CROESO atom, a Blwyddyn Newydd Dda, wrth i ni gychwyn ar fenter newydd, sef Gwefan / Blog Y Papur Gwyrdd.
Yn swn cawodydd glaw mawr ac arwyddocaol y Gaeaf hwn, gwthiwn i’r dyfroedd gyda’r cyfrwng Cymraeg hwn o newyddion am y perthynas rhwng pobl a Daear. Ein nod fydd hybu pob ymdrech i feithrin ysbryd o barch a gofal rhwng Dynoliaeth a’r Ddaear – yr unig gartref blanedol sydd gennym – yn lle’r difrodi anghyfrifol presennol.
Bydd Blog amserol yn rhan bwysig o’r arlwy. Bydd yma, hefyd, dudalennau am wahanol agweddau ar ymgyrch y Ddaear, ynghyd ag Archif rhydd-i-bawb o’r cyfan o rifynnau cylchgrawn Y Papur Gwyrdd rhwng Awst 2007 ac Awst 2012.
Mwy o gropian nag o lansiad sydd i’r cychwyn hwn. Ond, wrth i’r sgiliau perthnasol ddod yn fwy cyfarwydd, gobeithiwn y bydd y wefan hon yn datblygu’n offeryn effeithiol i hybu ymgyrchoedd mudiadau amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace.
Fe’ch gwahoddwn i gadw mewn cysylltiad â ni a chroesawn eich syniadau personol am hynt a helynt mudiad y Ddaear.
HYWEL A CHARLOTTE DAVIES
Gwych – diolch am yr ail-lansiad !!
Helo, Huw – diolch am dy sylw caredig. Llawer o waith wrth ddysgu’r sgiliau newydd, ond mae’n dod. Y tywydd yn cario’r neges ohono’i hun ar hyn o bryd!
Croeso ‘nol!
Diolch yn fawr, Llinos. Ymlaen a ni wrth geisio dysgu’r sgiliau newydd! Mae’r tywydd yn cario’r neges yn fwy clir nag unrhyw flog ar hyn o bryd!