Monthly Archives: Chwefror 2014

Tystiolaeth y gwyddonwyr hinsawdd

MAE sefydliadau gwyddonol aruchel y Royal Society yn y DG a’r National Academy of Sciences yn yr UD wedi cyhoeddi adroddiad arbennig ar y cyd heddiw ar Newid Hinsawdd – Tystiolaeth ac Achosion. Mae’r cwestiynau a’r amheuon yn cael eu hateb ar yr hyn y cyfeirir ati fel pwnc mwyaf diffiniol ein cyfnod. Mae’r rhybuddion a’r bygythiadau yn gwbl glir. Mae modd gweld a chopio’r cyfan. Ewch at hyn ni weld drostoch eich hunan, a rhowch y gair ar led:

http://royalsociety.org/policy/projects/climate-evidence-causes/

Newid hinsawdd – yma, nawr

DA iawn Duncan Brown yn Golwg am feiddio â chyfeirio at y ffaith ein bod yn wynebu ‘armagedon hinsoddol’ (Llythyrau, Chwefror 13).

Mae amgylcheddwyr yn cael eu cynghori i beidio â defnyddio disgrifiadau brawychus fel yna. Y ddadl yw eu bod yn rhoi cyfle i wleidyddion wneud hwyl am ben ‘Green alarmism’ wrth iddynt gyfiawnhau llosgi mwy o garbon ac atal ynni adnewyddol – fel un cynghorydd arbennig sydd gyda ni yma yn Abertawe.

Ond ers wythnosau mae stormydd enbyd wedi dangos cywirdeb y ‘Green alarmism’ hwn, ac nid ym mhellafoedd byd ond yma yng Nghymru a gweddill Ynys Prydain. Fel dywedodd yr Arglwydd Nicholas Stern (Llywydd yr Academi  Brydeinig) yn y Guardian, ‘Mae Newid Hinsawdd yma nawr’! (Chwefror 14)

Ac mae Duncan yn iawn i ddweud, ‘Atom ni – chi a fi – fydd y bys yn pwyntio gyntaf’ os na wnawn bwyso ar wleidyddion i geisio ffrwyno’r ‘armagedon’ trwy dorri ar allyriadau carbon.

Gobeithio y bydd gwleidyddion ein Senedd Gymreig yn sefyll yn gadarn yn hynny o beth. Ar Radio Cymru’r wythnos hon clywais un o swyddogion y diwydiant adeiladu yn cwyno’u bod nhw’n cael eu dal yn ôl am fod rheoliadau amgylcheddol Cymru ar adeiladau newydd yn gryfach na rhai Lloegr.

Ond nid galw am gryfhau rheoliadau Lloegr oedd e. O na! Mynnu y dylid gwanhau’r rheoliadau Cymreig – hynny yw, y rheoliadau sy’n cyfyngu’n fwy effeithiol ar allyriadau carbon er mwyn atal cynhesu byd-eang. A hyn er bod llifogydd erchyll yn dal i ddistrywio bywydau miloedd o bobl yn Lloegr.

Dyna’r math o ffolineb sydd i’w glywed gan ddiwydianwyr sy’n meddwl  am elw uwchlaw pob dim arall.

Diolch byth bod yr hen dywysog glofaol Tyrone O’Sullivan OBE yn cynnig llygedyn o oleuni. Er ei fod yn llywyddu dros safle glo brig dinistriol ar lethrau hyfryd Hirwaun, mae wedi datgan ei fod yn cefnogi creu morlyn ym Mae Abertawe i gynhyrchu trydan adnewyddol di-garbon o’r llanw a thrai.

Ydy, mae Tyrone y Tŵr o blaid ynni Gwyrdd.

Hyfryd cyflwyno newyddion da – gan obeithio y bydd cynadleddau Gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol yn dangos bod hwythau, hefyd, yn rhannu’r un weledigaeth.

Wedi’r cyfan, mae’n hen bryd i ynni adnewyddol, di-garbon, amrywiol ddod yn ôl i ganol y llwyfan ar ôl cael eu chwythu o’r golwg ers cyhyd gan y gwrth-dyrbinwyr gwynt. Hwb i’r cyfeiriad iawn yw cael ein hatgoffa o ‘armagedon.’ [HYWEL]

BBC yn hybu’r Gwadwyr

HEDDIW, ar raglen Radio 4 ‘Today’, fe gawson ni enghraifft glasurol gan y BBC yn Llundain o sut i beidio â chyflwyno ‘trafodaeth’ gall am y perthynas rhwng newid hinsawdd a’r tywydd eithafol presennol.

Roeddent wedi gwahodd y gwyddonydd blaenllaw Syr Brian Hoskins i’r stiwdio i daflu goleuni ar y patrymau o dywydd peryglus sy’n ergydio’n byd mor aml bellach a, hefyd, ar y codiadau yn lefelau’r môr sy’n fygythiad i drefi a dinasoedd arfordirol. Popeth yn iawn.

Ond roeddent hefyd wedi sicrhau bod y Gwadwr Newid Hinsawdd dylanwadol, y cyn-Ganghellor Torïaidd Nigel Lawson, yn cael bod yn y stiwdio i danseilio popeth roedd gan Brian Hoskins i’w ddweud.

Byddai’r BBC yn mynnu mai newyddiaduraeth gytbwys oedd hynny.

O, ie? Sef person o awdurdod a phrofiad fel gwyddonydd newid hinsawdd, sef Syr Brian Hoskins, yn cael ei wynebu gan berson arall sy’n gwadu’r cyfan o wyddoniaeth newid hinsawdd, er ei fod heb gefndir gwyddonol o gwbl ei hun, sef Nigel Lawson.

Nid cydbwysedd newyddiadurol oedd hynny. Methiant llwyr ydoedd fel newyddiaduraeth. Methiant i adlewyrchu’n gywir y consensws mawr ymhlith gwyddonwyr bod newid hinsawdd bygythiol yn digwydd a’i bod yn deillio i raddau helaeth o’r cynnydd yn y carbon sy’n cael ei wthio i’r atmosffer gan ein gwareiddiad modern.

Nod y Global Warming Policy Foundation y mae Nigel Lawson yn llais pwerus iddo yw hau amheuon ymhlith y cyhoedd ynglŷn ag achosion newid hinsawdd. A’u nod penodol yw sicrhau rhwydd hynt i’r diwydiannau ynni carbon barhau i elwa, beth bynnag yw’r canlyniadau i filoedd a miliynau o bobl gyffredin.

A heddiw, eto, bu’r BBC yn Llundain yn cynnal y diwydiannau hynny, gan ildio i’w lobïwyr. Ac mae’r stormydd enbyd yn parhau.

►Am ddadlenniad ysgytwol o’r cryn bychan sydd wedi bod yn codi ymheuon ym meddyliau’r cyhoedd ynglyn â rhybuddion gwyddonol ers degawdau, ewch at Merchants of Doubt gan Naomi Oreskes & Erik M.Conway (Bloomsbury 2010). [HYWEL]

Nofel am newid hinsawdd

YN ystod y cyfnod diweddaraf o law trwm, gwyntoedd uchel, stormydd cryf, a llifogydd, rydw i wedi bod yn darllen llyfr o’r enw Flight Behavior, nofel newydd gan yr Americanes Barbara Kingsolver.

Mae Kingsolver eisoes ymysg y mawrion fel nofelydd cyfoes, wrth gwrs. Ond rhaid imi gyfaddef imi gael fy nenu ati’n gychwynnol wedi sylwi ei bod yn hanu o Kentucky, fel fi fy hun, ac o ardal enedigol fy mam yn arbennig, sef Nicholas County.

Mae’r tywydd yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain ar hyn o bryd yn dilyn y patrwm y mae gwyddonwyr wedi’i ragweld fel canlyniad tebygol i newid hinsawdd. A dyma thema Flight Behavior.

Yn y nofel fachog newydd hon, mae menyw ifanc sy’n ffermwraig ym mynyddoedd Tennessee, yn dod at gydnabyddiaeth o’r peryglon i’n planed trwy brofi tywydd anghyffredin o wlyb a thymheredd uwch na’r normal yn y gaeaf, tebyg i’r hyn rydyn ni’n ei ddioddef. Ac mae hi hefyd yn dod wyneb-yn-wyneb gyda digwyddiad dramatig arall ym myd natur, sef ymateb un rhywogaeth o ieir-bach-yr-haf i ganlyniadau newid hinsawdd.

Roedd Barbara Kingsolver wedi astudio bioleg cyn troi at ysgrifennu. Mae hi’n siarad yn gryf yn gyhoeddus ar effeithiau cynhesu byd eang, gan rybuddio ein bod yn codi’n plant gyda’r celwydd bod eu ffordd o fyw yn gallu parhau. Mae’n mynnu bod rhaid i ni ddianc ‘rhag ffwlbri gwyllt ein dibyniaeth ar danwydd carbon’ (gweler Y Papur Gwyrdd 10, Chwefror/Mawrth 2009, tud 9, am gyfeiriad at araith ganddi ar y pwnc hwn).

Rydw i’n edrych ymlaen at ddarganfod pa awgrymiadau a welir erbyn diwedd Flight Behavior – ai i fod yn obeithiol, ai peidio. Felly, efallai fe wna i gyfeirio at y llyfr eto. Ond, peidiwch â becso, rwy’n addo peidio â datgelu’r stori! [CHARLOTTE]

Nofel am effeithiau newid hinsawdd

Nofel am effeithiau newid hinsawdd

Campws Caniwt neu Campws Cynffig?

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

Tonnau mawr o stormydd a llanw uchel Ionawr 2014 wedi torri mewn i dwyni tywod ar draeth Abertawe

BORE heddiw, aeth Charlotte a minnau ar y bws Metro – y ‘bendy bus’ ar lafar – o Gwmrhydyceirw i gampws Prifysgol Abertawe gan ddilyn ffordd y môr. Cymryd llyfr yn ôl i lyfrgell y Brifysgol oedd Charlotte – fel darlithydd wedi ymddeol – llyfr oedd yn cynnig hyfforddiant ar y technegau cyfrifiadurol sydd angen arnom i wella’r Wefan / Blog hon.

Yna, nôl a ni i ganol Abertawe i godi copi o’r un llyfr yn siop Waterstone’s. Roedden ni wedi’i archebu ganddyn nhw ar ôl sylweddoli maint y dasg o’n blaen!

Ond nid y llyfr, na’r angen i wella Gwefan newydd Y Papur Gwyrdd yw pwnc y neges hon. Ond beth welsom yn ystod ein taith ar y Metro, a’r goblygiadau am brosiect adeiladu enfawr academaidd sydd ar gerdded yn lleol.

Yr hyn oedd yn ein synnu, ac nid am y tro cyntaf dros y misoedd diwethaf, oedd gweld cymaint o dywod a daflwyd o’r traeth gan y tonnau yn ystod deuddydd o dywydd garw – tu hwnt i’r promenade i brif ffordd Heol Ystumllwynarth a thu hwnt i’r heol hefyd. Roedd Jaciau Codi Baw bach wrthi eto gyda’r gwaith clirio.

Fel cerddwyr rheolaidd ar draeth hyfryd Bae Abertawe, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol wrth i rym y môr a’r llanw erydu twyni tywod a gwthio yn erbyn pier Afon Tawe. Mae’r môr yn benderfynol o adennill ei thiriogaeth. Ac mae ardaloedd canol Abertawe yn amlwg o dan fygythiad.

Ychydig yn ôl yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd (tud 3, rhifyn 23, Ebrill / Mai 2011), roeddem wedi cwestiynu doethineb Prifysgol Abertawe a’u cynllun i godi campws newydd £450 miliwn ar lan y môr rhwng dociau Abertawe ac aber Afon Nedd ar hen safle olew BP.

Roeddem yn tynnu sylw at rybuddion adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree ynglŷn ag effaith debygol newid hinsawdd ar ardaloedd arfordirol Prydain. Cyfeiriodd yr adroddiad yn arbennig at arfordir De Cymru fel un o’r rhai oedd ymysg y mwyaf tebygol i ddioddef o ganlyniad i stormydd ffyrnicach a chodiadau yn lefel y môr erbyn 2050-2080 (sef cyfnod yr astudiaeth).

Roeddem hefyd wedi nodi’r ffaith bod cynllunwyr y Brifysgol yn ymwybodol o’r perygl. Roeddynt yn mynnu y byddan nhw’n codi’r safle 0.5 – 1.5m yn uwch i leiafswm o 7m o uchder ledled y safle – ‘ac felly,’ meddai’r cynllunwyr, ‘uwchlaw’r lefelau llif arfordirol a ragwelir’.

Ni fu ymateb i’n herthygl oedd yn gofyn pa mor gall fyddai codi prosiect mor fawr ar lan y môr yn wyneb cymaint o rybuddion. Ac nid oes trafod pellach wedi bod ar y pwnc, i ni wybod amdano. Ond bellach, a phawb yn profi pŵer y stormydd a’r llanw, rydym yn dechrau clywed cyfeiriadau yn lled fynych at y prosiect hwn fel un sydd fel petai’n herio’r môr.

Ac nid yn unig yn herio, ond yn brolio.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prifysgol Abertawe lun o’r awyr yn dangos twf y campws ‘Gwyddoniaeth ac Arloesedd’ wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen. Bydd myfyrwyr ar y campws erbyn 2015. Bydd 12,000 o swyddi llawn amser erbyn 2020 o ganlyniad. A dyma fydd un o’r ychydig safleoedd prifysgol ledled y byd i fod â promenade a thraeth.

Nid rhywbeth i’w amau gan neb fu natur na pwysigrwydd y prosiect hwn. Ond bu’r brolio diweddar yn ormod i o leiaf un o ddarllenwyr papur dyddiol lleol Abertawe, sef yr Evening Post. Cyhoeddodd y Post yr e-sylw hwn gan berson gyda’r ffug enw Boswine: “I hope there are some good flood defences planned for this development or the students better bring their scuba diving kits with them to uni” (Evening Post, Rhagfyr 28, 2013).

Ac, yn sŵn y gwyntoedd a’r tonnau, nid peth anghyffredin bellach yw clywed cwestiynu tawel am ‘godi tŷ ar y tywod’.

A beth am enw i’r campws? Awgrym poblogaidd yw Campws Alfred Russell Wallace, ar ôl y damcaniaethwr esblygiad oedd â chysylltiadau lleol. Enw campus i’r campws. Ond a fydd y dyfodol yn dangos y byddai Campws Coleg Caniwt wedi bod yn fwy priodol? Neu Campws Cynffig ar ôl y dref gyfagos a ddiflannodd dan y twyni tywod yn y canol oesoedd?

Beth sy’n siŵr o fod yn wir ynghanol y stormydd cyfredol yw nad yw cynllunwyr y campws yn cysgu cweit mor dawel yn eu gwelyau.

A ddaw Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe yn enghraifft glasurol o brosiect a gymerodd ormod yn ganiataol am allu dynol, tra’n talu rhy ychydig o barch i gryfder systemau naturiol? Trafodwch!