NID un i ofyn cwestiynau llipa mo’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a diolch am hynny – yn enwedig yn sesiynau agored, cysglyd ein Cynulliad Cenedlaethol. Wrth holi’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, ar ddydd Mercher, Ebrill 2, daeth Dafydd a chwa nerthol o gynhesu byd-eang a newid hinsawdd ynghyd i gynhyrfu’r neuadd. Cyfeirio oedd e at fethiant cymaint yn ein mysg i ymateb yn gall i dystiolaeth gwyddonwyr ledled y byd ynghylch ein difrod i systemau naturiol ein hunig blaned. Dyma oedd eu cwestiwn (darllennwch yn gynyddol ddramatig, wrth gwrs):
‘A fyddai’r Gweinidog addysg yn cytuno bod dealltwriaeth o wyddoniaeth amgylcheddol a gwyddoniaeth byd natur yn hanfodol nid yn unig i ddatblygu’r economi a swyddi, ond i ddatblygu dealltwriaeth ddemocrataidd, oherwydd bod cymaint o’r penderfyniadau anodd yr ydym yn gorfod eu hwynebu y dyddiau hyn ynglŷn â newid hinsawdd a materion eraill yn dibynnu ar barodrwydd i wrando ar wyddoniaeth sylfaenol, a bod gwrthwynebiad i lawer o ynni adnewyddadwy yn codi allan o ddiffyg dealltwriaeth o wyddoniaeth sylfaenol natur ar y ddaear?’
Diolch iddo am arwain ar bwnc peryglon newid hinsawdd yn ein Cynulliad. Dyma oedd ateb cefnogol Huw Lewis, yn cyfeirio, fel Dafydd, at gyflwr meddwl y Gwadwyr Newid Hinsawdd sy’n ein gwthio mor ddi-feddwl at ymyl y dibyn amgylcheddol:
‘Of course, I would agree. I think a basic level of scientific literacy, if you like, is a basic requirement for any informed citizen in a democratic polity. It is all too easy for the wool to be pulled over people’s eyes if they do not have that basic understanding of what constitutes proper scientific evidence. Therefore, their judgment is necessarily impaired if they are not able to distinguish between arguments that are based on evidence and those that are not.’