‘Profiad pen y mynydd’ gydag ynni glân ar Fynydd y Gwrhyd?

Cefnogwyr fferm wynt Mynydd y Gwrhyd ar y safle gyda menter Awel Aman Tawe

Cefnogwyr fferm wynt Mynydd y Gwrhyd ar y safle gyda menter Awel Aman Tawe

Fe gethon ni brofiad pen y mynydd neithiwr, Charlotte a minnau’n rhan o griw hoff, gytun. Ond nid ‘profiad pen y mynydd’ fel byddai’r traddodiad capel yn edrych arno. Nid ymweliad yr ‘Ysbryd Glân’ gawson ni – am wn i – ond ninnau’n ymweld yn llawen â lleoliad Ynni Glân y dyfodol.

Peirianwyr Raymond Brown, Pen-y-bont ar Ogwr, yn esbonio'r gwaith i'r criw.

Peirianwyr Raymond Brown, Pen-y-bont ar Ogwr, yn esbonio’r gwaith i’r criw.

Roedden ni ar ben mynydd go iawn, sef Mynydd y Gwrhyd uwch Cwm Tawe. Ac roedd hi’n noson ysblennydd o hafaidd gyda golygfeydd ardderchog o’r copaon i’r môr. Fel cefnogwyr i fenter leol, gydweithredol Awel Aman Tawe, roedden ni’n cael ymweld â safle’r fferm wynt y bu’r fenter yn ymgyrchu i’w sefydlu ers 17 mlynedd. (Awel.coop)

Hywel gyda Dan McCallum, pennaeth Awel Aman Tawe.

Hywel, Y Papur Gwyrdd, gyda Dan McCallum, pennaeth Awel Aman Tawe.

Wrth i lafnau tyrbinau eraill droi’n osgeiddig yn yr awelon ar lethrau cyfagos, esboniodd y peirianwyr y cyfan i ni am brosiect Mynydd y Gwrhyd o’u safbwynt nhw. Gwthio ‘mlaen i baratoi’r safle maen nhw ar hyn o bryd, gan edrych ymlaen at gyrhaeddiad y ddau dyrbin o’r Almaen i borthladd Abertawe, at eu symud oddiyno i’r safle, at ddydd mawr codi’r tyrrau (gan obeithio, yn eironig, na fydd gormodedd o wynt), ac at ddydd cynhyrchu trydan glân, adnewyddol, am y tro cyntaf tua’r Nadolig.

Ond yn ogystal â’r peirianwyr o gwmni Raymond Brown o Ben-y-bont ar Ogwr, roedd swyddogion Menter Awel Aman Tawe o Gwmllynfell yno hefyd i’n croesawu fel buddsoddwyr. Ar y blaen oedd Dan McCallum ac Emily Hinshellwood, sef y ddau a fu’n ysbrydoli gweithgareddau Awel Aman Tawe ers y cychwyn – gan roi lle mor flaenllaw, gyda llaw, i’r iaith Gymraeg. Wrth ymladd y frwydr hir am ganiatad i godi’r fferm wynt, buon nhw’n gwthio ymlaen gyda phrosiectau ynni adnewyddol eraill gan osod paneli haul ar amrywiaeth o adeiladau lleol yng Nghwm Aman, Dulais a Thawe.

Bu’r frwydr hon am y fferm wynt yn hir oherwydd gwrthwynebiad criw cymharol fychan. Un o seiliau eu gwrthwynebiad oedd bod tyrbinau gwynt yn hyll – o ddifrif, ydyn nhw wedi anghofio’r tomenni glo? Ond prif ysgogiad eu lladmeryddion yn y wasg oedd gwadu ffeithiau cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Faint o lythyrau welson ni yn ein papurau newydd yn datgan mor awdurdodol bod prif sefydliadau gwyddonol y byd i gyd yn ein twyllo gyda’u rhybuddion?

Yn y pendraw, yn wyneb dycnwch Awel Aman Tawe, ildiodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ganiatau dau dyrbin ar Fynydd y Gwrhyd. Ond wrth i ni sefyll ar ben y mynydd neithiwr, roedd hi’n hysbys bellach bod corfforaethau olew a nwy enfawr – fel BP, Shell, Total ac Exxon, a hyd yn oed y tywysogion Saudi – erbyn hyn yn cydnabod realiti peryglon cynhesu’r Ddaear ac yn troi at gynhyrchu ynni adnewyddol, di-garbon.

Felly, diolch am weledigaeth, dyfalbarhad a dewrder y bobl hynny sy’n ein harwain at lanach ynni, yma yng Nghymru – fel trwy Awel Aman Tawe – ac mewn cymunedau eraill led-led y byd. Pobl ydyn nhw sydd hefyd yn pwysleisio’r angen i ni garu’r Ddaear sy’n ein cynnal yn lle eu dinistrio er elw tymor byr i’r cyfoethogion.

‘Profiad pen y mynydd’ oedd hi wedi’r cyfan?

Cefnogwyr fferm wynt Mynydd y Gwrhyd ar y safle gyda menter Awel Aman Tawe

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .