Ie i Ewrop! Na i Brexit! – er mwyn gwarchod ein dyfodol

Does dim pwnc pwysicach na’r niwed sy’n cael ei achosi gan ddynolryw i’n planed.

Yng ngolau hynny, gobeithio y bydd gwledydd y Cenhedloedd Unedig yn mynd ati o ddifrif i ddechrau ffrwyno cynhesu byd-eang wedi’r cytundeb ar Newid Hinsawdd a gaed yn Katowice, Gwlad Pwyl, cyn y Nadolig.

Ond, am y tro, fe drown ni ein golygon o’r bygythiad i’r Ddaear i’r bygythiad i Brydain yn benodol trwy Brexit.

Rali yng Nghaerdydd a drefnwyd gan fudiad Cymru dros Ewrop

Ein barn ni yw mai ‘digon yw digon’ yw hi bellach yn wyneb y niwed sy’n cael ei achosi’n barod gan yr ymgyrch hollol wallgof hwn i’n rhwygo allan o’r Undeb Ewropeaidd – er syndod, tristwch a hwyl i wledydd ledled y byd.

Oni roddir atal arnynt gan Aelodau Seneddol yn fuan wrth iddynt gyrraedd nôl i San Steffan wedi hoe’r Nadolig, bydd y Brexitiaid  yn llwyddo i’n gwahanu o sefydliad sydd, er ei wendidau, wedi tyfu’n drysor heddychlon ar gyfandir a fu, hebddo, yn llifo a gwaed.  Sef, cael ein rhwygo’n hollol ddiangen o sefydliad y buom yn rhan o’i ddatblygiad ers 1970 gan elwa mewn cymaint o ffyrdd – yn economaidd, yn gymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn annerch o blaid Aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn Stryd y Frenhines Caerdyddgymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.

Er eu bod yn anghyfrifol o ddi-glem, mae dylanwad y Brexitiaid ers Refferendwm Mehefin 23, 2016 wedi cael eu hybu’n fawr gan dacteg Theresa May (ac eraill, gan gynnwys Vladimir Putin) o chwyddo canlyniad y bleidlais fel ‘ewyllys y bobl’ a ‘dymuniad y wlad’ gan eu hail-adrodd fel mantra.

Bydd haneswyr y dyfodol yn synnu at eu llwyddiant. Mwyafrif bychan gafodd y Brexitiaid yn y Refferendwm, sef 51.9% yn pleidleisio o blaid ‘Gadael’ a 48.1% o blaid ‘Aros’. Dim ond 37% o’r cyfan o etholwyr Prydain oedd wedi pleidleisio ‘Gadael’.

Dengys y ffigyrau terfynol y gwirionedd – sef 17,410,74 dros adael, gyda 16,141,241 dros aros. Felly, nid dangos dymuniad unol a nerthol wnaeth y Refferendwm o gwbl, ond dangos bod y wlad wedi cael ei rhwygo lawr y canol.

Ers hynny, twyll enbyd ond effeithiol fu tacteg y Brexitiaid o gyd

Arwyddion o ddyfodol creadigol ein cyd-weithio Ewropeaidd – neu olion o berthynas unol a chwalwyd gan Brexit? Plac am un o’r prosiectau a ariannwyd yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd yn Abertawe.

nabod yn unig y rhai sydd am droi cefn ar yr Undeb Ewropeaidd ac anwybyddu’n llwyr y miliynau sydd o blaid yr undeb – fel ’tai ni ddim yn bodoli.

Ond erbyn hyn, mae profiadau’r ddwy flynedd a hanner a aeth heibio ers Refferendwm 2016 yn galw am ail-ystyried y bleidlais honno.

  • Gwelwyd nad oedd gan Brexitiaid craidd, anghyfrifol y Blaid Geidwadol unrhyw gynlluniau y tu ôl i’w sloganau
  • Synnwyd Theresa May a charfan y Brexitiaid wrth i 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd wrthod ildio ar egwyddorion sylfaenol eu perthynas,
  • Sylweddolwyd, ar ddiwedd 2 flynedd o drafod ym Mrwsel, y byddai Cytundeb Terfynnol Theresa May yn golygu gwaeth telerau masnachu ac y byddai Prydain wedi troi cefn ar brosesau canolog yr Undeb
  • Gwelwyd bod tebygolrwydd cynyddol y bydd y Deyrnas Gyfunol yn disgyn yn hollol anhrefnus o’r Undeb heb unrhyw gytundeb masnachol yn y byd gyda chanlyniadau enbyd

Felly, yn wyneb y chwalfa yn rhengoedd Llywodraeth ac ASau San Steffan, y peth lleiaf y gellir disgwyl yw pleidlais arall ar y pwnc, ‘Pleidlais y Bobl’ fel y’i gelwir – yn enwedig gan fod polau piniwn yn awgrymu bod mwyafrif clir bellach yn cefnogi Aros yn yr Undeb. Mae’r hawl i ail-ystyried ac ail-ddatgan barn yn sylfaenol i’n trefn ddemocrataidd ni. Gwnawn hynny trwy etholiadau cyson. Does dim statws cyfansoddiadol uwch na hynny gan unrhyw refferendwm.

Mae hyn yn gyfnod hanesyddol peryglus eithriadol i Brydain. Gyda’u nod o wanhau’r Undeb Ewropeaidd, mae Donald Trump a Vladimir Putin wedi datgan eu bod yn cefnogi Brexit. Mae mudiadau Asgell Dde eithafol ar gerdded sy’n anelu at chwalu syniadau a pholisïau rhyddfrydol fel sy’n ganolog i’r Undeb Ewropeaidd (er mai sefydliad sy’n datblygu ydyw).

Golyga hyn bod peryglon Gadael yn galw am weithredu cyflym i’w hatal gan wleidyddion San Steffan.

Mae angen o leiaf tynnu nôl Erthygl 50 dros dro. Dyma’r datganiad a lofnodwyd gan Theresa May ar Ebrill 18, 2017 i ddweud bod Prydain yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Y gobaith yw y byddai hynny’n caniatáu ychydig mwy o amser i ystyried y niwed a achosir i bobl gyffredin y wlad fel y tystia adroddiadau’r Llywodraeth ei hun.

Ond ein barn ni yw mai digon yw digon ar yr holl broses ddinistriol Brexitaidd, ac y dylai Aelodau San Steffan a’r Llywodraeth gyd-weithio i ddiddymu Erthygl 50 yn llwyr. Byddai hynny’n dod â’r cyfan o fygythiad Brexit i ben ar unwaith.

Byddai gwledydd Prydain yn parhau fel aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, yn ail-gydio mewn ymgyrchoedd amrywiol i wella’r sefydliad ei hun, i ail-godi cymunedau sydd wedi cael eu chwalu’n economaidd, i arwain yr ymgyrch i warchod y Ddaear ac ati.

Byddai pobl Ynysoedd Prydain yn cael eu rhyddhau o dagfa Brexit. Byddwn yn gallu troi at bynciau o wir bwys eto, fel tlodi a digartrefedd, yr angen i ariannu’n Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, rhannu cyfoeth yn decach, delio a diflaniad swyddi yn oes newydd y robotiaid, a llawer mwy. Ni fydd taw ar y Brexitiaid, wrth gwrs. Ond ni ddylwn ildio i’w bygythiadau.

Ar ben y cyfan, byddai’n golygu cyfle newydd i ddysgu byw fel cymdogion da gyda’n cyfeillion ar gyfandir Ewrop. Dysgwn werthfawrogi’r freuddwyd fawr gawson nhw wedi’r Ail Ryfel Byd o’r angen i greu ffordd newydd o gyd-fyw er mwyn osgoi rhyfela â’n gilydd. Rydym yn eu dyled am hynny. ‘Diolch, ffrindiau’ yw ystyr ‘Aros’ yn y cyswllt hwn.

Oes gobaith? – wrth gofio mai Mawrth 29 yw dyddiad du y Gadael? Dim ond os taflwn ein hunain i’r ymdrech ar unwaith, mewn pob ffordd y gallwn, i godi’n lleisiau, i orymdeithio, i wthio ar ein cynrychiolwyr gwleidyddol i atal Brexit a mynnu Aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Digon yw digon! Er mwyn gwarchod ein dyfodol – Na i Brexit! Ie i Ewrop!

  • Rydym yn falch i ganmol ymdrechion newyddiadurwyr wythnosolyn y New European, papur Sul yr Observer, a phapur dyddiol y Guardian i geisio gwarchod y Deyrnas Gyfunol rhag camsyniad mawr Brexit.

2 responses to “Ie i Ewrop! Na i Brexit! – er mwyn gwarchod ein dyfodol

  1. Dafydd Williams

    Dadansoddiad treiddgar, ac ers ei lunio mae digwyddiadau yn Senedd San Steffan wedi’i gadarnhau. Mae’n lled bosibl y cynhelir ail refferendwm ond er mwyn ennill bydd angen ymgyrch llawer mwy trefnus a thrawiadiol, un sy’n cyffwrdd â’r galon. Ac yma yng Nghymru, ymgyrch Gymreig, nid cysgod gwelw o’r ymgyrch Brydeinig a gafwyd y tro diwethaf.

    • Diolch am eich sylw, Dafydd. Cytuno’n llwyr. Sori am fod mor hwyr yn ateb – gwarth bod dryswch cynyddol Brexit yn cymryd ein syml o’r bygythiad i’n cartref planedol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .