Tag Archives: Unol Daleithiau

Pa obaith i’r Ddaear yn 2017? – Blwyddyn ffolineb enfawr Trump a Brexit

MAE’R rhan fwyaf o’r bobl y cyfeirir atynt fel ‘amgylcheddwyr’ yn bobl optimistaidd. Rydym yn credu bod modd gwarchod y Ddaear rhag y difrod mae dynoliaeth yn ei achosi iddi. Dywedwn ‘y mwyafrif’, gan fod lleiafrif o amgylcheddwyr o’r farn nad yw hynny’n bosibl bellach, o ganlyniad i wadu ac oedi.

Fel arfer ar gychwyn blwyddyn newydd mae ’na deimlad cyffredin o obaith y bydd yr hyn a brofwn yn y misoedd sydd i ddod yn well na’r hyn a gawsom, y bydd yr hyn a wnawn yn well na’r hyn a wnaethom, ac y bydd pethau’n parhau i wella.

Pennaeth ExxonMobil Rex Tillerson yn cwrdd ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Pennaeth ExxonMobil Rex Tillerson yn cwrdd ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin. Llun: premier.gov.ru/WikipediaCommons

Ond nid felly gyda 2017. Rydym yn cyfaddef ein bod yn mentro i’r flwyddyn newydd hon gan deimlo’n ofidus am yr hyn a fydd. Nid adlewyrchiad yw hynny o newid yn ein cred sylfaenol bod modd gweithredu i ffrwyno canlyniadau gwaethaf cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Ond bod Brexit a Trump yn ffolineb anferth a bygythiol fydd yn dwysau’r holl broblemau astrys, amrywiol sy’n ein hwynebu.

Er mor bizarre fydd gweld Donald J. Trump yn cael ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae ei benodiadau i’w brif swyddi llywodraethol eisoes wedi achosi syfrdan i lawer gan gael ei ddisgrifio fel “a cabinet of billionaires” gan y Seneddwr sosialaidd Bernie Sanders o Vermont. I amgylcheddwyr yn benodol, y dewisiad mwyaf syfrdanol gan Trump oedd cyflwyno Rex Tillerson, prif weithredwr corfforaeth olew ExxonMobil, i fod yn Ysgrifennydd Gwladol y wlad.

Fel pennaeth, bu Tillerson yn parhau â pholisi Exxon o wadu bodolaeth cynhesu byd-eang am flynyddoedd, gan guddio ymchwil mewnol oedd yn dangos bod y gorfforaeth yn gwybod bod y blaned yn cynhesu.

O ganlyniad, mae Tillerson – ‘Ysgrifennydd Tramor’ nesaf America – yn wynebu cyhuddiadau cyfreithiol gan awdurdodau taleithiol Massachusetts ac Efrog Newydd. Mae llys ym Massachusetts wedi gorchymyn ExxonMobil i gydweithredu ag ymchwiliad Twrne Cyffredinol y dalaith. Y nod yw darganfod a oedd y cwmni olew yn gwybod am effaith llosgi tanwyddau ffosil ar newid hinsawdd, ac wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd a buddsoddwyr i guddio hynny. Parhau i ddarllen

Rhybudd Obama: Gallwn fod yn rhy hwyr gyda Newid Hinsawdd

“DYMA un o’r pynciau prin hynny sy’n golygu, oherwydd ei feintioli, oherwydd ei ehangder, os nad ydym yn ei gael yn iawn, efallai na fyddwn yn gallu ei droi ’nôl. A fyddwn ni ddim yn gallu addasu’n ddigonol. Mae’r fath beth â bod yn rhy hwyr pan ddaw hi i Newid Hinsawdd.”

Yr Arlywydd Barack Obama: "Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd."

Yr Arlywydd Barack Obama: “Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd.”

Dyna rybudd iasoer yr Arlywydd Barack Obama wrth gyhoeddi cynlluniau newydd i gwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannau ynni yr Unol Daleithiau.

Cyfeirio oedd Arlywydd Obama at y ffaith bod llawer o wyddonwyr yn ofni mai Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis – fis Rhagfyr nesaf – fydd y cyfle olaf i wledydd weithredu o ddifrif i ffrwyno cyfraniad dynoliaeth at y prosesau sy’n cynhesu’r Ddaear mor beryglus.

Rhybudd gwyddonwyr ers hir amser yw bod rhaid cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd atmosffer y Ddaear – i lai na 2˚C o gymharu a lefelau cyn-ddiwydiannol.

Os gadawn i’r cynydd fynd yn uwch na 2˚C, yr ofn yw y bydd systemau naturiol y blaned yn troi’n anghyfeillgar iawn i ddynoliaeth. Mae cylchgrawn New Scientist am fis Awst yn dangos bod 4 allan o’r 5 prif astudiaethau arbennigol yn dangos ein bod eisoes wedi cyrraedd 1˚C yn uwch na’r ffigwr cyn-ddiwydiannol hwnnw (tua 1850-1899).

Mae’r disgwyl y bydd El Nino newydd y Môr Tawel yn profi’n anarferol o gryf eleni yn rheswm arall i gredu y bydd cynhesu’r Ddaear yn cyflymu. Disgwylir mai 2015 fydd y flwyddyn boethaf ers dechrau’r cyfnod diwydiannol (gan chwalu unwaith ac am byth yr honiadau dwl y daeth ‘Newid Hinsawdd i ben ym 1998’!).

Wrth baratoi at Gynhadledd Paris, felly, mae’r Arlywydd Obama wedi datgan ei fod am weld allyriadau nwyon tŷ gwydr yr Unol Daleithiau yn disgyn gan 32% erbyn 2030, o gymharu a lefelau 2005. Byddai hynny’n golygu cau cannoedd o bwerdai trydan sy’n llosgi glo a llawer iawn o byllau glo.

Yn naturiol, mae diwydiant glo America – a’u lobïwyr gwleidyddol – yn gandryll o wrthwynebus i’r cynllun. Felly, hefyd, ymgeiswyr Arlywyddol y Gweriniaethwyr sy’n gwadu newid hinsawdd. Beth bynnag am stormydd newid hinsawdd, mae America’n wynebu stormydd gwleidyddol chwerw iawn yn ôl patrwm cyfoes y wlad honno. Parhau i ddarllen