Tag Archives: ynni adnewyddol

Rhybudd Obama: Gallwn fod yn rhy hwyr gyda Newid Hinsawdd

“DYMA un o’r pynciau prin hynny sy’n golygu, oherwydd ei feintioli, oherwydd ei ehangder, os nad ydym yn ei gael yn iawn, efallai na fyddwn yn gallu ei droi ’nôl. A fyddwn ni ddim yn gallu addasu’n ddigonol. Mae’r fath beth â bod yn rhy hwyr pan ddaw hi i Newid Hinsawdd.”

Yr Arlywydd Barack Obama: "Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd."

Yr Arlywydd Barack Obama: “Nid problem i genhedlaeth arall yw Newid Hinsawdd.”

Dyna rybudd iasoer yr Arlywydd Barack Obama wrth gyhoeddi cynlluniau newydd i gwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannau ynni yr Unol Daleithiau.

Cyfeirio oedd Arlywydd Obama at y ffaith bod llawer o wyddonwyr yn ofni mai Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis – fis Rhagfyr nesaf – fydd y cyfle olaf i wledydd weithredu o ddifrif i ffrwyno cyfraniad dynoliaeth at y prosesau sy’n cynhesu’r Ddaear mor beryglus.

Rhybudd gwyddonwyr ers hir amser yw bod rhaid cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd atmosffer y Ddaear – i lai na 2˚C o gymharu a lefelau cyn-ddiwydiannol.

Os gadawn i’r cynydd fynd yn uwch na 2˚C, yr ofn yw y bydd systemau naturiol y blaned yn troi’n anghyfeillgar iawn i ddynoliaeth. Mae cylchgrawn New Scientist am fis Awst yn dangos bod 4 allan o’r 5 prif astudiaethau arbennigol yn dangos ein bod eisoes wedi cyrraedd 1˚C yn uwch na’r ffigwr cyn-ddiwydiannol hwnnw (tua 1850-1899).

Mae’r disgwyl y bydd El Nino newydd y Môr Tawel yn profi’n anarferol o gryf eleni yn rheswm arall i gredu y bydd cynhesu’r Ddaear yn cyflymu. Disgwylir mai 2015 fydd y flwyddyn boethaf ers dechrau’r cyfnod diwydiannol (gan chwalu unwaith ac am byth yr honiadau dwl y daeth ‘Newid Hinsawdd i ben ym 1998’!).

Wrth baratoi at Gynhadledd Paris, felly, mae’r Arlywydd Obama wedi datgan ei fod am weld allyriadau nwyon tŷ gwydr yr Unol Daleithiau yn disgyn gan 32% erbyn 2030, o gymharu a lefelau 2005. Byddai hynny’n golygu cau cannoedd o bwerdai trydan sy’n llosgi glo a llawer iawn o byllau glo.

Yn naturiol, mae diwydiant glo America – a’u lobïwyr gwleidyddol – yn gandryll o wrthwynebus i’r cynllun. Felly, hefyd, ymgeiswyr Arlywyddol y Gweriniaethwyr sy’n gwadu newid hinsawdd. Beth bynnag am stormydd newid hinsawdd, mae America’n wynebu stormydd gwleidyddol chwerw iawn yn ôl patrwm cyfoes y wlad honno. Parhau i ddarllen