Category Archives: Tlodi

Taith Ewropeaidd y dylwn fod yn rhan ohoni – i drechu tlodi

Ers troi’n wefan yn unig, mae’r Papur Gwyrdd wedi canolbwyntio mwy na’r hen gylchgrawn papur ar bynciau’n ymwneud yn benodol â’r amgylchedd, fel cynhesu byd-eang a newid hinsawdd.

Ond mae pryderon mawr eraill yn hawlio’n sylw hefyd – megis y bygythiad i ddemocratiaeth yn yr Unol Daleithiau wedi ethol Donald Trump yn Arlywydd, y trafferthion difrifol sy’n wynebu pobl y Deyrnas Gyfunol wrth i’n gwledydd gael eu rhwygo o’r Undeb Ewropeaidd, a’r gagendor cynyddol rhwng y lleiafrif bach hynod gyfoethog a’r mwyafrif mawr o bobl y byd sy’n diodde’ o ddiffyg swyddi, tlodi ariannol ac afiechyd.

Felly, da gennym gyhoeddi’r post hwn ar ddydd all fod yn arwyddocaol iawn yn y frwydr i gau’r bwlch rhwng y cyfoethogion a’r difreintiedig.

Yn gynt heddiw, sef dydd Mawrth, Ebrill 24, o flaen ein Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, lansiwyd yr hyn y cyfeirir ato fel Taith Isafswm Incwm Ewrop.

Lansio Taith Isafswm Incwm sylfaenol, warantedig ger Senedd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel. Llun: Rhwydwaith EMI

Yn dathlu’r lansiad oedd Marianne Thyssen, Comisiynydd Cyflogaeth a Materion Cymdeithasol yr Undeb, Mairead McGuinness, Is-lywydd Senedd Ewrop, cryn nifer o Aelodau Seneddol Ewrop – gan gynnwys Jill Evans, Plaid Cymru – ynghyd â chynrychiolwyr mudiadau sifil a chrefyddol.

Wedi ei threfnu gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi’r Rhwydwaith Ewropeaidd dros Isafswm Incwm (EMIN), nod y daith draws-Ewropeaidd hon yw codi ymwybyddiaeth o’r angen am gynlluniau Isafswm Incwm warantedig fel ffordd hanfodol o daclo tlodi – er enghraifft, wrth helpu cymaint o’n cyd-ddinasyddion sy’n ddi-waith neu sy’n derbyn cyflogau isel, bratiog fel rhan o realiti bywyd.

Ar y daith, dros gyfnod o 64 diwrnod, bydd dau o fysiau’n ymweld â 32 gwlad – gan gynnwys Ynys Môn yng Nghymru (ar eu ffordd i Iwerddon) – gyda dros 1,000 o wirfoddolwyr yn cyflwyno 120 o raglenni esboniadol.

Wrth ymweld â dinasoedd mawrion a phentrefi bychain, bydd yr ymgyrchwyr yn egluro pam mae angen i lywodraethau gwledydd yr Undeb fabwysiadu cynlluniau newydd i sicrhau Isafswm Incwm sylfaenol i bobl sy’n wynebu tlodi bob dydd. Ac, yn y broses, eu gobaith yw rhoi hwb i bawb sy’n dyheu am Ewrop wir gymunedol ei natur.

Tipyn o ganu wrth ddanfon y bysiau ar eu teithiau ledled Ewrop, gan gynnwys Cymru. Llun: Rhwydwaith EMIN.

Wrth gefnogi’r daith, dywed Jill Evans: ‘Gall cynlluniau Isafswm Incwm helpu atal tlodi gan alluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas beth bynnag eu hamgylchiadau, a chreu cymdeithas fwy cyfartal.

‘Gyda chyflogau yn methu’n llwyr â chadw i fyny gyda chwyddiant, gallai Isafswm Incwm Sylfaenol helpu codi pobl allan o dlodi. Mae hyn yn unol â pholisïau Plaid Cymru i drawsnewid Cymru.

‘Ond yn anad dim, mae hyn yn gydnabyddiaeth hanfodol o’r angen i fuddsoddi mewn pobl er mwyn eu galluogi i ryddhau eu potensial a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas.’

Ym marn gwefan Y Papur Gwyrdd, dyma’r math o ymgyrch ysbrydoledig, Ewrop-gyfan, y dylwn fynnu bod yn rhan ohono – nid cael ein gwthio gan Brexitiaid Prydain Fach i droi cefn arno. Cyd-weithio rhyngwladol yw gobaith y byd, nid ymrannu a chystadlu.