Monthly Archives: Mehefin 2015

Gwrandawn ar Ffransis, Pab y tlodion, Pab y Ddaear

MAE pob cyfraniad i’r ymdrech i drysori’r Ddaear yn werthfawr. Mae cyfraniad gan Bab Eglwys Rufain yn arbennig felly.

“Faint o lengoedd sydd gan y Pab?” holodd Stalin un tro’n ddirmygus. Wel, mewn termau dylanwad ar laweroedd o bobl ledled y byd, myrdd o lengoedd.

Dyw hynny ddim yn golygu bod pawb, hyd yn oed y tu fewn i’r Eglwys Babyddol, yn croesawu pob arweiniad gan y Pabau. Mae gwrthwynebiad yr Eglwys i atal-genhedlu, er enghraifft, yn annealladwy yn wyneb cynnydd brawychus poblogaeth y byd.

Ond mewn cyfnod pryd mae corfforaethau pwerus yn gwthio globaleiddio arnom, gan roi mwy o bwys ar greu elw nac ar gynnal cymunedau dynol a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt, mae cael cefnogaeth mor awdurdodol i’r mudiad sy’n trysori’r Ddaear i’w groesawu’n fawr.

Y Pab Ffransis - ei gylchlythyr yn galw arnom i wrando a gweithredu

Y Pab Ffransis – ei gylchlythyr yn galw arnom i wrando ar rybuddion a gweithredu i warchod ein Daear. Llun: tcktcktck.org

Felly, bydd cylchlythyr newydd y Pab Ffransis ar bwnc Newid Hinsawdd, Laudato Si’ (Molwn Ef) Ar ofal o’n cartref cyffredin, yn hwb anferth i’r ymdrechion i fynnu bod gwleidyddion yn cymryd bygythiadau Cynhesu Byd-eang o ddifrif. Dyma’i rybudd canolog:

‘Yn ôl pob tebyg, byddwn yn gadael sbwriel, chwalfa a bryntni i genedlaethau’r dyfodol. Mae twf prynwriaeth, gwastraff a newid amgylcheddol wedi gwasgu cymaint ar allu’r blaned i’n cynnal nes bod ein ffordd o fyw gyfoes, anghynaladwy, yn rhwym o achosi trychinebau … Dim ond trwy weithredu penderfynol, yma a nawr, y gellir lleihau ar effeithiau’r diffyg cydbwysedd presennol. Rhaid i ni ystyried ein cyfrifoldeb o flaen rheiny fydd yn dioddef o’r canlyniadau erchyll.’

Er mor llugoer yr ymateb i neges y Pab gan wleidyddion Gweriniaethol yr Unol Daleithiau – y mwyafrif ohonynt yn gwadu Newid Hinsawdd i blesio’r diwydiannau llosgi carbon – bydd rhaid i hwythau, hyd yn oed, wrando ar yr offeiriad dewr a heriol hwn pan aiff i annerch Cyngres America ym mis Medi. Ac nid dyn i wanhau ei bregeth wrth ystyried natur ei gynulleidfa yw’r Pab Ffransis.

Dylai ddod i bregethu ym Mhrydain hefyd. Ar ddiwrnod cyhoeddi Laudato Si’, roedd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cyhoeddi eu bod yn dod â chymorth i ffermydd gwynt ar dir i ben flwyddyn yn gynnar, sef y dull mwyaf llwyddiannus presennol o ynni adnewyddol. A dyma’r Llywodraeth sy’n gwthio ffracio arnom fel dull newydd o ryddhau CO2 i’r awyr. Newid Hinsawdd? Dim problem i’r Toris. Parhau i ddarllen