Monthly Archives: Chwefror 2019

Ieuenctid yn gadael eu dosbarthiadau i roi gwersi i’r gwleidyddion am yr angen i warchod eu Daear

Llongyfarchion mawr i bobl ifanc ymhell ac agos am gymryd rhan mewn ton o brotestiadau amgylcheddol ledled y byd ar hyn o bryd. Galw maen nhw ar lywodraethau i weithredu o ddifrif i gwtogi ar gynhesu byd-eang ac i amddiffyn systemau naturiol.

Gwych clywed bod cannoedd o ddisgyblion yma yng Nghymru wedi ymuno a’r protestiadau heddiw gan adael eu hysgolion er mwyn cynnal protesiadau gan gynnwys un o flaen Senedd Cymru yng Nghaerdydd.  Buont yn lleisio’u hofnau yn ddi-flewyn ar dafod am y niwed sy’n cael ei achosi i systemau naturiol y blaned.

Hen, hen bryd bod ein gwleidyddion yn cael gwersi gan bobl ifainc am ddifrifoldeb y bygythiad i’r Ddaear. Dyma’r pwnc ddylai fod yn gyd-destun i bob pwnc arall sy’n cael sylw’r gwleidyddion ond sy’n cael ei anwybyddu’n rhy aml.

Deallwn fod 10,000 o blant o ryw 60 ysgol wedi gweithredu heddiw trwy’r Deyrnas Gyfunol gan gerdded allan o’u dosbarthiadau i ddangos maint eu pryderon .

Dechreuodd protestiadau’r bobl ifainc yn Sweden trwy arweiniad arloesol Greta Thunberg, 15 oed. Protestiodd Greta ar ei phen ei hun o flaen Senedd y wlad honno ym mis Awst gan roi cychwyn i’r ymgyrch holl-bwysig hwn.

Erbyn hyn mae tua 70,000 o blant yn cynnal protestiadau rheolaidd mewn 270 o ddinasoedd ledled y byd.

Da iawn bod pobl ifanc nawr yn dechrau arwain yr ymgyrch i warchod ein cartref planedol. Mynnwn fod ein gwleidyddion yn gwrando arnynt ac yn gweithredu ar frys ar Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015.

Gadawn i’n gwleidyddion wybod ein bod yn sefyll yn gadarn gyda’r plant a’r bobl ifainc ardderchog hyn ac yn eu cefnogi’n llwyr. Diolch yn fawr iddyn nhw!