Tag Archives: Trafnidiaeth

Cymru’n dangos y ffordd iawn ymlaen – atal 2ail draffordd M4 Casnewydd

Calonogol iawn nodi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o weithredu uniongyrchol cryfach nag erioed o blaid gwarchod ein planed mewn sawl gwlad. A bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i hynny, yn arbennig yma yng Nghymru.

Yn Llundain, bu gweithredu aelodau Chwyldroad Difodiant wrth gau heolydd a phontydd prysura’r ddinas am ddyddiau ben bwy’i gilydd yn rhyfeddod o ymroddiad ac o drefnu effeithiol. Bu’n rhyfeddod, hefyd, o ymddygiad pwyllog ac amyneddgar ac, ie, hwyliog.

Ond cofiwn y cafodd 1,130 eu harestio am eu gweithgarwch gyda’r heddlu’n bwriadu erlyn. Pobl ddewr yn talu’r pris ar ein rhan.

Cannoedd o wrthdystwyr o flaen Senedd Cymru ym Mae Caerdydd yn 2018 yn dangos eu gwrthwynebiad  i gynllun M4 Casnewydd

Crisialwyd meddyliai gan y protestiadau hyn. Cawson nhw eu sbarduno gan rybuddion gwyddonwyr mai dim ond rhyw 12 mlynedd sydd gennym i arafu ac atal cynhesu byd-eang neu y bydd yn rhy hwyr arnom.

Yma yng Nghymru ar 1 Mai, o ganlyniad i neges daer y protestiadau hyn, a rhai tebyg yng Nghaerdydd yn ogystal, cafwyd datganiad gan aelodau ein Senedd – wedi arweiniad gan Blaid Cymru – ein bod yn byw bellach mewn cyfnod o berygl eithriadol o ran bygythiad newid hinsawdd i bawb ohonom.

Fel mewn gwledydd eraill, bu pwysau yma ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddechrau gweithredu o ddifrif i gryfhau eu polisïau i leihau allyriadau carbon. Ac efallai bod ymateb y Llywodraeth wedi dod yn gynt na’r disgwyl heddiw yn ein Senedd.

Y gost ariannol anferth o £1.6bn, ynghyd ac ansicrwydd Brexit, oedd y prif resymau a roddwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd benderfyniad mawr i atal y cynllun i greu ail draffordd o gylch Casnewydd. Bu pwyso am y draffordd 14-milltir o hyd hyn ers blynyddoedd gyda’r honiad y byddai’n lleihau tagfeydd ar yr M4 presennol.

Roedd y protest hwn ymhlith llawer a drefnwyd gan nifer o fudiadau amgylcheddol dros gyfnod hir.

Ond, gan feddwl am ymgyrchoedd diflino sawl mudiad amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear Cymru, roedd ffactorau megis lleihau allyriadau traffig, a gwarchod bywyd gwyllt Gwastatir Gwent, yn sicr yn pwyso’n drwm ar feddyliau’r Llywodraeth yn ogystal.

Yn wir, eglurodd yr Athro Drakeford ei hun y byddai bellach wedi atal y cynllun am resymau amgylcheddol hyd yn oed pe bai’r pwysau ariannol heb fod mor gryf.

Adam Price AC, Plaid Cymru, yn annerch o blaid atal y draffordd newydd o gylch Casnewydd.

Felly, digon posib y gwelir ledled y byd bod heddiw wedi bod yn ddydd o arwyddocâd mawr iawn yn hanes yr ymdrech i ffrwyno ac atal cynhesu byd-eang. Dyna bwysigrwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru –  yn rhannol, beth bynnag – i atal adeiladu traffordd newydd er mwyn torri ar dwf allyriadau

… Ac roedd un llamgu Cymreig – Taliesin o Dreforys – hefyd yn hapus i fod ynghanol y dorf!

Bydd ymateb y cwmnïau adeiladu a thrafnidiaeth yn negyddol, siŵr o fod. Ac yn sicr,  bydd angen i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym i ddatblygu cynllun amgen y ‘Ffordd Las’ a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

Llongyfarchiadau i’r protestwyr yma yng Nghymru chwaraeodd ran mor fawr i atal codi traffordd newydd mor ddinistriol. Llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu hymateb. Ond y gwir yw nad ydym yn gallu codi mwy a mwy o draffyrdd. Aeth yr oes honno heibio, os ydym yn gall.