WRTH ddod â chylchgrawn Y Papur Gwyrdd i ben wedi pum mlynedd yn Awst 2012, roedden ni wedi addo y bydden ni’n mynd ati i gryfhau ein presenoldeb ar y Wê. Dyma ni’n gwneud hynny, o’r diwedd, gyda’r wefan newydd hon yn cychwyn ar Ddydd Calan, 2014.
Ein bwriad fydd parhau i
- adlewyrchu’r farn eang wyddonol sy’n rhybuddio bod cynhesu byd-eang, a achosir gan ddynoliaeth, yn peryglu’r systemau naturiol sy’n ein cynnal gan gynnwys achosi newid hinsawdd gynyddol
- hybu’r drafodaeth ar sut orau i ymateb i’r peryglon y mae angen i ni boeni yn eu cylch gan anelu at eu gosod ynghanol ein trafodaethau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol
- a bod yn llais i’r ymgyrch byd-eang i warchod y Ddaear a’i holl drigolion amrywiol rhag niwed gan weithredu dynol anghyfrifol
Gwefan iaith Gymraeg fydd gwefan Y Papur Gwyrdd. Nid cyfieithiad o wefan cyfrwng Saesneg fydd hi, ond un gaiff ei chreu a’i chyflwyno trwy’r Gymraeg. Ein cred yw os oes dyfodol i fod i’n hiaith, rhaid iddi fod yn llais ohono’i hun i’r ymdrechion i gynnal y Ddaear sy’n ein cynnal ni. Rhaid i’r Gymraeg fod ynghanol pob gweithgarwch, nid ar yr ymylon fel ail iaith, israddol.
Y Ddaear yw’r unig gartref planedol sydd gennym. Mae ein bodolaeth arni fel pobl, ynghyd â’r cyfan o fyd natur yr ydym yn rhan ohono, yn rhyfeddod gwyrthiol wrth iddi ruthro trwy’r gofod gan droelli a siglo.
Dylem warchod y Ddaear, felly, fel trysor. Ond mae ein ffordd o fyw wedi’n hudo i anghofio pa mor ganolog ydyw’r Ddaear a’r cyfan o fyd Natur i’n parhad. Caiff ein planed ei llygru a’i difrodi gan gorfforaethau diwydiannol a llywodraethau anghyfrifol. Yn gynyddol, cartref bregus ydyw i ddynoliaeth.
Credwn fod angen lleisio’n pryderon yn fwy nag erioed. Lansiwyd cylchgrawn Y Papur Gwyrdd yn 2007 mewn cyfnod o optimistiaeth am berthynas newydd rhwng dynoliaeth a’r Ddaear. Ond, wedi methiant Cynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen yn 2009, y corfforaethau ynni carbon pwerus, a’r ‘gwadwyr newid hinsawdd’ sydd wedi bod ar y blaen.
Mae llosgi tanwyddau carbon – glo, olew, nwy – wedi parhau i godi’n aruthrol gan arllwys nwyon cynhesu byd-eang fel CO2 i’r atmosffer yn fwy nag erioed. Erbyn hyn, hybir olew siâl a nwy ffracio yn lle ynni adnewyddol y gwynt, yr haul, y môr a’r afonydd gan gryn nifer o lywodraethau, gan gynnwys Clymblaid Dorïaidd / RhyddDem San Steffan – sef parhau a chynyddu’r llosgi carbon difrodol.
Yn wyneb hyn, mae gwyddonwyr yn daer eu rhybuddion bod tymheredd y Ddaear yn dal i godi, iâ’r pegynnau’n toddi, y rhewlifoedd yn diflannu’n gyflym, a’r stormydd, y llifogydd, y sychdwr a’r gwres eithafol yn ffyrnigo. A’r cyfan ar batrwm hynod gyflym nas gwelwyd o’r blaen fel rhan o newidiadau naturiol oesoedd maith ein planed.
Felly, credwn fod angen i bobl gall ddod at ein gilydd i godi’n lleisiau ar frys os ydym i warchod byd sy’n gartref nid yn unig i ni ond i rywogaethau di-rif eraill. Credwn fod ganddynt hwy, hefyd, hawl i fyw.
Gobeithio y cawn glywed gennych wrth i ni leisio’r angen i drysori ein Daear a ffrwyno’r difrod sy’n cael ei achosi iddi. Gobeithio, hefyd, y daw’r wefan hon yn borth Gymraeg i’n cysylltu â mudiadau ledled y byd sydd o’r un anian.
HYWEL A CHARLOTTE DAVIES
Pob llwyddiant i’r fenter. Dwi’n edrych ymlaen i ddarllen y blog.
Yr un awydd i weld pob pwnc dan haul yn cael ei drin yn y Gymraeg sy’n fy ngyrru i ddal ati efo blog garddio, er mor fach ydi’r gynulleidfa.
Pob hwyl am y tro.
Diolch am dy sylw caredig. Llawer o waith gyda ni wrth geisio dysgu’r sgiliau newydd. Ond mae’n dod. Y tywydd yn cario’r neges ohono’i hun ar hyn o bryd. Yn mwynhau eich blog yn fawr. Ie – popeth yn Gymraeg!
Pob lwc gyda’r wefan. Mae’n swir bod gennych lawer ar eich plât, ond os oes diddordeb gyda chi, mae gweithdy (un Cymraeg, un Saesneg) yn Llyfrgell Abertawe y mis yma ar sut i olygu Wicipedia – efallai byddia diddordeb gyda chi mewn ehangu ar y cynnwys am yr amglychedd.
Helo, Rhys – diolch yn fawr am dy sylw. Llawer o waith wrth ddysgu’r sgiliau newydd. Ond mae’n dod. Siwr y byddwn mewn cysylltiad eto. Pethau wedi tawelu ychydig nawr bod Seren Gomer 200 wedi dod i ben yn llwyddiannus.
Newyddion da iawn Hywel a Charlotte. Gobeithio bydd e’n llwyddianus iawn.
Gordon James
Helo, Gordon – Diolch yn fawr am dy sylw caredig. Llawer o waith i’w wneud wrth ddatblygu’r wefan, ond yn dod. O ran y tywydd,ofni ein bod wedi cyrraedd Pwynt Naid (tipping point)?
Croeso mawr i wefan newydd y Papur Gwyrdd – mae taer angen amdani. Diolch i Hywel a Charlotte am eu gwaith gwirfoddol yn hybu’r fenter bwysig hon.
Newydd sylwi ar dy sylw, Rob. Diolch yn fawr. Ymlaen a’n gwaith dysgu a datblygu!