Fel myrdd o garedigion y Ddaear ledled y blaned, clywsom gyda thristwch enfawr fod ‘Cyfreithwraig y Ddaear’ Polly Higgins yn dioddef o afiechyd difrifol.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn falch i son am ymgyrchoedd heriol Polly ynghanol y systemau cyfreithiol rhyngwladol o blaid gwneud Eco-laddiad – sef dinistrio byd natur o bob math – yn drosedd o flaen llysoedd y byd. Clywsom fod hithau wedi bod yn hynod falch i weld plant a phobl ifanc yn protestio o blaid gwarchod y Ddaear yn ddiweddar.
Dyma gyfieithiad o neges llawn angerdd a chariad ar dudalen Facebook Polly gan gyfaill agos iddi. Meddyliwn amdani:
‘Mae Polly Higgins – cyfreithwraig i’r Ddaear, arloesydd ysbrydoledig dros heddwch a chyfiawnder – bellach yn derbyn cymorth arbennig o dda o ran maeth a therapïau radical yn fewnol ac allanol, ac mae’r holl gyngor rhyfeddol wedi arwain at ofal personol ffantastig gyda mewnbwn arbenigol.
‘Ac mae’r cynigion o gymorth yn dal i ddod mewn … felly, i’r rhai ohonoch sydd eisiau parhau i gyfrannu at Polly a’i gwaith yn y byd sydd wedi cyffwrdd pob un ohonoch mewn ffordd mor ddwfn, dyma 2 beth hollol gadarn ac ymarferol y gellwch wneud fyddai’n achosi i galon Polly ganu (NB er bod rhai o’i horganau eraill yn cael amser anodd ar hyn o bryd, yn ôl y meddygon mae ei chalon yn pingo’n iach!):
- Llofnodwch i ddod yn Amddiffynnydd y Ddaear ar IamAnEarthProtector.org – a chael 20 o’r ffrindiau i lofnodi hefyd … Mae Polly’n dweud y byddai wrth ei bodd i *fyw* i weld #OneMillionEarthProtectors … oni fyddai hynny’n anhygoel?!
- Cyfrannwch i’r gwaith mae Polly wedi cyflawni mewn ffordd mor rasol hyd yma, sydd mor bwysig ac sydd *rhaid* iddo barhau beth bynnag a ddigwydd. Rhaid i Eco-laddiad ddod yn drosedd os ydym i weld diwedd i’r difrodi di-hid o’n hunig, ingol o brydferth, gartref planedol byw. Gellwch wneud hyn trwy Paypal at – paypal@ecologicaldefenceintegrity.com.
‘Un o’r pethau gwir ryfeddol am waith Polly yw ein bod yn gwybod oherwydd ei natur a’i bwrpas – i amddiffyn y Ddaear a’r holl fodau byw – bod pob Amddiffynnydd y Ddaear sy’n ymuno, a phob rhodd fechan, yn dod o’r galon.
‘Sut allai fod yn wahanol? Yr egni hwnnw, eich egni chi, fydd yn cario’r gwaith hwn ymlaen yn y byd, i ddod yn rhan o ymwybyddiaeth pawb gaiff eu hysbrydoli ganddi – oherwydd, fel dywed Polly, mae cymaint, cymaint o filiynau sy’n pryderu mor ddwys.
‘Chi yw’r negeseuwyr, pawb ohonoch … JoJo, gyda chariad xxxx’
Pob dymuniad da, Polly.