I EGLURO – bu taw ar ein blogiau wedi i ni orfod rhuthro i Columbia, De Carolina, ar Fawrth 3 lle roedd mam Charlotte, yn 94 oed, yn prysur wanhau. Er y tristwch, roeddem yn falch i fod wrth ei gwely’n ddyddiol, gydag aelodau eraill y teulu, nes ei marwolaeth ar Fawrth 15. Wedi’r claddu a’r trafodaethau a’r ymlacio teuluol, rydym bellach yn edrych ymlaen at deithio adref i Gymru ar Fawrth 23 / 24.
Yn ystod yr ymweliad hwn, da fu sylwi ar erthyglau bywiocach ac mwy ergydiol nag ers tro ar bynciau Dynoliaeth a Daear mewn cylchgronnau ‘gwyrdd’ a blaengar Americanaidd fel Mother Jones, Utne News a’r Progressive.
O ran llyfrau, mae Charlotte bellach ynghanol The World Without Us gan Alan Weisman (Picador) ac yn ei ganmol yn fawr. A minnau? – Rwyf wedi gwerthfawrogi cyfrol fach angyffredin The Earth Moved. On the Remarkable Achievements of Earthworms gan Amy Stewart (Algonquin), a nawr rwy’n falch, o’r diwedd, fy mod wedi dechrau darllen y clasur Walden gan Henry David Thoreau (gyda chyflwyniad a nodiadau ardderchog gan Bill McKibben o fudiad 350.org).
Peth peryg yw gor-gyffredinoli, ond siomedig nodi nad oes fawr o arwydd o bryder wedi ymddangos yn y rhan hon, o leiaf, o’r UD, ynglyn ag argyfwng ein planed: materoliaeth a thwf cibddall pia hi wrth i gorfforaethau busnes reoli’r wlad a’r cyfryngau. (Ysywaeth, mae llai a llai o le gyda ni i bwyntio bys yn hyn o beth!)
Wrth gyfeiro at hyn, mae’r sylwebydd eiconaidd Bill Moyers (yn y Progressive, Mawrth 2014) yn croesawu’r ffaith bod 71% o bobl America yn cydnabod bod grym ariannol wedi llygru system gwleidyddol eu gwlad – ond yn anhapus iawn wrth ychwanegu bod 91% ohonynt yn credu ei bod yn anhebyg y gellir lleihau’r gafael hwn.
Dyma rybudd Moyers, “Pan mae pobl yn colli hyder yng ngallu democratiaeth i ddatrys y problemau y mae wedi’u creu i’w hun, mae’r gem bron a bod ar ben. A’m cred i yw ein bod mor agos a hyn at golli democratiaeth i’r dosbarth masnachol.”