YN rhifyn Hydref- Tachwedd 2009, roedd hen gylchgrawn papur Y Papur Gwyrdd yn rhoi sylw canolog i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig oedd i’w chynnal yn ninas Copenhagen ym mis Rhagfyr.
Roedd llawer o optimistiaeth y byddai cytundeb cadarn a llym i dorri allyriadau carbon y cael ei gadarnhau yn y gynhadledd honno. Ond roedd y pennawd ar ein clawr yn adllewyrchu ein hamheuon ni: ‘Cyfarfod pwysicaf dynoliaeth: Wedi’r trafod hinsawdd – gwen neu ddagrau i For-forwyn Fach Copenhagen?’
A siom enfawr a fu: dim cytundeb i dorri dim ar allyriadau, a’r trafodaethau ymhlith arweinwyr y gwledydd ar chwal. Cyfrifir cynhadledd Copenhagen fel un o fethiannau mwya’r mudiad i ddeall a gwarchod y systemau naturiol sy’n cynnal dynoliaeth.
Ond, fe gafwyd un cytundeb o bwys – sef nodi nad ddylid mynd y tu hwnt i gynnydd o 2 gradd centigradd yn nhymheredd atmosoffer y Ddaear ers y Chwyldro Diwydiannol gan y byddai hynny’n achosi anrhefn hinsawdd.
A dyma ni ym mis Rhagfyr 2015 yn falch iawn i ddeall – er gydag ofnau naturiol – bod cytundeb go iawn ar fin cael ei lofnodi o fewn y dydd nesaf yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris i dorri allyriadau carbon fel na fydd y tymheredd yn codi mwy na nid 2.0 gradd ond o 1.5 gradd!
Mae hyd yn oed awgrymu cyfyngiad i 1.5 gradd o gynnydd yn lle 2.0 yn arwydd bod arweinwyr gwleidyddol yn ei dallt hi o’r diwedd – yn deall difrifoldeb y rhybuddion sy’n cael eu datgan mor daer gan wyddonwyr arbennigol ynghylch Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd.
Gobeithiwn o waelod calon mai dyna fydd canlyniad Cynhadledd Paris, gan gysylltu’r ddinas honno gyda Gobaith yn lle’r tristwch enbyd ddaeth yn sgil y saethu a’r llofruddio creulon gaed yno yn ddiweddar.
Ond nid pawb sy’n gweld pethau fel ninnau. Nid pawb sy’n malio. Siom oedd gorfod gosod nodyn fel hyn ar Facebook y bore heddiw wedi clywed y sylw a roddwyd i’r pwnc tyngedfennol hwn ar rhaglen Post Cynnar Radio Cymru:
‘Anghyfrifol o Radio Cymru i drin Newid Hinsawdd fel adloniant bore ‘ma. Cawsant dipyn o hwyl trwy gael David Davies, AS Mynwy a Gwadwr Newid Hinsawdd, i ‘drafod’ y pwnc gyda’r Athro Gwyn Vaughan Prifysgol Mancenion. / Irresponsible of Radio Cymru to treat Climate Change as entertainment this morning. They had a bit of fun by getting David Davies, Monmouth MP and notorious Climate Change Denier, to ‘discuss’ with Prof Gwyn Vaughan of Manchester University! Job done Radio Cymru?’
Gobeithiwn am gydcord ar sail gwybodaeth a deallusrwydd ym Mharis, cydgord allai weddnewid er gwell dyfodol pobl y Daear a holl ffurfiau amrywiol byd natur.