Monthly Archives: Rhagfyr 2017

Ffilm newydd Al Gore yn bortread pwerus o’r ymdrechion i warchod y blaned

Ar y wefan hon ar Orffennaf 31 eleni, roeddem wedi sôn am ffilm newydd Al Gore, An Inconvenient Sequel, sef yr olynydd i An Inconvenient Truth brofodd mor ddylanwadol ar bwnc argyfwng y Ddaear yn 2006.

Fe gyfeirion ni at adolygiad o’r ffilm newydd yn rhifyn Gorffennaf 30 yr Observer gan y newyddiadurwraig flaenllaw o Gaerdydd, Carole Cadwalladr. Annog pawb ohonom i weld y ffilm oedd hi.

Fe ddaeth â’i sylwadau i ben gyda’r geiriau hyn: ‘Brexit, Trump, newid hinsawdd, cynhyrchwyr olew, arian tywyll, dylanwad Rwsiaidd, ymosodiad chwyrn ar ffeithiau, tystiolaeth, newyddiaduraeth, gwyddoniaeth, mae’r cyfan yn gysylltiedig. Gofynnwch Al Gore … I ddeall y realiti newydd yr ydym yn byw ynddo, rhaid i chi wylio An Inconvenient Sequel: Truth to Power.’

Al Gore yn yr India, yn trafod effeithiau cynhesu byd-eang yn ystod ffilmio An Inconvenient Sequel: Truth to Power.

Erbyn hyn, o ddilyn ei chyngor a gwylio’r ffilm, rydym yn falch i gytuno gyda Carole Cadwaladr bod hon yn ffilm werthfawr arall gan gyn-Is Arlywydd  America sy’n esbonio’n effeithiol pa mor ddifrifol yw bygythiad cynhesu byd-eang.

Yn gefndir i’r ffilm mae darnau o sgyrsiau gan Gore i grwpiau rhyngwladol o Ymgyrchwyr I Ffrwyno Newid Hinsawdd.

Digon gwir, dyw hynny ddim yn swnio’n ddiddorol iawn!

Ond yn plethu trwy’r cyfan ceir braslun gafaelgar o ffeithiau cynhesu byd-eang, enghreifftiau brawychus o dywydd eithafol, toddiant iâ’r pegynau, a chodiadau yn  lefel y môr, ynghyd a chipolwg ar nifer o ymdrechion cymunedol i warchod a gweithredu. Mae’r cyfan yn arwain at drafodaethau’r gwleidyddion y tu-ôl-i’r-llenni yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris ym mis Rhagfyr 2015 – yn arbennig amharodrwydd India i droi cefn ar losgi carbon.

Daw’r i ffilm i ben gyda chytundeb annisgwyl-o-unol arweinwyr y gwledydd ym Mharis i geisio torri allyriadau carbon. Eu nod, meddant, oedd cyfyngu codiad tymheredd y Ddaear i lai na 2˚C o gymharu â dechrau’r Oes Ddiwydiannol.

Diweddglo trawiadol o gyffroes i’r ffilm, felly, i ysbrydoli pawb? Wel, nage. Daw’r ffilm i ben gyda datganiadau moel am ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2016 gan dynnu’r wlad honno allan o Gytundeb Paris yn 2017.

Siom, felly, i Al Gore sydd wedi treulio rhan mor fawr o’i fywyd yn ceisio atal y corfforaethau carbon rhag difrodi’r Ddaear. A her i bawb oedd yn credu bod Cytundeb Paris yn golygu y gallwn ymlacio a gadael i’r drefn edrych ar ôl y blaned ar ein rhan.

I’r gwrthwyneb, yn sydyn fe welwn fod yr asgell dde eithafol wleidyddol wrthi – yn arbennig yn America – yn troi’r cloc yn ôl, yn gwanhau mesurau i warchod y Ddaear, gan wadu cynhesu byd-eang.

Felly, yn fwy o lawer nac y byddai Al Gore wedi dymuno, galwad i weithredu gydag ymroddiad newydd yw An Inconvenient Sequel:Truth to Power. Ewch ati i’w gwylio. (Blue Ray, HD Digidol, DVD a thrwy archebu ar eich teledu.)