Holl-bwysigrwydd Bonn – er absenoldeb y Gwadwr Newid Hinsawdd Trump

DIOLCH  i’r Cenhedloedd Unedig am y Gynhadledd Newid Hinsawdd sy’n cychwyn yn ninas Bonn yn yr Almaen heddiw – er yn gynhadledd gyda gwacter maint eliffant yn yr ystafell oherwydd absenoldeb yr Arlywydd Donald J Trump sy’n gwadu newid hinsawdd.

Dyma gyfarfod ar bwnc anferth o bwysig sy’n ein hatgoffa o’r cyd-destun hinsawdd i’r cyfan o’n bywydau – gan gynnwys i’r gwallgofrwydd gwleidyddol  sy’n cynnal rhyfeloedd ledled y Ddaear ar hyn o bryd gan chwalu bywydau miliynau o deuluoedd.

Ond, er bydd swyddogion llywodraeth America yn dal yn bresennol ar  ymylon y gynhadledd, bydd gwrthwynebiad Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhwym o effeithio ar ymateb rhai gwledydd. Gobeithio nid gormod.

Ar ddydd cyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd Bonn, Patricia Espinosa ar flaen criw o feicwyr ar ran COP23 gyda chynrychiolwyr yr Almaen a Fiji ar bob ochr iddi.

Nod y gynhadledd yw sicrhau gwireddu ar frys addewidion y 169 o lywodraethau – gan gynnwys yr Unol Daleithiau dan arweiniad goleuedig y cyn-Arlywydd Barack Obama – sydd wedi llofnodi Cytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015. Addawodd y llywodraethau fynd ati i gyfyngu ar yr allyriadau CO2 sy’n codi trwy weithgarwch dynol i’r atmosffer er mwyn ffrwyno cynhesu byd-eang.

Os na lwyddir gyda’r nod honno, does dim amheuaeth ymysg gwyddonwyr y bydd miliynau mwy o bobl yn dioddef. Heb ots am na gwlad na diwylliant na hil na chrefydd na chryfder lluoedd arfog, mae hynny’n rhwym o ddigwydd wrth i  ganlyniadau enbyd newid hinsawdd ehangu ar garlam ar draws ein planed (ond gyda’r cyfoethog yn amddiffyn eu hunain, bid siwr).

Pobl ifanc yn cefnogi’r ymdrechion i warchod y Ddaear trwy Gynhadledd Bonn.

Wrth agor y gynhadledd heddiw, roedd Ysgrifennydd Gweithredol y Gynhadledd, Patricia Espinosa wedi atgoffa pawb o ba mor dyngedfennol yw hi fod llywodraethau’r byd yn gweithredu ar frys:

“Dyma’r 23ain Cynhadledd COP,” meddai, “ond dydyn ni erioed wedi cwrdd gydag ymdeimlad mor gryf o argyfwng. Mae miliynau o bobl o gwmpas y byd wedi diodde – ac yn dal i ddioddef – yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol.

“Rydym yn tosturio wrthyn nhw, am eu teuluoedd, a’u dioddefaint.

“Ond y gwir yw mai efallai dim ond y cychwyn yw hwn – rhagflas o’r hyn sydd i ddod.

“Fel dywedodd Asiantaeth Meteoroleg y Byd ond ychydig ddyddiau yn ôl, mae’n debyg y bydd 2017 ymysg y tair blynedd poethaf i’w chofnodi.”

Roedd cyfeiriad Patricia Espinosa at adroddiad gwyddonwyr y WMO yn adlewyrchu cymaint o fraw sydd ymysg doethion y byd ar bwnc newid hinsawdd bellach.

Datgelodd y WMO mai 2016 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi, gyda lefel y CO2 yn yr atmosffer wedi codi i bwynt uchel newydd yn dilyn cynnydd oedd yn 50% yn fwy na chyfartaledd y 10 mlynedd diwethaf. Ar 403 darn y filiwn, mae CO2 yn yr awyr ar y lefel uchaf ers cyfnod y Pliocene, 3-5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd lefel y môr hyd at 20 medr yn uwch na heddiw. (Ac mae presenoldeb mwy o nwy methan yn yr atmosffer yn ffactor fwy peryglus eto fel nwy tŷ gwydr.)

Asesiad brawychus y WMO oedd bod hyn yn golygu ei bod yn annhebyg, bellach, y gallwn gyrraedd targed ffrwyno cynhesu byd-eang Paris.

Meddai pennaeth y WMO, Petteri Taalas: “Heb doriadau cyflym mewn CO2 ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill, byddwn yn cyrraedd at godiadau tymheredd peryglus … ymhell y tu hwnt i’r targed a osodwyd gan gytundeb newid hinsawdd Paris.”

Trwy Gynhadledd Bonn, y gobaith yw y bydd llywodraethau’n gwireddu addewidion i ymroi’n llwyr i dorri ar eu hallyriadau, er absenoldeb yr Unol Daleithiau. Heb hynny, bydd ffrwyno tymheredd y byd i godiad llai na 2°C (o gymharu â dechrau’r Oes Ddiwydiannol), sef nod Paris, yn annhebyg, gyda chodiad o 3°C yn bosibl, gyda’r holl beryglon ddaw gyda hynny.

  • Da clywed bod grŵp o swyddogion nifer o daleithiau a dinasoedd Americanaidd yn Bonn. Maen nhw yno i ddatgan eu bwriad i fwrw ‘mlaen i dorri carbon yn unol a Chytundeb Paris, yn groes i farn eu Harlywydd. Diolch amdanynt.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .