“DYMA un o’r pynciau prin hynny sy’n golygu, oherwydd ei feintioli, oherwydd ei ehangder, os nad ydym yn ei gael yn iawn, efallai na fyddwn yn gallu ei droi ’nôl. A fyddwn ni ddim yn gallu addasu’n ddigonol. Mae’r fath beth â bod yn rhy hwyr pan ddaw hi i Newid Hinsawdd.”
Dyna rybudd iasoer yr Arlywydd Barack Obama wrth gyhoeddi cynlluniau newydd i gwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannau ynni yr Unol Daleithiau.
Cyfeirio oedd Arlywydd Obama at y ffaith bod llawer o wyddonwyr yn ofni mai Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis – fis Rhagfyr nesaf – fydd y cyfle olaf i wledydd weithredu o ddifrif i ffrwyno cyfraniad dynoliaeth at y prosesau sy’n cynhesu’r Ddaear mor beryglus.
Rhybudd gwyddonwyr ers hir amser yw bod rhaid cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd atmosffer y Ddaear – i lai na 2˚C o gymharu a lefelau cyn-ddiwydiannol.
Os gadawn i’r cynydd fynd yn uwch na 2˚C, yr ofn yw y bydd systemau naturiol y blaned yn troi’n anghyfeillgar iawn i ddynoliaeth. Mae cylchgrawn New Scientist am fis Awst yn dangos bod 4 allan o’r 5 prif astudiaethau arbennigol yn dangos ein bod eisoes wedi cyrraedd 1˚C yn uwch na’r ffigwr cyn-ddiwydiannol hwnnw (tua 1850-1899).
Mae’r disgwyl y bydd El Nino newydd y Môr Tawel yn profi’n anarferol o gryf eleni yn rheswm arall i gredu y bydd cynhesu’r Ddaear yn cyflymu. Disgwylir mai 2015 fydd y flwyddyn boethaf ers dechrau’r cyfnod diwydiannol (gan chwalu unwaith ac am byth yr honiadau dwl y daeth ‘Newid Hinsawdd i ben ym 1998’!).
Wrth baratoi at Gynhadledd Paris, felly, mae’r Arlywydd Obama wedi datgan ei fod am weld allyriadau nwyon tŷ gwydr yr Unol Daleithiau yn disgyn gan 32% erbyn 2030, o gymharu a lefelau 2005. Byddai hynny’n golygu cau cannoedd o bwerdai trydan sy’n llosgi glo a llawer iawn o byllau glo.
Yn naturiol, mae diwydiant glo America – a’u lobïwyr gwleidyddol – yn gandryll o wrthwynebus i’r cynllun. Felly, hefyd, ymgeiswyr Arlywyddol y Gweriniaethwyr sy’n gwadu newid hinsawdd. Beth bynnag am stormydd newid hinsawdd, mae America’n wynebu stormydd gwleidyddol chwerw iawn yn ôl patrwm cyfoes y wlad honno. Parhau i ddarllen