Monthly Archives: Ebrill 2017

Gwyddonwyr doeth yn herio Donald Trump anghyfrifol

Ynghanol y gwallgofrwydd cyfoes ymysg gwleidyddion asgell-dde sy’n gwadu bodolaeth Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, diolch o galon i’r miloedd di-ri’ o wyddonwyr gynhaliodd Orymdeithiau dros Wyddoniaeth mewn 600 o ddinasoedd ledled y byd ddoe, wrth nodi Dydd y Ddaear.

Roeddynt yn galw am barch i ymchwil wyddonol gan arbenigwyr ymhob maes yn wyneb y dilorni anghyfrifol gan Donald Trump yn America a chan wleidyddion mewn gwledydd eraill, fel y prif Brecsitwr gynt, Michael Gove, yn Lloegr.

Rhai o’r 10,000 o bobl fu’n gwrthdystio yn Berlin o blaid parch i wyddoniaeth. Roedd Berlin yn un o 600 o ddinasoedd lle bu protestio ar Ddydd y Ddaear. Llun: Stand With CEU/Twitter.

Yn benodol, roedd y protestwyr yn mynnu bod Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd yn fygythiadau difrifol i ddyfodol dynoliaeth a phatrymau naturiol eraill ein planed. Roedd angen iddynt wneud hyn gan fod gwadu Newid Hinsawdd wedi meddiannu uchel-fannau gwleidyddiaeth America, gwlad fwyaf pwerus y byd.

Mae Arlywydd newydd America, Donald Trump, yn bennaeth croch i benaethiaid corfforaethol sydd wedi bod yn ariannu’r gwadu hwn ers degawdau. Ei nod bellach, gyda’i holl rym fel Arlywydd, a’i anwybodaeth affwysol personol, yw dadwneud y gobaith a gawsom trwy benderfyniadau Cynhadledd Hinsawdd Paris, Rhagfyr 2015, dan arweiniad ei ragflaenydd fel Arlywydd, Barrack Obama.

O ganlyniad i’r gynhadledd honno, cytunodd ryw 200 o wledydd ei bod yn angenrheidiol ein bod yn cyfyngu ar godiadau tymheredd y Ddaear i ddim mwy na 1.5 gradd C uwch y lefelau ar ddechrau’r cyfnod diwydiannol os oes gobaith i fod o ffrwyno ar Gynhesu Byd-eang. Roeddent yn gytun bod rhaid cyfyngu ar frys ar allyriadau carbon deuocsid a achosir, e.e., gan losgi glo ac olew fel tanwydd.

Nawr mae’r cyfan yn y fantol wrth i Trump a’i griw honni mai ‘hoax’ yw’r gwaith enfawr gan wyddonwyr arbennigol dan arolygaeth y Cenhedlaeth Unedig sy’n rhybuddio am stormydd eithafol, codiadau mewn lefelau’r mor a datblygiadau enbyd eraill.

Tu hwnt i bob credinaeth, hefyd, yw bod Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau bellach dan reolaeth uwch swyddogion sy’n gwadu bod unrhyw angen gwarchod yr amgylchedd. Eu nod, yn llythrennol, yw atal gweithgareddau’r adran honno – gan roi rhwydd hynt i losgwyr carbon anghyfrifol fynd ati eto a thrwy lacio amrywiaeth o gyfyngiadau eraill ar ddifrodi systemau naturiol. Mae gwyddonwyr dan bwysau enbyd mewn sefyllfa felly.

Felly, ynghanol oes mor anghredadwy o annoeth, lle mae gwr di-ddysg fel Donald Trump yn gwadu pwysigrwydd gwyddoniaeth i les dynoliaeth, ysbrydoliaeth oedd gweld bod ugeiniau o filoedd o wyddonwyr gyda’r dewrder i brotestio yn erbyn ei ffolineb, gan gynnwys dan ei drwyn yn Washington DC.

Gobeithiwn y bydd parch i ymchwil wyddonol – ac i rybuddion gwyddonol – yn ad-feddiannu’r Ty Gwyn o ganlyniad i’r gwrthdystio grymus hwn. Go brin, ysywaeth, ond gobeithiwn serch hynny.