DA iawn Duncan Brown yn Golwg am feiddio â chyfeirio at y ffaith ein bod yn wynebu ‘armagedon hinsoddol’ (Llythyrau, Chwefror 13).
Mae amgylcheddwyr yn cael eu cynghori i beidio â defnyddio disgrifiadau brawychus fel yna. Y ddadl yw eu bod yn rhoi cyfle i wleidyddion wneud hwyl am ben ‘Green alarmism’ wrth iddynt gyfiawnhau llosgi mwy o garbon ac atal ynni adnewyddol – fel un cynghorydd arbennig sydd gyda ni yma yn Abertawe.
Ond ers wythnosau mae stormydd enbyd wedi dangos cywirdeb y ‘Green alarmism’ hwn, ac nid ym mhellafoedd byd ond yma yng Nghymru a gweddill Ynys Prydain. Fel dywedodd yr Arglwydd Nicholas Stern (Llywydd yr Academi Brydeinig) yn y Guardian, ‘Mae Newid Hinsawdd yma nawr’! (Chwefror 14)
Ac mae Duncan yn iawn i ddweud, ‘Atom ni – chi a fi – fydd y bys yn pwyntio gyntaf’ os na wnawn bwyso ar wleidyddion i geisio ffrwyno’r ‘armagedon’ trwy dorri ar allyriadau carbon.
Gobeithio y bydd gwleidyddion ein Senedd Gymreig yn sefyll yn gadarn yn hynny o beth. Ar Radio Cymru’r wythnos hon clywais un o swyddogion y diwydiant adeiladu yn cwyno’u bod nhw’n cael eu dal yn ôl am fod rheoliadau amgylcheddol Cymru ar adeiladau newydd yn gryfach na rhai Lloegr.
Ond nid galw am gryfhau rheoliadau Lloegr oedd e. O na! Mynnu y dylid gwanhau’r rheoliadau Cymreig – hynny yw, y rheoliadau sy’n cyfyngu’n fwy effeithiol ar allyriadau carbon er mwyn atal cynhesu byd-eang. A hyn er bod llifogydd erchyll yn dal i ddistrywio bywydau miloedd o bobl yn Lloegr.
Dyna’r math o ffolineb sydd i’w glywed gan ddiwydianwyr sy’n meddwl am elw uwchlaw pob dim arall.
Diolch byth bod yr hen dywysog glofaol Tyrone O’Sullivan OBE yn cynnig llygedyn o oleuni. Er ei fod yn llywyddu dros safle glo brig dinistriol ar lethrau hyfryd Hirwaun, mae wedi datgan ei fod yn cefnogi creu morlyn ym Mae Abertawe i gynhyrchu trydan adnewyddol di-garbon o’r llanw a thrai.
Ydy, mae Tyrone y Tŵr o blaid ynni Gwyrdd.
Hyfryd cyflwyno newyddion da – gan obeithio y bydd cynadleddau Gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol yn dangos bod hwythau, hefyd, yn rhannu’r un weledigaeth.
Wedi’r cyfan, mae’n hen bryd i ynni adnewyddol, di-garbon, amrywiol ddod yn ôl i ganol y llwyfan ar ôl cael eu chwythu o’r golwg ers cyhyd gan y gwrth-dyrbinwyr gwynt. Hwb i’r cyfeiriad iawn yw cael ein hatgoffa o ‘armagedon.’ [HYWEL]