Rhybuddiodd y bardd Seisnig John Donne nad yw ‘dyn yn ynys i’w hun’, a bod dioddefaint un yn ddioddefaint pawb.
Bellach, mae anferthedd dioddefaint ar ein planed yn ein gwasgu’n llethol. Gwelir effeithiau niweidiol Cynhesu Byd-eang a distryw amgylcheddol yn ehangu ar garlam ledled y Ddaear.
Wrth i ni siarad, mae llifogydd yn boddi ardaloedd mawr yn Ewrop a Tsieina, gwres a thannau yn llosgi taleithiau gorllewinol America, Canada a Siberia, pegynnau iâ a rhewlifoedd yn toddi’n gyflymach, rhannau mawr o’r Amazon yn dechrau arllwys CO₂ nôl i’r atmosffer yn lle ei lyncu – a llawer o rybuddion eraill.
Nid gormodedd yw ofni ein bod yn colli gafael ar gydbwysedd croesawgar y Ddaear – cydbwysedd sy’n hanfodol i’n parhad fel dynoliaeth ac i’n holl gyd-deithwyr planedol.

Ond yn ei lyfr newydd, ‘The new climate war: the fight to take back our planet’, mae’r gwyddonydd Michael E Mann yn rhybuddio na ddylwn gael ein hudo i anobaith gan amryw sy’n honni bod popeth ar ben a bod ein hymdrechion i ffrwyno Cynhesu Byd-eang yn rhy hwyr.
Ond, eto, mae Mann hefyd yn dadlau na ddylwn, ‘chwaith, gael ein twyllo gan y corfforaethau anferth llosgi nwy a glo. Mae’r cewri cyfalafol hyn wedi lansio ymgyrch sy’n honni eu bod nhw, fel diwydiannau, yn gallu glanhau gwenwyn eu gweithareddau. Ac nad oes angen ymgyrchoedd gwledydd a phobloedd i ddad-garboneiddio.
Y symbol cyfredol o hyn yw bwriad corfforaethau Siccar Point a Shell i godi olew o Faes Olew Cambo oddiar Ynysoedd Shetland. Eu dadl gwallgo’ yw bod hyn yn anghenrheidiol wrth newid o losgi tanwydd ffosil at ynni adnewyddol.
Meddyliwch, Asiantaeth Ynni’r Byd yn dweud bod digon o olew a nwy eisoes yn dod o feysydd presennol i bontio’r addasiad. Ond Siccar a Shell yn honni bod angen 150 miliwn barel ar ben hynny – sef cynnyrch blynyddol CO₂ 16 o bwerdai glo.
Dyw hi ddim yn syndod bod miloedd o bobl eisoes wedi llofnodi Deiseb newydd Cyfeillion y Ddaear. Mae’r ddeiseb yn pwyso ar Lywodraeth UK Boris Johnson i wrthod rhoi caniatad i gynllwyn barus y corfforaethau ynni ffosil hyn – gorau oll cyn Cynhadledd COP26 y bydd Llywodraeth y DG yn llywyddu drosti yn Glasgow ym mis Tachwedd (31 Hydref – 12 Tachwedd).
O ddeall y peryglon hinsawdd cynyddol, mae Michael Mann yn mynnu bod angen gweithredu egniol newydd gan gynhadledd Glasgow. Hynny gan fod gwledydd wedi bod yn ara’ deg iawn i wireddu eu haddewidion yng Nghytundeb Hinsawdd Paris 2015.
Nod Cytundeb Paris oedd ffrwyno allyriadau CO₂ er mwyn cyfyngu codiad tymheredd y Ddaear i lai nag 1.5˚C ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Ond dyw’r hyn a wnaed ddim wedi bod yn ddigonol.
Y nod am COP26, felly, yw y bydd anferthedd y bygythiadau presennol yn perswadio gwledydd i ymrwymo fel erioed o’r blaen i gael gwared ag allyriadau carbon.
Diolch bod yr Arlywydd Joe Biden a’i Ysgrifennydd Hinsawdd John Kerry yn y broses o lywio’r Unol Daleithiau i arwain y byd eto – fel y gwnaeth Barack Obama – i dorri’r carbon a gweithredu polisïau amgylcheddol achubol.
Ond mae awduron fel Michael Mann, a Naomi Klein hefyd, yn pwysleisio bod gennym i gyd ran fel dinasyddion yn y broses o wasgu ar ein gwledydd gwahanol i fabwysiadu polisiau amgylcheddol mwy grymus.
Mae lleisiau gennym i gyd. Gadewch i ni eu defnyddio i ddangos i’n gwleidyddion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ein bod fel pleidleiswyr yn gosod gwarchod yr amgylchedd blanedol ar ben ein blaenoriaethau.

Gadawn i’n lleisiau atsain, hefyd, yng nghoridorau San Steffan fel bod Johnson a’i griw yn deall bod creu cydweithredu rhyngwladol pwerus yn hanfodol yng Nghynhadledd Glasgow er mwyn achub y sefyllfa.
Danfonwn negeseuon personol. Danfonwn ddatganiadau gan ein heglwysi, grwpiau cymdeithasol, cymunedol amrywiol, yn galw am fesurau cryf i atal y broses sy’n bygwth parhad systemau cynnal bywyd ar y Ddaear.
Felly, diolch i S4C am eu rhaglenni gwych diweddar gyda gwragedd a gwŷr ifanc, galluog o fyd gwyddoniaeth a busnes yn ein goleuo, a’n rhybuddio, ar bynciau perthnasol i gynhesu byd-eang a newid hinsawdd.
Diolch, hefyd, i’r BBC am fabwysiadu’r dyn doeth David Attenborough fel eu lladmerydd pwerus i ddatgelu’r gwirionedd am ddifrifoldeb ein sefyllfa planedol – wedi’r blynyddoedd niweidiol o roi llais cyfartal i Wadwyr Newid Hinsawdd.
Yn ganolog, gadewch i bawb ohonon ni sylweddoli, bellach, mai dyfodol ein planed yw cyd-destun pob bwnc arall. Hynny yw, nid un pwnc ymhlith nifer o bynciau pwysig sy’n haeddu sylw ydyw gwarchod y Ddaear rhag y cynhesu, ond y pwnc canolog.
Ac ymgyrchwn yn Gymraeg – yn annibynnol ac nid fel cyfieithiad yn unig o ieithoedd eraill. Wedi’r cyfan, dyw dyfodol y Ddaear ddim yn bwnc ymylol i ddyfodol ein hiaith a’n diwylliant.
Ond, ’nôl at John Donne i orffen, gan gofio’i rybudd ysgytwol, ‘… Peidiwn â holi am bwy mae’r clychau’n canu: mae [nhw’n] canu amdanoch chi.’