Tag Archives: newid hinsawdd

Ymatebion i Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd – 9 Awst, 2021

Clawr 6ed Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd
– ‘Changing’ gan Alisa Singer / IPCC

Am grynodeb o’r rhybuddion difrifol sydd i’w cael yn 6ed Adroddiad Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd heddiw, 9 Awst, 2021, ewch at: https://www.carbonbrief.org

Am ymateb cryf o Gymru – gan Liz Saville-Roberts AS a Delyth Jewell ASCymru o Blaid Cymru – ewch at: https://www.plaid.cymru/ipcc_report

Ein hoff Charleston SC yn herio’r corfforaethau olew am iawndal am niwed Newid Hinsawdd

LLUNIAU: Ardal Hanesyddol Charleston

Bron pob haf ers y flwyddyn cyn i Charlotte a minnau briodi ym 1979, mae’r ddau ohonom wedi mwynhau ymweld â dinas hanesyddol Charleston ar arfordir talaith De Carolina – ac unwaith adeg y Nadolig, hefyd. Ydyn, ry’n ni’n hoffi’r ddnas yn fawr iawn!

Mae Charleston rhyw 110 milltir i lawr traffordd I26 o ddinas Columbia, cartref teulu Charlotte. Digon agos, felly, am dripiau undydd, neu am dripiau hirach. Gan gynnwys ein Mil Mêl!

Gyda chyfoeth a godwyd trwy ddioddefaint caethweision Affricanaidd*, datblygodd Charleston o 1670 fel dinas boblog ar benrhyn isel rhwng afonydd mawr Ashley a Cooper a’r môr.  Chwedl trigolion balch Charleston, roedd yr afonydd yn uno yno ‘to form the Atlantic ocean’.

(* Ymddiheuriodd Dinas Charleston yn 2018 am ei rhan yn y fasnach gaethweision.)

Yn yr ‘Ardal Hanesyddol’ sylweddol o strydoedd coediog, ysblennydd, mae gan Charleston gannoedd o hen dai a phlastai eithriadol o brydferth gyda balconïau hir, aml-lawr, a gerddi cudd blodeuog. Mae’r amrywiaeth mawr o adeiladau wedi goroesi ergydion stormydd fel Corwynt Hugo ym 1989, daeargryn nerthol 1886, a difrod y Rhyfel Cartref ddechreuodd yn harbwr Charleston ym 1861 gyda’r ymosodiad ar Fort Sumter.

Diolch i’r Charleston Preservation Society a sefydlwyd yn y 1930au, bu pobl y ddinas yn ymgyrchu ar hyd y blynyddoedd i achub yr ardal rhag eu dinistrio gan ddatblygwyr barus. O ganlyniad, cawsant gadw dinas hynod o bert i fyw ynddi, a chafodd twristiaid, fel ninnau, wahoddiad i ddod i rannu’r hyn y cyfeirir ati fel ‘perl pensaernïol y De’.

Ond mae’r cyfan bellach mewn perygl. Ac mae dinasyddion Charleston yn ofnus ac yn ddig.

Y perygl yw’r llifogydd cynyddol sy’n goresgyn eu penrhyn mor aml oherwydd y codiad yn  lefel y môr a’r stormydd ffyrnicach. Cynhesu Byd-eang yw’r achos.

Mae’r bygythiad yn glir i bawb. Ennillwyd rhan helaeth o’r penrhyn o’r môr wrth i’r ddinas dyfu. Dim ond ychydig troedfeddi’n uwch na lefel y llanw yw mannau uchaf strydoedd y penrhyn.  Bellach, dyw waliau môr Charleston – ardal y ‘Battery’ –  ddim yn ddigon uchel i atal y llifogydd. Bydd costau’r gwaith o’u codi a’u cryfhau yn anferth.

Felly, mae Dinas Charleston wedi troi at y gyfraith. Yn benodol, ar y 9fed o Fedi, yn Llys Apeliadau Cyffredin De Carolina, lansiodd y ddinas achos llys yn mynnu iawndal gan 24 o gorfforaethau olew – gan gynnwys BP, Chevron, ConocoPhillips, Exxon Mobil and Royal Dutch Shell.

 Maen nhw’n cyhuddo penaethiaid y corfforaethau o wybod ers y 60au bod llosgi olew yn rhyddhau carbon deuocsid i’r awyr gan achosi Cynhesu Byd-eang. Roedden nhw’n gwybod y byddai hynny’n achosi llifogydd a dinistr enbyd i ddinasoedd y glannau fel Charleston oherwydd y codiad yn lefel y môr a’r stormydd ffyrnicach.

Charleston yw’r ddinas gyntaf yn nhaleithiau’r De i ddod ag achos fel hyn, ond mae nifer o ddinasoedd eraill ledled America eisoes wedi lansio achosion tebyg.

Mae’r corfforaethau pwerus yn gwrthod ildio, wrth gwrs, ac mae ganddynt y grym i gynnal gwrthwynebiad cryf yn y llysoedd. Eisoes mae rhai barnwyr wedi dyfarnu o’u plaid, gan ddadlau mai mater i wleidyddion yw delio â difrod Cynhesu Byd-eang o dan Ddeddf Awyr Glân, ac nid y cwmnïau preifat (sy’n ei achosi!).

Gan gyfeirio at lifogydd mawr diweddar, e.e. ym 2019, dywedodd Maer Charleston, John Tecklenburg, “Mae’n drasig … Dychmygwch faint y bydden ni wedi gallu’i wneud i osgoi’r cyfan o hyn petai nhw heb dwyllo pawb … Mae tai pobl wedi cael eu difrodi, gan achosi ceisiadau yswiriant am gannoedd o filiynau o ddoleri. Mae’n fygythiad mawr i’n dinas.”

Mae ymgyrchwyr Hinsawdd yn gobeithio y bydd barnwyr yn dechrau cytuno â chwynion y dinasoedd. Codwyd eu gobeithion yn sgil ethol Joe Biden yn Ddarpar-Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau. Mae Mr Biden eisoes wedi dweud yn glir y bydd ei weinyddiaeth ef yn gwasgu ar y cwmnïau ynni ffosil am iawndal i dalu am ddifrod hinsawdd.

Felly, gan Charlotte a minnau, diolch i drigolion Charleston am ymweliadau pleserus dros gyfnod mor hir yn joio crwydro eu Hardal Hanesyddol. A phob llwyddiant i’w hymgyrch i gael y corfforaethau carbon dinistriol i gyfrannu at gost y gwaith anferth o geisio gwarchod Charleston rhag tonnau bygythiol Newid Hinsawdd.

 

 

 


							

Cofio John Houghton – gwyddonydd a phroffwyd y Ddaear

Gyda thristwch, ond gyda diolch hefyd, rydym am ymuno â’r teyrngedau lu sy’n cael eu datgan yn rhyngwladol i’r gwyddonydd o Gymro, yr Athro Syr John Houghton, a fu farw o effeithiau Covid 19 yn 88 oed.

Cofir am Syr John fel un o ffigyrau mwya’ blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig fu’n rhybuddio ers degawdau am fygythiad cynyddol Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.

I ni yn Y Papur Gwyrdd, cofiwn amdano fel dim llai na phroffwyd Cymreig. Er y sen anghyfrifol a daflwyd ar ei rybuddion gyhyd, bu’n galw arnom yn ddi-ball i ymateb yn gall a chyflym i enbydrwydd Newid Hinsawdd.

Y gwyddonydd Syr John Houghton yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bangor, 2011 – dan gadeiryddiaeth Dafydd Iwan

Rydym yn falch i allu dweud iddo fod yn gyfaill da i’r Papur Gwyrdd. Bu’n hapus i rannu ei bryderon a’u rhybuddion yn y cylchgrawn wedi iddo ymddeol i Aberdyfi,  a hynny er ei fod yn dal yn brysur yn teithio i ddarlithio mewn cynadleddau rhyngwladol.

Roedd John Houghton yn falch i arddel ei Gymreictod. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn enedigol o bentref Dyserth, cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ddoethuriaeth yno, gan ddod yn Athro Ffiseg Atmosfferig.

Bu wedyn yn Brif Weithredwr Swyddfa Meteoroleg y DG. Bu ynghanol sefydlu Paneli Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ym 1988 a bu’n un o’r Is-gadeiryddion cychwynnol. Bu’n brif awdur tri o adroddiadau’r corff canolog o bwysig hwnnw.

Yn 2007, gydag Al Gore, derbyniodd Wobr Nobel ar ran gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig am eu harweiniad wrth geisio ffrwyno Cynhesu Byd-eang. Dyfarnwyd Gwobr Byd Gwyddoniaeth Albert Einstein iddo’n bersonol yn 2009.

Roedd Syr John yn awdur llyfrau ac adroddiadau ar bwnc gwyddoniaeth Cynhesu Byd-eang gan gynnwys Global Warming: The Complete briefing (Cambridge University Press). .

Yn annisgwyl, efallai, roedd hefyd yn Gristion brwdfrydig – yn flaenor gyda’r Presbyteriaid yn Aberdyfi ac yn awdur llyfrau ‘Does God play dice?’ ac ‘The Search for God. Can Science Help?’  Yn addas iawn, roedden ni’n dau o’r Papur Gwyrdd wedi cael cwrdd a chael sgwrs ag e yn 2011 wrth iddo ddarlithio yn y Gynhadledd ar Newid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Bresbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr Cymraeg Cymru ym Mangor. Parhau i ddarllen

Menter Adfywio Cymru’n annog eglwysi i weithredu ar bwnc newid hinsawdd

Mae eglwysi Cristnogol, fel grwpiau o grefyddau eraill, yn gymunedau lleol sy’n gweithredu ar amrywiaeth eang o faterion o bwys i’w hardaloedd ac i’r byd ehangach. Ac, fel arfer, rydyn ni’n cwrdd mewn hen adeiladau mawr sydd â thiroedd sylweddol.

Yn ddiweddar, gyda hyn mewn golwg, cynhaliwyd seminar gwerthfawr iawn gan fenter Adfywio Cymru ar bwnc Eglwysi’n Gweithredu ar yr Hinsawdd yn Neuadd Capel y Nant yng Nghlydach, Abertawe ( <http://www.capelynant.org&gt;).

Roedd yn ysbrydoliaeth imi, fel aelod o Gapel y Nant, i fod ymhlith tua 40 o gyfeillion brwd wrth iddynt egluro sut mae eu heglwysi nhw’n ceisio ffrwyno allyriadau niweidiol carbon deuocsid ac yn gweithredu i gynnal yr amgylchedd a byd natur.

Cafodd Eglwys Sant Paul, y

Rhai o’r cynrychiolwyr o eglwysi ledled deheubarth Cymru fu’n trafod newid hinsawdd yn neuadd Capel y Nant, Clydach, Abertawe.

Sgeti, Abertawe, eglwysi Plwyf Casllwchwr, a Chapel y Nant gyfle i gyflwyno braslun o’u gweithgarwch fel cychwyn i’r trafodaethau.

Dyma amlinellwyd ar ran Capel y Nant, yr unig eglwys Gymraeg oedd yn cael ei chynrychioli yn y Seminar:

· Dechrau cynnal oedfaon Sul ar bwnc Cristnogion a’r Ddaear wedi i’r eglwys gael ei sefydlu yn 2008
· Gosod ffenestri newydd yn y capel i leihau defnydd trydan / nwy gan arbed allyriadau carbon i’r atmosffer. Esbonio bod ein nenfwd yn dal yn broblem fawr heb ddeunydd ynysu.

Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn son am weithgarwch yr eglwys honno ar faterion yn ymwneud a’r Ddaear.

· Gwella’r ynysu/insiwleiddio wrth foderneiddio Neuadd y Nant
· Cynnal stondin misol Masnach Deg wrth gymdeithasu yn y Neuadd
· Dechrau plannu blodau wrth y capel yn benodol i gynnal gwenyn a gloynod byw – 2014
· Gosod Biniau ail-gylchu plastig a phapur yn y Neuadd
· Ffurfio cysylltiad arbennig fel un o gymunedau Cyfeillion y Ddaear – 2015
· Dangos ffilm More than Honey i’r cyhoedd yn Neuadd y Nant, am argyfwng y gwenyn – 2015
· Creu ac arwain taith Llwybr Gweddi Newid Hinsawdd i eglwysi Clydach – 2015
· Trefnu Deiseb gan aelodau CyN yn galw am Gytundeb cryf yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris – Tachwedd 2015
· Paratoi Arddangosfa o weithgarwch sawl mudiad amgylcheddol ar gyfer un o oedfaon Sul CyN – Tachwedd 2015
· Troi cefn ar gwmnïau llosgi carbon am ynni’r capel (British Gas a SSE Swalec) gan newid i gwmni ynni adnewyddol, glân Good Energy – 2017
· Elusen amgylcheddol Gristnogol A Rocha yn cofrestru Capel y Nant fel ‘Eglwys Werdd’ – 2018
· Capel y Nant yn cael ein derbyn fel un o grwpiau ymgyrchu lleol ymgyrch Gweithredu Hinsawdd Cyfeillion y Ddaear – 2019
· Cyd-weithredu â menter Adfywio Cymru wrth iddynt hybu gweithredu gan Eglwysi ar yr Hinsawdd trwy seminar yn ein Neuadd – 2019

Edrychwn ymlaen at glywed am eglwysi eraill sy’n cofleidio’r cyfle a’r cyfrifoldeb i ymuno â’r ymgyrch hynod bwysig hwn i warchod y Ddaear. Byddwn yn falch iawn i roi cyhoeddusrwydd i’w hymdrechion.

Cymru’n dangos y ffordd iawn ymlaen – atal 2ail draffordd M4 Casnewydd

Calonogol iawn nodi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o weithredu uniongyrchol cryfach nag erioed o blaid gwarchod ein planed mewn sawl gwlad. A bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i hynny, yn arbennig yma yng Nghymru.

Yn Llundain, bu gweithredu aelodau Chwyldroad Difodiant wrth gau heolydd a phontydd prysura’r ddinas am ddyddiau ben bwy’i gilydd yn rhyfeddod o ymroddiad ac o drefnu effeithiol. Bu’n rhyfeddod, hefyd, o ymddygiad pwyllog ac amyneddgar ac, ie, hwyliog.

Ond cofiwn y cafodd 1,130 eu harestio am eu gweithgarwch gyda’r heddlu’n bwriadu erlyn. Pobl ddewr yn talu’r pris ar ein rhan.

Cannoedd o wrthdystwyr o flaen Senedd Cymru ym Mae Caerdydd yn 2018 yn dangos eu gwrthwynebiad  i gynllun M4 Casnewydd

Crisialwyd meddyliai gan y protestiadau hyn. Cawson nhw eu sbarduno gan rybuddion gwyddonwyr mai dim ond rhyw 12 mlynedd sydd gennym i arafu ac atal cynhesu byd-eang neu y bydd yn rhy hwyr arnom.

Yma yng Nghymru ar 1 Mai, o ganlyniad i neges daer y protestiadau hyn, a rhai tebyg yng Nghaerdydd yn ogystal, cafwyd datganiad gan aelodau ein Senedd – wedi arweiniad gan Blaid Cymru – ein bod yn byw bellach mewn cyfnod o berygl eithriadol o ran bygythiad newid hinsawdd i bawb ohonom.

Fel mewn gwledydd eraill, bu pwysau yma ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddechrau gweithredu o ddifrif i gryfhau eu polisïau i leihau allyriadau carbon. Ac efallai bod ymateb y Llywodraeth wedi dod yn gynt na’r disgwyl heddiw yn ein Senedd.

Y gost ariannol anferth o £1.6bn, ynghyd ac ansicrwydd Brexit, oedd y prif resymau a roddwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd benderfyniad mawr i atal y cynllun i greu ail draffordd o gylch Casnewydd. Bu pwyso am y draffordd 14-milltir o hyd hyn ers blynyddoedd gyda’r honiad y byddai’n lleihau tagfeydd ar yr M4 presennol.

Roedd y protest hwn ymhlith llawer a drefnwyd gan nifer o fudiadau amgylcheddol dros gyfnod hir.

Ond, gan feddwl am ymgyrchoedd diflino sawl mudiad amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear Cymru, roedd ffactorau megis lleihau allyriadau traffig, a gwarchod bywyd gwyllt Gwastatir Gwent, yn sicr yn pwyso’n drwm ar feddyliau’r Llywodraeth yn ogystal.

Yn wir, eglurodd yr Athro Drakeford ei hun y byddai bellach wedi atal y cynllun am resymau amgylcheddol hyd yn oed pe bai’r pwysau ariannol heb fod mor gryf.

Adam Price AC, Plaid Cymru, yn annerch o blaid atal y draffordd newydd o gylch Casnewydd.

Felly, digon posib y gwelir ledled y byd bod heddiw wedi bod yn ddydd o arwyddocâd mawr iawn yn hanes yr ymdrech i ffrwyno ac atal cynhesu byd-eang. Dyna bwysigrwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru –  yn rhannol, beth bynnag – i atal adeiladu traffordd newydd er mwyn torri ar dwf allyriadau

… Ac roedd un llamgu Cymreig – Taliesin o Dreforys – hefyd yn hapus i fod ynghanol y dorf!

Bydd ymateb y cwmnïau adeiladu a thrafnidiaeth yn negyddol, siŵr o fod. Ac yn sicr,  bydd angen i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym i ddatblygu cynllun amgen y ‘Ffordd Las’ a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

Llongyfarchiadau i’r protestwyr yma yng Nghymru chwaraeodd ran mor fawr i atal codi traffordd newydd mor ddinistriol. Llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu hymateb. Ond y gwir yw nad ydym yn gallu codi mwy a mwy o draffyrdd. Aeth yr oes honno heibio, os ydym yn gall.

Angen arweiniad gan driawd Plaid Cymru ar fygythiad Cynhesu Byd-eang

Nid pwnc yw Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, ond cyd-destun – cyd-destun i fywydau a gweithgarwch pawb ohonom.

Ni fydd yn bosibl i ni’r Cymry osgoi difrod y chwalfa amgylcheddol sydd ar gerdded trwy guddio y tu ôl i Glawdd Offa. Dyma chwalfa, yn ôl y newyddiadurwr amgylcheddol Bill McKibbon, sy’n troi ein planed o fod yn gartref clyd i fod yn Dŷ Erchyllterau (eaarth: making a life on a tough new planet, St Martin’s Griffin, New York).

Rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers yn f’arddegau, amser maith yn ol. Fe ddes yn amgylcheddwr yn rhannol wrth glywed Gwynfor yn canmol cylchgrawn Resurgence a sefydlwyd yn y 60au.

Yn wyneb hynny, ac yn arbennig yn wyneb y rhybuddion gwyddonol cynyddol presennol, roeddwn wedi gobeithio, a disgwyl, y byddai Leanne Wood, Adam Price a Rhun ap Iorwerth, fel rhan o’u hymgyrchoedd ar gyfer Llywydiaeth Plaid Cymru, wedi datgan yn glir eu bod yn derbyn realiti peryglon difrifol Cynhesu Byd-eang.

Leanne Wood

Byddai hynny wedi helpu pawb i ddeall bod ein ‘nationalism’ ni yn wahanol iawn, er enghraifft, i ‘nationalism’ Donald Trump, yr Alt Right yn America, a’r asgell-dde eithafol, gan gynnwys hyrwyddwyr Brexit, ymhob man. Maen nhw, fel y gŵyr pawb ohonom, yn gwadu newid hinsawdd ac yn bwrw ati i ddinistrio’r amgylchedd naturiol gyda llawenydd maleisus.

Adam Price

Ond ar ben yr eglurhad hanfodol hwnnw, byddwn wedi disgwyl datganiad am sut y byddai’r triawd yn llunio cyfraniad cryfach gan Gymru i’r ymgyrch rhyngwladol i ffrwyno Newid Hinsawdd ac i warchod byd natur.

Ces fy siomi. Ni fu bygythiad enfawr Cynhesu Byd-eang yn rhan amlwg o gwbl o ymgyrchoedd Leanne, nac Adam, na Rhun. Nid wyf wedi gweld cyfeiriadau ato ar daflenni, ac nid oedd son amdano yn ystod yr Hystingiau y bum i ynddo.

Rhun ap Iorwerth

I’w cynorthwyo, a’u hysbrydoli – os oes angen – ar y mater canolog o bwysig hwn, awgrymwn eu bod yn troi at erthyglau’r Athro Gareth Wyn Jones ar y wefan hon, yn enwedig yr olaf ohonynt, Yr Amser yn Brin i Arbed y Ddaear, sy’n gorffen gyda’r her hon:

Rhaid cyd-warchod adnoddau cyffredin. Rhaid sylweddoli ein bod yn gyd-westeion ar Blaned y Ddaear – yn ddu a gwyn, yn gyfoethog a thlawd, yn eiddil ac yn iach. Ni thâl i ni a’n harweinwyr, na’r 1% tra – cyfoethog sy’n rheoli cymaint, dwyllo’n hunain ac anghofio hyn. (Erthygl Rhif 46, adran Gwyddoniaeth – a Mwy: <http://www.ypapurgwyrdd.com&gt;).

Mae aelodau Plaid Cymru wedi derbyn eu ffurflenni pleidleisio ar gyfer eu Llywydd heddiw (Medi 18). Rhaid i’w pleidleisiau gyrraedd Tŷ Gwynfor erbyn Medi 27.

Yn y cyfamser, hoffwn estyn croeso i’r ymgeiswyr am Lywyddiaeth y Blaid ddanfon datganiadau at y wefan hon yn esbonio beth yw eu barn am Gynhesu Byd-eang a sut y dylwn  ymateb fel dynolryw i ddinistr amgylcheddol. Danfonwn neges atyn nhw gyda’r gwahoddiad hwn, rhag ofn nad ydynt yn darllen gwefan Y Papur Gwyrdd.

Cyhoeddwn ar hast bob neges a ddaw yn ol atom, gan ddymuno’r gorau i Leanne, i Adam ac i Rhun.

HYWEL DAVIES

Clymblaid y cyfoethogion a’r gwadwyr newid hinsawdd – sut i ffrwyno Trump a ‘gwleidyddiaeth ysgytwad’

No is Not Enough: Defeating the News Shock Politics, Naomi Klein (Allen Lane)

ADOLYGIAD GAN CHARLOTTE DAVIES

“Ni ddaw henaint ei hunan” …na newid hinsawdd ’chwaith, mae’n ymddangos. Yn hytrach, fel mae Naomi Klein yn dadlau yn ei llyfr mwya’ diweddar No Is Not Enough: Defeating the New Shock Politics (Allen Lane 2017), fe ddaw gyda, ac, yn wir, fe gaiff ei alluogi gan gymysgedd pwerus o dueddiadau a gysylltir gyda thwf byd-eang neo-ryddfrydiaeth.

Fel newyddiadurwr, awdur ac ymgyrchydd, mae Naomi Klein wedi ymchwilio i ac ysgrifennu am y tueddiadau hyn, a’u canlyniadau a’u perthynas i dŵf grym gwleidyddol neo-ryddfrydiaeth ers y 1970au – gan dynnu sylw at ei ymosodiadau ar y sector cyhoeddus a’i gefnogaeth ddi-gwestiwn i gorfforaethau elw-ganolig yn cael gweithredu heb unrhyw reoleiddio allanol.

Mae’r llyfr hwn yn dod â gwaith blaenorol Klein ynghyd i esbonio cynnydd y rhaglen neo-ryddfrydol – sef trwy dŵf superbrands byd-eang, gwadu newid hinsawdd, gwthio cyfoeth preifat i’r sector cyhoeddus a’r defnydd cynyddol o’r hyn mae hi’n cyfeirio ati fel ‘dysgeidiaeth ergydio’ (shock doctrine) i danseilio prosesau gwleidyddol.

Mae llawer o’r llyfr yn ymwneud ag esbonio tŵf ac ethol Donald Trump i Arlywyddiaeth yr UD: mae’n disgrifio creu superbrand Trump, sy’n gwerthu delwedd yn hytrach na chynnyrch ac yn y broses sy’ ddim yn petruso rhag allforio swyddi a damsang ar hawliau’r gweithwyr; mae’n dyrannu ymdeimlad Trump o hawl bersonol (yn gyfartal dros gyrff menywod ac adnoddau’r blaned) yn seiliedig ar ei gyfoeth anferth; ac mae’n pwyntio at ganlyniadau anorfod ei arlywyddiaeth – dadreoleiddio i gefnogi tŵf corfforaethau byd-eang a gwneud hyd yn fwy cyfoethog elit byd-eang sydd eisoes yn gyfoethog y tu hwnt i ddychymyg.

Ond mae gan Klein bryderon y tu hwnt i gipiad Trump o Arlywyddiaeth yr UD: ‘Er mor eithafol ydyw, mae Trump yn llai o wyriad nag o ganlyniad rhesymegol – pastiche o fwy neu lai’r cyfan o dueddiadau’r hanner canrif mwya’ diweddar’ (t.9).

Yn ei phennod yn ffocysu’n benodol ar newid hinsawdd a’r bygythiad amgylcheddol a gynigir gan apwyntiadau a gweithgareddau Trump, mae Klein yn dadlau bod gwadwyr newid hinsawdd yn amddiffyn ar-y-cyd eu goruchafiaeth economaidd a’r prosiect neo-ryddfrydol a’i creodd ac sy’n ei gynnal. ‘Mae gan gynhesu byd-eang ganlyniadau radical cynyddol wirioneddol. Os ydyw’n wir – ac mae’n amlwg ei fod – yna does dim modd i’r dosbarth oligarchaidd barhau i redeg yn wyllt heb reolau’ (t.83).

Yna, mae Klein yn troi i ystyried y dulliau a ddefnyddiwyd i gyflwyno egwyddorion neo-ryddfrydol i sefydliadau’r gwladwriaethau democrataidd, dulliau y cyfeiria atynt fel y ‘wleidyddiaeth ysgytwad’ newydd. Dadleua fod y chwalfa feddyliol sy’n dilyn unrhyw drychineb mawr – yn cael ei hachosi gan ddigwyddiadau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol – yn creu amgylchiadau lle gall mesurau gael eu gweithredu i danseilio gwasanaethau cymdeithasol, creu mantais i gorfforaethau byd-eang a gwneud yr elit sydd eisoes yn gyfoethog hyd yn oed yn fwy cyfoethog, wrth ddiddymu rheoliadau sy’n gwarchod yr amgylchedd, gweithwyr a chymunedau.

Mae hi’n cyflwyno esiamplau o sut mae’r tactegau hyn wedi cael eu gweithredu’n effeithiol mewn sawl argyfwng gwahanol: yn ystod methdaliad agos Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1970au, a roddodd, gyda llaw, hwb ariannol anferth i Trump ar gost enfawr i’r ddinas; yn nhŵf y diwydiant amddiffyn yn sgil ymosodiadau 9 / 11; ac yn yr ymateb i Gorwynt Katrina yn New Orleans.

Yn adran ola’r llyfr, mae Klein yn troi at y cwestiwn o beth y gellir ei wneud i atal y wleidyddiaeth ergydio hon gyda’i ehangu neo-ryddfrydol canlynol. Fel y cyhoedda’i theitl, dywed Naomi Klein, No is Not Enough. Ei dadl yw bod rhaid i’r gwrthwynebiad gynnig gweledigaeth newydd o sut y gellir trefnu cymdeithas. Mae hi’n cydnabod nad oes ond ychydig o gof yng nghymdeithasau’r Gorllewin o unrhyw fath o system economaidd ar wahân i rai sy’n hybu elw tymor-byr a chyfoeth personol wedi’i adeiladu ar dŵf economaidd parhaus – ‘system sy’n cymryd yn ddiddiwedd o drysor naturiol y ddaear, heb amddiffyn cylchoedd adferol, wrth dalu sylw peryglus o fach at ble y taflwn lygredd’ (t.240).

Ond mae’n mynnu bod dyfodol gwahanol yn bosibl. Heb smalio bod ganddi weledigaeth gynhwysfawr o’r dyfodol hwnnw, mae’n terfynu trwy gynnig rhai enghreifftiau sy’n dangos ffordd ymlaen: un ohonynt yw’r mudiad yn Standing Rock i wrthsefyll pibell olew’r Dakota Access ar draws tir llwythol y Sioux; un arall yw The Leap Manifesto, ‘platfform heb blaid’ a gynhyrchwyd gan arweinwyr grwpiau amrywiol (amgylcheddol, undebau llafur, cymunedau brodorol, ffeministiaid) o ar draws Canada.

Mae Klein ymhell o gynnig ffordd glir ymlaen, ond mae dwy egwyddor ar gyfer gweithredu yn sefyll allan: yn gyntaf, dylai gweithredu ddod â chymunedau amrywiol ynghyd i gydweithredu yn lle cystadlu – hawliau menywod, hawliau gweithwyr, cymunedau brodorol ac ati – gan gydnabod bod eu pryderon yn perthyn i’w gilydd; ac yn ail, dylai gweithredu ddechrau gyda gwerthoedd, nid polisïau, gan gydnabod ‘yr angen i symud o system sy’n seiliedig ar gymryd diddiwedd – o’r ddaear ac oddi wrth ein gilydd – at ddiwylliant wedi’i seilio ar ofalu, yr egwyddor wrth i ni gymryd, ein bod hefyd yn gofalu ac yn rhoi yn ôl’ (t.241).

Crêd Klein fod ‘digywilydd-dra coup corfforaethol [Trump]’ wedi gwneud gweithredu dros newid systemig yn angenrheidiol ac ar ddigwydd.

Gobeithio’n wir bod seiliau mor gadarn i’w hoptimistiaeth ynglŷn â’r gweithredu ag sydd i’w dadansoddiad o’r bygythiadau amrywiol.

Diolch am gael ein hatgoffa am gyflwr ein planed – er Brexit

Llongyfarchiadau i gylchgrawn llenyddol O’r Pedwar Gwynt am gyhoeddi erthyglau gwerthfawr ar bwnc cyflwr ein planed – sef pwnc a guddiwyd, ers Mehefin 23, 2016, dan don dywyll Brexit (O’r Pedwar Gwynt, Gwanwyn 2018).

Nid awgrymu ydyn ni nad yw pwnc Brexit yn bwnc mawr ei hun – mae troi cefn ar barhau i gyd-lunio dyfodol gwaraidd fel aelodau o Senedd yr Undeb Ewropeaidd ymysg y pynciau mwyaf ers yr ail ryfel byd – ond bod colli golwg ar bwysigrwydd cyflwr y Ddaear gyfystyr â hunanladdiad.

Cyfraniad Angharad Penrhyn Jones i’r rhifyn yw adroddiad ar ymweliad y darlledwr amgylcheddol enwog Bruce Parry (e.e., cyfres Tribe, BBC Wales a Discovery) â sinema’r Magic Lantern ym mhentref Tywyn, Meirionnydd. Yno ydoedd i gyflwyno’i ffilm Tawai: A Voice from the Forest am ymateb llwyth y Penang yn Ba’ Puak, Borneo, wrth iddynt golli eu cynefin yn y coedwigoedd.

Cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, rhifyn y Gwanwyn, 2018

Darllenwn y cafodd ei groesawu’n gynnes iawn gan gynulleidfa niferus ac edmygus. Medd Angharad,  ‘.. yr argraff a gefais oedd bod y gynulleidfa – nifer yn gwisgo cotiau Patagonia, fel petaent wedi piciad draw i Dywyn ar y ffordd i Siberia – wedi tynnu eu hetiau beirniadol, fel petaen nhw’n barod i gusanu traed y dyn ar y llwyfan … wrth i’r goleuadau bylu, roedd awyrgylch ddefosiynol, bron, yn yr hen theatr yn Nhywyn.’

Ffilm yw Tawai sy’n codi cwestiynau am ein hymateb ni fel Gorllewinwyr i ddioddefaint pobloedd frodorol, a bu cwestiynu miniog ar Bruce Parry yn y drafodaeth a’i dilynodd. Ond cododd yr ymateb i’r gwahoddiad i ddod â’r noson i ben gydag ‘un cwestiwn sydyn arall’ dipyn o sioc, sef, ‘What do we do about the problem of capitalism?’

Medd Angharad: ‘… efallai mai hwn oedd y cwestiwn pwysicaf oll. Beth wnawn ni ynghylch yr uniongredaeth hon yn y Gorllewin, y ffydd led-grefyddol yn y drefn gyfalafol, neo-ryddfrydol sydd ohoni – trefn sy’n llyncu adnoddau’r byd fel rhyw anghenfil na ellir ei fodloni, trefn sy’n llwyddo i draflyncu unrhyw wrthsafiad?’

Ffrwyth astudiaeth ddwys ar bwnc y Ddaear yw erthygl yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones, sef Ynni, gwaith a chymhlethdod, sy’n seiliedig ar ddarlith Edward Lhuwyd a gyflwynwyd ganddo ym Mangor yn Nhachwedd 2017. (Sylwer bod y cylchgrawn hefyd yn cynnwys cyfweliad rhwng Cynog Dafis a’r Athro, sef Y Saith Chwyldro.)

Yn ei eiriau’i hun, mae’r Athro’n cyflwyno, ‘dehongliad o hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth, gan dynnu sylw arbennig at rai cyfnewidiadau sylfaenol yn  yr atmosffer a’r lithosffer. Gwnaf hyn yn nhermau’r berthynas sydd rhwng ynni a’r gallu a ddaw yn ei sgil i gyflawni gwaith.’

Gan dderbyn ei fod yn ymdrin ‘â chynfas eithriadol o eang’, mae’r Athro’n trafod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes y Ddaear. Ceir ganddo grynhoad ar sut mae ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni nid yn unig yn creu’r potensial o gyflawni gwaith ychwanegol, ond bod hyn, hefyd, yn arwain at greu cymhlethdod materol ac, yn ein byd presennol, at gynhyrchu cymhlethdod cymdeithasol cynyddol.

Yn rhifyn Haf O’r Pedwar Gwynt, bwriedir cyflwyno ail erthygl gan yr Athro fydd yn edrych ar y chwe chwyldro hanesyddol yn nhermau eu cyfraniad i ‘natur heriol y seithfed chwyldro’ sy’n wynebu’n byd cyfoes ni.

Yn oes Donald Trump a’r Gwadwyr Newid Hinsawdd asgell-dde, talwn sylw i esboniad Gareth Wyn Jones o’r hyn sy’n digwydd: ‘Effeithiwyd yn ddwys ar ecoleg y blaned gan achosi, mewn perthynas ag ynni, ganlyniadau niweidiol allyriadau nwy carbon deuocsid a ryddheir o losgi’r holl danwydd ffosil. O ganlyniad, newidiwyd cydbwysedd mewnlif ac all-lif ynni’r haul, sy’n golygu bod mwy a mwy o’i wres yn cronni yn y moroedd a’r awyr.’

Ie, er y gwadu – a’r anwybyddu – croeso i ‘Oes y Seithfed Chwyldro’, oes cynhesu byd-eang.

Cyfle i siarad am ddau o Gymry fu’n ceisio gwarchod y Ddaear – yn lleol ac yn fyd-eang

Nid yn aml dros y blynyddoedd y cawsom wahoddiadau i annerch grwpiau o bobl ar bwnc peryglon cynhesu byd-eang. (Dim digon o jôcs, efallai?)

Rhag imi greu camargraff, bu Charlotte a minnau yn fwy na hapus i ledaenu’r neges trwy hen gylchgrawn Y Papur Gwyrdd a’r wefan hon yn unig.

Ond, roedd hi’n beth braf ac annisgwyl iawn bod 2018 wedi dechrau gyda gwahoddiadau i annerch dwywaith yn barod, sef ym misoedd Ionawr a Chwefror.

Roedd yr achlysuron hynny wedi rhoi cyfle i ni gyfeirio at ddau o Gymry sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig ym maes yr amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang. Dau, hefyd, oedd wedi bod o gymorth mawr i’r Papur Gwyrdd.

Hysbyseb cwmni Abaca yng nghylchgrawn Y Papur Gwyrdd

Ym mis Ionawr, cawsom gyfle i son am Rhiannon Rowley, yn wreiddiol o Randirmwyn. Siarad oeddwn yn neuadd Capel y Triniti yn Sgeti, Abertawe ar ôl derbyn cais gan aelodau Cymdeithas Ceredigion a Thŷ’r Cymry i son yn benodol am ‘Y Papur Gwyrdd’.

Roeddem wedi dod i wybod am Rhiannon am ddau reswm: yn gyntaf, roedd hi’n hybu gweithgarwch mudiad cymunedol Trefi Trawsnewid yng ngorllewin Cymru, ac, yn ail, hi oedd – ac yw – pennaeth cwmni Abaca Organic. Dyma gwmni sy’n cynhyrchu matresi gwely o wlân organig Cymreig mewn ffatri yn Nhŷ Croes, Rhydaman.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Rhiannon yn hysbysebu ei chwmni ymhob rhifyn ond dau o’r cylchgrawn rhwng 2007 a 2012. Roedd hynny’n golygu cyfraniad gwerthfawr i gyfrifon y fenter. Rydym yn falch i atgynhyrchu’r hysbyseb honno gan egluro bod Abaca yn dal i ffynnu.

Yna, ym mis Chwefror, cawsom gyfle i son am John Houghton, yn wreiddiol o Ddiserth ger Y Rhyl. Y tro hwn, roeddwn yn annerch aelodau o Gyfundeb Annibynwyr Gorllewin Morgannwg yng nghapel Hermon, Brynaman. Y pwnc y gofynnwyd i ni drafod oedd ‘Yr Amgylchedd a’r Capeli’.

Cawsom gyfle, felly, i son am yr Athro Syr John Houghton – Cristion sydd hefyd yn wyddonydd o ddylanwad byd-eang. Wedi bod yn Athro Ffiseg Atmosfferig ym Mhrifysgol Rhydychen – gan rybuddio am fygythiad cynhesu byd-eang – bu’n un o gadeiryddion paneli newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Yr Athro Syr John Houghton

Enillodd Gwobr Nobel yn 2007 gyda nifer o’i gyd-wyddonwyr, a hynny ar y cyd gydag Al Gore.

O ran Y Papur Gwyrdd, bu Syr John yn barod iawn i gael ei holi gennym ac i gyhoeddi ei rybuddion am fygythiad newid hinsawdd yn rhifyn arloesol y cylchgrawn a sawl rhifyn arall. Rydym yn falch i gyhoeddi llun ohono. Mae’n ein hatgoffa am y gwyddonydd-o-Gymro hwn fu ymysg y mwyaf blaenllaw yn rhyngwladol fu’n pwyso arnom i fynnu ffrwyno cynhesu’r Ddaear.

Diolch i Rhiannon ac i Syr John am eu gwaith – ac am y cyfleoedd gwerthfawr rydyn ni wedi cael eleni nid yn unig i ysgrifennu ond i siarad, hefyd, amdanynt.

Argyfwng y Ddaear – cyflwyniad theatrig ergydiol Cwmni Pendraw

Arwydd gobeithiol oedd hi i garedigion y Ddaear pan gafodd cytundeb ei lofnodi gan tua 200 o wledydd yn 2016, dan arweiniad gwaraidd y Cenhedloedd Unedig, i weithredu ar frys i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang.

Serch hynny, roedd pawb yn deall mai’r dasg fyddai sicrhau bod ein gwleidyddion yn cadw at eu haddewidion. Ganddyn nhw, wedi’r cyfan, mae’r gallu i weithredu polisïau i warchod y plethiad rhwng systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal – yn cynnal dynoliaeth a’r myrdd o ffurfiau bywyd eraill, hefyd. Ond sut mae gwneud hynny?

Mae angen dychymyg i lunio ffyrdd newydd o wthio pwnc i ben blaenoriaethau gwleidyddion a’i gadw yno. Yn sicr, dylai fod gan y celfyddydau ran amlwg i sicrhau hynny. Yng Nghymru, fel ymhob man arall.

Angharad Jenkins a Wyn Bowen Harries yn perfformio yn sioe deithiol ‘2071’ am fygythiad cynhesu byd-eang

Felly, roedd Charlotte a minnau’n falch iawn i fod yn bresennol neithiwr ar gyfer cyflwyniad aml-gyfrwng gafaelgar Cwmni Pendraw ar bwnc yr argyfwng amgylcheddol, a hynny yng nghanolfan gelfyddydol Volcano yma yn Abertawe.

Roedd y sioe – dan y teitl (anghynorthwyol!)2071 – yn asiad effeithiol o sgiliau actio a chyfarwyddo Wyn Bowen Harries, dawn gerddorol Angharad Jenkins a Gwilym Bowen Rhys, ynghyd â fideo o olygfeydd trawiadol. A neges werthfawr y cyfan oedd yr angen i bawb ohonom i beidio â gadael i’n gwleidyddion golli golwg ar weithredu polisïau i warchod y Ddaear, ein hunig gartref planedol.

Mae Cwmni Pendraw yn gwmni sydd wedi’i sefydlu’n benodol i gyflwyno pynciau hanes a gwyddoniaeth ac maen nhw i’w llongyfarch ar y weledigaeth honno.

Mae’r ‘2071’ Cymraeg – sydd yn dal ar daith ledled Cymru – yn gyfieithiad ac yn addasiad o gyflwyniad (gyda’r teitl anghynorthwyol hwnnw!) a wnaed gan wyddonydd newid hinsawdd arbenigol, yr Athro Chris Rapley, gyda’r dramodydd Duncan Macmillan, yn theatr y Royal Court yn Llundain yn 2014.

Bu’r  Athro’n disgrifio’r datblygiadau peryglus amrywiol sy’n cynyddu ar draws y Ddaear yn sgil cynhesu byd-eang. Yn ychwanegol, roedd yn holi sut fyd y byddai ei wyres yn ei etifeddu.

Tasg nid hawdd oedd gan Wyn Bowen Harries, mewn gwirionedd – sef o gadw sylw’r gynulleidfa wrth gyflwyno darlith. Ond fe wnaeth hynny’n llwyddiannus trwy ei brofiad a’i ddoniau fel actor. Bu’n sefyll ar ei draed, am un peth, yn wahanol i’r Athro Rapley oedd ar ei eistedd am y cyfan o’i gyflwyniad yntau yn y Royal Court.

(Mewn cromfachau, diddorol yw darllen am berfformiad arall ar yr un pwnc yn y Royal Court, ddwy flynedd ynghynt. Roedd sioe’r gwyddonydd Stephen Emmott yn llawer llai gobeithiol nag un Rapley.)

Braf dyfynnu’r triawd fu o flaen y gynulleidfa, ar lafar ac ar gân, yn esbonio pa mor agos at eu calonnau yw pwnc gwarchod y Ddaear:

Wyn Bowen Harries: “Er mai pwnc dwys sydd yma, mae’r cynnwys ynghylch yr her sy’n wynebu dynoliaeth yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd y modd yr ydym yn cyfleu’r ffeithiau, ynghyd â’n cyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ystyried pwnc sydd yn berthnasol i bob un ohonom.”

Angharad Jenkins: “Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o’r cynhyrchiad pwysig yma. Mae newid hinsawdd a dyfodol ein planed yn rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd.”

Gwilym Bowen Rhys: “Pan glywais am broject 2071, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan. Mae newid hinsawdd yn bwnc sydd werth ei drafod mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw gyfle. Roedd yn ymddangos i mi fod cyfle yma i sgwennu caneuon newydd sy’n trafod y pwnc, a’u rhannu efo cynulleidfaoedd newydd.”

Ie, llongyfarchiadau i Gwmni Pendraw am ein sbarduno ninnau’r Cymry Cymraeg i gael gair gyda’n gwleidyddion ar bwnc mor bwysig â hwn, a cheisio’n bersonol i adael ôl-troed llai niweidiol ar y Ddaear.