I EGLURO – bu taw ar ein blogiau wedi i ni orfod rhuthro i Columbia, De Carolina, ar Fawrth 3 lle roedd mam Charlotte, yn 94 oed, yn prysur wanhau. Er y tristwch, roeddem yn falch i fod wrth ei gwely’n ddyddiol, gydag aelodau eraill y teulu, nes ei marwolaeth ar Fawrth 15. Wedi’r claddu a’r trafodaethau a’r ymlacio teuluol, rydym bellach yn edrych ymlaen at deithio adref i Gymru ar Fawrth 23 / 24.
Yn ystod yr ymweliad hwn, da fu sylwi ar erthyglau bywiocach ac mwy ergydiol nag ers tro ar bynciau Dynoliaeth a Daear mewn cylchgronnau ‘gwyrdd’ a blaengar Americanaidd fel Mother Jones, Utne News a’r Progressive.
O ran llyfrau, mae Charlotte bellach ynghanol The World Without Us gan Alan Weisman (Picador) ac yn ei ganmol yn fawr. A minnau? – Rwyf wedi gwerthfawrogi cyfrol fach angyffredin The Earth Moved. On the Remarkable Achievements of Earthworms gan Amy Stewart (Algonquin), a nawr rwy’n falch, o’r diwedd, fy mod wedi dechrau darllen y clasur Walden gan Henry David Thoreau (gyda chyflwyniad a nodiadau ardderchog gan Bill McKibben o fudiad 350.org). Parhau i ddarllen