MAE pob cyfraniad i’r ymdrech i drysori’r Ddaear yn werthfawr. Mae cyfraniad gan Bab Eglwys Rufain yn arbennig felly.
“Faint o lengoedd sydd gan y Pab?” holodd Stalin un tro’n ddirmygus. Wel, mewn termau dylanwad ar laweroedd o bobl ledled y byd, myrdd o lengoedd.
Dyw hynny ddim yn golygu bod pawb, hyd yn oed y tu fewn i’r Eglwys Babyddol, yn croesawu pob arweiniad gan y Pabau. Mae gwrthwynebiad yr Eglwys i atal-genhedlu, er enghraifft, yn annealladwy yn wyneb cynnydd brawychus poblogaeth y byd.
Ond mewn cyfnod pryd mae corfforaethau pwerus yn gwthio globaleiddio arnom, gan roi mwy o bwys ar greu elw nac ar gynnal cymunedau dynol a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt, mae cael cefnogaeth mor awdurdodol i’r mudiad sy’n trysori’r Ddaear i’w groesawu’n fawr.

Y Pab Ffransis – ei gylchlythyr yn galw arnom i wrando ar rybuddion a gweithredu i warchod ein Daear. Llun: tcktcktck.org
Felly, bydd cylchlythyr newydd y Pab Ffransis ar bwnc Newid Hinsawdd, Laudato Si’ (Molwn Ef) Ar ofal o’n cartref cyffredin, yn hwb anferth i’r ymdrechion i fynnu bod gwleidyddion yn cymryd bygythiadau Cynhesu Byd-eang o ddifrif. Dyma’i rybudd canolog:
‘Yn ôl pob tebyg, byddwn yn gadael sbwriel, chwalfa a bryntni i genedlaethau’r dyfodol. Mae twf prynwriaeth, gwastraff a newid amgylcheddol wedi gwasgu cymaint ar allu’r blaned i’n cynnal nes bod ein ffordd o fyw gyfoes, anghynaladwy, yn rhwym o achosi trychinebau … Dim ond trwy weithredu penderfynol, yma a nawr, y gellir lleihau ar effeithiau’r diffyg cydbwysedd presennol. Rhaid i ni ystyried ein cyfrifoldeb o flaen rheiny fydd yn dioddef o’r canlyniadau erchyll.’
Er mor llugoer yr ymateb i neges y Pab gan wleidyddion Gweriniaethol yr Unol Daleithiau – y mwyafrif ohonynt yn gwadu Newid Hinsawdd i blesio’r diwydiannau llosgi carbon – bydd rhaid i hwythau, hyd yn oed, wrando ar yr offeiriad dewr a heriol hwn pan aiff i annerch Cyngres America ym mis Medi. Ac nid dyn i wanhau ei bregeth wrth ystyried natur ei gynulleidfa yw’r Pab Ffransis.
Dylai ddod i bregethu ym Mhrydain hefyd. Ar ddiwrnod cyhoeddi Laudato Si’, roedd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cyhoeddi eu bod yn dod â chymorth i ffermydd gwynt ar dir i ben flwyddyn yn gynnar, sef y dull mwyaf llwyddiannus presennol o ynni adnewyddol. A dyma’r Llywodraeth sy’n gwthio ffracio arnom fel dull newydd o ryddhau CO2 i’r awyr. Newid Hinsawdd? Dim problem i’r Toris.
Ond cafwyd croeso twymgalon i Laudato Si’ gan bobl gallach ledled y Ddaear. Gwêl Christine Allen, pennaeth Cymorth Cristnogol, lif hanes y tu ôl i’r ddogfen:
‘O William Wilberforce a diddymiad caethwasiaeth ym Mhrydain i frwydr Martin Luther King Jr. dros hawliau cyfartal yn yr UD a buddugoliaeth Desmond Tutu dros apartheid yn Ne Affrica, mae gan Gristnogion sy’n gweithredu ar eu hymdeimlad o ddyletswydd foesol hanes o weddnewid cymdeithas er gwell. Pe byddai Cristnogion yn Ewrop a ledled y byd yn gwrando ar ei alwad … fe allai cylchlythyr y Pab danio gweddnewidiad arall ar raddfa fyd-eang – a byddai Ewrop a gweddill y byd yn well o’r herwydd.’
Croesawu pwyslais y Pab ar y rheidrwydd moesol mae Christiana Figueres, Prif Weithredwraig yr UNFCCC:
‘Mae cylchlythyr y Pab Ffransis yn tanlinellu’r rheidrwydd moesol dros weithredu brys ar newid hinsawdd i gynnal y poblogaethau mwyaf bregus, i warchod datblygiad, a hybu twf cyfrifol … Ynghlwm wrth y rheidrwydd economaidd, mae’r rheidrwydd moesol hwn yn mynnu heb yr un amheuaeth bod rhaid i ni weithredu nawr ar newid hinsawdd.’
Ac mae Tomás Insua, cydlynydd Mudiad Newid Hinsawdd Byd-eang y Catholigion yn gweld y cyhoeddiad fel paratoad ar gyfer Cynhadledd Paris:
‘Mae’r alwad brydferth a thaer hon i weithredu gan y Pab Ffransis, ar wahân i herio’n ffyrdd o fyw a’n gweithgareddau, wedi’i hamseru’n berffaith cyn uwch-gynhadledd COP21 [Paris]. Y Pab Ffransis ei hun ddywedodd ei fod yn dymuno y byddai’r cylchlythyr yn dylanwadu ar y trafodaethau rhyngwladol ar yr hinsawdd, felly mae’n bryd bellach i Gatholigion a phawb o ewyllys da ymysgwyd ac atgoffa arweinwyr y byd o’r rheidrwydd moesol i ni weithredu ar bwnc yr hinsawdd.’
Trwy Laudato Si’, fe wnaeth y Pab Ffransis ffafr enfawr â phawb ohonom. Gweithredwn ar ei neges. Pab cynnal y tlodion. Pab gwarchod y Ddaear.
Da o beth i George Monbiot, yn y Guardian, wahodd pawb – yn grefyddwyr ac yn ddigrefydd yn ddiwahân – i ystyried geiriau dwys Pab Ffransis: <http://www.theguardian.com/commentisfree/2015/jun/16/pope-encyclical-value-of-living-world> )
Am Laudato Si’ yn gyfan, ewch at: <http://w2.vatican.va/content/francesco/en/encyclicals/documents/papa-francesco_20150524_enciclica-laudato-si.html>
Am drafodaeth, ewch at: <http://tcktcktck.org/2015/06/pope-end-fossil-fuels-to-tackle-climate-change-and-fight-poverty/#sthash.IlUE8W8v.dpuf>