Ymatebion i Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd – 9 Awst, 2021

Clawr 6ed Adroddiad yr IPCC ar Newid Hinsawdd
– ‘Changing’ gan Alisa Singer / IPCC

Am grynodeb o’r rhybuddion difrifol sydd i’w cael yn 6ed Adroddiad Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd heddiw, 9 Awst, 2021, ewch at: https://www.carbonbrief.org

Am ymateb cryf o Gymru – gan Liz Saville-Roberts AS a Delyth Jewell ASCymru o Blaid Cymru – ewch at: https://www.plaid.cymru/ipcc_report

Cynhadledd COP26 Glasgow: Angen gwthio am weithredu cryfach i warchod y Ddaear rhag y cynhesu

Rhybuddiodd y bardd Seisnig John Donne nad yw ‘dyn yn ynys i’w hun’, a bod dioddefaint un yn ddioddefaint pawb.

Bellach, mae anferthedd dioddefaint ar ein planed yn ein gwasgu’n llethol. Gwelir effeithiau niweidiol Cynhesu Byd-eang a distryw amgylcheddol yn ehangu ar garlam ledled y Ddaear.

Wrth i ni siarad, mae llifogydd yn boddi ardaloedd mawr yn Ewrop a Tsieina, gwres a thannau yn llosgi taleithiau gorllewinol America, Canada a Siberia, pegynnau iâ a rhewlifoedd yn toddi’n gyflymach, rhannau mawr o’r Amazon yn dechrau arllwys CO₂ nôl i’r atmosffer yn lle ei lyncu – a llawer o rybuddion eraill.

Nid gormodedd yw ofni ein bod yn colli gafael ar gydbwysedd croesawgar y Ddaear – cydbwysedd sy’n hanfodol i’n parhad fel dynoliaeth ac i’n holl gyd-deithwyr planedol.

Yr Athro Michael E. Mann – gwyddonydd blaenllaw amgylcheddol ac ymgyrchydd mae’r corfforaethau ynni carbon yn ei ofni

Ond yn ei lyfr newydd, ‘The new climate war: the fight to take back our planet’, mae’r gwyddonydd Michael E Mann yn rhybuddio na ddylwn gael ein hudo i anobaith gan amryw sy’n honni bod popeth ar ben a bod ein hymdrechion i ffrwyno Cynhesu Byd-eang yn rhy hwyr.

Ond, eto, mae Mann hefyd yn dadlau na ddylwn, ‘chwaith, gael ein twyllo gan y corfforaethau anferth llosgi nwy a glo. Mae’r cewri cyfalafol hyn wedi lansio ymgyrch sy’n honni eu bod nhw, fel diwydiannau, yn gallu glanhau gwenwyn eu gweithareddau. Ac nad oes angen ymgyrchoedd gwledydd a phobloedd i ddad-garboneiddio.

Y symbol cyfredol o hyn yw bwriad corfforaethau Siccar Point a Shell i godi olew o Faes Olew Cambo oddiar Ynysoedd Shetland. Eu dadl gwallgo’ yw bod hyn yn anghenrheidiol wrth newid o losgi tanwydd ffosil at ynni adnewyddol.

Meddyliwch, Asiantaeth Ynni’r Byd yn dweud bod digon o olew a nwy eisoes yn dod o feysydd presennol i bontio’r addasiad. Ond Siccar a Shell yn honni bod angen 150 miliwn barel ar ben hynny – sef cynnyrch blynyddol CO₂ 16 o bwerdai glo.

Dyw hi ddim yn syndod bod miloedd o bobl eisoes wedi llofnodi Deiseb newydd Cyfeillion y Ddaear. Mae’r ddeiseb yn pwyso ar Lywodraeth UK Boris Johnson i wrthod rhoi caniatad i gynllwyn barus y corfforaethau ynni ffosil hyn – gorau oll cyn Cynhadledd COP26 y bydd Llywodraeth y DG yn llywyddu drosti yn Glasgow ym mis Tachwedd (31 Hydref – 12 Tachwedd).

O ddeall y peryglon hinsawdd cynyddol, mae Michael Mann yn mynnu bod angen gweithredu egniol newydd gan gynhadledd Glasgow.  Hynny gan fod gwledydd wedi bod yn ara’ deg iawn i wireddu eu haddewidion yng Nghytundeb Hinsawdd Paris 2015.

Nod Cytundeb Paris oedd ffrwyno allyriadau CO₂ er mwyn cyfyngu codiad tymheredd y Ddaear i lai nag 1.5˚C ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Ond dyw’r hyn a wnaed ddim wedi bod yn ddigonol.

Y nod am COP26, felly, yw y bydd anferthedd y bygythiadau presennol yn perswadio gwledydd i ymrwymo fel erioed o’r blaen i gael gwared ag allyriadau carbon.

Diolch bod yr Arlywydd Joe Biden a’i Ysgrifennydd Hinsawdd John Kerry yn y broses o lywio’r Unol Daleithiau i arwain y byd eto – fel y gwnaeth Barack Obama – i dorri’r carbon a gweithredu polisïau amgylcheddol achubol.

Ond mae awduron fel Michael Mann, a Naomi Klein hefyd, yn pwysleisio bod gennym i gyd ran fel dinasyddion yn y broses o wasgu ar ein gwledydd gwahanol i fabwysiadu polisiau amgylcheddol mwy grymus.

Mae lleisiau gennym i gyd. Gadewch i ni eu defnyddio i ddangos i’n gwleidyddion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ein bod fel pleidleiswyr yn gosod gwarchod yr amgylchedd blanedol ar ben ein blaenoriaethau.

Campws Digwyddiadau’r Alban yn ninas Glasgow lle cynhelir cynhadledd COP26 ym mis Tachwedd. Llun: Richard Sutcliffe

Gadawn i’n lleisiau atsain, hefyd, yng nghoridorau San Steffan fel bod Johnson a’i griw yn deall bod creu cydweithredu rhyngwladol pwerus yn hanfodol yng Nghynhadledd Glasgow er mwyn achub y sefyllfa.

Danfonwn negeseuon personol. Danfonwn ddatganiadau gan ein heglwysi, grwpiau cymdeithasol, cymunedol amrywiol, yn galw am fesurau cryf i atal y broses sy’n bygwth parhad systemau cynnal bywyd ar y Ddaear.

Felly, diolch i S4C am eu rhaglenni gwych diweddar gyda gwragedd a gwŷr ifanc, galluog o fyd gwyddoniaeth a busnes yn ein goleuo, a’n rhybuddio, ar bynciau perthnasol i gynhesu byd-eang a newid hinsawdd.

Diolch, hefyd, i’r BBC am fabwysiadu’r dyn doeth David Attenborough fel eu lladmerydd pwerus i ddatgelu’r gwirionedd am ddifrifoldeb ein sefyllfa planedol – wedi’r blynyddoedd niweidiol o roi llais cyfartal i Wadwyr Newid Hinsawdd.

Yn ganolog, gadewch i bawb ohonon ni sylweddoli, bellach, mai dyfodol ein planed yw cyd-destun pob bwnc arall. Hynny yw, nid un pwnc ymhlith nifer o bynciau pwysig sy’n haeddu sylw ydyw gwarchod y Ddaear rhag y cynhesu, ond y pwnc canolog.

Ac ymgyrchwn yn Gymraeg – yn annibynnol ac nid fel cyfieithiad yn unig o ieithoedd eraill. Wedi’r cyfan, dyw dyfodol y Ddaear ddim yn bwnc ymylol i ddyfodol ein hiaith a’n diwylliant.

Ond, ’nôl at John Donne i orffen, gan gofio’i rybudd ysgytwol, ‘… Peidiwn â holi am bwy mae’r clychau’n canu: mae [nhw’n] canu amdanoch chi.’

O’r diwedd, dechrau cydnabod cyfraniad gwerthfawr Jimmy Carter fel Arlywydd America

Mae Charlotte a minnau’n cofio pa mor falch oedd y ddau ohonom pan etholwyd Jimmy Carter yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ym 1976.

Rydyn ni’n cofio, hefyd, pa mor siomedig oeddem wrth iddo suddo yn y polau piniwn a chael ei drechu gan y Gweriniaethwr asgell-dde Ronald Reagan ym 1980.

Bu dan y lach byth ers hynny. Bron yn ddi-gwestiwn, methiant fu Arlywyddiaeth Jimmy Carter i’w elynion a thristwch a siom hyd yn oed i’w gefnogwyr.

Ond, ag yntau bellach yn 96 mlwydd oed, wedi oes o lafur o blaid heddwch, hawliau dynol a chyd-fyw gwaraidd, mae’r arweiniad roddodd yr Arlywydd Jimmy Carter i’w wlad a’i bobl yn y Tŷ Gwyn yn y 1970au, a fu’n cael ei ddilorni, bellach yn cael ei ail-asesu.

Roedd wedi cyrraedd Washington fel chwa o awyr iach. Ar ddydd ei urddo’n Arlywydd yn Ionawr 1977, yn lle cuddio mewn car crand, swyddogol, mynnodd Jimmy Carter a Rosalynn, ei wraig, gerdded ynghanol yr Orymdaith Swyddogol. Ei nod, meddai, oedd, “i leihau statws imperialaidd yr arlywydd a’i deulu.”

Yr Arlywydd Joe a Jill Biden yn ymweld a’r Arlywydd Jimmy
a Rosalynn Carter yn eu cartref yn Plains Georgia
ar Ebrill 29, 2021
. LLUN: Y TY GWYN.

Yn annisgwyl, er ei fod o gefn gwlad talaith ddeheuol Georgia – lle bu’n Llywodraethwr – roedd Jimmy Carter yn ymgyrchydd o blaid hawliau pobl dduon. Ac yn grefyddol, roedd yn Southern Baptist ond un fyddai’n gadael yr enwad pwerus hwnnw yn y pendraw am nad oeddynt yn cydnabod cydraddoldeb merched na chadw crefydd a’r gwladwriaeth ar wahan. 

Roedd yn Arlywydd gwahanol iawn. Yn arloesol mewn nifer o ffyrdd, yn onest, yn ddidwyll, yn ymroddedig, torrodd Carter gwys unigryw fel pennaeth mwya’ pwerus y byd.

Ynghanol Argyfwng Olew 1979, apeliodd ar bobl America i droi at fywydau symlach, llai barus-o-faterol. Pwysleisiodd yr angen i leihau llosgi olew tramor a chreu economi mwy hunangynhaliol. Fel symbol o’i apêl, gosododd 32 o baneli haul i gynhyrchu trydan ar do’r Tŷ Gwyn.

Wedi trasiedi rhyfel Fietnam, mynnodd gadw lluoedd America rhag trais trwy ei Arlywyddiaeth. Serch hynny, cafodd wyth o filwyr eu lladd mewn damwain yn yr ymdrech aflwyddiannus i ryddhau 52 o wystlon diplomyddol Americanaidd yn Iran ym 1979.

Gan bwysleisio’r angen i wledydd fyw mewn heddwch, llwyddodd i gael Menachin Begin, Anwar Sadat a Yasser Arafat i ysgwyd llaw Heddwch rhwng Llywodraeth Israel newydd a phobl Palestina ym 1978.

Er gwrthwynebiad cryf, llwyddodd i ennill cefnogaeth Senedd America i roi Camlas Panama i feddiant pobl Panama – fel mater o degwch, meddai, gan gymydog pwerus i un tlawd.

Bu’n gweithredu i amddiffyn yr amgylchedd: fe oedd yr arweinydd rhyngwladol cyntaf i nodi bygythiad newid hinsawdd gan gomisiynu adroddiad i astudio’r angen am ‘ddatblygiad cynaliadwy’; ehangodd y system parciau cenedlaethol; trefnodd warchod dros 200 miliwn acer o dir yn Alaska; creodd gronfa enfawr i lanhau safleoedd gwastraff gwenwynig; ac aeth ati i reoli mentrau glo brig.

Yr Arlywydd Cartref, yn ddiffuant,
yn ymroddedig, yn gyfaill
da i ddynoliaeth a’r byd

Beirniadodd y ‘special interests’ corfforaethol/gwleidyddol oedd yn meddiannu prosesau llywodraethol Washington. Rhybuddiodd fod grym cynyddol y penaethiaid cyfalafol yn peryglu democratiaeth a chymunedau.

Creodd filiynau o swyddi trwy ei bolisïau economaidd, ond daeth chwyddiant a diweithdra pellach. Cafodd ei feio’n arbennig am hyn.

Ei fethiant oedd peidio â sicrhau ei fod yn cadw cefnogaeth yr etholwyr. Erbyn y diwedd, roedd poblogrwydd cychwynnol yr Arlywydd Carter wedi plymio’n is na’r un Arlywydd o’i flaen.

Roedd arweiniad Jimmy Carter yn dân ar groen eithafwyr asgell-dde cynyddol ddylanwadol Plaid Weriniaethol America. Wedi i Ronald Reagan ei guro o fwyafrif mawr ym 1980, cafodd y paneli haul eu tynnu i lawr o’r Tŷ Gwyn a’u taflu i warws.

Byth ers hynny, y neges am Arlywyddiaeth un-tymor Jimmy Carter oedd ei fod wedi bod yn fethiant.

Ond, mae’r rhod yn troi. Ag yntau’n 96 – a Rosalynn yn 93 – mae ’na gryn ail-asesu ar gerdded. Wedi’r holl feirniadu, mae diffuantrwydd arweinyddiaeth Jimmy Carter, ei ymwybyddiaeth o ddwyster problemau America a’r byd, a’r budd a ddaeth o’i bolisïau a’i weithredodd yn cael eu cydnabod a’u canmol.

Yn gynt y mis hwn, lansiwyd ffilm am ei Arlywyddiaeth, sef ‘Carterland’, yng Ngŵyl Ffilm Atlanta. Ar drothwy’r Ŵyl , aeth yr Arlywydd Joe Biden a’i wraig Jill i ymweld â Jimmy a Rosalynn yn eu cartref yn Plains, ger Atlanta.

Roedd hynny’n addas iawn: ym 1976, y Seneddwr Democrataidd cyntaf i gefnogi bwriad Jimmy Carter i sefyll am yr Arlywyddiaeth oedd y Seneddwr ifanc Joe Biden. Mae Biden yn cydnabod ymdrech Jimmy Carter i adfer economi America yn y 1970au wrth iddo fe ei hun wthio ymlaen gyda’i Becyn Hybu Economaidd ar hyn o bryd.

‘Carterland’, y ffilm newydd am fywyd a gwaith yr Arlywydd
Jimmy Carter gan y brodyr Jim Pattiz a Will Pattiz a gyflwynwyd
yng Ngwyl Ffilm Atlanta ym mis Ebrill.

Yn sicr, yn fwy na’r un Arlywydd arall, mae Jimmy Carter wedi parhau a thyfu yng ngolwg pobl ledled y byd ers iddo golli’r uchaf swydd. Bellach, gwelir ehangder ei ddeallusrwydd, dyfnder ei ewyllys da, a gweledigaeth ei bolisiau a’i baratoadau ar gyfer y dyfodol pan yn Arlywydd.

Mae’r rhestr o’i gyfraniad ers 1981 yn faith: o Ganolfan Carter yn Atlanta bu’n cyd-weithio dros heddwch byd-eang fel aelod o grŵp yr ‘Henaduriaid’ gyda chyn-arweinwyr rhyngwladol eraill fel Nelson Mandela, Desmond Tutu a Mary Robinson; enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2002; bu’n ceisio dwyn cymod yn Israel/Palestina (gan gyhoeddi llyfr, Peace: Not Apartheid ar y pwnc yn 2007); bu’n torchi llewys i helpu codi tai i dlodion America trwy fudiad Habitat for Humanity; bu’n brysur yn ysgrifennu 32 o lyfrau; bu’n Athro Ysgol Sul, hefyd, er wedi torri â’r ffwndamentalwyr.

Ac efallai’r gwir yw y collodd y mudiad amgylcheddol ddegau o flynyddoedd o weithredu i ffrwyno gynhesu byd-eang, oherwydd i Ronald Reagan a’r corfforaethau egni guro Jimmy Carter ym 1980. Byddai’r Arlywydd Carter wedi deall perygl newis hinsawdd pebai wedi cael y pedair blynedd ychwanegol.

Ond, bu ymlacio iddo hefyd – gan gynnwys wrth bysgota yn Afon Teifi ac wrth fwynhau croeso a Noson Lawen yn y Talbot, Tregaron. Ond stori arall yw honno!

Ffilm am gymuned ein coed – a’r angen i’w gwarchod rhag cael eu camdrin

Os oes diddordeb gyda chi yn yr amgylchedd a byd natur, mae gyda chi ddeuddydd eto i wylio ffilm arbennig iawn yng Ngŵyl Ffilmiau Cymru WOW / Cymru a’r Byd yn Un.

Dyma’r Ŵyl rithiol sydd ar gael ar y We yr wythnos hon i ddod â ffilmiau ardderchog atom yn ein cartrefi – i’n cyfrifiaduron desg, tabledi, ffonau clyfar neu, trwy’n ffonau symudol, i’n setiau deledu – gan fod sinemâu ar gau oherwydd Covid.

Ffilm o’r Almaen yw ‘The Hidden Life of Trees’. Mae’n seiliedig ar lyfr dylanwadol iawn o’r un enw gan Peter Wohlleben fu’n geidwad coedwigoedd am flynyddoedd cyn dod yn awdur llwyddiannus.

Wedi blynyddoedd o brofiad ac astudio, mae Peter bellach yn teithio’r Almaen a gwledydd eraill yn agor llygaid pobl i gyfrinachau’r goedwig. Ei neges yw bod gan goed deimladau – eu bod yn cyfathrebu â’i gilydd, ac yn gofalu am ei gilydd hefyd.

Peter Wohlleben ynghanol y coed, yn paratoi i ledu’r neges am eu bywyd a’u cymuned cyfrinachol

O ganlyniad, mae’n herio’r diwydiant coedwigoedd pwerus i wynebu’r distryw maent yn ei achosi trwy eu pwyslais ar elw tymor byr. Ei alwad iddynt yw y dylent fabwysiadu ffyrdd newydd o blannu ac o dorri.

Mae llawer o bwyslais bellach ar yr angen i blannu coed fel modd i ffrwyno newid hinsawdd. Mae Peter yn dadlau yn ogystal, bod angen gweledigaeth hirdymor ar gyfer sicrhau coetiroedd mwy gwyllt a mwy iach.

Mae’r ffilm hon yn hynod o brydferth gyda neges afaelgar.

Y ffilm: ‘The Hidden Life of Trees’ wedi’i chyfarwyddo gan Jörg Adolph. I wylio’r ffilm, ewch at: https://www.wowfilmfestival.com/ Ar gael tan nos Iau, 18 Mawrth.

Y llyfr: ‘The Hidden Life of Trees’ gan Peter Wohlleben (HarperCollins, 2017).

Pwysau’n cynyddu i dderbyn trosedd newydd Ecoladdiad – gyda Bolsonaro’n darged

Y cyfiawnhad mwyaf dwl gan ymgyrch y Brecsitwyr ‘Prydeinig’ wrth iddynt ein llusgo o’r Undeb Ewropeaidd oedd eu bod yn ‘adennill rheolaeth’ i’r Deyrnas Gyfunol.

Roedd yr honiad yn wirion, wrth gwrs. Rydym yn cael ein bygwth yn gynyddol gan rymoedd naturiol nad ydynt o dan ‘reolaeth’ unrhyw wlad unigol – gwledydd anferth fel Tsieina, Rwsia a’r Unol Daleithiau neu rai cymharol bitw fel y DG.

Serch hynny, mae’n wir fod ‘rogue states’ unigol yn gallu cyfrannu’n enbyd at gynyddu’r peryglon hynny. Mae’n bryder, felly, bod llawer o’r bobl oedd o blaid Brexit hefyd yn gwadu Cynhesu Byd-eang.

Enghraifft drist o wlad felly yw Brasil. Ers i’r gwleidydd Trumpaidd Jair Bolsonaro ddod yn Arlywydd ar y wlad honno, mae wedi hyrwyddo dinistrïo ardaloedd anferth o goedwig yr Amazon.

Arlywydd Brasil – Jair Bolsonaro: yn hwyluso chwalu coed yr Amazon. Llun: Zeca Ribeiro, Wikicommons
Llun gan y ffotograffydd byd-enwog Mark Edwards ar glawr Y Papur Gwyrdd, rhif 13. Tarw dur yn dinistrio coed yr Amazon.

Trwy bolisïau Bolsonaro, gwanhawyd cyrff gwarchod yr amgylchedd. O ganlyniad, mae tannau’n cael eu cynnau’n fwriadol i ddinistrio’r coed, fel rhai anferth 2020. Mae amaethwyr yn dwyn tiroedd i godi gwartheg a phlannu soya. Mae cwmnïau mwyngloddi’n bwrw ’mlaen i ddyfnderoedd y coedwigoedd.

Dyw’r ffaith bod hyn yn bwydo Cynhesu Byd-eang yn golygu dim i Bolsonaro. Trwy lyncu carbon-deuocsid, mae coedwigoedd yr Amazon ymysg cynhalwyr pwysicaf ein tywydd planedol cymedrol a’n systemau naturiol sefydlog. Felly, mae eu chwalu, fel sy’n cael ei hwyluso gan Bolsonaro, yn peryglu dyfodol dynoliaeth ar y Ddaear.

Dyw’r ffaith fod yr Amazon yn gartref i gymunedau amrywiol o Bobl Gynhenid ddim yn broblem i Bolsonaro ’chwaith. Mae’r bobl hyn yn cael eu ’sgubo o’r ffordd – yn colli cynefinoedd a fu’n gartref iddynt ers canrifoedd lawer. Cafodd 18 ohonynt eu llofruddio yn y broses y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae ehangiad Covid-19 yn yn eu lladd, hefyd – gyda Bolsonaro’n malio dim.

Ond bellach, yn hynod briodol, mae cynrychiolwyr un o’r cymunedau brodorol hyn yn arwain ymgais cyfreithiol i ddod â Bolsonaro o flaen llys barn. Y nod yw ei ddwyn o flaen y Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hâg i’w gyhuddo o ddinistrio’r amgylchedd gan hybu Cynhesu Byd-eang.

Y broblem yw nad yw hynny’n drosedd ar hyn o bryd. Ond mae ymgyrch ar gynnydd i gael gwledydd i gytuno ar hynny, dan yr enw ‘Ecocide’. Mae gwefan Y Papur Gwyrdd, a’n cylchgrawn papur cyn hynny, wedi bod yn tynnu sylw at yr ymgyrch o blaid nodi trosedd ‘Ecoladdiad’ ers sawl blwyddyn.

 Y gwyddonydd Americanaidd, yr Athro Arthur W. Galston, fabwysiadodd y term hwnnw gyntaf yn y 1970au wrth arwain achos llys yn erbyn y defnydd o ‘Agent Orange’ gan luoedd yr Unol Daleithiau yn Fietnam. Roedd y cemegyn yn dinoethi coed o’u dail ac fe gyfeiriodd Galston at hyn fel ‘ecocide’. Yn y pendraw, ildiodd yr Arlywydd Richard Nixon i’r pwysau gan atal Agent Orange.

Yn benodol, bu’r Papur Gwyrdd yn esbonio sut roedd y gyfreithwraig Polly Higgins o’r Alban yn gwthio’r ymgyrch mewn modd hollol ysbrydoledig. Yn 2010, fe gyflwynodd hi bapur i’r Cenhedloedd Unedig yn annog codi Ecoladdiad – sef achosi dinistr amgylcheddol – fel y ‘5ed trosedd yn erbyn heddwch.’

Ei nod oedd gweld cyhuddiadau o Ecoladdiad yn cael eu dwyn yn erbyn nid llywodraethau a chorfforaethau, ond yn erbyn Gweinidogion a Phrif Weithredwyr yn bersonol. Digon i’w sobri!

Ysywaeth, bu farw Polly Higgins ynghanol ei gwaith mawr yn 2019.  Ond mae ei syniad o wneud Ecoladdiad yn drosedd ryngwladol yn dal i ennill tir yn y cylchoedd cyfreithiol wrth i ddinistr amgylcheddol barhau.

Da deall, felly, bod Gweinidog Tramor Gwlad Belg, Sophie Wilmès, wedi cyflwyno galwad i’r Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hâg ym mis Rhagfyr 2020 i drafod gwneud ‘Ecoladdiad’ yn drosedd.

Ar ben hynny, gwych darllen bod cais wedi’i gyflwyno i’r Llys ar ran Brodorion Cynhenid yr Amazon eu hun, yn benodol gan bobl y Kayapo. Maen nhw’n galw ar y barnwyr i ystyried dwyn achos yn bersonol yn erbyn yr Arlywydd Bolsonaro, gan ei gyhuddo o achosi dinistr amgylcheddol dan yr enw ‘Ecoladdiad’.

Rydym yn dymuno’n dda iddynt. Mae’n ganolog o bwysig bod y weithred o ddifrodi’r amgylchedd, o ddinistrio cynefinoedd naturiol a dynol, o chwalu systemau hinsawdd yn cael ei chydnabod fel dim llai nag ymosodiad ar y Ddaear, yn ‘Ecoladdiad’ yn wir.

A does dim amser i’w golli. Fel dywedodd William Bourdon, y cyfreithiwr o Baris sy’n cynrychioli pobl yr Amazon yn yr Hâg,  “Mae’n fater o frys mawr … Rydym yn rhedeg yn erbyn y cloc o ystyried y chwalfa sydd yn yr Amazon.”

*** Ffynonellau’n cynnwys: Guardian (23 Ionawr, 2021), Brussels Times (30 Rhagfyr, 2020), a’r Fordham Environmental Law Review (Cyfrol XXX). Hefyd, erthygl Dr Tara Smith, darlithydd yn y Gyfraith, ar wefan Prifysgol Bangor  – yn wreiddiol ‘Are the Amazon fires a crime against humanity?’, The Conversation (17 Medi, 2019).

Gyda’r blaned yn poethi, Cynllun newydd Cyfeillion y Ddaear yn herio Cymru i weithredu

Ochr yn ochr â haint enbyd Covid-19, mae bygythiad Cynhesu Byd-eang wedi dwysau’n fawr yn ystod 2020 ledled y byd.

Y perygl yw ein bod wedi methu a sylwi pa mor ddifrifol yw sefyllfa ein planed fel cartref i ddynoliaeth oherwydd y sylw hanfodol a hawliwyd gan Covid.

Meddai papur newydd y Guardian: ‘Bu’r argyfwng hinsawdd yn parhau’n ddilyffethair yn ystod 2020, gyda’r tymheredd byd-eang cydradd uchaf sydd wedi’i gofnodi, gwres brawychus a mwy nag erioed o dannau gwyllt a recordiwyd yn yr Arctig, a 29 o stormydd trofannol yn yr Iwerydd, sef y nifer mwyaf a gofnodwyd erioed.

Ychwanegir, yn fygythiol iawn: ‘Er cwymp o 7% yn llosgi tanwydd ffosil oherwydd cyfnodau clo’r coronafirws, mae carbon deuocsid sy’n caethiwo gwres yn dal i bentyrru yn yr atmosffer, gan hefyd osod record newydd.

‘Mae cyfartaledd tymheredd arwynebedd ar draws y blaned yn 2020 yn 1.25C yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol o 1850-1900, sy’n beryglus o agos at y targed o 1.5C osodwyd gan genhedloedd y byd i osgoi’r effeithiau gwaethaf’  – yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris, 2015. (Damian Carrington, Golygydd Amgylcheddol y Guardian, 8 Ionawr, 2021)

A ninnau ynghanol dioddefaint mawr Covid, digon posib bod llawer ohonom wedi methu a sylwi ar gyhoeddi cynllun hynod bwysig gan Gyfeillion y Ddaear Cymru fis Medi diwethaf.  Bwriad Cynllun Gweithredu Cymru Cyfeillion y Ddaear, Medi 2020 yw dangos sut y gallwn ymateb i fygythiad Newid Hinsawdd.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

·      Blaenoriaethu cymunedau sy’n agored i niwed

·      Buddsoddi mewn economi werdd i greu cyfleoedd gwaith

·      Trawsnewid y system drafnidiaeth

·      Deddfu i lanhau ein haer.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru yn esbonio sut mae Cyfeillion y Ddaear Cymru eisiau i Gymru ddilyn esiampl Seland Newydd gan ddisodli Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) fel mesur cynnydd a chanolbwyntio yn hytrach ar safonau byw a llesiant.

Wrth lansio’r Cynllun, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i’r afael â sawl argyfwng ar hyn o bryd – adferiad COVID-19, yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r amryw argyfyngau hyn a gwella safonau byw i bobl a’r blaned.

“Mae Cymru’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Senedd Cymru], sy’n gwneud newid cadarnhaol a pharhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a bydd ei angen yn fwy nag erioed gyda’r pandemig COVID-19.

“Ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i wneud i’n heconomi a’n cymdeithas weithio i bobl a’r blaned, a dyna pam mae’n bryd cymryd y cam nesaf a defnyddio llesiant yn hytrach na GDP i fesur cynnydd. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu gan Seland Newydd a dylem ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i Gymru.”

Gydag etholiadau Senedd Cymru i’w cynnal ym mis Mai – os na fydd Covid yn ymyrryd – mae’r cynllun yn her ganolog o bwysig i’r pleidiau gwleidyddol osod ffrwyno Cynhesu Byd-eang yn gyd-destun i’w holl bolisïau.

Rhaid gwrando ar Gyfeillion y Ddaear wrth iddynt alw ar Gymru i fod ‘yn enghraifft wych, unwaith eto, drwy roi’r amgylchedd, cynaliadwyedd a thegwch wrth wraidd ein heconomi a chynllun adfer COVID-19’.

I ddarllen y Cynllun, ewch at: https://www.foe.cymru/cy/cyfeillion-y-ddaear-yn-lansio-cynllun-gweithredu-hinsawdd-i-gymru

Ein hoff Charleston SC yn herio’r corfforaethau olew am iawndal am niwed Newid Hinsawdd

LLUNIAU: Ardal Hanesyddol Charleston

Bron pob haf ers y flwyddyn cyn i Charlotte a minnau briodi ym 1979, mae’r ddau ohonom wedi mwynhau ymweld â dinas hanesyddol Charleston ar arfordir talaith De Carolina – ac unwaith adeg y Nadolig, hefyd. Ydyn, ry’n ni’n hoffi’r ddnas yn fawr iawn!

Mae Charleston rhyw 110 milltir i lawr traffordd I26 o ddinas Columbia, cartref teulu Charlotte. Digon agos, felly, am dripiau undydd, neu am dripiau hirach. Gan gynnwys ein Mil Mêl!

Gyda chyfoeth a godwyd trwy ddioddefaint caethweision Affricanaidd*, datblygodd Charleston o 1670 fel dinas boblog ar benrhyn isel rhwng afonydd mawr Ashley a Cooper a’r môr.  Chwedl trigolion balch Charleston, roedd yr afonydd yn uno yno ‘to form the Atlantic ocean’.

(* Ymddiheuriodd Dinas Charleston yn 2018 am ei rhan yn y fasnach gaethweision.)

Yn yr ‘Ardal Hanesyddol’ sylweddol o strydoedd coediog, ysblennydd, mae gan Charleston gannoedd o hen dai a phlastai eithriadol o brydferth gyda balconïau hir, aml-lawr, a gerddi cudd blodeuog. Mae’r amrywiaeth mawr o adeiladau wedi goroesi ergydion stormydd fel Corwynt Hugo ym 1989, daeargryn nerthol 1886, a difrod y Rhyfel Cartref ddechreuodd yn harbwr Charleston ym 1861 gyda’r ymosodiad ar Fort Sumter.

Diolch i’r Charleston Preservation Society a sefydlwyd yn y 1930au, bu pobl y ddinas yn ymgyrchu ar hyd y blynyddoedd i achub yr ardal rhag eu dinistrio gan ddatblygwyr barus. O ganlyniad, cawsant gadw dinas hynod o bert i fyw ynddi, a chafodd twristiaid, fel ninnau, wahoddiad i ddod i rannu’r hyn y cyfeirir ati fel ‘perl pensaernïol y De’.

Ond mae’r cyfan bellach mewn perygl. Ac mae dinasyddion Charleston yn ofnus ac yn ddig.

Y perygl yw’r llifogydd cynyddol sy’n goresgyn eu penrhyn mor aml oherwydd y codiad yn  lefel y môr a’r stormydd ffyrnicach. Cynhesu Byd-eang yw’r achos.

Mae’r bygythiad yn glir i bawb. Ennillwyd rhan helaeth o’r penrhyn o’r môr wrth i’r ddinas dyfu. Dim ond ychydig troedfeddi’n uwch na lefel y llanw yw mannau uchaf strydoedd y penrhyn.  Bellach, dyw waliau môr Charleston – ardal y ‘Battery’ –  ddim yn ddigon uchel i atal y llifogydd. Bydd costau’r gwaith o’u codi a’u cryfhau yn anferth.

Felly, mae Dinas Charleston wedi troi at y gyfraith. Yn benodol, ar y 9fed o Fedi, yn Llys Apeliadau Cyffredin De Carolina, lansiodd y ddinas achos llys yn mynnu iawndal gan 24 o gorfforaethau olew – gan gynnwys BP, Chevron, ConocoPhillips, Exxon Mobil and Royal Dutch Shell.

 Maen nhw’n cyhuddo penaethiaid y corfforaethau o wybod ers y 60au bod llosgi olew yn rhyddhau carbon deuocsid i’r awyr gan achosi Cynhesu Byd-eang. Roedden nhw’n gwybod y byddai hynny’n achosi llifogydd a dinistr enbyd i ddinasoedd y glannau fel Charleston oherwydd y codiad yn lefel y môr a’r stormydd ffyrnicach.

Charleston yw’r ddinas gyntaf yn nhaleithiau’r De i ddod ag achos fel hyn, ond mae nifer o ddinasoedd eraill ledled America eisoes wedi lansio achosion tebyg.

Mae’r corfforaethau pwerus yn gwrthod ildio, wrth gwrs, ac mae ganddynt y grym i gynnal gwrthwynebiad cryf yn y llysoedd. Eisoes mae rhai barnwyr wedi dyfarnu o’u plaid, gan ddadlau mai mater i wleidyddion yw delio â difrod Cynhesu Byd-eang o dan Ddeddf Awyr Glân, ac nid y cwmnïau preifat (sy’n ei achosi!).

Gan gyfeirio at lifogydd mawr diweddar, e.e. ym 2019, dywedodd Maer Charleston, John Tecklenburg, “Mae’n drasig … Dychmygwch faint y bydden ni wedi gallu’i wneud i osgoi’r cyfan o hyn petai nhw heb dwyllo pawb … Mae tai pobl wedi cael eu difrodi, gan achosi ceisiadau yswiriant am gannoedd o filiynau o ddoleri. Mae’n fygythiad mawr i’n dinas.”

Mae ymgyrchwyr Hinsawdd yn gobeithio y bydd barnwyr yn dechrau cytuno â chwynion y dinasoedd. Codwyd eu gobeithion yn sgil ethol Joe Biden yn Ddarpar-Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau. Mae Mr Biden eisoes wedi dweud yn glir y bydd ei weinyddiaeth ef yn gwasgu ar y cwmnïau ynni ffosil am iawndal i dalu am ddifrod hinsawdd.

Felly, gan Charlotte a minnau, diolch i drigolion Charleston am ymweliadau pleserus dros gyfnod mor hir yn joio crwydro eu Hardal Hanesyddol. A phob llwyddiant i’w hymgyrch i gael y corfforaethau carbon dinistriol i gyfrannu at gost y gwaith anferth o geisio gwarchod Charleston rhag tonnau bygythiol Newid Hinsawdd.

 

 

 


							

Dymuniadau gorau i’r Arlywydd Joe Biden – gobaith wedi difrod amgylcheddol Trump

Wedi pedair blynedd o Donald Trump yn gwadu newid hinsawdd, gan dynnu America allan o Gytundeb Paris, prin bod angen dweud ein bod ni’n hynod falch y cafodd Joe Biden ei ethol yn ddarpar Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau ddydd Mawrth diwethaf, Tachwedd 3.

Mae Mr Biden wedi datgan y bydd e’n gosod America yn ôl fel un o lofnodwyr Cytundeb Hinsawdd Paris ar ddiwrnod cyntaf ei Arlywyddiaeth ar Ionawr 21, 2021. [Llun isod: commons.wikimedia.org]

Yn ddigon eironig, ar ôl i’r Arlywydd Barack Obama arwain mor gryf ar bwnc perygl Cynhesu Byd-eang yn ystod Cynhadledd Paris yn 2015, cafodd polisi Trump o dynnu’r wlad allan o’r Cytundeb ei wireddu ddydd Mercher diwethaf, Tachwedd 4.

Mae’r gwahaniaeth enfawr rhwng agweddau Trump a Biden am yr amgylchedd yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi cael ei grynhoi ar y wefan Climate Home News gan y newyddiadurwr Isabelle Gerretsen:

“Mae cynllun hinsawdd Biden, yr un mwyaf uchelgeisiol i’w gynnig erioed gan ymgeisydd arlywyddol, wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau ‘net zero’ erbyn 2050, a thrydan glân erbyn 2035; tra bod Trump wedi addo i’r etholwyr y byddai’r UD yn parhau fel y cynhyrchydd Rhif Un o olew a nwy naturiol ar y ddaear.”

 “Am y tro cyntaf mewn hanes,” meddai Gerretsen, “roedd hinsawdd o ddifrif ar y papurau pleidleisio yn yr etholiad hwn. Roedd gan bleidleiswyr ddewis rhwng dim gweithredu ar yr hinsawdd [gan Trump] neu chwildroad gwyrdd $2 triliwn” [gan Biden].

Mae bwriad Joe Biden a Kamala Harris i daflu arweiniad pwerus America y tu ôl i’r ymgyrch rhyngwladol i ffrwyno cynhesu byd-eang yn galondid enfawr.

Hefyd eu bwriad i ddechrau ail-weithredu’r cynlluniau a’r safonnau i warchod yr amgylchedd yn America ei hun, sydd wedi’u gwanhau’n enbyd gan Donald Trump.

Wrth gwrs, aiff Trump, y gwadwr gwyddoniaeth, ddim yn dawel i’r llyfrau hanes. Rhaid ofni beth y bydd yn ei wneud yn y dyddiau sydd ganddo cyn iddo orfod gadael y Tŷ Gwyn.

Ond mae buddugoliaeth Biden a Harris yn yr etholiad Arlywyddol yn golygu bod y cam holl-bwysig cyntaf wedi’i gymryd i fynd ati i ail-uno America fel gwlad ar ôl gwallgofrwydd cynyddol fygythiol Trump.

A hefyd i weithredu (os bydd Gweriniaethwyr y Senedd yn cydweithio – neu os ceir buddugoliaethau ychwanegol i’r Democratiaid yn nhalaith Georgia ym mis Ionawr – neu trwy Orchmynion Gweithredol yr Arlywydd ei hun) polisïau doeth ar ehangder o feysydd gan osod lles y blaned gyfan yn gyd-destun hollol hanfodol.

Ymlaen, Joe a Kamala!

– A gan ein bod ni yma, llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru ar enwi, ar Tachwedd 4, yr 14 o goedwigoedd ledled y wlad fydd yn esiamplau cychwynnol i brosiect mawr, ysbrydoledig, Coedwig Genedlaethol Cymru.

– Ac i’r cyn-Wallaby enwog David Pocock, am daflu ei gryfder enwog i achos y blaned. Gyda’i wraig Emma, mae’n hybu gwaith adfer tiroedd a bio-amrywiaeth yn neheudir Zimbabwe gyda’r Rangelands Restoration Trust (yr Observer,Hydref 25).

Ffilm newydd yn annog ‘Cusanu’r ddaear’ i adfer ein pridd ac achub y Ddaear

Falch iawn wrth gael ein hysbrydoli gan ffilm newydd, obeithiol, Kiss the Ground ar Netflix.

Mae’n dangos sut mae modd ail-greu pridd maethlon sy’n cynnal systemau naturiol y Ddaear ac yn ffrwyno cynhesu byd eang.

Y broblem yw ein bod yn colli pridd iach ar garlam ledled y Ddaear trwy, yn arbennig, gor-ddefnydd o gemegau niweidiol ac o aredig (sori R.Williams Parry!).

Y canlyniad yw bod ffrwythlondeb y pridd yn lleihau, byd natur yn cilio, diffeithwch yn ymledu, a’r myrdd o ficrobau’r pridd sy’n sugno CO2 o’r awyr yn marw gan ryddhau’r CO2 i achosi mwy o gynhesu.

Ffermwyr a gwyddonwyr amaethyddol sy’n cyflwyno’r ffilm afaelgar hon (gyda’r actor Woody Harrelson yn lleisio). Eu nod yw dangos sut mae modd defnyddio dulliau naturiol – da byw a phlanhigion pwrpasol, er enghraifft – i adfer y pridd.

Mae Kiss the Ground yn cynnwys enghreifftiau trawiadol o lwyddiant y dulliau hyn o sawl gwlad, yn arbennig yr Unol Daleithiau (neges cyn-etholiad i Trump). Mae torchi llewys i adfer pridd, meddir, yn talu’n well ac yn gwneud i bawb deimlo’n well yn ogystal.

Ffilm ddifyr, addysgiadol, a phwysig iawn, i bawb ohonom – ac nid i ffermwyr yn unig. Ffliwc oedd i ni ddod ar ei thraws ar Netflix. Ond diolch amdani. Anogwn bawb i chwilio a gwylio.

Diolch am y draenogod, yr ystlumod, y barnwyr, BP – a mwy – sy’n codi calon yng nghyfnod Covid

Ynghanol pryderon Covid 19, peryglon cynyddol Cynhesu Byd-eang, a bygythiad Donald Trump, braf nodi ambell i beth sy’n codi calon yn ddiweddar. Er enghraifft …

  • Gwaedd ataf gan Charles drws nesa’ – “Hey, Hywel, did you know there’s a hedgehog about?”  Dyma newyddion da gan fod ein draenogod lleol yma yn ein rhan ni o Heol y Ficerdy wedi diflannu ar ôl i’w nyth gael ei chwalu, a hynny gryn amser yn ôl. Croeso!

    Ein gardd – yn edrych ymlaen at groesawu draenogod ac ystlumod …

  • Deall bod Americanwyr Brodorol Oklahoma yn llawenhau ar ôl ennill achos arwyddocaol iawn yn Uchel Lys yr Unol Daleithiau – achos McGirt v Oklahoma. Penderfynodd y barnwyr, o 5 v 4, bod hawliau a gytunwyd mewn cytundebau rhwng Llywodraeth ymwthiol Washington ag arweinwyr cenedl y Creek yn y 19eg Ganrif yn parhau mewn grym. Yn annisgwyl iawn, cafodd y 5 eu harwain gan y barnwr ceidwadol Neil Gorsuch a benodwyd gan Donald Trump. Yn fras, golyga hyn mai cyfreithiau a sefydliadau llywodraeth yr ‘Indiaid’ sy’n ben yn eu tiroedd nhw ac nid Llywodraeth Daleithiol Oklahoma. Cyfiawnder!
  • Llwyth o eirin duon bach yn aeddfedu’n gyflym ar ein coeden Damson, powlenni o gyrens coch a du wedi’u casglu, rhiwbob blasus wedi cyfrannu at sawl tarten a chrymbl hyfryd, a llu o tomatos nawr yn cochi yn ein tŷ gwydr bach.
  • Ar gyfarfod Zoom o aelodau Academi Celfyddydau a Gwyddoniaeth America , clywed Naomi Oreskes (awdur cyfrol Merchants of Death) yn dadlau mai’r ffordd orau i berswadio pobl sy’n ‘gwrthod’ gwyddoniaeth yw trwy ymateb yn nhermau eu hofnau amrywiol. Er enghraifft, o wynebu amharodrwydd pobl grefyddol ffwndamentalaidd i dderbyn damcaniaeth Esblygiad, y peth i wneud, meddai, yw eu cyfeirio at ddadleuon yr Athro Syr John Houghton. Sef y gwyddonydd blaenllaw a’r Cristion o Gymro, awdur The Search for God: Can Science help? Felly, y parch uchel at Syr John yn parhau er i ni ei golli yn ddiweddar i Covid 19.
  • Gweld nodyn hapus gan ein ffrind Angharad ar dudalen Wepryd Cymuned Llên Natur yn dathlu bod ystlumod yn hedfan eto o gwmpas ei chartref yn ardal Tirdeunaw ychydig yn uwch na ni ar fryniau Abertawe. Fel gyda’r draenogod, ry’n ni heb weld ystlumod yn Heol y Ficerdy, Treforys, ers rhai blynyddoedd. Felly, o glywed y newyddion da o Dirdeunaw, parhawn i hybu gwybed yn ein gardd trwy blannu amrywiaeth o goed a blodau, a thrwy ofalu am ein pwll dŵr (sydd eisoes yn gynefin i fadfallod). Ac edrychwn yn obeithiol tua’r nen – am ystlumod.
  • Falch i glywed datganiad BP eu bod yn bwriadu lleihau maint yr olew a nwy a gynhyrchir ganddynt o 40% – o gymharu â 2019 – erbyn 2030. Greenpeace yn croesawu hyn ac yn galw ar Shell i ddilyn esiampl BP: “Mae hi fel bod Nadolig wedi dod yn gynnar – er, ar yr un pryd, yn ddegawdau yn hwyr.”

Ydyn, mae pethau fel hyn yn codi calon. Ac awn ymlaen i wisgo’n mygydau, golchi ein dwylo, a chadw pellter cymdeithasol, er mwyn helpu’n gilydd. Oherwydd, o edrych ar brofiadau trist pobl ledled ein Daear, mae’n amlwg bod bygythiad Covid 19 ymhell o fod ar ben.