Does dim pwnc pwysicach na’r niwed sy’n cael ei achosi gan ddynolryw i’n planed.
Yng ngolau hynny, gobeithio y bydd gwledydd y Cenhedloedd Unedig yn mynd ati o ddifrif i ddechrau ffrwyno cynhesu byd-eang wedi’r cytundeb ar Newid Hinsawdd a gaed yn Katowice, Gwlad Pwyl, cyn y Nadolig.
Ond, am y tro, fe drown ni ein golygon o’r bygythiad i’r Ddaear i’r bygythiad i Brydain yn benodol trwy Brexit.
Ein barn ni yw mai ‘digon yw digon’ yw hi bellach yn wyneb y niwed sy’n cael ei achosi’n barod gan yr ymgyrch hollol wallgof hwn i’n rhwygo allan o’r Undeb Ewropeaidd – er syndod, tristwch a hwyl i wledydd ledled y byd.
Oni roddir atal arnynt gan Aelodau Seneddol yn fuan wrth iddynt gyrraedd nôl i San Steffan wedi hoe’r Nadolig, bydd y Brexitiaid yn llwyddo i’n gwahanu o sefydliad sydd, er ei wendidau, wedi tyfu’n drysor heddychlon ar gyfandir a fu, hebddo, yn llifo a gwaed. Sef, cael ein rhwygo’n hollol ddiangen o sefydliad y buom yn rhan o’i ddatblygiad ers 1970 gan elwa mewn cymaint o ffyrdd – yn economaidd, yn gymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn annerch o blaid Aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn Stryd y Frenhines Caerdyddgymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.
Er eu bod yn anghyfrifol o ddi-glem, mae dylanwad y Brexitiaid ers Refferendwm Mehefin 23, 2016 wedi cael eu hybu’n fawr gan dacteg Theresa May (ac eraill, gan gynnwys Vladimir Putin) o chwyddo canlyniad y bleidlais fel ‘ewyllys y bobl’ a ‘dymuniad y wlad’ gan eu hail-adrodd fel mantra.
Bydd haneswyr y dyfodol yn synnu at eu llwyddiant. Mwyafrif bychan gafodd y Brexitiaid yn y Refferendwm, sef 51.9% yn pleidleisio o blaid ‘Gadael’ a 48.1% o blaid ‘Aros’. Dim ond 37% o’r cyfan o etholwyr Prydain oedd wedi pleidleisio ‘Gadael’.
Dengys y ffigyrau terfynol y gwirionedd – sef 17,410,74 dros adael, gyda 16,141,241 dros aros. Felly, nid dangos dymuniad unol a nerthol wnaeth y Refferendwm o gwbl, ond dangos bod y wlad wedi cael ei rhwygo lawr y canol.
Ers hynny, twyll enbyd ond effeithiol fu tacteg y Brexitiaid o gyd

Arwyddion o ddyfodol creadigol ein cyd-weithio Ewropeaidd – neu olion o berthynas unol a chwalwyd gan Brexit? Plac am un o’r prosiectau a ariannwyd yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd yn Abertawe.
nabod yn unig y rhai sydd am droi cefn ar yr Undeb Ewropeaidd ac anwybyddu’n llwyr y miliynau sydd o blaid yr undeb – fel ’tai ni ddim yn bodoli.
Ond erbyn hyn, mae profiadau’r ddwy flynedd a hanner a aeth heibio ers Refferendwm 2016 yn galw am ail-ystyried y bleidlais honno.
- Gwelwyd nad oedd gan Brexitiaid craidd, anghyfrifol y Blaid Geidwadol unrhyw gynlluniau y tu ôl i’w sloganau
- Synnwyd Theresa May a charfan y Brexitiaid wrth i 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd wrthod ildio ar egwyddorion sylfaenol eu perthynas,
- Sylweddolwyd, ar ddiwedd 2 flynedd o drafod ym Mrwsel, y byddai Cytundeb Terfynnol Theresa May yn golygu gwaeth telerau masnachu ac y byddai Prydain wedi troi cefn ar brosesau canolog yr Undeb
- Gwelwyd bod tebygolrwydd cynyddol y bydd y Deyrnas Gyfunol yn disgyn yn hollol anhrefnus o’r Undeb heb unrhyw gytundeb masnachol yn y byd gyda chanlyniadau enbyd
Felly, yn wyneb y chwalfa yn rhengoedd Llywodraeth ac ASau San Steffan, y peth lleiaf y gellir disgwyl yw pleidlais arall ar y pwnc, ‘Pleidlais y Bobl’ fel y’i gelwir – yn enwedig gan fod polau piniwn yn awgrymu bod mwyafrif clir bellach yn cefnogi Aros yn yr Undeb. Mae’r hawl i ail-ystyried ac ail-ddatgan barn yn sylfaenol i’n trefn ddemocrataidd ni. Gwnawn hynny trwy etholiadau cyson. Does dim statws cyfansoddiadol uwch na hynny gan unrhyw refferendwm. Parhau i ddarllen