Bu’n ysbrydoliaeth gweld sut mae David Attenborough (93) a Greta Thunberg (16) wedi cyd-lefaru ar draws y cenedlaethau yn ddiweddar wrth alw am weithredu argyfyngus-o-gyflym i geisio ffrwyno cynhesu byd-eang.
Cafodd David Attenborough sylw eang wrth iddo esbonio’i bryderon ynghylch y difrod rydym yn ei wneud i’r Ddaear i Bwyllgor Strategeg Busnes, Ynni a Diwydiant San Steffan ddoe (Gorffennaf 11).

Greta Thunberg – y ferch ysgol o Sweden ysbrydolodd fudiad ieuenctid byd eang i warchod ein planed. Llun: Wiki Commons filmsforaction.org
Dywedodd y darlledwr dylanwadol wrth yr Aelodau Seneddol: “Dydyn ni ddim yn gallu bod yn ddigon radical wrth ddelio â’r materion hyn … Rwy’n dyfalu ein bod ar hyn o bryd ar ddechrau newid mawr. Pobl ifanc sydd wedi hybu hynny.”
Ac yn wir, mae pennaeth OPEC – llais y cynhyrchwyr olew byd-eang – wedi cydnabod yn gyhoeddus nawr bod y mudiad ieuenctid rhyngwladol a sbardunwyd gan y ferch ysgol Greta Thunberg o Sweden wedi llwyddo i siglo’r corfforaethau ynni ffosil.
Wedi cyfarfod yn Vienna, dywedir bod Mohammed Barkindo, Ysgrifennydd Cyffredinol OPEC, wedi datgelu bod plant hyd yn oed rhai o swyddogion pencadlys OPEC “yn holi am eu dyfodol … [wrth weld] eu cyfoedion ar y strydoedd yn ymgyrchu yn erbyn y diwydiant hwn.”
Er yn mynnu bod y feirniadaeth o’r diwydiant olew yn ‘anwyddonol’, esboniodd Barkindo bod cyd-ymgyrchu eang a threfnus y plant ysgol yn erbyn olew “yn dechrau … llywio polisïau a phenderfyniadau corfforaethol, gan gynnwys buddsoddi yn y diwydiant … [a dyma, efallai] y bygythiad mwyaf i’r diwydiant wrth symud ymlaen.”
Da gennym lawenhau gyda Greta bod y llosgwyr tanwyddau ffosil yn gwegian ychydig yn wyneb cryfder mudiad ‘Dyddiau Gwener dros y Dyfodol’. Dyma’r mudiad sydd wedi gweld miloedd o blant ledled y byd yn cynnal streiciau o’u dosbarthiadau o blaid gwarchod y Ddaear, gan gynnwys rhai yng Nghymru.
Wrth ymateb i sylwadau pennaeth OPEC, meddai Greta ar Drydar, “Diolch! Y ganmoliaeth fwyaf eto i ni!”
Diolch byth bod cymaint o bobl ifanc wedi ymateb i her Greta. Ond mae angen llawer mwy ohonom ymhlith y bobl hŷn i ymateb yn yr un modd i her David Attenborough. Wedi’r cyfan, ni sydd wedi achosi’r llanastr.
Yn achos gwarchod ein Daear – yr Ifanc a Ŵyr, yr Hen a dybia!