RHESWM dathlu oedd i 195 o wledydd gytuno yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris bod rhaid cadw tymheredd atmosffer y cyfanfyd rhag codi mwy na 20C yn uwch na’r cyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol.
Ond i ninnau, yn eironig, rheswm brawychu oedd iddynt fynd ymhellach na hynny. Syndod na ddisgwylid gan y mwyaf pybyr ymhlith ymgyrchwyr yr amgylchedd oedd i arweinwyr y gwledydd fynnu datgan hefyd y dylid anelu at gadw’r codiad i ddim mwy na 1.50C.
Ond pam? – Pam brawychu ac nid dathlu wrth i nod yr atalfa ar nwyon tŷ gwydr, a’r cynhesu cysylltiedig, gael ei chodi’n uwch nag y gobeithiwyd?

Wrth i Gynhadledd Newid Hinsawdd Paris ddod i ben gyda chytundeb heriol a dewr, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon, gyda Christiana Figueres, pennaeth Fframwaith Newid Hinsawdd y CU, a Laurence Fabius, Gweinidog Tramor Ffrainc a Llywydd y cynhadledd.
Yr ofn y tu ôl i’n brawychu ninnau oedd bod hyn wedi’i gytuno gan wleidyddion yn cynrychioli’r 195 gwlad, nid gan wyddonwyr neu arbenigwyr eraill, ond gan wleidyddion.
Dyma bobl sydd, fel arfer, yn gorfod gosod pryderon eu llywodraethau yn gyntaf, pobl sydd yng ngafael sefydliadau a gwasanaethau sifil eu gwledydd,sydd dan ddylanwad parhaus y diwydiannau carbon grymus ers y 1970au, sydd dan lach cegau mawr a meddyliau gwag ac obsesiynol y Gwadwyr Newid Hinsawdd ar draws y cyfryngau, ie, gwleidyddion normal yn siglo yn eu pwyllgorau a’u cynadleddau yn ôl awelon polau piniwn beunyddiol.
Serch hyn i gyd, roedd y gwleidyddion a’u timau ym Mharis wedi rhybuddio’r byd bod y Cynhesu Byd-eang sy’n ein hwynebu yn galw am fwy o lawer o ymateb gennym os oes rhywfaint o gyfyngu i fod arno.
Hynny yw, rhoesant eu sylw llawn – mewn sawl cyfarfod rhag-baratoadol ar ben y gynhadledd ei hun – i’r esboniadau gwyddonol o’r hyn sy’n digwydd i systemau naturiol y Ddaear. Ac fe gawsant eu syfrdanu. Gwelsant wir ddifrifoldeb y perygl. A dyna sydd wedi ein brawychu ni.

Cyn Is Arlywydd yr Unol Daleithiau, Al Gore, a Segolene Royal, Gweinidog Ecoleg Frainc, yn croesawu’r cytundeb.
Nid oes modd gwadu bellach. Y cwestiynau yw pa mor ddrwg fydd effeithiau Newid Hinsawdd, beth a allwn ei wneud i leihau ar yr allyriadau carbon a’r nwyon tŷ gwydr eraill sy’n ei achosi, a sut awn ati i warchod cymunedau dynol – yn ddinasoedd mawr a phentrefi man – ledled y Ddaear yn erbyn llifogydd, sychder, codiadau mewn lefelau’r môr ac ati.
Ledled gwledydd Prydain mae’r Gaeaf hwn, eto, yn profi’n Aeaf o lifogydd enbyd. Clywn am dywydd eithafol, hefyd, mewn gwledydd eraill ledled y byd. Mae’n digwydd.
Na, nid dathlu ond brawychu. O ganlyniad, ffarweliwn â phob Pollyana o obaith di-sail. Taflwn ein hunain – yn Gymraeg os gallwn – i hybu mudiadau fel Cyfeillion y Ddaear, Greenpeace a 350.org sy’n ymgyrchu er gwarchod dynolryw, a byd natur yn gyfan, fel ein prif flaenoriaeth.
Addaswn ein bywydau personol fel ein bod yn cyfrannu llai at y cynhesu mawr ac yn defnyddio llai ar adnoddau’r Ddaear.
A gwasgwn ar wleidyddion lleol i wynebu realiti Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd. Apeliwn arnynt i ymateb yn greadigol ac yn ddewr i rybudd dwys cynrychiolwyr y 195 gwlad yng Nghynhadledd hanesyddol Paris yn Rhagfyr 2015. Mae’n hwyr yn y dydd.