Amdanom

‘PWY?’ A ‘BLE?’A THIPYN BACH O ‘BETH?’

HywelCharlotteAmsterdam crop

HYWEL A CHARLOTTE DAVIES – POBL ‘Y PAPUR GWYRDD’

Ebost: dhyweldavies@gmail.com

… ac mae gan Y Papur Gwyrdd dudalen ar Facebook yn ogystal

POBL sy’n cyhoeddi gwefan ecolegol sy’n galw ar bobl i drysori’r Ddaear? Rhaid eu bod yn byw mewn ty crwn o bren a chlom gyda tho gwellt, wedi’i guddio mewn cwm gwyrdd, hudolus, yng nghefn gwlad Cymru.

Ond does yr un ty yn Vicarage Road, Treforys, Abertawe,  yn ffitio i’r categori hwnnw. A dyma lle mae’n cartref ni.

Ty semi digon cyffredin sydd gennym ar ffordd brysur, stwrllyd sy’n gyswllt i fodurwyr ar hast rhwng yr A48 a Chyfnewidfa 45 yr M4. Mae astudiaeth ddiweddar o’r ardaloedd yng Nghymru sy’n dioddef o swn uchel beunyddiol yn ein gosod ymysg yr uchaf sy’n cael eu hysgwyd gan ddwndwr trafnidiol. (Gyda llaw, ni sonnir am broblemau tebyg mewn ardaloedd gyda thyrbinau gwynt.)

Teulu cyffredin, hefyd: gwr a gwraig – bellach wedi ymddeol – a’n merch, Elen Gwenllian, bellach yn byw ym Mhenllergaer . Teulu Cymraeg ei iaith. Un car, sef hybrid Honda Insight. Dau feic. Un ci. Sawl madfall yn y pwll bach sydd gennym yn yr ardd gefn.

Y gwr, Hywel, wedi byw mewn sawl ardal yng Nghymru fel plentyn i rieni o Faesteg a Llangynwyd, wedi ennill graddau prifysgol mewn gwleidyddiaeth gan ddilyn gyrfa mewn papurau newydd fel newyddiadurwr a golygydd, a theledu fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Wedi cyhoeddi un llyfr, The Welsh Nationalist Party 1925-45 A Call to Nationhood.

Y wraig, Charlotte, wedi’i chodi yn Lousville, Kentucky, wedi ennill graddau mewn mathemateg a doethuriaeth mewn anthropoleg cyn cael ei hudo i fyw yng Nghymru lle bu’n ddarlithydd prifysgol. Wedi cyhoeddi a golygu sawl llyfr, gan gynnwys Welsh Nationalism in the Twentieth Century. Cytunodd i ddod yn ddinesydd ‘Prydeinig’ wedi i’r Cymry bleidleisio dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol ym 1997.

Cewch fwy o fanylion amdanom, os oes diddordeb, wrth i ni gyfrannu eitemau i’r Wefan hon.

O ie – Sut yn y byd ddaethon ni’n ‘ecolegwyr’, ‘amgylcheddwyr’, yn bobl ‘Wyrdd’? Tua 10 mlynedd yn ol, fe sylweddolon ni (o’r diwedd) fod gwyddonwyr yn gwneud honiadau eitha’ difrifol ynghylch peryglon i’r Ddaear, honiadau – yn ein tyb ni – oedd yn haeddu sylw.

Gwnaethom ein gwaith cartref. A dyma ni.

5 responses to “Amdanom

  1. Helo – tybed os hoffech chi gael datganiadau i’r wasg oddi wrth WWF Cymru? Os felly oes cyfeiriad ebost gyda chi? Diolch.

  2. Dyma stori newyddion prosiect o’r trydan-dŵr mewn Corwen:

    Cynlluniau i sefydlu gorsaf trydan dŵr cymunedol yng Nghorwen

    Mae rhandaliadau wedi eu rhoi ar werth mewn cynllun trydan-dŵr cymunedol yng Nghorwen, fydd yn galluogi’r cyhoedd i ennill ychydig o incwm o ynni adnewyddadwy a helpu Corwen i ostwng ei allyriadau carbon hefyd.
    Mae Trydan Cydweithredol Corwen yn chwilio am fuddsoddwyr i fuddsoddi yn y prosiect cyffrous hwn, allai ddod â dros £12,000 i’r dref hon yn Sir Ddinbych fel cronfa gymunedol.
    Mae’r rhandaliadau ar werth ar hyn o bryd gyda lleiafswm buddsoddiad o £250. Mae 200,000 eisoes wedi eu gwerthu.
    Sefydlwyd y fenter gydweithredol gan Mike Paice, Glaves Roberts, Ifor Sion a Joel Scott sy’n frwdfrydig iawn dros y cynllun hwn, gan ei fod yn cyfuno lleihau carbon, cyswllt â’r gymuned, perchnogaeth leol, a buddsoddi moesegol.
    Bydd dŵr o ffrwd Nant y Pigyn sydd 500 troedfedd uwchben Corwen ac yn llifo ar gyfradd o 45 litr yr eiliad, yn rhoi pŵer i eneradur 55 kilowat sydd mewn adeilad pwrpasol yn y dref ac wedi ei gysylltu â’r grid cenedlaethol.
    Mae astudiaeth dichonolrwydd yn dangos y gallai cynllun Nant y Pigyn gynhyrchu 170,000 o oriau kilowatt o drydan y flwyddyn. Digon i roi pŵer i 30 o gartrefi.
    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi cryn dipyn o gefnogaeth i’r cynllun drwy gynnwys addasiadau hanfodol yn y cynllun lliniaru llifogydd diweddar yng Nghorwen, gan ei gwneud hi’n llawer rhatach a haws adeiladu’r cynllun trydan dŵr. Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn un o’r tri thirfeddiannwr sydd wedi cytuno i roi les i’r cynllun er mwyn cael defnyddio’u tir nhw.
    Telir y gost o £300,000 am y gwaith adeiladu, y generadur a chysylltu â’r Grid cenedlaethol drwy’r cyfranddaliadau a bydd y gwaith yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y cyfranddaliadau wedi eu gwerthu.
    Bydd tariff cyflenwi trydan y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd o incwm am 20 mlynedd wedyn.
    Dywedodd Mike Paice o Gynwyd: “Gall unrhyw un brynu cyfranddaliadau yn y cynllun ond os bydd gormodedd yn ymgeisio, yna rhoddir blaenoriaeth i fuddsoddwyr lleol.”
    Ychwanegodd Glaves Roberts: “Hoffwn weld hyn yn helpu pobl leol, gyda’r gwaith yn cynnig swyddi yma a pheth arian i’r gymuned hefyd. Mae’r holl ddŵr yma’n llifo, felly mae’n syniad da gwneud defnydd ohono.
    “Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a’u cynllun lliniaru llifogydd nhw er mwyn gwireddu hyn.
    “Mae’n beth da gweld pethau’n digwydd yn y dref – mae’r trên stêm yma erbyn hyn bellach, rydym ni ar fin meddu ar un o gynlluniau trydan dŵr cymunedol cyntaf Cymru.”
    Cychwynnwyd pethau drwy’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ddwy flynedd yn ôl a daeth yr arbenigwyr trefniadol Sharenergy, o Amwythig, draw i helpu i sefydlu menter gydweithredol ddielw yng Nghorwen.
    Mae gan y Gymdeithas wefan, http://www.corwenelectricity.org.uk, ac mae manylion y cynnig a’r ffurflenni cais ar gael ar y wefan.

  3. Tudor Williams

    Annwyl Hywel
    Diddorol oedd gwrando rhaglen Beti a’i Phobol ar eich arsylwi diddorol enwedyg or anialwch sydd wedi bodolu ar ol terfyn y diwydianau trwm . Dwi’n cydfynd fod y sefyllfa yn drist.
    Mae gogledd Almaen yn rhoi cymorth I lefydd a phoblogaidd anghysbell tu fas I’r parth dywyllianol wrth rhoi ysbrydoliaeth , hwyl a gobaith wrth agor canolfanau gwych tebyg I Centre Parks sydd ar agor drwy r flwyddyn. Mae lle ‘top class’ fel Nordsee Kuster, sydd a phob math o adnoddasu yn denu pobol o bob cyfeiriad . Rhai yn teithio dros awr yn y car I gael profiad ymlacio gwych (fel pobol Bremen). Ac hefyd nid I’w ddrud. Mae digon o ynni gwyrdd ar dop y cymoedd I cadw y prisi I lawr, a gwneud yn sicr bod yna digon yn ei defnyddio. O’r cnewyllyn hwn y gobaith yw datblygiad a denu cyfleodd i’r ardal
    Yn ddiffuant
    Tudor Williams

  4. Tudor Williams

    maddeuwch i mi am y camgymeriad
    am diwylliant yn lle diwydiant

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .