Dros gyfnod helbulus o fwy na dwy flynedd, mae’r angen i geisio atal trychineb Brexit wedi galw am sylw a gweithredu gan bobl gall trwy wledydd a rhanbarthau Prydain.
Ond gwych nodi bod mudiad newydd Extinction Rebellion am atgoffa llywodraeth Toriaidd Theresa May, a phawb ohonom, bod rhaid parhau i weithredu o ddifrif i geisio ffrwyno bygythiad Cynhesu Byd-eang hefyd.
Rydym yn croesawu Extinction Rebellion gan fod gwir angen codi’r tymheredd gwleidyddol ar bwnc tymheredd y Ddaear. Wedi’r cyfan, mae’r difrod amgylcheddol a achosir i’n planed yn gyd-destun i’r cyfan arall a wnawn.

Protest cefnogwyr Extinction Rebellion yn Parliament Square, Llundain, as Hydref 31. Llun: Chloe Farand. Newyddion: https://www.desmogblog.com/
Ar Hydref 31, bu cannoedd o aelodau Extinction Rebellion yn cynnal protest yn Parliament Square yn Llundain. Dangos methiant Llywodraeth Theresa May, oedden nhw, i wynebu eu cyfrifoldebau dan Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Arestiwyd 15 o’r protestwyr am orwedd ar y stryd.
Trwy atal taliadau am drydan glan a ddaw o baneli haul ar doeau tai ac adeiladau eraill, a’u cefnogaeth i ddatblygu ffracio am nwy, mae’r Toriaid wedi dangos eu bod yn ystyried sicrhau elw i’r diwydiant ynni carbon difrodol yn bwysicach na’r angen i ffrwyno allyriadau carbon deuocsid.
Dyna sy’n llywio eu polisiau ynni er y rhybuddion mwya’ taer gwyddonol a gafwyd hyd yn hyn yn Adroddiad Panel Rhyng-lywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar Fedi 8 (gweler y linc i’r Adroddiad dan ‘Gwyddoniaeth’ yn y rhestr gynnwys ar ochr chwith y tudalen).
Felly, diolchwn i aelodau Extinction Rebellion am eu gweithredu hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at eu hymgyrchu pellach yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Tachwedd 12. Bydd y gweithgareddau hynny’n dod i ben gyda phrotest arall yn Parliament Square, Llundain, ar Dachwedd 19.
‘Na i Brexit!’ ac – ‘Ie i’r Ddaear!’ Dyna slogannau’r Papur Gwyrdd. Gobeithio bydd ein gwleidyddion yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae peryglon enbyd yn gwasgu arnom yn gynyddol wrth i arweinwyr gwallgof feddiannu grym llywodraethol ar bob llaw.
Dyma amser gwir dyngedfennol i ddynoliaeth a holl ffurfiau bywyd eraill ein planed. Fel dywed yr hen ymadrodd – Y cyfan sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim.