Rhybudd Obama: Gallwn fod yn rhy hwyr gyda Newid Hinsawdd

“DYMA un o’r pynciau prin hynny sy’n golygu, oherwydd ei feintioli, oherwydd ei ehangder, os nad ydym yn ei gael yn iawn, efallai na fyddwn yn gallu ei droi ’nôl. A fyddwn ni ddim yn gallu addasu’n ddigonol. Mae’r fath beth â bod yn rhy hwyr pan ddaw hi i Newid Hinsawdd.”

Yr Arlywydd Barack Obama: "Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd."

Yr Arlywydd Barack Obama: “Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd.”

Dyna rybudd iasoer yr Arlywydd Barack Obama wrth gyhoeddi cynlluniau newydd i gwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannau ynni yr Unol Daleithiau.

Cyfeirio oedd Arlywydd Obama at y ffaith bod llawer o wyddonwyr yn ofni mai Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis – fis Rhagfyr nesaf – fydd y cyfle olaf i wledydd weithredu o ddifrif i ffrwyno cyfraniad dynoliaeth at y prosesau sy’n cynhesu’r Ddaear mor beryglus.

Rhybudd gwyddonwyr ers hir amser yw bod rhaid cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd atmosffer y Ddaear – i lai na 2˚C o gymharu a lefelau cyn-ddiwydiannol.

Os gadawn i’r cynydd fynd yn uwch na 2˚C, yr ofn yw y bydd systemau naturiol y blaned yn troi’n anghyfeillgar iawn i ddynoliaeth. Mae cylchgrawn New Scientist am fis Awst yn dangos bod 4 allan o’r 5 prif astudiaethau arbennigol yn dangos ein bod eisoes wedi cyrraedd 1˚C yn uwch na’r ffigwr cyn-ddiwydiannol hwnnw (tua 1850-1899).

Mae’r disgwyl y bydd El Nino newydd y Môr Tawel yn profi’n anarferol o gryf eleni yn rheswm arall i gredu y bydd cynhesu’r Ddaear yn cyflymu. Disgwylir mai 2015 fydd y flwyddyn boethaf ers dechrau’r cyfnod diwydiannol (gan chwalu unwaith ac am byth yr honiadau dwl y daeth ‘Newid Hinsawdd i ben ym 1998’!).

Wrth baratoi at Gynhadledd Paris, felly, mae’r Arlywydd Obama wedi datgan ei fod am weld allyriadau nwyon tŷ gwydr yr Unol Daleithiau yn disgyn gan 32% erbyn 2030, o gymharu a lefelau 2005. Byddai hynny’n golygu cau cannoedd o bwerdai trydan sy’n llosgi glo a llawer iawn o byllau glo.

Yn naturiol, mae diwydiant glo America – a’u lobïwyr gwleidyddol – yn gandryll o wrthwynebus i’r cynllun. Felly, hefyd, ymgeiswyr Arlywyddol y Gweriniaethwyr sy’n gwadu newid hinsawdd. Beth bynnag am stormydd newid hinsawdd, mae America’n wynebu stormydd gwleidyddol chwerw iawn yn ôl patrwm cyfoes y wlad honno.

Ond bydd Obama yn gallu dadlau nad yw ar ei ben ei hun yn yr ymgyrch hwn. Er enghraifft, fel rhan o’u paratoadau nhw at Paris, mae Tsieina, hefyd, wedi cyhoeddi cynllun i leihau ar eu hallyriadau CO2 anferth nhw, gan anelu at godi ynni adnewyddol, di-garbon i 20% o’u cynnyrch ynni erbyn 2020.

Felly, dyna’r ddwy wlad sy’n cyfrannu mwyaf at gynhesu byd-eang yn son am sicrhau cytundeb ym Mharis i dorri allyriadau CO2 yn sylweddol. Cred y Guardian y gallai hynny gryfhau’r dueddiad i fuddsoddwyr symud i ffwrdd o’r diwydiannau carbon at ynni adnewyddol, glan.

Mae Arlywydd Ffrainc, François Hollande, wedi croesawu cynllun yr Arlywydd Obama fel un sy’n cryfhau’r momentwm i sicrhau cytgord cryf ym Mharis.

Rhaid dymuno’n dda i’r Arlywydd Obama yn y cyfnod olaf pwysig hwn o’i Arlywyddiaeth. Gobeithio bydd diflaniad yr hualau etholiadol yn rhyddhau tipyn o’r ‘gobaith’ yr oedd yn cyfeirio ato pan gafodd ei ethol gyntaf nôl yn 2008: “Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd,” medd yr Arlywydd, “Dim mwyach.”

(Yn eironig iawn, tra bod Obama – a Hillary Clinton hefyd – yn bwriadu ysbrydoli ac arwain y byd wrth hybu ynni adnewyddol yn yr UD, mae Toriaid San Steffan yn bwriadu gwthio mwy o losgi carbon arnom ninnau trwy ffracio yma yn y DG, ac yn ceisio arafu twf ynni adnewyddol trwy leihau eu cefnogaeth i drydan yr haul a’r gwynt. Dyma warthus o beth yw sy’n galw am feirniadaeth a phrotestio cynyddol.)

  • Ond, i osod cyd-destun i’r cyfan, awgrymwn ddarllen llyfr Naomi Klein – sef  This Changes Everything. Capitalism v Climate (Simon & Schuster 2014). Dyma lyfr ysgytwol sy’n dangos sut mae’r drefn gyfalafol byd-eang (sy’n ysbrydoli Ceidwadwyr cefnog ymhob man) wedi bod yn ysbeilio’r Ddaear ac yn achosi cynhesu byd-eang mewn ffordd gynyddol wallgof ers tua 30 mlynedd. Mae Nancy Klein – a fu’n trafod y materion hyn gyda’r Pab Ffransis ym mis Mehefin – yn galw ar bawb ohonom, yn ein cymunedau lleol ledled y byd, i ddymchwel y drefn gyfalafol ddifrodol hon cyn ei bod yn rhy hwyr. Ac mae’n ffyddiog y gallwn wneud hynny. Ond, yn y cyfamser, beth am sicrhau cytundeb cryf ym Mharis yn gyntaf?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .