboniodd y peirianwyr y cyfan i ni am brosiect Mynydd y Gwrhyd o’u safbwynt nhw. Gwthio ‘mlaen i baratoi’r safle maen nhw ar hyn o bryd, gan edrych ymlaen at gyrhaeddiad y ddau dyrbin o’r Almaen i borthladd Abertawe, at eu symud oddiyno i’r safle, at ddydd mawr codi’r tyrrau (gan obeithio, yn eironig, na fydd gormodedd o wynt), ac at ddydd cynhyrchu trydan glân, adnewyddol, am y tro cyntaf tua’r Nadolig.
Ond yn ogystal â’r peirianwyr o gwmni Raymond Brown o Ben-y-bont ar Ogwr, roedd swyddogion Menter Awel Aman Tawe o Gwmllynfell yno hefyd i’n croesawu fel buddsoddwyr. Ar y blaen oedd Dan McCallum ac Emily Hinshellwood, sef y ddau a fu’n ysbrydoli gweithgareddau Awel Aman Tawe ers y cychwyn – gan roi lle mor flaenllaw, gyda llaw, i’r iaith Gymraeg. Wrth ymladd y frwydr hir am ganiatad i godi’r fferm wynt, buon nhw’n gwthio ymlaen gyda phrosiectau ynni adnewyddol eraill gan osod paneli haul ar amrywiaeth o adeiladau lleol yng Nghwm Aman, Dulais a Thawe.
Bu’r frwydr hon am y fferm wynt yn hir oherwydd gwrthwynebiad criw cymharol fychan. Parhau i ddarllen