ROEDDEN ni’n falch iawn i fod yn rhan o ddathliad arwyddocaol iawn ym mhentref Banwen, ym mhen uchaf Cwm Dulais, ddoe – cwm sydd wedi ennill sylw byd-eang yn ddiweddar trwy ffilm Pride am y gefnogaeth gafodd glowyr lleol yn ystod streic 1984-5 gan griw o bobl hoyw o Lundain.
Ond nid am y ffilm enwog honno oedd ein dathliad.
Cwm glo clasurol Cymreig yw Cwm Dulais, yn glwstwr o bentrefi rhubanog yn disgyn o ymylon Bannau Brycheiniog i lawr at afon Nedd ger Aberdulais. Pentrefi fel Banwen, Onllwyn, Blaendulais, a’r Creunant yn rhesi o derasau hir, ond gydag ambell i McMansion ac ystadau bychain o dai moethus hynod annisgwyl, bellach, i’w gweld hefyd.
Cwm tipyn yn ddi-arffordd yw e, heb broffeil uchel, o leiaf hyd at ddyfodiad Pride. Ond fel cymaint o’n cymunedau, gadawyd Cwm Dulais hefyd yn waglaw wrth i’r diwydiant glo droi cefn.
Cofiwch, mae yng Nglofa Cefn Coed amgueddfa i adlewyrchu profiad ofnadwy’r diwydiant ynni a fu ( ‘Y lladd-dy’ oedd yr enw lleol ar bwll Cefn Coed). Ac mae peiriannau enfawr yn dal i rwygo’r glo brig o’r pridd ar y gwastadeddau uchel ger Banwen a Dyffryn Cellwen a Choelbren.
Ewch i’r cwm. Er y prydferthwch, does dim yn amlwg iawn i’w ddathlu. Tlodi’n amlwg. Dadfeiliad. Diweithdra’n uchel.
Ond wrth i ni yrru i fyny’r cwm, cofio oeddwn i sut roedd pobl y cymunedau hyn wedi codi’n uwch na’r amgylchiadau creulon a osodwyd arnynt yn ystod llanw a thrai’r diwydiant glo.
Dyna blwyfolion Eglwys St Margaret yng Nghreunant yn y 1950 a 60au yn gosod ffenestri lliw hynod gywrain yn waliau’r adeilad. Fe’u lluniwyd gan Celtic Studios, Abertawe, dan ysbrydoliaeth yr athrylith Howard Martin.
Dyna Dai Francis o’r Onllwyn yn llefarydd huawdl dros gomiwnyddiaeth rhyngwladol, yn arweinydd cryf i undeb y glowyr, ac yn Gymro Cymraeg twymgalon wthiodd gyda Glyn Williams i sefydlu Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl.
A dyna’r Parch Erastus Jones, er nad yn frodor o’r cwm, yn gwneud capel Saron, Blaendulais, yn ganolfan i’r mudiad eciwmenaidd Cristnogol a ddaeth â sylw rhyngwladol i’r cwm. Bu yno o 1948 hyd 1967 pryd cafodd alwad i arwain Tŷ Toronto i helpu pobl Aberfan wedi trasiedi 1966.
Ond dyma ni, bellach, a chyfle newydd i ddathlu gweledigaeth pobl C
wm Dulais.
Y digwyddiad aethom iddo oedd lansiad swyddogol prosiect i godi paneli haul ar adeiladau cyhoeddus gan fudiad cydweithredol, cymunedol, lleol Egni. Yn benodol, y dydd hwn, roeddem yn ymfalchio yn y paneli haul a osodwyd ar dô canolfan addysgiadol a gweithdai D.O.V.E. – sef, yn eironig, hen swyddfa’r NCB Opencast Executive.
Dyna Carl Sergeant, Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru, yn ymuno â ni’r buddsoddwyr lleol yn y fenter, ynghyd â chynrychiolwyr mudiadau a sefydliadau ynni adnewyddol, i roi’r fendith swyddogol ar y fenter.
Roedd hi’n hynod briodol bod hyn yn digwydd ym mis cyntaf 2015, sef blwyddyn (fel a nodwyd gennym eisoes ar y wefan hon) a welir fel un hollol dyngedfennol o ran ennill cytundeb rhyngwladol i dorri’n sylweddol iawn ar losgi tanwyddau ffosil, carbon.
Ledled y byd mae prosiectau ynni adnewyddol, di-garbon, ar gynnydd – yn wynt, yn haul, yn ddwr, llif y mor a dulliau cynaladwy eraill. Ac yn aml iawn, prosiectau cymunedol, cydweithredol sy’n arwain y ffordd wrth anelu at y nod o adael y tanwyddau carbon yn ddiogel dan ddaear.
Da o beth yw y gallwn ninnau yma yng Nghymru ymfalchio bellach fod menter newydd Egni – dan arweiniad Dan McCallum a staff Awel Aman Tawe yng Nghwmllynfell – yn enghraifft o sut y gallwn ninnau, hefyd, fod yn rhan o’r ymdrech fawr, ryngwladol hon. A diolch yn arbennig i Dan am ddangos trwy ei gyflwyniad uniaith Gymraeg y gallwn unieithu’n diwylliant Cymreig gyda diwylliannau eraill yn y dasg gyffrous o greu ffyrdd o fyw mwy caredig i’r Ddaear rydym yn dibynnu’n llwyr arni.
LLUNIAU, O’R UCHAF I LAWR: Canolfan addysgiadol a gweithdy D.O.V.E, Banwen, Cwm Dulais; Canolfan D.O.V.E.; Carl Sergeant, Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru yn annerch y cyfarfod; Dan McCallum, pennaeth Egni / Awel Aman Tawe, yn esbonio’r prosiect; buddsoddwyr lleol y fenter a chynrychiolwyr mudiadau ynni adnewyddol yn y cyfarfod ar fore Mercher, Ionwr 15, 2015.