“Global warming? Hotter summers? Bring it on!” – Pam bod rhaid deall peryglon cynhesu byd-eang

Mewn Vox Pops teledu adeg protestio mudiad XR / Gwrthryfel Difodiant y llynedd, ateb hyderus un gŵr ifanc i’r son am gynhesu byd-eang oedd, “Global warming? Hotter summers? Bring it on!”

Mae angen iddo fe, a phawb ohonom, ddeall peryglon y gwres cynyddol sy’n ein hwynebu.

Ar y dydd roedd y post hwn yn dechrau cael ei baratoi, roedd pobl y tywydd yn hyderus mai dyna fyddai  un o’r diwrnodau poethaf ers i recordiau ddechrau yn y DG. Ac yn wir, erbyn canol bore – pob ffenestr a drws yn ein cartref yn Nhreforys ar agor led y pen, a son am fynd i nofio yn y môr.

Ond, er y pleserau sy’n ein denu i’r traethau, mae gwyddonwyr yn rhybuddio’n daer mor fawr yw perygl cynhesu byd-eang. Eu neges syml yw bod Gorboethi yn gallu lladd, yn arbennig yr henoed a phobl ordew – ac fe ddylen ni gofio hyn, hyd yn oed ynghanol argyfwng Covid-19.

Dyma ddywed blog Uned Ymchwil Polisi Adnewyddiad ac Asesu Sefydliad Ymchwil Grantham: ‘Cyfeirir yn aml at gyfnodau Gorboeth fel ‘lladdwyr tawel.’  Efallai nad ydynt yn denu’r un sylw ag achosion brys eraill fel stormydd neu lifogydd, nac yn profi mor angheuol i boblogaeth â feirws pandemig.

‘Serch hynny, maen nhw’n achosi llawer o farwolaethau cynnar ynghyd â salwch; achosodd cyfnod Gorboeth difrifol haf 2003, dros ddwy fil o farwolaethau ychwanegol yn y DG.’

Mae Uned Ymchwil Grantham yn dadlau –

  • bod angen rhybuddion mwy cynnar am gyfnodau Gorboeth
  • ac y dylai rhybuddion gychwyn ar dymereddau îs na’r lefelau presennol sydd wedi’u hanelu at bobl holliach.

Mae’r WHO – Asiantaeth Iechyd y Byd – yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys. Mae’r perygl eisoes yn gwasgu arnom: ‘Yn 2003, bu farw 70,000 o bobl yn Ewrop o ganlyniad i ddigwyddiad [Gorboeth] Mehefin-Awst; yn 2010, gwelwyd 56,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod cyfnod Gorboeth 44 dydd yn Ffederasiwn Rwsia.’

Yn yr un modd, dywed yr Asiantaeth Amgylcheddol Ewropeaidd: ‘Mae hi bron yn sicr y bydd hyd, amlder a dwyster cyfnodau Gorboeth yn cynyddu yn y dyfodol.

‘Bydd y cynnydd hwn yn arwain at gynnydd sylweddol mewn marwolaethau dros y degawdau nesaf, yn arbennig mewn grwpiau o bobl fregus, os na chymerir mesurau addasu.’

Ond, ydy Rhif 10 Johnson / Cummings yn gwrando? Go brin. Nid llywodraeth i baratoi o flaen llaw ydy hon, ddim ar gyfer Brexit, ddim ar gyfer haint. A ddim ar gyfer tywydd poethach ’chwaith, mae’n ymddangos.

Cafodd y llywodraeth rybudd cryf yng nghanol 2019 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd San Steffan. Yn ôl adroddiad y pwyllgor, does fawr o baratoi wedi bod i ddelio â pheryglon tymereddau uwch dros gyfnodau hirach:  ‘Dyw cartrefi ddim wedi’u haddasu ar gyfer y tymereddau uwch cyfredol neu yn y dyfodol, mae ’na ddiffyg ymwybyddiaeth o’r risg i iechyd gan dymereddau uchel mewn adeiladau, ac mae ’na ddiffyg cynllunio addas o ran gofal iechyd a chymdeithas.’

Mae’r peryglon ddaw trwy Gynhesu Byd-eang mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi dod gyda Covid-19. Yn wir, wrth edrych ar yr effaith ar y systemau planedol cyfan, mae’r peryglon yn fwy difrifol. Parhau i ddarllen

Cofio John Houghton – gwyddonydd a phroffwyd y Ddaear

Gyda thristwch, ond gyda diolch hefyd, rydym am ymuno â’r teyrngedau lu sy’n cael eu datgan yn rhyngwladol i’r gwyddonydd o Gymro, yr Athro Syr John Houghton, a fu farw o effeithiau Covid 19 yn 88 oed.

Cofir am Syr John fel un o ffigyrau mwya’ blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig fu’n rhybuddio ers degawdau am fygythiad cynyddol Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.

I ni yn Y Papur Gwyrdd, cofiwn amdano fel dim llai na phroffwyd Cymreig. Er y sen anghyfrifol a daflwyd ar ei rybuddion gyhyd, bu’n galw arnom yn ddi-ball i ymateb yn gall a chyflym i enbydrwydd Newid Hinsawdd.

Y gwyddonydd Syr John Houghton yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Bangor, 2011 – dan gadeiryddiaeth Dafydd Iwan

Rydym yn falch i allu dweud iddo fod yn gyfaill da i’r Papur Gwyrdd. Bu’n hapus i rannu ei bryderon a’u rhybuddion yn y cylchgrawn wedi iddo ymddeol i Aberdyfi,  a hynny er ei fod yn dal yn brysur yn teithio i ddarlithio mewn cynadleddau rhyngwladol.

Roedd John Houghton yn falch i arddel ei Gymreictod. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn enedigol o bentref Dyserth, cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ddoethuriaeth yno, gan ddod yn Athro Ffiseg Atmosfferig.

Bu wedyn yn Brif Weithredwr Swyddfa Meteoroleg y DG. Bu ynghanol sefydlu Paneli Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ym 1988 a bu’n un o’r Is-gadeiryddion cychwynnol. Bu’n brif awdur tri o adroddiadau’r corff canolog o bwysig hwnnw.

Yn 2007, gydag Al Gore, derbyniodd Wobr Nobel ar ran gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig am eu harweiniad wrth geisio ffrwyno Cynhesu Byd-eang. Dyfarnwyd Gwobr Byd Gwyddoniaeth Albert Einstein iddo’n bersonol yn 2009.

Roedd Syr John yn awdur llyfrau ac adroddiadau ar bwnc gwyddoniaeth Cynhesu Byd-eang gan gynnwys Global Warming: The Complete briefing (Cambridge University Press). .

Yn annisgwyl, efallai, roedd hefyd yn Gristion brwdfrydig – yn flaenor gyda’r Presbyteriaid yn Aberdyfi ac yn awdur llyfrau ‘Does God play dice?’ ac ‘The Search for God. Can Science Help?’  Yn addas iawn, roedden ni’n dau o’r Papur Gwyrdd wedi cael cwrdd a chael sgwrs ag e yn 2011 wrth iddo ddarlithio yn y Gynhadledd ar Newid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Bresbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr Cymraeg Cymru ym Mangor. Parhau i ddarllen

Menter Adfywio Cymru’n annog eglwysi i weithredu ar bwnc newid hinsawdd

Mae eglwysi Cristnogol, fel grwpiau o grefyddau eraill, yn gymunedau lleol sy’n gweithredu ar amrywiaeth eang o faterion o bwys i’w hardaloedd ac i’r byd ehangach. Ac, fel arfer, rydyn ni’n cwrdd mewn hen adeiladau mawr sydd â thiroedd sylweddol.

Yn ddiweddar, gyda hyn mewn golwg, cynhaliwyd seminar gwerthfawr iawn gan fenter Adfywio Cymru ar bwnc Eglwysi’n Gweithredu ar yr Hinsawdd yn Neuadd Capel y Nant yng Nghlydach, Abertawe ( <http://www.capelynant.org&gt;).

Roedd yn ysbrydoliaeth imi, fel aelod o Gapel y Nant, i fod ymhlith tua 40 o gyfeillion brwd wrth iddynt egluro sut mae eu heglwysi nhw’n ceisio ffrwyno allyriadau niweidiol carbon deuocsid ac yn gweithredu i gynnal yr amgylchedd a byd natur.

Cafodd Eglwys Sant Paul, y

Rhai o’r cynrychiolwyr o eglwysi ledled deheubarth Cymru fu’n trafod newid hinsawdd yn neuadd Capel y Nant, Clydach, Abertawe.

Sgeti, Abertawe, eglwysi Plwyf Casllwchwr, a Chapel y Nant gyfle i gyflwyno braslun o’u gweithgarwch fel cychwyn i’r trafodaethau.

Dyma amlinellwyd ar ran Capel y Nant, yr unig eglwys Gymraeg oedd yn cael ei chynrychioli yn y Seminar:

· Dechrau cynnal oedfaon Sul ar bwnc Cristnogion a’r Ddaear wedi i’r eglwys gael ei sefydlu yn 2008
· Gosod ffenestri newydd yn y capel i leihau defnydd trydan / nwy gan arbed allyriadau carbon i’r atmosffer. Esbonio bod ein nenfwd yn dal yn broblem fawr heb ddeunydd ynysu.

Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn son am weithgarwch yr eglwys honno ar faterion yn ymwneud a’r Ddaear.

· Gwella’r ynysu/insiwleiddio wrth foderneiddio Neuadd y Nant
· Cynnal stondin misol Masnach Deg wrth gymdeithasu yn y Neuadd
· Dechrau plannu blodau wrth y capel yn benodol i gynnal gwenyn a gloynod byw – 2014
· Gosod Biniau ail-gylchu plastig a phapur yn y Neuadd
· Ffurfio cysylltiad arbennig fel un o gymunedau Cyfeillion y Ddaear – 2015
· Dangos ffilm More than Honey i’r cyhoedd yn Neuadd y Nant, am argyfwng y gwenyn – 2015
· Creu ac arwain taith Llwybr Gweddi Newid Hinsawdd i eglwysi Clydach – 2015
· Trefnu Deiseb gan aelodau CyN yn galw am Gytundeb cryf yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris – Tachwedd 2015
· Paratoi Arddangosfa o weithgarwch sawl mudiad amgylcheddol ar gyfer un o oedfaon Sul CyN – Tachwedd 2015
· Troi cefn ar gwmnïau llosgi carbon am ynni’r capel (British Gas a SSE Swalec) gan newid i gwmni ynni adnewyddol, glân Good Energy – 2017
· Elusen amgylcheddol Gristnogol A Rocha yn cofrestru Capel y Nant fel ‘Eglwys Werdd’ – 2018
· Capel y Nant yn cael ein derbyn fel un o grwpiau ymgyrchu lleol ymgyrch Gweithredu Hinsawdd Cyfeillion y Ddaear – 2019
· Cyd-weithredu â menter Adfywio Cymru wrth iddynt hybu gweithredu gan Eglwysi ar yr Hinsawdd trwy seminar yn ein Neuadd – 2019

Edrychwn ymlaen at glywed am eglwysi eraill sy’n cofleidio’r cyfle a’r cyfrifoldeb i ymuno â’r ymgyrch hynod bwysig hwn i warchod y Ddaear. Byddwn yn falch iawn i roi cyhoeddusrwydd i’w hymdrechion.

O ran dyfodol ein Daear – yr Ifanc a Ŵyr, yr Hen a dybia!

Bu’n ysbrydoliaeth gweld sut mae David Attenborough (93) a Greta Thunberg (16) wedi  cyd-lefaru ar draws y cenedlaethau yn ddiweddar wrth alw am weithredu argyfyngus-o-gyflym i geisio ffrwyno cynhesu byd-eang.

Cafodd David Attenborough sylw eang wrth iddo esbonio’i bryderon ynghylch y difrod rydym yn ei wneud i’r Ddaear i Bwyllgor Strategeg Busnes, Ynni a Diwydiant San Steffan ddoe (Gorffennaf 11).

Greta Thunberg – y ferch ysgol o Sweden ysbrydolodd fudiad ieuenctid byd eang i warchod ein planed. Llun: Wiki Commons filmsforaction.org

Dywedodd y darlledwr dylanwadol wrth yr Aelodau Seneddol: “Dydyn ni ddim yn gallu bod yn ddigon radical wrth ddelio â’r materion hyn … Rwy’n dyfalu ein bod ar hyn o bryd ar ddechrau newid mawr. Pobl ifanc sydd wedi hybu hynny.”

Ac yn wir, mae pennaeth OPEC – llais y cynhyrchwyr olew byd-eang – wedi cydnabod yn gyhoeddus nawr bod y mudiad ieuenctid rhyngwladol a sbardunwyd gan y ferch ysgol Greta Thunberg o Sweden wedi llwyddo i siglo’r corfforaethau ynni ffosil.

Wedi cyfarfod yn Vienna, dywedir bod Mohammed Barkindo, Ysgrifennydd Cyffredinol OPEC, wedi datgelu bod plant hyd yn oed rhai o swyddogion pencadlys OPEC “yn holi am eu dyfodol … [wrth weld] eu cyfoedion ar y strydoedd yn ymgyrchu yn erbyn y diwydiant hwn.”

Er yn mynnu bod y feirniadaeth o’r diwydiant olew yn ‘anwyddonol’, esboniodd Barkindo bod cyd-ymgyrchu eang a threfnus y plant ysgol yn erbyn olew “yn dechrau … llywio polisïau a phenderfyniadau corfforaethol, gan gynnwys buddsoddi yn y diwydiant …  [a dyma, efallai] y bygythiad mwyaf i’r diwydiant wrth symud ymlaen.”

Da gennym lawenhau gyda Greta bod y llosgwyr tanwyddau ffosil yn gwegian ychydig yn wyneb cryfder mudiad ‘Dyddiau Gwener dros y Dyfodol’. Dyma’r mudiad sydd wedi gweld miloedd o blant ledled y byd yn cynnal streiciau o’u dosbarthiadau o blaid gwarchod y Ddaear, gan gynnwys rhai yng Nghymru.

Wrth ymateb i sylwadau pennaeth OPEC, meddai Greta ar Drydar, “Diolch! Y ganmoliaeth fwyaf eto i ni!”

Diolch byth bod cymaint o bobl ifanc wedi ymateb i her Greta. Ond mae angen llawer mwy ohonom ymhlith y bobl hŷn i ymateb yn yr un modd i her David Attenborough. Wedi’r cyfan, ni sydd wedi achosi’r llanastr.

Yn achos gwarchod ein Daear – yr Ifanc a Ŵyr, yr Hen a dybia!

 

 

 

Cymru’n dangos y ffordd iawn ymlaen – atal 2ail draffordd M4 Casnewydd

Calonogol iawn nodi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o weithredu uniongyrchol cryfach nag erioed o blaid gwarchod ein planed mewn sawl gwlad. A bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i hynny, yn arbennig yma yng Nghymru.

Yn Llundain, bu gweithredu aelodau Chwyldroad Difodiant wrth gau heolydd a phontydd prysura’r ddinas am ddyddiau ben bwy’i gilydd yn rhyfeddod o ymroddiad ac o drefnu effeithiol. Bu’n rhyfeddod, hefyd, o ymddygiad pwyllog ac amyneddgar ac, ie, hwyliog.

Ond cofiwn y cafodd 1,130 eu harestio am eu gweithgarwch gyda’r heddlu’n bwriadu erlyn. Pobl ddewr yn talu’r pris ar ein rhan.

Cannoedd o wrthdystwyr o flaen Senedd Cymru ym Mae Caerdydd yn 2018 yn dangos eu gwrthwynebiad  i gynllun M4 Casnewydd

Crisialwyd meddyliai gan y protestiadau hyn. Cawson nhw eu sbarduno gan rybuddion gwyddonwyr mai dim ond rhyw 12 mlynedd sydd gennym i arafu ac atal cynhesu byd-eang neu y bydd yn rhy hwyr arnom.

Yma yng Nghymru ar 1 Mai, o ganlyniad i neges daer y protestiadau hyn, a rhai tebyg yng Nghaerdydd yn ogystal, cafwyd datganiad gan aelodau ein Senedd – wedi arweiniad gan Blaid Cymru – ein bod yn byw bellach mewn cyfnod o berygl eithriadol o ran bygythiad newid hinsawdd i bawb ohonom.

Fel mewn gwledydd eraill, bu pwysau yma ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddechrau gweithredu o ddifrif i gryfhau eu polisïau i leihau allyriadau carbon. Ac efallai bod ymateb y Llywodraeth wedi dod yn gynt na’r disgwyl heddiw yn ein Senedd.

Y gost ariannol anferth o £1.6bn, ynghyd ac ansicrwydd Brexit, oedd y prif resymau a roddwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd benderfyniad mawr i atal y cynllun i greu ail draffordd o gylch Casnewydd. Bu pwyso am y draffordd 14-milltir o hyd hyn ers blynyddoedd gyda’r honiad y byddai’n lleihau tagfeydd ar yr M4 presennol.

Roedd y protest hwn ymhlith llawer a drefnwyd gan nifer o fudiadau amgylcheddol dros gyfnod hir.

Ond, gan feddwl am ymgyrchoedd diflino sawl mudiad amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear Cymru, roedd ffactorau megis lleihau allyriadau traffig, a gwarchod bywyd gwyllt Gwastatir Gwent, yn sicr yn pwyso’n drwm ar feddyliau’r Llywodraeth yn ogystal.

Yn wir, eglurodd yr Athro Drakeford ei hun y byddai bellach wedi atal y cynllun am resymau amgylcheddol hyd yn oed pe bai’r pwysau ariannol heb fod mor gryf.

Adam Price AC, Plaid Cymru, yn annerch o blaid atal y draffordd newydd o gylch Casnewydd.

Felly, digon posib y gwelir ledled y byd bod heddiw wedi bod yn ddydd o arwyddocâd mawr iawn yn hanes yr ymdrech i ffrwyno ac atal cynhesu byd-eang. Dyna bwysigrwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru –  yn rhannol, beth bynnag – i atal adeiladu traffordd newydd er mwyn torri ar dwf allyriadau

… Ac roedd un llamgu Cymreig – Taliesin o Dreforys – hefyd yn hapus i fod ynghanol y dorf!

Bydd ymateb y cwmnïau adeiladu a thrafnidiaeth yn negyddol, siŵr o fod. Ac yn sicr,  bydd angen i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym i ddatblygu cynllun amgen y ‘Ffordd Las’ a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

Llongyfarchiadau i’r protestwyr yma yng Nghymru chwaraeodd ran mor fawr i atal codi traffordd newydd mor ddinistriol. Llongyfarchiadau, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu hymateb. Ond y gwir yw nad ydym yn gallu codi mwy a mwy o draffyrdd. Aeth yr oes honno heibio, os ydym yn gall.

Colli arweinydd – ond ei gwaith dros fyd natur i barhau

Trist iawn nodi bod Polly Higgins bellach wedi marw. Fel yr oeddem wedi nodi yn ein post diwethaf, bu’r wraig alluog hon o’r Alban yn ysbrydoliaeth i bobl ledled y byd wrth godi llais heriol i amddiffyn byd natur yn ei holl amrywiaeth.

Cyn iddi farw wedi ei salwch byr, dywedodd Polly y byddai ei thim o gyfreithwyr yn parhau gyda’i gwaith o wneud difrodu byd natur yn drosedd y gellir ei erlyn yn y llysoedd.

Byddai gweithredu grymus y miloedd o aelodau o fudiad Chwildroad Difodiant yn Llundain wedi bod yn galondid iddi yn ei dyddiau olaf. Cefnogwn ei hymgyrch. Diolch amdani.

Dymunwn yn dda i Polly Higgins, ‘Cyfreithwraig y Ddaear’

Polly Higgins – ‘Cyfreithwraig y Ddaear’

Fel myrdd o garedigion y Ddaear ledled y blaned, clywsom gyda thristwch enfawr fod ‘Cyfreithwraig y Ddaear’ Polly Higgins yn dioddef o afiechyd difrifol.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn falch i son am ymgyrchoedd heriol Polly ynghanol y systemau cyfreithiol rhyngwladol o blaid gwneud Eco-laddiad – sef dinistrio byd natur o bob math – yn drosedd o flaen llysoedd y byd. Clywsom fod hithau wedi bod yn hynod falch i weld plant a phobl ifanc yn protestio o blaid gwarchod y Ddaear yn ddiweddar.

Dyma gyfieithiad o neges llawn angerdd a chariad ar dudalen Facebook Polly gan gyfaill agos iddi. Meddyliwn amdani:

‘Mae Polly Higgins – cyfreithwraig i’r Ddaear, arloesydd ysbrydoledig dros heddwch a chyfiawnder – bellach yn derbyn cymorth arbennig o dda o ran maeth a therapïau radical yn fewnol ac allanol, ac mae’r holl gyngor rhyfeddol wedi arwain at ofal personol ffantastig gyda mewnbwn arbenigol.

‘Ac mae’r cynigion o gymorth yn dal i ddod mewn … felly, i’r rhai ohonoch sydd eisiau parhau i gyfrannu at Polly a’i gwaith yn y byd sydd wedi cyffwrdd pob un ohonoch mewn ffordd mor ddwfn, dyma 2 beth hollol gadarn ac ymarferol y gellwch wneud fyddai’n achosi i galon Polly ganu (NB er bod rhai o’i horganau eraill yn cael amser anodd ar hyn o bryd, yn ôl y meddygon mae ei chalon yn pingo’n iach!):

  1. Llofnodwch i ddod yn Amddiffynnydd y Ddaear ar IamAnEarthProtector.org – a chael 20 o’r ffrindiau i lofnodi hefyd … Mae Polly’n dweud y byddai wrth ei bodd i *fyw* i weld #OneMillionEarthProtectors … oni fyddai hynny’n anhygoel?!
  2. Cyfrannwch i’r gwaith mae Polly wedi cyflawni mewn ffordd mor rasol hyd yma, sydd mor bwysig ac sydd *rhaid* iddo barhau beth bynnag a ddigwydd. Rhaid i Eco-laddiad ddod yn drosedd os ydym i weld diwedd i’r difrodi di-hid o’n hunig, ingol o brydferth, gartref planedol byw. Gellwch wneud hyn trwy Paypal at – paypal@ecologicaldefenceintegrity.com.

‘Un o’r pethau gwir ryfeddol am waith Polly yw ein bod yn gwybod oherwydd ei natur a’i bwrpas – i amddiffyn y Ddaear a’r holl fodau byw – bod pob Amddiffynnydd y Ddaear sy’n ymuno, a phob rhodd fechan, yn dod o’r galon.

‘Sut allai fod yn wahanol? Yr egni hwnnw, eich egni chi, fydd yn cario’r gwaith hwn ymlaen yn y byd, i ddod yn rhan o ymwybyddiaeth pawb gaiff eu hysbrydoli ganddi – oherwydd, fel dywed Polly, mae cymaint, cymaint o filiynau sy’n pryderu mor ddwys.

‘Chi yw’r negeseuwyr, pawb ohonoch … JoJo, gyda chariad xxxx’

Pob dymuniad da, Polly.

Ieuenctid yn gadael eu dosbarthiadau i roi gwersi i’r gwleidyddion am yr angen i warchod eu Daear

Llongyfarchion mawr i bobl ifanc ymhell ac agos am gymryd rhan mewn ton o brotestiadau amgylcheddol ledled y byd ar hyn o bryd. Galw maen nhw ar lywodraethau i weithredu o ddifrif i gwtogi ar gynhesu byd-eang ac i amddiffyn systemau naturiol.

Gwych clywed bod cannoedd o ddisgyblion yma yng Nghymru wedi ymuno a’r protestiadau heddiw gan adael eu hysgolion er mwyn cynnal protesiadau gan gynnwys un o flaen Senedd Cymru yng Nghaerdydd.  Buont yn lleisio’u hofnau yn ddi-flewyn ar dafod am y niwed sy’n cael ei achosi i systemau naturiol y blaned.

Hen, hen bryd bod ein gwleidyddion yn cael gwersi gan bobl ifainc am ddifrifoldeb y bygythiad i’r Ddaear. Dyma’r pwnc ddylai fod yn gyd-destun i bob pwnc arall sy’n cael sylw’r gwleidyddion ond sy’n cael ei anwybyddu’n rhy aml.

Deallwn fod 10,000 o blant o ryw 60 ysgol wedi gweithredu heddiw trwy’r Deyrnas Gyfunol gan gerdded allan o’u dosbarthiadau i ddangos maint eu pryderon .

Dechreuodd protestiadau’r bobl ifainc yn Sweden trwy arweiniad arloesol Greta Thunberg, 15 oed. Protestiodd Greta ar ei phen ei hun o flaen Senedd y wlad honno ym mis Awst gan roi cychwyn i’r ymgyrch holl-bwysig hwn.

Erbyn hyn mae tua 70,000 o blant yn cynnal protestiadau rheolaidd mewn 270 o ddinasoedd ledled y byd.

Da iawn bod pobl ifanc nawr yn dechrau arwain yr ymgyrch i warchod ein cartref planedol. Mynnwn fod ein gwleidyddion yn gwrando arnynt ac yn gweithredu ar frys ar Gytundeb Newid Hinsawdd Paris 2015.

Gadawn i’n gwleidyddion wybod ein bod yn sefyll yn gadarn gyda’r plant a’r bobl ifainc ardderchog hyn ac yn eu cefnogi’n llwyr. Diolch yn fawr iddyn nhw!

Ie i Ewrop! Na i Brexit! – er mwyn gwarchod ein dyfodol

Does dim pwnc pwysicach na’r niwed sy’n cael ei achosi gan ddynolryw i’n planed.

Yng ngolau hynny, gobeithio y bydd gwledydd y Cenhedloedd Unedig yn mynd ati o ddifrif i ddechrau ffrwyno cynhesu byd-eang wedi’r cytundeb ar Newid Hinsawdd a gaed yn Katowice, Gwlad Pwyl, cyn y Nadolig.

Ond, am y tro, fe drown ni ein golygon o’r bygythiad i’r Ddaear i’r bygythiad i Brydain yn benodol trwy Brexit.

Rali yng Nghaerdydd a drefnwyd gan fudiad Cymru dros Ewrop

Ein barn ni yw mai ‘digon yw digon’ yw hi bellach yn wyneb y niwed sy’n cael ei achosi’n barod gan yr ymgyrch hollol wallgof hwn i’n rhwygo allan o’r Undeb Ewropeaidd – er syndod, tristwch a hwyl i wledydd ledled y byd.

Oni roddir atal arnynt gan Aelodau Seneddol yn fuan wrth iddynt gyrraedd nôl i San Steffan wedi hoe’r Nadolig, bydd y Brexitiaid  yn llwyddo i’n gwahanu o sefydliad sydd, er ei wendidau, wedi tyfu’n drysor heddychlon ar gyfandir a fu, hebddo, yn llifo a gwaed.  Sef, cael ein rhwygo’n hollol ddiangen o sefydliad y buom yn rhan o’i ddatblygiad ers 1970 gan elwa mewn cymaint o ffyrdd – yn economaidd, yn gymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn annerch o blaid Aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn Stryd y Frenhines Caerdyddgymdeithasol, yn gelfyddydol, yn wyddonol – wrth fod yn aelodau ohono.

Er eu bod yn anghyfrifol o ddi-glem, mae dylanwad y Brexitiaid ers Refferendwm Mehefin 23, 2016 wedi cael eu hybu’n fawr gan dacteg Theresa May (ac eraill, gan gynnwys Vladimir Putin) o chwyddo canlyniad y bleidlais fel ‘ewyllys y bobl’ a ‘dymuniad y wlad’ gan eu hail-adrodd fel mantra.

Bydd haneswyr y dyfodol yn synnu at eu llwyddiant. Mwyafrif bychan gafodd y Brexitiaid yn y Refferendwm, sef 51.9% yn pleidleisio o blaid ‘Gadael’ a 48.1% o blaid ‘Aros’. Dim ond 37% o’r cyfan o etholwyr Prydain oedd wedi pleidleisio ‘Gadael’.

Dengys y ffigyrau terfynol y gwirionedd – sef 17,410,74 dros adael, gyda 16,141,241 dros aros. Felly, nid dangos dymuniad unol a nerthol wnaeth y Refferendwm o gwbl, ond dangos bod y wlad wedi cael ei rhwygo lawr y canol.

Ers hynny, twyll enbyd ond effeithiol fu tacteg y Brexitiaid o gyd

Arwyddion o ddyfodol creadigol ein cyd-weithio Ewropeaidd – neu olion o berthynas unol a chwalwyd gan Brexit? Plac am un o’r prosiectau a ariannwyd yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd yn Abertawe.

nabod yn unig y rhai sydd am droi cefn ar yr Undeb Ewropeaidd ac anwybyddu’n llwyr y miliynau sydd o blaid yr undeb – fel ’tai ni ddim yn bodoli.

Ond erbyn hyn, mae profiadau’r ddwy flynedd a hanner a aeth heibio ers Refferendwm 2016 yn galw am ail-ystyried y bleidlais honno.

  • Gwelwyd nad oedd gan Brexitiaid craidd, anghyfrifol y Blaid Geidwadol unrhyw gynlluniau y tu ôl i’w sloganau
  • Synnwyd Theresa May a charfan y Brexitiaid wrth i 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd wrthod ildio ar egwyddorion sylfaenol eu perthynas,
  • Sylweddolwyd, ar ddiwedd 2 flynedd o drafod ym Mrwsel, y byddai Cytundeb Terfynnol Theresa May yn golygu gwaeth telerau masnachu ac y byddai Prydain wedi troi cefn ar brosesau canolog yr Undeb
  • Gwelwyd bod tebygolrwydd cynyddol y bydd y Deyrnas Gyfunol yn disgyn yn hollol anhrefnus o’r Undeb heb unrhyw gytundeb masnachol yn y byd gyda chanlyniadau enbyd

Felly, yn wyneb y chwalfa yn rhengoedd Llywodraeth ac ASau San Steffan, y peth lleiaf y gellir disgwyl yw pleidlais arall ar y pwnc, ‘Pleidlais y Bobl’ fel y’i gelwir – yn enwedig gan fod polau piniwn yn awgrymu bod mwyafrif clir bellach yn cefnogi Aros yn yr Undeb. Mae’r hawl i ail-ystyried ac ail-ddatgan barn yn sylfaenol i’n trefn ddemocrataidd ni. Gwnawn hynny trwy etholiadau cyson. Does dim statws cyfansoddiadol uwch na hynny gan unrhyw refferendwm. Parhau i ddarllen

Diolch i bobl ddewr Extinction Rebellion am weithredu i warchod y Ddaear

Llongyfarchiadau i fudiad newydd Extinction Rebellion am gadw’u haddewid i gynnal cyfres o weithrediadau tor-cyfraith, heddychol yn Llundain ar bwnc argyfwng y Ddaear – gan gynnwys wrth gatiau 20 Downing Street.

Cannoedd o brotestwyr Extinction Rebellion yn cau Pont Westminster yn Llundain ar Sadwrn, Tachwedd 17. “Rydym yn sefyll yn heddychol o blaid y Ddaear a dynoliaeth,” medd eu llefarydd,Celia B. Llun: Extinction Rebellion / @ExtinctionR

Efallai nad yw mwyafrif ein gwleidyddion yn gweld rheswm i dalu sylw i fygythiad Cynhesu Byd-eang a dinistrio bywyd naturiol y Ddaear. Ond mae’r gweithredu hyn yn rhybudd iddynt fod pobl yn cynhyrfu o ddifrif yn wyneb y peryglon sy’n ein hwynebu.

Cymerodd tua 6,000 o bobl ran yn y protestiadau yn ystod yr wythnos yn dechrau Tachwedd 12. Cafodd 5 o bontydd Afon Tafwys eu cau. Ataliwyd y traffig wrth i gannoedd o’r gwrthdystwyr eistedd ar  bontydd Southwark, Blackfriars, Waterloo, Westminster a Lambeth. Arestiwyd dros 80 o bobl gan yr heddlu. Bydd achosion llys yn dilyn.

Deallwn fod cryn nifer o Gymry wedi teithio i Lundain i fod yn rhan o’r protestiadau arwyddocaol hyn, a diolch am hynny. Ry’n ni’n gobeithio y bydd ein Haelodau Seneddol, a’n Haelodau Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol i’r llais newydd hwn sydd wedi codi mor sydyn i danio’r ymgyrch.

Mae gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig yn ein rhybuddio nad oes llawer o amser ar ol: dim ond 12 mlynedd, meddant, os na weithredwn. Rhaid gweithredu ar frys gwyllt, meddan nhw, i gyfyngu ar losgi carbon difrodol a throi’n llwyr at ynni glan – er mwyn ffrwyno codiad tymheredd peryglus y blaned a thoddiant y pegynnau ia a’r newid hinsawdd sy’n ganlyniad. Heb hynny, mae’r dyfodol yn ddu.

Pebai’n harweinwyr gwleidyddol ond yn siarad yn gyhoeddus am argyfwng y Ddaear, byddai’n codi calon rhywun i gredu bod modd achub y sefyllfa. Ond yn rhy aml o lawer, anwybyddu’r pwnc maen nhw.

(Am hynny, byddai’n dda pebai rhai ohonynt yn mynegi eu gweledigaeth blanedol ar wefan Y Papur Gwyrdd – yn ol ein gwahoddiad. Gweler blog isod!)

Yn y cyfamser, rhwydd hynt i bobl Extinction Rebellion wrth iddyn nhw weithredu dros ddyfodol diogelach i bawb ohonom, heb gyfri’r gost heb son am gyfri’r pleidleisiau.