Pwysau’n cynyddu i dderbyn trosedd newydd Ecoladdiad – gyda Bolsonaro’n darged

Y cyfiawnhad mwyaf dwl gan ymgyrch y Brecsitwyr ‘Prydeinig’ wrth iddynt ein llusgo o’r Undeb Ewropeaidd oedd eu bod yn ‘adennill rheolaeth’ i’r Deyrnas Gyfunol.

Roedd yr honiad yn wirion, wrth gwrs. Rydym yn cael ein bygwth yn gynyddol gan rymoedd naturiol nad ydynt o dan ‘reolaeth’ unrhyw wlad unigol – gwledydd anferth fel Tsieina, Rwsia a’r Unol Daleithiau neu rai cymharol bitw fel y DG.

Serch hynny, mae’n wir fod ‘rogue states’ unigol yn gallu cyfrannu’n enbyd at gynyddu’r peryglon hynny. Mae’n bryder, felly, bod llawer o’r bobl oedd o blaid Brexit hefyd yn gwadu Cynhesu Byd-eang.

Enghraifft drist o wlad felly yw Brasil. Ers i’r gwleidydd Trumpaidd Jair Bolsonaro ddod yn Arlywydd ar y wlad honno, mae wedi hyrwyddo dinistrïo ardaloedd anferth o goedwig yr Amazon.

Arlywydd Brasil – Jair Bolsonaro: yn hwyluso chwalu coed yr Amazon. Llun: Zeca Ribeiro, Wikicommons
Llun gan y ffotograffydd byd-enwog Mark Edwards ar glawr Y Papur Gwyrdd, rhif 13. Tarw dur yn dinistrio coed yr Amazon.

Trwy bolisïau Bolsonaro, gwanhawyd cyrff gwarchod yr amgylchedd. O ganlyniad, mae tannau’n cael eu cynnau’n fwriadol i ddinistrio’r coed, fel rhai anferth 2020. Mae amaethwyr yn dwyn tiroedd i godi gwartheg a phlannu soya. Mae cwmnïau mwyngloddi’n bwrw ’mlaen i ddyfnderoedd y coedwigoedd.

Dyw’r ffaith bod hyn yn bwydo Cynhesu Byd-eang yn golygu dim i Bolsonaro. Trwy lyncu carbon-deuocsid, mae coedwigoedd yr Amazon ymysg cynhalwyr pwysicaf ein tywydd planedol cymedrol a’n systemau naturiol sefydlog. Felly, mae eu chwalu, fel sy’n cael ei hwyluso gan Bolsonaro, yn peryglu dyfodol dynoliaeth ar y Ddaear.

Dyw’r ffaith fod yr Amazon yn gartref i gymunedau amrywiol o Bobl Gynhenid ddim yn broblem i Bolsonaro ’chwaith. Mae’r bobl hyn yn cael eu ’sgubo o’r ffordd – yn colli cynefinoedd a fu’n gartref iddynt ers canrifoedd lawer. Cafodd 18 ohonynt eu llofruddio yn y broses y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae ehangiad Covid-19 yn yn eu lladd, hefyd – gyda Bolsonaro’n malio dim.

Ond bellach, yn hynod briodol, mae cynrychiolwyr un o’r cymunedau brodorol hyn yn arwain ymgais cyfreithiol i ddod â Bolsonaro o flaen llys barn. Y nod yw ei ddwyn o flaen y Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hâg i’w gyhuddo o ddinistrio’r amgylchedd gan hybu Cynhesu Byd-eang.

Y broblem yw nad yw hynny’n drosedd ar hyn o bryd. Ond mae ymgyrch ar gynnydd i gael gwledydd i gytuno ar hynny, dan yr enw ‘Ecocide’. Mae gwefan Y Papur Gwyrdd, a’n cylchgrawn papur cyn hynny, wedi bod yn tynnu sylw at yr ymgyrch o blaid nodi trosedd ‘Ecoladdiad’ ers sawl blwyddyn.

 Y gwyddonydd Americanaidd, yr Athro Arthur W. Galston, fabwysiadodd y term hwnnw gyntaf yn y 1970au wrth arwain achos llys yn erbyn y defnydd o ‘Agent Orange’ gan luoedd yr Unol Daleithiau yn Fietnam. Roedd y cemegyn yn dinoethi coed o’u dail ac fe gyfeiriodd Galston at hyn fel ‘ecocide’. Yn y pendraw, ildiodd yr Arlywydd Richard Nixon i’r pwysau gan atal Agent Orange.

Yn benodol, bu’r Papur Gwyrdd yn esbonio sut roedd y gyfreithwraig Polly Higgins o’r Alban yn gwthio’r ymgyrch mewn modd hollol ysbrydoledig. Yn 2010, fe gyflwynodd hi bapur i’r Cenhedloedd Unedig yn annog codi Ecoladdiad – sef achosi dinistr amgylcheddol – fel y ‘5ed trosedd yn erbyn heddwch.’

Ei nod oedd gweld cyhuddiadau o Ecoladdiad yn cael eu dwyn yn erbyn nid llywodraethau a chorfforaethau, ond yn erbyn Gweinidogion a Phrif Weithredwyr yn bersonol. Digon i’w sobri!

Ysywaeth, bu farw Polly Higgins ynghanol ei gwaith mawr yn 2019.  Ond mae ei syniad o wneud Ecoladdiad yn drosedd ryngwladol yn dal i ennill tir yn y cylchoedd cyfreithiol wrth i ddinistr amgylcheddol barhau.

Da deall, felly, bod Gweinidog Tramor Gwlad Belg, Sophie Wilmès, wedi cyflwyno galwad i’r Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hâg ym mis Rhagfyr 2020 i drafod gwneud ‘Ecoladdiad’ yn drosedd.

Ar ben hynny, gwych darllen bod cais wedi’i gyflwyno i’r Llys ar ran Brodorion Cynhenid yr Amazon eu hun, yn benodol gan bobl y Kayapo. Maen nhw’n galw ar y barnwyr i ystyried dwyn achos yn bersonol yn erbyn yr Arlywydd Bolsonaro, gan ei gyhuddo o achosi dinistr amgylcheddol dan yr enw ‘Ecoladdiad’.

Rydym yn dymuno’n dda iddynt. Mae’n ganolog o bwysig bod y weithred o ddifrodi’r amgylchedd, o ddinistrio cynefinoedd naturiol a dynol, o chwalu systemau hinsawdd yn cael ei chydnabod fel dim llai nag ymosodiad ar y Ddaear, yn ‘Ecoladdiad’ yn wir.

A does dim amser i’w golli. Fel dywedodd William Bourdon, y cyfreithiwr o Baris sy’n cynrychioli pobl yr Amazon yn yr Hâg,  “Mae’n fater o frys mawr … Rydym yn rhedeg yn erbyn y cloc o ystyried y chwalfa sydd yn yr Amazon.”

*** Ffynonellau’n cynnwys: Guardian (23 Ionawr, 2021), Brussels Times (30 Rhagfyr, 2020), a’r Fordham Environmental Law Review (Cyfrol XXX). Hefyd, erthygl Dr Tara Smith, darlithydd yn y Gyfraith, ar wefan Prifysgol Bangor  – yn wreiddiol ‘Are the Amazon fires a crime against humanity?’, The Conversation (17 Medi, 2019).

Gadael sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .