DIOLCH i’r Cenhedloedd Unedig am y Gynhadledd Newid Hinsawdd sy’n cychwyn yn ninas Bonn yn yr Almaen heddiw – er yn gynhadledd gyda gwacter maint eliffant yn yr ystafell oherwydd absenoldeb yr Arlywydd Donald J Trump sy’n gwadu newid hinsawdd.
Dyma gyfarfod ar bwnc anferth o bwysig sy’n ein hatgoffa o’r cyd-destun hinsawdd i’r cyfan o’n bywydau – gan gynnwys i’r gwallgofrwydd gwleidyddol sy’n cynnal rhyfeloedd ledled y Ddaear ar hyn o bryd gan chwalu bywydau miliynau o deuluoedd.
Ond, er bydd swyddogion llywodraeth America yn dal yn bresennol ar ymylon y gynhadledd, bydd gwrthwynebiad Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhwym o effeithio ar ymateb rhai gwledydd. Gobeithio nid gormod.

Ar ddydd cyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd Bonn, Patricia Espinosa ar flaen criw o feicwyr ar ran COP23 gyda chynrychiolwyr yr Almaen a Fiji ar bob ochr iddi.
Nod y gynhadledd yw sicrhau gwireddu ar frys addewidion y 169 o lywodraethau – gan gynnwys yr Unol Daleithiau dan arweiniad goleuedig y cyn-Arlywydd Barack Obama – sydd wedi llofnodi Cytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Addawodd y llywodraethau fynd ati i gyfyngu ar yr allyriadau CO2 sy’n codi trwy weithgarwch dynol i’r atmosffer er mwyn ffrwyno cynhesu byd-eang.
Os na lwyddir gyda’r nod honno, does dim amheuaeth ymysg gwyddonwyr y bydd miliynau mwy o bobl yn dioddef. Heb ots am na gwlad na diwylliant na hil na chrefydd na chryfder lluoedd arfog, mae hynny’n rhwym o ddigwydd wrth i ganlyniadau enbyd newid hinsawdd ehangu ar garlam ar draws ein planed (ond gyda’r cyfoethog yn amddiffyn eu hunain, bid siwr).
Wrth agor y gynhadledd heddiw, roedd Ysgrifennydd Gweithredol y Gynhadledd, Patricia Espinosa wedi atgoffa pawb o ba mor dyngedfennol yw hi fod llywodraethau’r byd yn gweithredu ar frys:
“Dyma’r 23ain Cynhadledd COP,” meddai, “ond dydyn ni erioed wedi cwrdd gydag ymdeimlad mor gryf o argyfwng. Mae miliynau o bobl o gwmpas y byd wedi diodde – ac yn dal i ddioddef – yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol.
“Rydym yn tosturio wrthyn nhw, am eu teuluoedd, a’u dioddefaint.
“Ond y gwir yw mai efallai dim ond y cychwyn yw hwn – rhagflas o’r hyn sydd i ddod.
“Fel dywedodd Asiantaeth Meteoroleg y Byd ond ychydig ddyddiau yn ôl, mae’n debyg y bydd 2017 ymysg y tair blynedd poethaf i’w chofnodi.”
Roedd cyfeiriad Patricia Espinosa at adroddiad gwyddonwyr y WMO yn adlewyrchu cymaint o fraw sydd ymysg doethion y byd ar bwnc newid hinsawdd bellach.
Datgelodd y WMO mai 2016 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi, gyda lefel y CO2 yn yr atmosffer wedi codi i bwynt uchel newydd yn dilyn cynnydd oedd yn 50% yn fwy na chyfartaledd y 10 mlynedd diwethaf. Ar 403 darn y filiwn, mae CO2 yn yr awyr ar y lefel uchaf ers cyfnod y Pliocene, 3-5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd lefel y môr hyd at 20 medr yn uwch na heddiw. (Ac mae presenoldeb mwy o nwy methan yn yr atmosffer yn ffactor fwy peryglus eto fel nwy tŷ gwydr.) Parhau i ddarllen