Gyda thristwch, ond gyda diolch hefyd, rydym am ymuno â’r teyrngedau lu sy’n cael eu datgan yn rhyngwladol i’r gwyddonydd o Gymro, yr Athro Syr John Houghton, a fu farw o effeithiau Covid 19 yn 88 oed.
Cofir am Syr John fel un o ffigyrau mwya’ blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig fu’n rhybuddio ers degawdau am fygythiad cynyddol Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.
I ni yn Y Papur Gwyrdd, cofiwn amdano fel dim llai na phroffwyd Cymreig. Er y sen anghyfrifol a daflwyd ar ei rybuddion gyhyd, bu’n galw arnom yn ddi-ball i ymateb yn gall a chyflym i enbydrwydd Newid Hinsawdd.

Y gwyddonydd Syr John Houghton yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bangor, 2011 – dan gadeiryddiaeth Dafydd Iwan
Rydym yn falch i allu dweud iddo fod yn gyfaill da i’r Papur Gwyrdd. Bu’n hapus i rannu ei bryderon a’u rhybuddion yn y cylchgrawn wedi iddo ymddeol i Aberdyfi, a hynny er ei fod yn dal yn brysur yn teithio i ddarlithio mewn cynadleddau rhyngwladol.
Roedd John Houghton yn falch i arddel ei Gymreictod. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn enedigol o bentref Dyserth, cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ddoethuriaeth yno, gan ddod yn Athro Ffiseg Atmosfferig.
Bu wedyn yn Brif Weithredwr Swyddfa Meteoroleg y DG. Bu ynghanol sefydlu Paneli Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ym 1988 a bu’n un o’r Is-gadeiryddion cychwynnol. Bu’n brif awdur tri o adroddiadau’r corff canolog o bwysig hwnnw.
Yn 2007, gydag Al Gore, derbyniodd Wobr Nobel ar ran gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig am eu harweiniad wrth geisio ffrwyno Cynhesu Byd-eang. Dyfarnwyd Gwobr Byd Gwyddoniaeth Albert Einstein iddo’n bersonol yn 2009.
Roedd Syr John yn awdur llyfrau ac adroddiadau ar bwnc gwyddoniaeth Cynhesu Byd-eang gan gynnwys Global Warming: The Complete briefing (Cambridge University Press). .
Yn annisgwyl, efallai, roedd hefyd yn Gristion brwdfrydig – yn flaenor gyda’r Presbyteriaid yn Aberdyfi ac yn awdur llyfrau ‘Does God play dice?’ ac ‘The Search for God. Can Science Help?’ Yn addas iawn, roedden ni’n dau o’r Papur Gwyrdd wedi cael cwrdd a chael sgwrs ag e yn 2011 wrth iddo ddarlithio yn y Gynhadledd ar Newid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Bresbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr Cymraeg Cymru ym Mangor. Parhau i ddarllen