Monthly Archives: Ionawr 2014

Angen cyfrol gan yr Athro

DIOLCH yn fawr iawn i’r Athro Gareth Wyn Jones am yr arweiniad mae wedi rhoi i’r genedl ar bwnc yr amgylchedd a pherthynas Dynoliaeth a’r Ddaear yn ei golofn wythnosol yng nghylchgrawn Golwg.

Roedd yn flin gennym ddarllen ei fod yn dod a’i ysgrifau gwerthfawr i ben gyda’r golofn oedd yn rhifyn Ionawr 9 – hynny wedi’i ysgrifennu yn swn stormydd a thonnau ffyrnig ac arwyddocaol cychwyn 2014.

Fel gwyddonydd yn y maes, daeth yr Athro a’i resymegu clir a ffeithiau cadarn wrth bwysleisio’r bygythiad difrifol sy’n ein hwynebu o ganlyniad i gynhesu byd-eang anwadadwy a’r newid hinsawdd sy’n ganlyniad iddo.

Bu’n tynnu’n sylw, hefyd, at y llygru difrodol sy’n cael ei achosi gennym i systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal, a’r gwasgu gwallgof geir ar adnoddau’r blaned gan gwmniau carbon fel olew a glo.

Bu’n haeddiannol hallt ei feirniadaeth o’r drefn gyfalafol fyd-eang sy’n ein hyrddio i ganol problemau enbyd. Ond bu’n ein hatgoffa, yn ogystal, o amharodrwydd cymaint ohonom i godi llais yn erbyn yr orthodocsi gwleidyddol ac economaidd sy’n ei chynnal.

“Mae costau ein parlys yn cynyddu,” meddai’r Athro Jones yn ei golofn olaf, ” … Am y tro cyntaf mewn hanes, mae gweithgareddau dyn yn newid cylchoedd geofywydegol ein planed … Menter [anodd] yw newid ein meddylfryd a gwrthsefyll pwysau’r cwmniau a’r gwledydd sy’n elwa’n enfawr o’r drefn bresennol ac sy’n fwriadol hau amheuon.”

Gobeithio bod yr Athro Gareth Wyn Jones a Golwg yn ystyried cyhoeddi casgliad o’i golofnau. Gallai cyfrol Gymraeg o’r math yna sbarduno cenhedlaeth newydd o brotestwyr Cymreig effeithiol – y tro hwn i ymuno a mudiadau gwyrdd byd-eang sy’n ceisio ffrwyno ffolineb y llosgi carbon cynyddol gan fynnu ein bod yn troi at ynni adnewyddol amrywiol.

Wedi’r cyfan, fel y rhybuddia, mae’n hen, hen bryd i ni gallio!

DYDD CALAN 2014 – LANSIO GWEFAN / BLOG NEWYDD Y PAPUR GWYRDD

CROESO atom, a Blwyddyn Newydd Dda, wrth i ni gychwyn ar fenter newydd, sef Gwefan / Blog Y Papur Gwyrdd.

Yn swn cawodydd glaw mawr ac arwyddocaol y Gaeaf hwn, gwthiwn i’r dyfroedd gyda’r cyfrwng Cymraeg hwn o newyddion am y perthynas rhwng pobl a Daear. Ein nod fydd hybu pob ymdrech i feithrin ysbryd o barch a gofal rhwng Dynoliaeth a’r Ddaear – yr unig gartref blanedol sydd gennym – yn lle’r difrodi anghyfrifol presennol.

Bydd Blog amserol yn rhan bwysig o’r arlwy. Bydd yma, hefyd, dudalennau am wahanol agweddau ar ymgyrch y Ddaear, ynghyd ag Archif rhydd-i-bawb o’r cyfan o rifynnau cylchgrawn Y Papur Gwyrdd rhwng Awst 2007 ac Awst 2012.

Mwy o gropian nag o lansiad sydd i’r cychwyn hwn. Ond, wrth i’r sgiliau perthnasol ddod yn fwy cyfarwydd, gobeithiwn y bydd y wefan hon yn datblygu’n offeryn effeithiol i hybu ymgyrchoedd mudiadau amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace.

Fe’ch gwahoddwn i gadw mewn cysylltiad â ni a chroesawn eich syniadau personol am hynt a helynt mudiad y Ddaear.

HYWEL A CHARLOTTE DAVIES

MWY O ANGEN NAG ERIOED I WARCHOD Y DDAEAR

WRTH ddod â chylchgrawn Y Papur Gwyrdd i ben wedi pum mlynedd yn Awst 2012, roedden ni wedi addo y bydden ni’n mynd ati i gryfhau ein presenoldeb ar y Wê. Dyma ni’n gwneud hynny, o’r diwedd, gyda’r wefan newydd hon yn cychwyn ar Ddydd Calan, 2014.

Ein bwriad fydd parhau i

  • adlewyrchu’r farn eang wyddonol sy’n rhybuddio bod cynhesu byd-eang, a achosir gan ddynoliaeth, yn peryglu’r systemau naturiol sy’n ein cynnal gan gynnwys achosi newid hinsawdd gynyddol
  • hybu’r drafodaeth ar sut orau i ymateb i’r peryglon y mae angen i ni boeni yn eu cylch gan anelu at eu gosod ynghanol ein trafodaethau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol
  • a bod yn llais i’r ymgyrch byd-eang i warchod y Ddaear a’i holl drigolion amrywiol rhag niwed gan weithredu dynol anghyfrifol

Gwefan iaith Gymraeg fydd gwefan Y Papur Gwyrdd. Nid cyfieithiad o wefan cyfrwng Saesneg fydd hi, ond un gaiff ei chreu a’i chyflwyno trwy’r Gymraeg. Ein cred yw os oes dyfodol i fod i’n hiaith, rhaid iddi fod yn llais ohono’i hun i’r ymdrechion i gynnal y Ddaear sy’n ein cynnal ni. Rhaid i’r Gymraeg fod ynghanol pob gweithgarwch, nid ar yr ymylon fel ail iaith, israddol.

Y Ddaear yw’r unig gartref planedol sydd gennym. Mae ein bodolaeth arni fel pobl, ynghyd â’r cyfan o fyd natur yr ydym yn rhan ohono, yn rhyfeddod gwyrthiol wrth iddi ruthro trwy’r gofod gan droelli a siglo.

Dylem warchod y Ddaear, felly, fel trysor. Ond mae ein ffordd o fyw wedi’n hudo i anghofio pa mor ganolog ydyw’r Ddaear a’r cyfan o fyd Natur i’n parhad. Caiff ein planed ei llygru a’i difrodi gan gorfforaethau diwydiannol a llywodraethau anghyfrifol. Yn gynyddol, cartref  bregus ydyw i ddynoliaeth.

Credwn fod angen lleisio’n pryderon yn fwy nag erioed. Lansiwyd cylchgrawn Y Papur Gwyrdd yn 2007 mewn cyfnod o optimistiaeth am berthynas newydd rhwng dynoliaeth a’r Ddaear. Ond, wedi methiant Cynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen yn 2009, y corfforaethau ynni carbon pwerus, a’r ‘gwadwyr newid hinsawdd’ sydd wedi bod ar y blaen.

Mae llosgi tanwyddau carbon – glo, olew, nwy – wedi parhau i godi’n aruthrol gan arllwys nwyon cynhesu byd-eang fel CO2 i’r atmosffer yn fwy nag erioed. Erbyn hyn, hybir olew siâl a nwy ffracio yn lle ynni adnewyddol y gwynt, yr haul, y môr a’r afonydd gan gryn nifer o lywodraethau, gan gynnwys Clymblaid Dorïaidd / RhyddDem San Steffan – sef parhau a chynyddu’r llosgi carbon difrodol. 

Yn wyneb hyn, mae gwyddonwyr yn daer eu rhybuddion bod tymheredd y Ddaear yn dal i godi, iâ’r pegynnau’n toddi, y rhewlifoedd yn diflannu’n gyflym, a’r stormydd, y llifogydd, y sychdwr a’r gwres eithafol yn ffyrnigo. A’r cyfan ar batrwm hynod gyflym nas gwelwyd o’r blaen fel rhan o newidiadau naturiol oesoedd maith ein planed.

Felly, credwn fod angen i bobl gall ddod at ein gilydd i godi’n lleisiau ar frys os ydym i warchod byd sy’n gartref nid yn unig i ni ond i rywogaethau di-rif eraill. Credwn fod ganddynt hwy, hefyd, hawl i fyw.

Gobeithio y cawn glywed gennych wrth i ni leisio’r angen i drysori ein Daear a  ffrwyno’r difrod sy’n cael ei achosi iddi. Gobeithio, hefyd, y daw’r wefan hon yn borth Gymraeg i’n cysylltu â mudiadau ledled y byd sydd o’r un anian.

HYWEL A CHARLOTTE DAVIES