SÊR stormydd plentynnaidd San Steffan yw David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg. Llongyfarchiadau iddynt, felly, am roi eu nonsens o’r neilltu ar ddechrau’r ymgyrch etholiadol i gyd-ddatgan rhybudd a her ynghylch Newid Hinsawdd.
“Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf difrifol sy’n wynebu’r byd heddiw,” meddant yn unol.
Mae’r unfrydedd barn annisgwyl hwn yn arwydd bod pryder go-iawn wedi treiddio i ganol y ‘sefydliad’ sy’n ein rheoli: pryder bod gweithgarwch dynol yn achosi newidiadau pellgyrhaeddol i systemau naturiol ein planed a bod hyn yn fygythiad i ni gyd. Arwyddocaol iawn oedd y croeso eang a gafwyd i’r datganiad, gan gynnwys yn rhyngwladol.
Da nodi geiriau clir y triawd rhyng-bleidiol Llundeinig bod rhaid creu byd carbon isel er mwyn ceisio ffrwyno’r nwyon tŷ gwydr sy’n achosi Cynhesu Byd-eang. A bod rhaid i’r tair plaid barhau i gydweithredu beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad ar Fai 7.
Yn benodol, maen nhw’n pwyntio at Uwch-gynhadledd Hinsawdd Paris, fis Rhagfyr nesaf, fel cyfle i selio cytundeb i gyfyngu ar allyriadau CO2 yn y gobaith y bydd cynnydd tymheredd y Ddaear yn aros dan 2 radd C.
Nid peth bach yw’r datganiad hwn gan Cameron, Miliband a Clegg. Mae diwydiannau tanwydd ffosil, fel Exxon, Shell, BP, Chevron ac ati, yn hynod bwerus yn wleidyddol. Yn yr Unol Daleithiau maen nhw wedi dylanwadu ar wleidyddion asgell-dde i fynnu nad yw Cynhesu Byd-eang yn broblem o gwbl.
Ond mae’r corfforaethau carbon yn lobïo’n nerthol gyda ninnau, hefyd. Cafwyd gwrthwynebiad cryf yn y Cabinet yn 2011 i gyfyngiadau ar allyriadau carbon, ac mae pwysau o fewn y Blaid Geidwadol i wthio ymlaen â ffracio am nwy siâl.
Hyd yn hyn, y corfforaethau sydd wedi bod yn llwyddo. Er yr holl rybuddion gwyddonol, ar gynnydd mae llosgi carbon.
Ond mae pethau’n newid. Ar draws y byd, mae ymgyrch i warchod y byd rhag y dinistrio diwydiannol amrywiol yn cryfhau.
Yn benodol, mae ymgyrch i dynnu buddsoddiadau allan o’r corfforaethau tanwydd ffosil yn tyfu’n gyflym. Y nod yw cyfyngu’n fawr ar faint o lo ac olew a losgir yn y dyfodol.
Gyda hynny mewn golwg, mae 180 o sefydliadau eisoes wedi dad-fuddsoddi £50 biliwn o’r diwydiannau carbon. Ac mae’r ymgyrch yn dechrau gwasgu, e.e., mae Erik Bonino, cadeirydd Shell UK, wedi cwyno wrth Weinidog Ynni San Steffan, Ed Davey, am gyfeirio’n gyhoeddus at y dad-fuddsoddi sy’n dechrau siglo seiliau ariannol y mawrion.
Mae triawd San Steffan yn deall hyn yn iawn, wrth gwrs, ac am fod ar flaen y gad. Mae’n siŵr, hefyd, bod eu llygaid ar dwf aelodaeth y Blaid Werdd yn Lloegr.
Beth bynnag eu cymhellion, rhaid croesawu’u datganiad fel cam arall yn yr ymdrech i dynnu dynoliaeth yn ôl o’r dibyn amgylcheddol ac i lunio dyfodol carbon isel glan a mwy diogel. Fe ddylai hynny fod yn gyd-destun sy’n uno pawb ohonom.
► Da, hefyd, derbyn datganiad gan Blaid Cymru i’r wefan hon yn datgan eu bod hwythau’n cydnabod mai newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’n planed.
Meddai’r Blaid wrthym: ‘Bydd ein polisi ynni yn canolbwyntio ar gynyddu cynnyrch ynni o ffynonellau adnewyddadwy, gyda phwyslais penodol ar ffynonellau llanw a hydro, megis y morglawdd ym Mae Abertawe, a lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Byddwn yn annog trosglwyddo buddsoddiad o echdynnu tanwydd ffosil i ffynonellau ynni adnewyddadwy.’