Category Archives: Addysg Amgylcheddol

Ffilm am gymuned ein coed – a’r angen i’w gwarchod rhag cael eu camdrin

Os oes diddordeb gyda chi yn yr amgylchedd a byd natur, mae gyda chi ddeuddydd eto i wylio ffilm arbennig iawn yng Ngŵyl Ffilmiau Cymru WOW / Cymru a’r Byd yn Un.

Dyma’r Ŵyl rithiol sydd ar gael ar y We yr wythnos hon i ddod â ffilmiau ardderchog atom yn ein cartrefi – i’n cyfrifiaduron desg, tabledi, ffonau clyfar neu, trwy’n ffonau symudol, i’n setiau deledu – gan fod sinemâu ar gau oherwydd Covid.

Ffilm o’r Almaen yw ‘The Hidden Life of Trees’. Mae’n seiliedig ar lyfr dylanwadol iawn o’r un enw gan Peter Wohlleben fu’n geidwad coedwigoedd am flynyddoedd cyn dod yn awdur llwyddiannus.

Wedi blynyddoedd o brofiad ac astudio, mae Peter bellach yn teithio’r Almaen a gwledydd eraill yn agor llygaid pobl i gyfrinachau’r goedwig. Ei neges yw bod gan goed deimladau – eu bod yn cyfathrebu â’i gilydd, ac yn gofalu am ei gilydd hefyd.

Peter Wohlleben ynghanol y coed, yn paratoi i ledu’r neges am eu bywyd a’u cymuned cyfrinachol

O ganlyniad, mae’n herio’r diwydiant coedwigoedd pwerus i wynebu’r distryw maent yn ei achosi trwy eu pwyslais ar elw tymor byr. Ei alwad iddynt yw y dylent fabwysiadu ffyrdd newydd o blannu ac o dorri.

Mae llawer o bwyslais bellach ar yr angen i blannu coed fel modd i ffrwyno newid hinsawdd. Mae Peter yn dadlau yn ogystal, bod angen gweledigaeth hirdymor ar gyfer sicrhau coetiroedd mwy gwyllt a mwy iach.

Mae’r ffilm hon yn hynod o brydferth gyda neges afaelgar.

Y ffilm: ‘The Hidden Life of Trees’ wedi’i chyfarwyddo gan Jörg Adolph. I wylio’r ffilm, ewch at: https://www.wowfilmfestival.com/ Ar gael tan nos Iau, 18 Mawrth.

Y llyfr: ‘The Hidden Life of Trees’ gan Peter Wohlleben (HarperCollins, 2017).

Gyda’r blaned yn poethi, Cynllun newydd Cyfeillion y Ddaear yn herio Cymru i weithredu

Ochr yn ochr â haint enbyd Covid-19, mae bygythiad Cynhesu Byd-eang wedi dwysau’n fawr yn ystod 2020 ledled y byd.

Y perygl yw ein bod wedi methu a sylwi pa mor ddifrifol yw sefyllfa ein planed fel cartref i ddynoliaeth oherwydd y sylw hanfodol a hawliwyd gan Covid.

Meddai papur newydd y Guardian: ‘Bu’r argyfwng hinsawdd yn parhau’n ddilyffethair yn ystod 2020, gyda’r tymheredd byd-eang cydradd uchaf sydd wedi’i gofnodi, gwres brawychus a mwy nag erioed o dannau gwyllt a recordiwyd yn yr Arctig, a 29 o stormydd trofannol yn yr Iwerydd, sef y nifer mwyaf a gofnodwyd erioed.

Ychwanegir, yn fygythiol iawn: ‘Er cwymp o 7% yn llosgi tanwydd ffosil oherwydd cyfnodau clo’r coronafirws, mae carbon deuocsid sy’n caethiwo gwres yn dal i bentyrru yn yr atmosffer, gan hefyd osod record newydd.

‘Mae cyfartaledd tymheredd arwynebedd ar draws y blaned yn 2020 yn 1.25C yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol o 1850-1900, sy’n beryglus o agos at y targed o 1.5C osodwyd gan genhedloedd y byd i osgoi’r effeithiau gwaethaf’  – yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris, 2015. (Damian Carrington, Golygydd Amgylcheddol y Guardian, 8 Ionawr, 2021)

A ninnau ynghanol dioddefaint mawr Covid, digon posib bod llawer ohonom wedi methu a sylwi ar gyhoeddi cynllun hynod bwysig gan Gyfeillion y Ddaear Cymru fis Medi diwethaf.  Bwriad Cynllun Gweithredu Cymru Cyfeillion y Ddaear, Medi 2020 yw dangos sut y gallwn ymateb i fygythiad Newid Hinsawdd.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

·      Blaenoriaethu cymunedau sy’n agored i niwed

·      Buddsoddi mewn economi werdd i greu cyfleoedd gwaith

·      Trawsnewid y system drafnidiaeth

·      Deddfu i lanhau ein haer.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru yn esbonio sut mae Cyfeillion y Ddaear Cymru eisiau i Gymru ddilyn esiampl Seland Newydd gan ddisodli Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) fel mesur cynnydd a chanolbwyntio yn hytrach ar safonau byw a llesiant.

Wrth lansio’r Cynllun, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i’r afael â sawl argyfwng ar hyn o bryd – adferiad COVID-19, yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r amryw argyfyngau hyn a gwella safonau byw i bobl a’r blaned.

“Mae Cymru’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Senedd Cymru], sy’n gwneud newid cadarnhaol a pharhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a bydd ei angen yn fwy nag erioed gyda’r pandemig COVID-19.

“Ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i wneud i’n heconomi a’n cymdeithas weithio i bobl a’r blaned, a dyna pam mae’n bryd cymryd y cam nesaf a defnyddio llesiant yn hytrach na GDP i fesur cynnydd. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu gan Seland Newydd a dylem ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i Gymru.”

Gydag etholiadau Senedd Cymru i’w cynnal ym mis Mai – os na fydd Covid yn ymyrryd – mae’r cynllun yn her ganolog o bwysig i’r pleidiau gwleidyddol osod ffrwyno Cynhesu Byd-eang yn gyd-destun i’w holl bolisïau.

Rhaid gwrando ar Gyfeillion y Ddaear wrth iddynt alw ar Gymru i fod ‘yn enghraifft wych, unwaith eto, drwy roi’r amgylchedd, cynaliadwyedd a thegwch wrth wraidd ein heconomi a chynllun adfer COVID-19’.

I ddarllen y Cynllun, ewch at: https://www.foe.cymru/cy/cyfeillion-y-ddaear-yn-lansio-cynllun-gweithredu-hinsawdd-i-gymru

“Global warming? Hotter summers? Bring it on!” – Pam bod rhaid deall peryglon cynhesu byd-eang

Mewn Vox Pops teledu adeg protestio mudiad XR / Gwrthryfel Difodiant y llynedd, ateb hyderus un gŵr ifanc i’r son am gynhesu byd-eang oedd, “Global warming? Hotter summers? Bring it on!”

Mae angen iddo fe, a phawb ohonom, ddeall peryglon y gwres cynyddol sy’n ein hwynebu.

Ar y dydd roedd y post hwn yn dechrau cael ei baratoi, roedd pobl y tywydd yn hyderus mai dyna fyddai  un o’r diwrnodau poethaf ers i recordiau ddechrau yn y DG. Ac yn wir, erbyn canol bore – pob ffenestr a drws yn ein cartref yn Nhreforys ar agor led y pen, a son am fynd i nofio yn y môr.

Ond, er y pleserau sy’n ein denu i’r traethau, mae gwyddonwyr yn rhybuddio’n daer mor fawr yw perygl cynhesu byd-eang. Eu neges syml yw bod Gorboethi yn gallu lladd, yn arbennig yr henoed a phobl ordew – ac fe ddylen ni gofio hyn, hyd yn oed ynghanol argyfwng Covid-19.

Dyma ddywed blog Uned Ymchwil Polisi Adnewyddiad ac Asesu Sefydliad Ymchwil Grantham: ‘Cyfeirir yn aml at gyfnodau Gorboeth fel ‘lladdwyr tawel.’  Efallai nad ydynt yn denu’r un sylw ag achosion brys eraill fel stormydd neu lifogydd, nac yn profi mor angheuol i boblogaeth â feirws pandemig.

‘Serch hynny, maen nhw’n achosi llawer o farwolaethau cynnar ynghyd â salwch; achosodd cyfnod Gorboeth difrifol haf 2003, dros ddwy fil o farwolaethau ychwanegol yn y DG.’

Mae Uned Ymchwil Grantham yn dadlau –

  • bod angen rhybuddion mwy cynnar am gyfnodau Gorboeth
  • ac y dylai rhybuddion gychwyn ar dymereddau îs na’r lefelau presennol sydd wedi’u hanelu at bobl holliach.

Mae’r WHO – Asiantaeth Iechyd y Byd – yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys. Mae’r perygl eisoes yn gwasgu arnom: ‘Yn 2003, bu farw 70,000 o bobl yn Ewrop o ganlyniad i ddigwyddiad [Gorboeth] Mehefin-Awst; yn 2010, gwelwyd 56,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod cyfnod Gorboeth 44 dydd yn Ffederasiwn Rwsia.’

Yn yr un modd, dywed yr Asiantaeth Amgylcheddol Ewropeaidd: ‘Mae hi bron yn sicr y bydd hyd, amlder a dwyster cyfnodau Gorboeth yn cynyddu yn y dyfodol.

‘Bydd y cynnydd hwn yn arwain at gynnydd sylweddol mewn marwolaethau dros y degawdau nesaf, yn arbennig mewn grwpiau o bobl fregus, os na chymerir mesurau addasu.’

Ond, ydy Rhif 10 Johnson / Cummings yn gwrando? Go brin. Nid llywodraeth i baratoi o flaen llaw ydy hon, ddim ar gyfer Brexit, ddim ar gyfer haint. A ddim ar gyfer tywydd poethach ’chwaith, mae’n ymddangos.

Cafodd y llywodraeth rybudd cryf yng nghanol 2019 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd San Steffan. Yn ôl adroddiad y pwyllgor, does fawr o baratoi wedi bod i ddelio â pheryglon tymereddau uwch dros gyfnodau hirach:  ‘Dyw cartrefi ddim wedi’u haddasu ar gyfer y tymereddau uwch cyfredol neu yn y dyfodol, mae ’na ddiffyg ymwybyddiaeth o’r risg i iechyd gan dymereddau uchel mewn adeiladau, ac mae ’na ddiffyg cynllunio addas o ran gofal iechyd a chymdeithas.’

Mae’r peryglon ddaw trwy Gynhesu Byd-eang mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi dod gyda Covid-19. Yn wir, wrth edrych ar yr effaith ar y systemau planedol cyfan, mae’r peryglon yn fwy difrifol. Parhau i ddarllen

Menter Adfywio Cymru’n annog eglwysi i weithredu ar bwnc newid hinsawdd

Mae eglwysi Cristnogol, fel grwpiau o grefyddau eraill, yn gymunedau lleol sy’n gweithredu ar amrywiaeth eang o faterion o bwys i’w hardaloedd ac i’r byd ehangach. Ac, fel arfer, rydyn ni’n cwrdd mewn hen adeiladau mawr sydd â thiroedd sylweddol.

Yn ddiweddar, gyda hyn mewn golwg, cynhaliwyd seminar gwerthfawr iawn gan fenter Adfywio Cymru ar bwnc Eglwysi’n Gweithredu ar yr Hinsawdd yn Neuadd Capel y Nant yng Nghlydach, Abertawe ( <http://www.capelynant.org&gt;).

Roedd yn ysbrydoliaeth imi, fel aelod o Gapel y Nant, i fod ymhlith tua 40 o gyfeillion brwd wrth iddynt egluro sut mae eu heglwysi nhw’n ceisio ffrwyno allyriadau niweidiol carbon deuocsid ac yn gweithredu i gynnal yr amgylchedd a byd natur.

Cafodd Eglwys Sant Paul, y

Rhai o’r cynrychiolwyr o eglwysi ledled deheubarth Cymru fu’n trafod newid hinsawdd yn neuadd Capel y Nant, Clydach, Abertawe.

Sgeti, Abertawe, eglwysi Plwyf Casllwchwr, a Chapel y Nant gyfle i gyflwyno braslun o’u gweithgarwch fel cychwyn i’r trafodaethau.

Dyma amlinellwyd ar ran Capel y Nant, yr unig eglwys Gymraeg oedd yn cael ei chynrychioli yn y Seminar:

· Dechrau cynnal oedfaon Sul ar bwnc Cristnogion a’r Ddaear wedi i’r eglwys gael ei sefydlu yn 2008
· Gosod ffenestri newydd yn y capel i leihau defnydd trydan / nwy gan arbed allyriadau carbon i’r atmosffer. Esbonio bod ein nenfwd yn dal yn broblem fawr heb ddeunydd ynysu.

Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn son am weithgarwch yr eglwys honno ar faterion yn ymwneud a’r Ddaear.

· Gwella’r ynysu/insiwleiddio wrth foderneiddio Neuadd y Nant
· Cynnal stondin misol Masnach Deg wrth gymdeithasu yn y Neuadd
· Dechrau plannu blodau wrth y capel yn benodol i gynnal gwenyn a gloynod byw – 2014
· Gosod Biniau ail-gylchu plastig a phapur yn y Neuadd
· Ffurfio cysylltiad arbennig fel un o gymunedau Cyfeillion y Ddaear – 2015
· Dangos ffilm More than Honey i’r cyhoedd yn Neuadd y Nant, am argyfwng y gwenyn – 2015
· Creu ac arwain taith Llwybr Gweddi Newid Hinsawdd i eglwysi Clydach – 2015
· Trefnu Deiseb gan aelodau CyN yn galw am Gytundeb cryf yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris – Tachwedd 2015
· Paratoi Arddangosfa o weithgarwch sawl mudiad amgylcheddol ar gyfer un o oedfaon Sul CyN – Tachwedd 2015
· Troi cefn ar gwmnïau llosgi carbon am ynni’r capel (British Gas a SSE Swalec) gan newid i gwmni ynni adnewyddol, glân Good Energy – 2017
· Elusen amgylcheddol Gristnogol A Rocha yn cofrestru Capel y Nant fel ‘Eglwys Werdd’ – 2018
· Capel y Nant yn cael ein derbyn fel un o grwpiau ymgyrchu lleol ymgyrch Gweithredu Hinsawdd Cyfeillion y Ddaear – 2019
· Cyd-weithredu â menter Adfywio Cymru wrth iddynt hybu gweithredu gan Eglwysi ar yr Hinsawdd trwy seminar yn ein Neuadd – 2019

Edrychwn ymlaen at glywed am eglwysi eraill sy’n cofleidio’r cyfle a’r cyfrifoldeb i ymuno â’r ymgyrch hynod bwysig hwn i warchod y Ddaear. Byddwn yn falch iawn i roi cyhoeddusrwydd i’w hymdrechion.

Croesawu codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd ein planed

Dros gyfnod helbulus o fwy na dwy flynedd, mae’r angen i geisio atal trychineb Brexit wedi galw am sylw a gweithredu gan bobl gall trwy wledydd a rhanbarthau Prydain.

Ond gwych nodi bod mudiad newydd Extinction Rebellion am atgoffa llywodraeth Toriaidd Theresa May, a phawb ohonom, bod rhaid parhau i weithredu o ddifrif i geisio ffrwyno bygythiad Cynhesu Byd-eang hefyd.

Rydym yn croesawu Extinction Rebellion gan fod gwir angen codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd y Ddaear. Wedi’r cyfan, mae’r difrod amgylcheddol a achosir i’n planed yn gyd-destun i’r cyfan arall a wnawn.

Protest cefnogwyr Extinction Rebellion yn Parliament Square, Llundain, as Hydref 31. Llun: Chloe Farand. Newyddion: https://www.desmogblog.com/

Ar Hydref 31, bu cannoedd o aelodau Extinction Rebellion yn cynnal protest yn Parliament Square yn Llundain. Dangos methiant Llywodraeth Theresa May, oedden nhw, i wynebu eu cyfrifoldebau dan Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Arestiwyd 15 o’r protestwyr am orwedd ar y stryd.

Trwy  atal taliadau am drydan glan a ddaw o baneli haul ar doeau tai ac adeiladau eraill, a’u cefnogaeth i ddatblygu ffracio am nwy, mae’r Toriaid wedi dangos eu bod yn ystyried sicrhau elw i’r diwydiant ynni carbon difrodol yn bwysicach na’r angen i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid.

Dyna sy’n llywio eu polisiau ynni er y rhybuddion mwya’ taer gwyddonol a gafwyd hyd yn hyn yn Adroddiad Panel Rhyng-lywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar Fedi 8 (gweler y linc i’r Adroddiad dan ‘Gwyddoniaeth’ yn y rhestr gynnwys ar ochr chwith y tudalen).

Felly, diolchwn i aelodau Extinction Rebellion am eu gweithredu hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at eu hymgyrchu pellach yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Tachwedd 12. Bydd y gweithgareddau hynny’n dod i ben gyda phrotest arall yn Parliament Square, Llundain, ar Dachwedd 19.

‘Na i Brexit!’ ac – ‘Ie i’r Ddaear!’ Dyna slogannau’r Papur Gwyrdd. Gobeithio bydd ein gwleidyddion yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae peryglon enbyd yn gwasgu arnom yn gynyddol wrth i arweinwyr gwallgof feddiannu grym llywodraethol ar bob llaw.

Dyma amser gwir dyngedfennol i ddynoliaeth a holl ffurfiau bywyd eraill ein planed. Fel dywed yr hen ymadrodd – Y cyfan sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim.

Cyfle i siarad am ddau o Gymry fu’n ceisio gwarchod y Ddaear – yn lleol ac yn fyd-eang

Nid yn aml dros y blynyddoedd y cawsom wahoddiadau i annerch grwpiau o bobl ar bwnc peryglon cynhesu byd-eang. (Dim digon o jôcs, efallai?)

Rhag imi greu camargraff, bu Charlotte a minnau yn fwy na hapus i ledaenu’r neges trwy hen gylchgrawn Y Papur Gwyrdd a’r wefan hon yn unig.

Ond, roedd hi’n beth braf ac annisgwyl iawn bod 2018 wedi dechrau gyda gwahoddiadau i annerch dwywaith yn barod, sef ym misoedd Ionawr a Chwefror.

Roedd yr achlysuron hynny wedi rhoi cyfle i ni gyfeirio at ddau o Gymry sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig ym maes yr amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang. Dau, hefyd, oedd wedi bod o gymorth mawr i’r Papur Gwyrdd.

Hysbyseb cwmni Abaca yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd

Ym mis Ionawr, cawsom gyfle i son am Rhiannon Rowley, yn wreiddiol o Randirmwyn. Siarad oeddwn yn neuadd Capel y Triniti yn Sgeti, Abertawe ar ôl derbyn cais gan aelodau Cymdeithas Ceredigion a Thŷ’r Cymry i son yn benodol am ‘Y Papur Gwyrdd’.

Roeddem wedi dod i wybod am Rhiannon am ddau reswm: yn gyntaf, roedd hi’n hybu gweithgarwch mudiad cymunedol Trefi Trawsnewid yng ngorllewin Cymru, ac, yn ail, hi oedd – ac yw – pennaeth cwmni Abaca Organic. Dyma gwmni sy’n cynhyrchu matresi gwely o wlân organig Cymreig mewn ffatri yn Nhŷ Croes, Rhydaman.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Rhiannon yn hysbysebu ei chwmni ymhob rhifyn ond dau o’r cylchgrawn rhwng 2007 a 2012. Roedd hynny’n golygu cyfraniad gwerthfawr i gyfrifon y fenter. Rydym yn falch i atgynhyrchu’r hysbyseb honno gan egluro bod Abaca yn dal i ffynnu.

Yna, ym mis Chwefror, cawsom gyfle i son am John Houghton, yn wreiddiol o Ddiserth ger Y Rhyl. Y tro hwn, roeddwn yn annerch aelodau o Gyfundeb Annibynwyr Gorllewin Morgannwg yng nghapel Hermon, Brynaman. Y pwnc y gofynnwyd i ni drafod oedd ‘Yr Amgylchedd a’r Capeli’.

Cawsom gyfle, felly, i son am yr Athro Syr John Houghton – Cristion sydd hefyd yn wyddonydd o ddylanwad byd-eang. Wedi bod yn Athro Ffiseg Atmosfferig ym Mhrifysgol Rhydychen – gan rybuddio am fygythiad cynhesu byd-eang – bu’n un o gadeiryddion paneli newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Yr Athro Syr John Houghton

Enillodd Gwobr Nobel yn 2007 gyda nifer o’i gyd-wyddonwyr, a hynny ar y cyd gydag Al Gore.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Syr John yn barod iawn i gael ei holi gennym ac i gyhoeddi ei rybuddion am fygythiad newid hinsawdd yn rhifyn arloesol y cylchgrawn a sawl rhifyn arall. Rydym yn falch i gyhoeddi llun ohono. Mae’n ein hatgoffa am y gwyddonydd-o-Gymro hwn fu ymysg y mwyaf blaenllaw yn rhyngwladol fu’n pwyso arnom i fynnu ffrwyno cynhesu’r Ddaear.

Diolch i Rhiannon ac i Syr John am eu gwaith – ac am y cyfleoedd gwerthfawr rydyn ni wedi cael eleni nid yn unig i ysgrifennu ond i siarad, hefyd, amdanynt.

Argyfwng y Ddaear – cyflwyniad theatrig ergydiol Cwmni Pendraw

Arwydd gobeithiol oedd hi i garedigion y Ddaear pan gafodd cytundeb ei lofnodi gan tua 200 o wledydd yn 2016, dan arweiniad gwaraidd y Cenhedloedd Unedig, i weithredu ar frys i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang.

Serch hynny, roedd pawb yn deall mai’r dasg fyddai sicrhau bod ein gwleidyddion yn cadw at eu haddewidion. Ganddyn nhw, wedi’r cyfan, mae’r gallu i weithredu polisïau i warchod y plethiad rhwng systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal – yn cynnal dynoliaeth a’r myrdd o ffurfiau bywyd eraill, hefyd. Ond sut mae gwneud hynny?

Mae angen dychymyg i lunio ffyrdd newydd o wthio pwnc i ben blaenoriaethau gwleidyddion a’i gadw yno. Yn sicr, dylai fod gan y celfyddydau ran amlwg i sicrhau hynny. Yng Nghymru, fel ymhob man arall.

Angharad Jenkins a Wyn Bowen Harries yn perfformio yn sioe deithiol ‘2071’ am fygythiad cynhesu byd-eang

Felly, roedd Charlotte a minnau’n falch iawn i fod yn bresennol neithiwr ar gyfer cyflwyniad aml-gyfrwng gafaelgar Cwmni Pendraw ar bwnc yr argyfwng amgylcheddol, a hynny yng nghanolfan gelfyddydol Volcano yma yn Abertawe.

Roedd y sioe – dan y teitl (anghynorthwyol!)2071 – yn asiad effeithiol o sgiliau actio a chyfarwyddo Wyn Bowen Harries, dawn gerddorol Angharad Jenkins a Gwilym Bowen Rhys, ynghyd â fideo o olygfeydd trawiadol. A neges werthfawr y cyfan oedd yr angen i bawb ohonom i beidio â gadael i’n gwleidyddion golli golwg ar weithredu polisïau i warchod y Ddaear, ein hunig gartref planedol.

Mae Cwmni Pendraw yn gwmni sydd wedi’i sefydlu’n benodol i gyflwyno pynciau hanes a gwyddoniaeth ac maen nhw i’w llongyfarch ar y weledigaeth honno.

Mae’r ‘2071’ Cymraeg – sydd yn dal ar daith ledled Cymru – yn gyfieithiad ac yn addasiad o gyflwyniad (gyda’r teitl anghynorthwyol hwnnw!) a wnaed gan wyddonydd newid hinsawdd arbenigol, yr Athro Chris Rapley, gyda’r dramodydd Duncan Macmillan, yn theatr y Royal Court yn Llundain yn 2014.

Bu’r  Athro’n disgrifio’r datblygiadau peryglus amrywiol sy’n cynyddu ar draws y Ddaear yn sgil cynhesu byd-eang. Yn ychwanegol, roedd yn holi sut fyd y byddai ei wyres yn ei etifeddu.

Tasg nid hawdd oedd gan Wyn Bowen Harries, mewn gwirionedd – sef o gadw sylw’r gynulleidfa wrth gyflwyno darlith. Ond fe wnaeth hynny’n llwyddiannus trwy ei brofiad a’i ddoniau fel actor. Bu’n sefyll ar ei draed, am un peth, yn wahanol i’r Athro Rapley oedd ar ei eistedd am y cyfan o’i gyflwyniad yntau yn y Royal Court.

(Mewn cromfachau, diddorol yw darllen am berfformiad arall ar yr un pwnc yn y Royal Court, ddwy flynedd ynghynt. Roedd sioe’r gwyddonydd Stephen Emmott yn llawer llai gobeithiol nag un Rapley.)

Braf dyfynnu’r triawd fu o flaen y gynulleidfa, ar lafar ac ar gân, yn esbonio pa mor agos at eu calonnau yw pwnc gwarchod y Ddaear:

Wyn Bowen Harries: “Er mai pwnc dwys sydd yma, mae’r cynnwys ynghylch yr her sy’n wynebu dynoliaeth yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd y modd yr ydym yn cyfleu’r ffeithiau, ynghyd â’n cyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ystyried pwnc sydd yn berthnasol i bob un ohonom.”

Angharad Jenkins: “Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o’r cynhyrchiad pwysig yma. Mae newid hinsawdd a dyfodol ein planed yn rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd.”

Gwilym Bowen Rhys: “Pan glywais am broject 2071, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan. Mae newid hinsawdd yn bwnc sydd werth ei drafod mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw gyfle. Roedd yn ymddangos i mi fod cyfle yma i sgwennu caneuon newydd sy’n trafod y pwnc, a’u rhannu efo cynulleidfaoedd newydd.”

Ie, llongyfarchiadau i Gwmni Pendraw am ein sbarduno ninnau’r Cymry Cymraeg i gael gair gyda’n gwleidyddion ar bwnc mor bwysig â hwn, a cheisio’n bersonol i adael ôl-troed llai niweidiol ar y Ddaear.

Llongyfarchiadau – gan gynnwys un i BBC Llundain am ymddiheurio …

Llongyfarchiadau i S4C am ddarlledu cyfres hynod ddiddorol a phwysig ‘Her yr Hinsawdd’ dros yr wythnosau diwethaf. Gyda’r arbennigwr yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno, roedd yn dda cael y ffeithiau gwyddonol am y bygythiad sy’n ein wynebu.

Llongyfarchiadau, hefyd, i gylchgrawn Barn (Hydref) am erthygl Hywel Griffiths ar y cysylltiad rhwng y corwyntoedd diweddar a newid hinsawdd. Cyfeiriodd yntau, hefyd, at y cyd-destun bygythiol,gan ychwanegu’r cyngor ymarferol hwn ‘ … mae modd lleihau’r risg a pharatoi trwy newid meddylfryd ym maes cynllunio yn benodol. Mae hynny’n wir hyd yn oed mewn dinasoedd mawr fel Houston, a adeiladwyd ar dir a adferwyd yn wreiddiol o wlyptir corsiog.’


Ac, o’r diwedd, llongyfarchiadau i’r BBC canolog yn Llundain am ymddiheurio am roi rhwydd hynt i’r Arglwydd Nigel Lawson wadu Cynhesu Byd-eang eto fyth ar raglen radio Today. Mae’r BBC wedi derbyn, wedi ton o brotest, bod eu methiant i gywiro honiad hollol anghywir Lawson nad yw’r atmosffer wedi cynhesu dros y 10 mlynedd diwethaf yn fethiant newyddiadurol y mae ganddynt gywilydd amdano.

Yn nhawelwch llygad y storm – angen ysbryd Dartington a Schumacher

Wrth i ni ysgrifennu’r geiriau hyn, mae Corwynt anhygoel Irma yn rhuo trwy Florida, Corwynt enbyd Harvey newydd dawelu yn Texas a Louisiana, Corwynt bygythiol Jose yn ffurfio yn y Caribi – a dros 40 miliwn o bobl yn diodde’ yn sgil stormydd glaw a llifogydd anferth yn Nepal, Bangladash a’r India, lle mae dros 1,300 o bobl wedi marw.

Ond, medd swyddogion Llywodraeth yr Unol Daleithiau, peth ‘gwleidyddol’ yw i wyddonwyr America rybuddio mai dyma sydd i’w disgwyl o ganlyniad i effeithiau amrywiol cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.

Yr eironi yw bod y swyddogion hynny a’u nod ar wireddu gobaith yr Arlywydd Trump o dorri ar yr arian sydd ar gael i gynnal a chadw a chryfhau amddiffynfeydd llifogydd.

Yn nhawelwch llygad y storm, cymerwn y cyfle i son am bobl gallach o lawer sydd wedi bod yn son ers cryn amser am amgenach a doethach ffordd i drin ein planed na’r Gwadwyr Trumpaidd.

Wrth aros am y newyddion terfynol ar ddifrod y chwalfa bresennol, dyma’ch gwahodd i ymuno â ni wrth ymweld â dau sefydliad sydd wedi bod yn flaenllaw yn y ‘mudiad gwyrdd’ ers llawer blwyddyn, sef Dartington Hall a Schumacher College.

Dartington Hall

Dartington Hall ger Totnes yn Nyfnaint.

Wedi teithio ar y trên o Abertawe oeddem, ryw bythefnos yn ôl, am wyliau bach yn nhref fach Totnes yn Nyfnaint. Tref gyda hen, hen hanes yw Totnes ynghanol dyffryn pert Afon Dart, rai milltiroedd o Dartmouth a’r môr. Ond roeddem yn gwybod am Totnes, hefyd, fel y dref gyntaf yng ngwledydd Prydain i ennill y teitl o fod yn Dre’ Trawsnewid / Transition Town, hynny yn 2005.

Ar sail syniadau’r mudiad hwnnw, mae pobl Totnes wedi bod yn gweithredu cynllun datblygu i geisio sicrhau bod eu cymuned yn aros yn llewyrchus wrth ddelio gyda lleihad adnoddau’r Ddaear ac effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Cynllun, mewn geiriau eraill, i leihau eu hôl-troed ar y blaned wrth gryfhau mentrau lleol.

Felly, ar un bore hynod braf, fe droesom ni’n dau at lwybr ar lan Afon Dart gan ddechrau cerdded o hen bont Totnes i Dartington Hall. Ar y daith, daethom ar draws gored gydag Archimedes Screw yn cynhyrchu trydan glân –  un o’r mentrau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau pobl y fro.

Wedi gadael yr afon a dringo’r llethrau trwy erddi coediog a blodeuog godidog yr ystâd, daethom i Dartington Hall ei hun. A, rhaid cyfaddef, cawsom ein swyno. Teuluoedd yn joio picnics ar y gwair. Ambell i berson ynghanol ymarferion Tai Chi. Eraill yn ymarfer gwacáu gwydrau o gwrw lleol. Miwsig yn atsain wrth i offerynwyr ymarfer ar gyfer cyngerdd yn y neuadd fawr.

Schumacher College

Coleg Schumacher ger pentref Dartington, Dyfnaint.

Yn yr ystafell groeso, cawsom ddysgu am hanes Dartington ers iddi ddod yn ganolfan i’r celfyddydau yn y 1920au. O’r cychwyn, bu’n denu artistiaid, athronwyr, llenorion, cerddorion a phenseiri o’r radd flaenaf o bob man yn y byd. <https://www.dartington.org/about/our-history/&gt;

Roedd Dartington yn ffrwythlon mewn sawl cyfeiriad gan arloesi ym meysydd amaethyddiaeth, coedwigaeth, addysg a chrefftau. Ac roedd parchu’r greadigaeth yn ganolog i’w ethos. Ym 1991, sefydlwyd Coleg Schumacher ar Ystad Dartington yn benodol er mwyn astudio a hyrwyddo syniadau E.F.Schumacher, athronydd ‘Small is Beautiful.’ Mae’r cyn-bennaeth Satish Kumar, sylfaenydd cylchgrawn Resurgence yn dal i ddarlithio yno o dro i dro, ac arweinwyr amgylcheddol fel Vandana Shiva yn ymweld o’r India. <http://www.resurgence.org/&gt;

Gyda hynny mewn golwg, aethom ymlaen o’r Plasty ei hun i gerdded i’r Coleg, gan basio gerddi llysiau a ffrwythau a ffarm organig ar y ffordd. A, chwarae teg, fel dau ddieithryn yn cyrraedd heb wahoddiad, cawsom groeso cynnes. Bellach mae’r coleg yn denu myfyrwyr o bell ac agos – roedd y person cyntaf gwrddon ni ymysg sawl un o Brazil – gan gynnig Graddau Meistr mewn pynciau ecolegol mewn perthynas gyda Phrifysgol Plymouth. <https://www.schumachercollege.org.uk/&gt;

Ac wedi galw yn y pentref i weld creadigaethau crefftwyr dawnus The Shops at Dartington, nôl a ni adref i’n gwesty yn Totnes. Deg milltir o gerdded iachus, braf yn Nyffryn Dart –  dydd o ysbrydoliaeth dan ddylanwad cenedlaethau o bobl sy’n caru’r Ddaear ac yn gosod cyd-fyw fel cyfeillion yn ganolog i fywydau dynolryw.

A’r neges yn llygad y storm? Os ydym i atal dinistr y corfforaethau cyfalafol pwerus a’u pwyslais ar fasnach ac elw, bydd angen llawer mwy o ysbryd Dartington a Choleg Schumacher yn ein plith.