Tag Archives: climate march

Hwnt ag yma ynghanol helyntion dynoliaeth a Daear

Y TRO hwn, post gyda nifer o bwyntiau cyfredol:

• Syfrdanu a thristáu wrth glywed bod yr Arlywydd Obama wedi caniatáu i gwmni Shell gynnal tyllu arbrofol am olew yn yr Arctig oddiar Alaska. Shell yn disgwyl llawer mwy o olew a nwy ym Mor Chukchi na Mor y Gogledd. Ergyd i obeithion am leihad mewn allyriadau carbon. Pob dymuniad da i’r bobl leol sy’n gwrthwynebu.

Pobl Seattle yn cynnal protest yn eu kayaks yn erbyn Shell sy'n bwriadu tyllu yn yr Arctig. Llun: N.Scott Trimble / Greenpeace USA 2015

Pobl Seattle yn cynnal protest yn eu kayaks yn erbyn Shell sy’n bwriadu tyllu yn yr Arctig. Llun: N.Scott Trimble / Greenpeace USA 2015

• Rhifyn 50 Mlwyddiant cylchgrawn Resurgence yn cynnwys dyfyniad gan Gwynfor Evans yn tanlinellu pwysigrwydd cymunedau bychain. Cafwyd y dyfyniad mewn erthygl gan Leopold Kohr yn rhifyn cyntaf y cylchgrawn ym Mai, 1966 – sef o fewn wythnosau i Gwynfor ddod yn AS cyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin.

• Ffieiddio wrth weld yn y Guardian bod corfforaethau amaeth-gemegol enfawr wedi bygwth y byddai TTIP (cynllun marchnata ‘rhydd’ sy’n cael ei drafod yn gyfrinachol rhwng yr UD a’r UE) yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i gyfyngu ar blaladdwyr peryglus. Parhau i ddarllen

Tyrfaoedd yn rhybuddio am newid hinsawdd

I BAWB sy’n caru’r Ddaear, roedd rheswm i ddathlu ar Ddydd Sul, Medi 21. Ar y dydd hwnnw, gwelwyd cannoedd o filoedd o bobl yn gorymdeithio mewn dros 2,000 o ddinasoedd ledled y byd i bwyso am bolisiau brys i ffrwyno cynhesu byd-eang.

Yn Efrog Newydd, gwelwyd yr orymdaith fwyaf erioed o blaid parch i’r Ddaear, gyda 400,000 yn gorymdeithio. Roedd pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon yn bresennol i’w cefnogi.
Bu 40,000 yn cerdded trwy ganol Llundain, a 30,000 yn ymgynnull ynghanol Melbourne – a miloedd mewn dinasoedd a threfi eraill.

Roedd ‘Gorymdeithiau Hinsawdd y Bobl’ wedi cael eu trefnu i gario neges glir i’r cyfarfod o benaethiaid gwledydd sydd i’w chynnal yn Efrog Newydd yr wythnos hon i drafod cynhesu byd-eang.

Gobaith y Genhedloedd Unedig yw y bydd y cyfarfod hwn yn paratoi’r ffordd at sicrhau cytundeb eang a chryf yn y gynhadledd fawr nesaf sydd i’w chynnal ar y pwnc ym Mharis yn 2015. Y consensws gwyddonol yw bod toriadau llym mewn allyriadau carbon deuocsid i’r awyr yn hanfodol er mwyn arafu ac atal y cynhesu sy’n dal i ddigwydd.

Un o gefnogwyr blaenllaw y dydd hwn o weithredu oedd yr Archesgob Desmond Tutu. Gan rybuddio pa mor ddifrifol mae’r cynhesu, mae Tutu wedi galw am ymgyrch ‘boycott’ yn erbyn corfforaethau glo, olew a nwy – fel a gaed yn erbyn De Affrica i ddod ag apartheid i ben.

Meddai yn y Guardian: ‘Rhaid i bobl o gydwybod dorri eu cysylltiadau gyda chorfforaethau sy’n ariannu anghyfiawnder newid hinsawdd. Gallwn, er enghraifft, foicotio digwyddiadau, timau chwaraeon a rhaglenni ar y cyfryngau sy’n cael eu noddi gan gwmniau ynni-ffosil. Gallwn fynnu bod hysbysebion y cwmniau ynni yn cario rhybuddion iechyd. Gallwn annog mwy o’n prifysgolion a’n cynghorau a sefydliadau diwylliannol i dorri eu cysyltiadau gyda’r diwydiant ynni-ffosil. Gallwn drefnu dyddiau di-gar ac adeiladu ymwybyddiaeth gymdeithasol ehangach. Gallwn ofyn i’n cymunedau crefyddol lefaru’n groyw.’

Bydd yr Archesgob yn falch o ymateb Cymorth Cristnogol. Maen nhw wedi trefnu penwythnos o weithredu dros Gyfiawnder Hinsawdd yng ngwledydd Prydain ar Hydref 18 ac 19.

Eu galwad yw i gapeli ac eglwysi fynd ati i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i dynnu sylw at gynhesu byd-eang ar y penwythnos hwnnw, gan sicrhau bod gwleidyddion yn cael clywed am eu pryder. Yr hyn sydd wedi tanio Cymorth Cristnogol yw gweld o brofiad sut mae newid hinsawdd yn niweidio pobl dlawd y byd – er yn cael ei achosi gan y gwledydd a chorfforaethau cyfoethog.

Byddai’n dda gennym glywed faint o gapeli Cymru fydd yn ymuno mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r Penwythnos Cyfiawnder Hinsawdd pwysig hwn. Cyhoeddwn eu henwau â phleser.

Rhaid atal cynhesu byd-eang - medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan

Rhaid atal cynhesu byd-eang – medd 400,000 wrth orymdeithio ym Manhattan