Mewn Vox Pops teledu adeg protestio mudiad XR / Gwrthryfel Difodiant y llynedd, ateb hyderus un gŵr ifanc i’r son am gynhesu byd-eang oedd, “Global warming? Hotter summers? Bring it on!”
Mae angen iddo fe, a phawb ohonom, ddeall peryglon y gwres cynyddol sy’n ein hwynebu.
Ar y dydd roedd y post hwn yn dechrau cael ei baratoi, roedd pobl y tywydd yn hyderus mai dyna fyddai un o’r diwrnodau poethaf ers i recordiau ddechrau yn y DG. Ac yn wir, erbyn canol bore – pob ffenestr a drws yn ein cartref yn Nhreforys ar agor led y pen, a son am fynd i nofio yn y môr.
Ond, er y pleserau sy’n ein denu i’r traethau, mae gwyddonwyr yn rhybuddio’n daer mor fawr yw perygl cynhesu byd-eang. Eu neges syml yw bod Gorboethi yn gallu lladd, yn arbennig yr henoed a phobl ordew – ac fe ddylen ni gofio hyn, hyd yn oed ynghanol argyfwng Covid-19.
Dyma ddywed blog Uned Ymchwil Polisi Adnewyddiad ac Asesu Sefydliad Ymchwil Grantham: ‘Cyfeirir yn aml at gyfnodau Gorboeth fel ‘lladdwyr tawel.’ Efallai nad ydynt yn denu’r un sylw ag achosion brys eraill fel stormydd neu lifogydd, nac yn profi mor angheuol i boblogaeth â feirws pandemig.
‘Serch hynny, maen nhw’n achosi llawer o farwolaethau cynnar ynghyd â salwch; achosodd cyfnod Gorboeth difrifol haf 2003, dros ddwy fil o farwolaethau ychwanegol yn y DG.’
Mae Uned Ymchwil Grantham yn dadlau –
- bod angen rhybuddion mwy cynnar am gyfnodau Gorboeth
- ac y dylai rhybuddion gychwyn ar dymereddau îs na’r lefelau presennol sydd wedi’u hanelu at bobl holliach.
Mae’r WHO – Asiantaeth Iechyd y Byd – yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys. Mae’r perygl eisoes yn gwasgu arnom: ‘Yn 2003, bu farw 70,000 o bobl yn Ewrop o ganlyniad i ddigwyddiad [Gorboeth] Mehefin-Awst; yn 2010, gwelwyd 56,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod cyfnod Gorboeth 44 dydd yn Ffederasiwn Rwsia.’
Yn yr un modd, dywed yr Asiantaeth Amgylcheddol Ewropeaidd: ‘Mae hi bron yn sicr y bydd hyd, amlder a dwyster cyfnodau Gorboeth yn cynyddu yn y dyfodol.
‘Bydd y cynnydd hwn yn arwain at gynnydd sylweddol mewn marwolaethau dros y degawdau nesaf, yn arbennig mewn grwpiau o bobl fregus, os na chymerir mesurau addasu.’
Ond, ydy Rhif 10 Johnson / Cummings yn gwrando? Go brin. Nid llywodraeth i baratoi o flaen llaw ydy hon, ddim ar gyfer Brexit, ddim ar gyfer haint. A ddim ar gyfer tywydd poethach ’chwaith, mae’n ymddangos.
Cafodd y llywodraeth rybudd cryf yng nghanol 2019 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd San Steffan. Yn ôl adroddiad y pwyllgor, does fawr o baratoi wedi bod i ddelio â pheryglon tymereddau uwch dros gyfnodau hirach: ‘Dyw cartrefi ddim wedi’u haddasu ar gyfer y tymereddau uwch cyfredol neu yn y dyfodol, mae ’na ddiffyg ymwybyddiaeth o’r risg i iechyd gan dymereddau uchel mewn adeiladau, ac mae ’na ddiffyg cynllunio addas o ran gofal iechyd a chymdeithas.’
Mae’r peryglon ddaw trwy Gynhesu Byd-eang mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi dod gyda Covid-19. Yn wir, wrth edrych ar yr effaith ar y systemau planedol cyfan, mae’r peryglon yn fwy difrifol.
Os ydy’n iawn i wthio i ail-ddechrau’r economi, fel y gwneir mor aml gan y Torïaid (er eu bod yn ddigon hapus i Brexit danseilio’r cyfan) – mae’n bwysicach o lawer weithredu’n gyflym i geisio cyfyngu ar gynhesu byd-eang ac i drefnu systemau i warchod pobl yn y cyfamser.
Dymunwn lwyddiant i’r protestiadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Wrthryfel Difodiant. Eu nod tyngedfennol o bwysig yw ysbrydoli llywodraethau ledled y byd i gyd-weithio i atal codiad pellach yn nhymheredd ein planed.
Gawn ni obeithio y caiff Joe Biden ddod â phwysau’r Unol Daleithiau yn ôl i’r ymgyrch wedi etholiad mis Tachwedd? Gobeithio wir. Byddai parhad Trump yn y Tŷ Gwyn yn beryglus eithriadol nid i Americanwyr yn unig, ond i’r byd yn gyfan.
(Gyda llaw, do, cafwyd o bosib y tymheredd uchaf yn y DG ers dechrau’r cyfnod diwydiannol ar ddydd dechrau paratoi’r post hwn, sef 38.7 ͦC – ond yng Nghaergrawnt oedd hynny. Beth am Dreforys? Wel, cyrhaeddodd y cymylau; disgynnodd y tymheredd; ni fu nofio – nid gennym ni, ta beth!)