Y TRO hwn, post gyda nifer o bwyntiau cyfredol:
• Syfrdanu a thristáu wrth glywed bod yr Arlywydd Obama wedi caniatáu i gwmni Shell gynnal tyllu arbrofol am olew yn yr Arctig oddiar Alaska. Shell yn disgwyl llawer mwy o olew a nwy ym Mor Chukchi na Mor y Gogledd. Ergyd i obeithion am leihad mewn allyriadau carbon. Pob dymuniad da i’r bobl leol sy’n gwrthwynebu.

Pobl Seattle yn cynnal protest yn eu kayaks yn erbyn Shell sy’n bwriadu tyllu yn yr Arctig. Llun: N.Scott Trimble / Greenpeace USA 2015
• Rhifyn 50 Mlwyddiant cylchgrawn Resurgence yn cynnwys dyfyniad gan Gwynfor Evans yn tanlinellu pwysigrwydd cymunedau bychain. Cafwyd y dyfyniad mewn erthygl gan Leopold Kohr yn rhifyn cyntaf y cylchgrawn ym Mai, 1966 – sef o fewn wythnosau i Gwynfor ddod yn AS cyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin.
• Ffieiddio wrth weld yn y Guardian bod corfforaethau amaeth-gemegol enfawr wedi bygwth y byddai TTIP (cynllun marchnata ‘rhydd’ sy’n cael ei drafod yn gyfrinachol rhwng yr UD a’r UE) yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i gyfyngu ar blaladdwyr peryglus.
• Capel y Nant, Clydach, Abertawe (ydyn, rydym yn aelodau!) i gynnal noson agored gyda Chyfeillion y Ddaear, Abertawe, i ddangos ffilm More than Honey. Bu canmol ar y ffilm ‘ysgytwol o brydferth’ hon sy’n rhoi’r cefndir i’r argyfwng sy’n wynebu gwenyn ledled y byd – un argyfwng ymysg llu, wrth gwrs. Nos Fawrth, Mehefin 30, am 7yh – http://www.capelynant.org
• Gweinidog olew’r wlad olew-gyfoethog Saudi Arabia yn achosi syndod wrth ddatgelu hyn mewn cynhadledd ym Mharis: “Yn Saudi Arabia, rydym yn derbyn yn y pendraw, cyn bo hir iawn, na fydd angen tanwydd ffosil arnom.” Yn lle hynny, meddai, roedd Saudi Arabia’n bwriadu arwain gydag ynni haul a gwynt. Gair i gall?
• Holiadur yn yr Observer (TechMonthly, mis Mai): 81% o bobl Prydain yn cytuno’n bendant bod yr hinsawdd fyd-eang yn newid; 76% yn credu’n bendant bod hyn yn digwydd o ganlyniad i allyriadau a achoswyd gan ddynoliaeth; 20% yn credu ei bod hi’n debyg y bydd arweinwyr gwleidyddol yn cytuno ar gynllun i ffrwyno cynhesu byd-eang; 54% yn credu ei bod yn annhebyg y bydd arweinwyr yn cytuno. Ydy’r gwleidyddion yn gwrando?
• Charlotte ddewr eisoes wedi dechrau darllen dau lyfr gawsom yn Ne Carolina ar ymweliad teuluol diweddar – sef This Changes Everything. Capitalism vs The Climate gan Naomi Klein (Simon & Schuster, 2014) a Countdown. Our last, best hope for a future on Earth gan Alan Weisman (Back Bay Books, 2014). Minnau’n ara’ deg iawn ynghanol Gilead gan Marillyne Robinson ond yn y cyfamser wedi gwir werthfawrogi Real Gower, llyfr olaf, ysywaeth, ein cyfaill y bardd Nigel Jenkins.
• Edrych ymlaen at fynd i’r Rali Fawr sydd i’w chynnal yn Llundain ar ddydd Mercher, Mehefin 17, ar bwnc Newid Hinsawdd. Trefnir y Rali gan nifer o fudiadau sy’n rhan o’r Glymblaid Newid Hinsawdd megis Cyfeillion y Ddaear, 350.org a Chymorth Cristnogol.
• … Fyddwch chi yno?